Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL 0 BABILONI FAWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. GAN EYNON. Rhyw happy family i'w ryfeddu yw'r Tylvwodraeth bresennol. Y rhyfeddod mawr yw fod TodaÏd a Radicaliaid wedi gallu hwylio yn yr un bad cyhyd. Doniol o beth yw clywed Tori tanllyd fel Curzon yn codi ar ei draed i amddiffyn Grey ac Asquith yn erbyn ymosodiadau Radical- iaid. Dyna'r olygfa welwyd yn Nhy yr Arglwyddi y nos o'r blaen. Yr oedd Milner ar y maes yn ei holl rwysg. Tebyg mai y camwri mawr ar hyn o bryd yw fod Milner yn outsider. Y mae yn teimlo hynny. Tase Miner ar fwrdd llong, ac yn aelod o'r criw, buasai popeth yn ogoneddus iawn. Y mae cwyn felly gan ami un y gan ainl tin y dyddiau hyn. Gan eu bod hwy y tuallan i gylch yr etholedigion, nid oes dim yn iawn. Rhyfedd gymaint o ddynion sydd yn y byd yma yn credu yn Number One Un o'r rhai mwyaf tafodrydd yn y Tý y dyddiau hyn yw Mr. J. M. Hogge, un o'r aelodau dros Edinburgh. Y mae ganddo fel hen bregethwr ei ddawn ei hun, ac y mae yn iach dros ben ar bwnc dirwest a materion o'r un nodwedd ond nid yw hynny, wedi'r cyfan, yn rhoddi iciclo hawl i ddweyd wrth y PrHweinidog ei fod yn dweyd celwydd, ac nad oedd yn ei gredu. Y mae manners fel hyn yn annheilwng o Billingsgate, heb son am Sant Stephan. Os yw prif arweinwyr y wlad, ar adeg gyfyng fel hon, yn agored i gael eu sarhau fel hyn gan aelodau o'u plaid eu hunain, bydd yn anawdd iawn cael gan ein goreuon i ddwyn yr iau. Yn sicr y mae angen mawr ar hyn o bryd i ddysgu manners i ryw hanner dwsin o aelodau tafodrydd Tv y Cyffredin. Y mae blagardiaeth allan o le hyd yn oed mewn Parish Council, pa faint mwy yn yr uchel-leoedd ? Ca'r Parch. Fred Jones o Rymni groesaw cynnes gennym fel Cymry i'r ddinas fawr ar ei waith yn ymgymeryd a bugeilio Radnor Street. Bu Radnor Street yn dyner iawn o'u hen weinidog, Mr. Machreth Rees, yn ystod ei hir afiechyd. Diadell gymharol fechan fydynt, ond y mae gwreiddyn y mater ganddynt, ac y mae eu haelioni yn ddiarhebol. Bydd dyfod- iad ein brawd o Rymni yn ychwanegiad pwysig at ein rhengoedd fel Annibynwyr yn y ddinas. y Mae'r Parch. Ebenezer Rees o Sunder- land yntau wedi ateb yn gadarnhaol yr alwad o Enfield. Maes ardderchog. Mae Enfield rai milltiroedd allan o'r swn a'r berw, mewn gwlad Ibrydferth. jfUundein- wyr ymron oll.,fyddlyr aelodau, a dis- gwyliwn y bydd hon ynjweinidogaeth ddedwydd a bendithiol iawn. Rhwng popeth a'i gilydd y dyddiau hyn, y mae rhywbeth tebyg i Welsh invasion arall yn cymeryd lie. Wel, da nad yw y dawn Cymreig wedi myned allan o'r ffasiwn yn y Brifddinas, onide ? Nid yw hynny wrth fodd pawb. lawn o beth yw rhyddid y Wasg, ond nid yw rhyddid y Wasg yn golygu rhyddid i lunio celwyddau maleisus am bethau ae am bersonau. Taenodd y Globe, papur hynaf y Toriaid yn y Brifddinas, y chwedl fod Kitchener wedi ymddiswyddo Gwad- wyd hynny ar unwaith. Drannoeth, yn herfeiddiol, ail-adroddwyd y stori. Pryd- nawn yr un dvdd cydiodd yr awdurdodau milwrol yng ngholer y Globe, a rhoddwyd stop arno rhag blaen. Yr oedd yn hen bryd. Y mae papurau hwyrol Iylundain yn warth i'r oes hon. Nid oes goel i'w roddi arnynt. Tebyg y bydd profiad pres- ennol y Globe yn help i'r lleill fod dipyn yn fwy gofalus. Syndod mawr yw fod y Times a'r Daily Mail yn cael eu dioddef cyhyd. Nid oes neb yn ddrwg ganddo am ffawd y Globe, oddigerth crank neu ddau yn yr House of Commons. Mae yna nofel yn cael ei hadolygu yn y papurau yr wythnos hon-nofel yn proffesu darlunio bywyd gwerinol sir Aber- teifi, ac yn ein camliwio mewn modd gwaradwyddus. Enwaf fi mo'r awdwr na'r llyfr, rhag rhoddi advertisement rhad iddynt Rhaid mai am can yr awdwr yw creu sen- sation, ac yna, ai gefn hynny, ennill rhyw fath o gylchrediad i'w gampwaith gorch- estol. Digon yw dweyd ei fod yn cablu yr hen Gardi yn ddiarbed, ac yn ei ddar- lunio fel anwar ofergoelus heb fan glan na chyfan. Y mae fod Cymro (os Cymro hefyd) yn gallulPcyhoecldi y fath druth enllibus yn syndod i ni. Yr ydym yn adwaen sir y Cardi yn bur dda, ac yn diolch i'r nefoedd nad oes neb sydd yn gwybod rhywbeth am Geredigion yn debyg o gredu y ffwlbri hwn. Creu sensation yw'r amcan, mae'n debyg, ac yna gwerthu'r goods, Y ffordd oreu i ad-dalu peth fel hyn yw peidio mynd i'r shop. Bore heddyw (Sadwrn) dyma'r newydd ar led fod Churchill wedi ymddiswyddo. Ar gychwyn y rhyfel efe oedd wrth lyw y Morlys, ac iddo ef yn bennaf, chware teg iddo, y mae diolch fod ein llongau yn barod i waith pan gyhoeddodd Germani ] ryfel. Yna dacw gynnen yn codi rhwng: dau ddyn penderfynol—Churchill, a'r hen forwr Arglwydd Eisher. Aeth Fisher, ein morwr blaenaf, allan i'r anialwch. Aeth Churchill yn ei ol, nid i'r Morlys, ond i swydd fechan ddiniwed heb ddim dylan- wad na gallu yn perthyn iddi. Pan ben- derfynwyd ar Gyngor Rhyfel' yr wyth- nos hon, nid oedd Churchill ymhlith yr etholedigion. Felly pwdodd, ac y mae wedi taflu ei swydd i fyny, wedi gadael y Cabinet, ac wedi myned allan i faes y frwydr. Just fel efe. Nid oes bod yn llonydd yn ei waed. Cred llawer yw ei fod wedi cael cam. Criw go fywiog sydd gan Asquith ar y cyfan, ac mi wn na fydd yn ddrwg ganddo maes o law i drosglwyddo yr awenau i ddwylaw eraill. Y mae mil- oedd yn y wlad yn sicr yn eu meddwl y medrent hwy wneud yn well. Wrth roddi ei swydd i fyny bydd cyflogl Churchill yn disgyn o'r pedair mil i'r pedwar cant. Yn lie derbyn cyflog esgob, rhaid iddo ymfodd- loni yn awr ar gyflog Aelod Seneddol. Os daw yn ei ol yn fyw, ceir clywed am Winston eto.

Llansadwrn.

I Nebo, Glyncorrwg.

Advertising

0 FRYN I FRYN.i