Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Cyfarfod Ymadawol y Parch.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyfarfod Ymadawol y Parch. J. P. Gough, Rhos. -Non Lull, Hydref 18fed, cviihaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn eglwys Annibynnol Salem, Rhos, i ganu'n iach a'r gweinidog parchus uchocl. Er y dechreuid y cyfarfod ar awr gynnar, sef 6 o'r gloch, yr oedd y lie yn orlawn, yr 113m ynddo ei hun lefarai lawer am boblogrwydd Mr. Gough. Ac nid nifer yn unig oedd yno, ond yr oedd pobl oreu pob eglwys drwy-'r ardal yn bresennol. Yr oedd presenoldeb cynifer o weinidogion yn eglur ddangos fod i Mr. Gough safle barchus ymhlith ei frodyr yn y weinidogaeth. Gwelsom yn bresennol y Parchn. R. Roberts, Rhostyllen T. E. Thomas, Coedpoeth O. J. Owen, Talwrn J. Howell, Poncian J. Richards, Talwrn J. Milton Thomas, Froncysyllte'; J. Rowlan(is Nant Wvnn Davies (M.C.), Rhos H. Mitchell (B.), Ponciau J. E. Roberts, B.A. (M.C.), Rhos Bailey Roberts, B.A. (Pres.), Rhos Idwal Jones (B.), Bethania J. P. Griffiths, B.A. (B.), Mount Pleasant, Ponciau a J. Lloyd Jones (W.). Rhos, Darllenwyd llythyrau i esgusodi, ac yn datgan teyrnged o glod a gwerthfawrogiad o lafur Mr. Gough, oddiwrth y Parchn. Peter Price, D.D., Rhos J. Talwrn Jones, Bn-mbo D. Wvre Lewis (B.), Rhos; a W. B. Jones (B.), Penycae. Yr oedd Y11 bresennol hefyd In o ddiaconiaid o'r gwahau ol eglwysi, ac yn eu plith dri o Ynadon Headvvch, sef Mri. Isaac Smith, Bryn Awelon Cadwaladr Morgan, Johnstown a Jonathan Griffiths, Ponciau. Dechreu wyd 3-11 y dull arferol gan y Parch. O. J. Owen, Talwrn, a llywyddwyd gan Mr. John Parry, Tv Gwyn—-un o ddiaconiaid Salem. I dclechreu caed cytgan, Wele, cawsom y Messiah,' gan y cor dan arweiniad Mr. J. Bellis, arweinydd y gan yn Salem, 3-11 dra swynol. Ber fn araith y llywydd, er y gallai ddwcyd llawer. Datganodd fod yn Salem a'r ardal yn gyffrediuol deimladau dwys oherwydc1 colli Mr. Gough a'i deulu, ac o lawenydd ei fod yn symud i gylch llwch, ehangach ei wasanaeth, Uuosocach ei gyfleusterau, a mwy ei ddylanwad. Yr oedd Mr. Gough, fel dyn, yn foneddigaidd fel gwein- idog, yn ofalus ac fel pregetliwr, yn ymarferol ac efengylaidd. Elai oddiyma dan ei goron, ac wedi ei lwytho a dymuniadau da Salem am ei wir lwyddiant yn Plasmarl. Y Parch. Wynu Davies a ddywedodd mai y peth cyntaf sydd yn taro^dyn wrth edrych ar y cyuhuJliad liwn yw, y rhaid fod yma barcli mawr yn yr ardal yn gyffredinol i Mr. Gough. Arfer y byd ydoedd plethu coron bersawrus o flod.au, a'i rhoddi ar arch dyn ar ol ei farw, tra wedi gosod drain ar ei lwybr tra bu by w end yma heno yr oedd yn dda ganddo eu bod 3-11 bwrw blodeudyrch wrth draed cyfaill tra yn fyw, a gobeithiai y byddai i'w perarogl ei lonni am flyimldoedd lawer i ddod. Gwyddys ei fod ef yn bresennol ar ran Cynghrair Eglwysi Rhydd- ion Rhos a'r Cylch, ond yr oedd ganddo resymau personol dros fod yno hefyd. Yn un peth, yr oedd ef a Mr. Gough yn dyfod o'r un wlad—- Mon mam €3-111111 '—ynys yn cael ei chylchu I gan for ydoedd, ac y mae pawb yn un a'u gilydd mewn lie felly. Naturiol iddo ef a Mr. Gough dynnu at eu gilydd am eu bod o'r un wlad. Hto, rheswin arall am ei bresenoldeb ydoedd eu bod yn gyfeillion personol. Daethent yma bron yr un adeg, ac felly yr oeddynt yn yr un aingylch- iadau. Meddiennid hwy gan yr un pryderon, cyflelyb gynllliuiau ar gyfer y gwaith, a'r un ofriau am y dyfodol ac yn naturiol iawn, daetli- ant at eu gilydd drwyhyn. Rlieswm arall dra- chefn ydoedd en bod ar deleran ymweled ac ymddiried yn eu gilydd. Nid yw pob gweinidog felly gyda'i gyd-weinidog. NIae'n bosibl ei foci ef fwy yng nghjdtinach Mr. Gough na'r un gweinidog Annibynnol o'i gwmpas, a bod Mr. Gough yr un felly gydag ef, na'r un gweinidog Methodistaidd yn y cylch. Trwy hyn cafodd gyfle i adnabod Mr. Gough, a rhoddai hyn hawl iddo siarad, ac yr oedd 3rn dda ganddo ddwyn tystiolaeth i ragoriaeth ei gymeriad. Cafodd ef bob amser yn ddidwyll, dihoced, gonest a bonedd- igaidd, ac yr oedd ganddo ef yn bersonol barch mawr tuag ato, a'r un modd yr eglwys yn Capel Mawr. Bu Mr. Gough yn hynod ffyddlawn a theyrngarol i chwi yn Salem. Ni clywais erioed air gwael ganddo ani 11a svvyddog nac aelod ohonoch. Bu yn barclius o'r eglwysi eraill, ac yn selog gyda'r Eisteddfod, Dirwest, a'r IV av Relief Fund. Gofid calon ydoedd ei golli, ond llawenhai ei fod yn lnynd. o'r Rhos i'r Plas. Ar ran y Cynghrair yr oedd yn dda ganddo gyf- lwYllo anrheg fach iddo, sef llyfr gyda'r teitl, (' l (Dr. Jesus and the Gospel (Dr. Denney). Cyflwynodd Mr. Gough ei ddiolcligarwcli cyn- hesaf i'r Cynghrair am yr anrlieg werthfawr a'r teimladau da ydoedd tu ol iddi. Byddai iddo yn sicr ei gwertlifawrogi, ac annwyl fyddai yr atgof am ei gysylltiad a'r Cynghrair. "i iia cafwyd unawd, Y Plentyn a'r Gwlith,' gan Mrs. S. Davies. Y Parch. R. Roberts a ddyweciodd y medd- iennid dyn mewn cyfarfod fel hwn gan ddau deimlad—-galar a llawenydd. Diau fod Mr. Gough yn teimlo ei bod yn anawdd ymadael. Yr ocdd yna bum mlynedd o gysylltiadau eisiau eu torri. Siaradodd am dri arbennig o'r rhai hyn, sef (I) Ei gysylltiad a'r plant (2) Ei gysylltiad a'r bobl ieuainc (3) Ei gysylltiad a'r gwran- dawyr. Dymunai iddo bob llwyddiant yn ei faes newydd. Y Parch. T. E. Thomas, Coedpoeth, a ddy- wedai fod yn dda ganddo ganfod cyfeiriad uchel y cyfarfod. Hawliai Mr. Gough fel cyfaill calon. Ond vr oedd yno liefyd ar ran Cyfundeb Dwyr- einiol Dinbych a Fflint. Yr oedd Mr. Gough wedi lianw yn anrhydeddus bob cylchyny Cyfundeb: 3-11 ffyddlawn i'w bwyllgorau a'igyfarfodyd(l, Nrn pregethu ar bynciau ac fel arall, nes y flwyddyn cyn y dcliwed(lai y tyf o(Itt i'v cliad air- r anrhyd- edd- fwyaf allasai y Cyfundeb roddi arno — a llanwodd flwyddyn ei gadeiryddiaeth gyda phob urddas. Yr oedd yn dda ganddo am y cyfarfod hwn fel yr oedd yn werthfawrogiad o'r Bfengyl. Cylch crefyddol" ydoedd hwn, ac yr oedd yn falch fod yr Efengyl yn cael ei gwerthfawrogi vma. Ofnai fod yna ddylanwadau eraill ar waith y dyddiau hyn oeddynt yn dibrisio ac yn tynnu vr Eiengyl i lawr. Ond yr oedd ef am i'r cyfar- fod fod yn foddion i ail-eni gweinidogion. Nis gwyddai sut y buasai arno ef onibai am yr Efengyl a'r cylch crefyddol. Gwyddai y der- bynuid ef'i dai a gwahanol gylchoedd oherwydd parch pobl i'r Efengyl. Ond ofnai am ddynion ieuainc yr oes oherwydd fod cymaint o wahanol gylchoedd yn ymagor o'u blaen. Yr oedd yn dda ganddo fod yn bresennol er mvvyn Salem, ac yr oedd o galon yn Uongyfarch yr eglwys ar y ffaitli fod ganddi lygad i ganfod dynion, oblegid cafodd weinidogion fn yn anrhydedd icldi: Po b llwYddiant iddi ac i Mr. Gough yn ei faes newydd. Y Parch. E. Mitchell a ddywedodd fod Mr. Davies yn cymychioli Cynghrair, a Mr. Thomas Gyfundeb y lleill wedi siarad dros y Lefiaid, ond yr oedd' efe yn qael y fraint o wneud hynny dros yr offeiriaid-y gweinidogion—er yr ofnai mai arwydcl ei fod yn mynd yn hen ydoedd y lfaith iddo gael ei ddewis yn enau i weinidogion y Rhos a'r cylch. Mae goreuon pob enwad wedi eu galw i'r Rhos, ac fe ddylem fel ardal fod ymiiellaeh ymlaen mewn moes a chrefydd. Gallasai ef siarad am Mr. Gough o safle cymydog, oblegid Seion ydoedd yr eglwys agosaf ato ar y ffordd oddiyma i Eundain, ac yr oedd yna Ie cynnes i Mr. Gough a'i deulu yn Seion. Cafodd ef Mr. Gough bob amser yn ddyn trwyadl natur- iol a charedig. Gallasai nodi llawer o enghreiift- iauibrofi hynny. Dynaun: Perthynai i'w eglwys ef chwaer ieuanc ydoedd wedi bod trwy lawer o peration ac yn unol a chyfarwyddyd meddygon yr oedd yn rhaid iddi fyw yn yr awyr agored. Y cwestiwn ydoedd cael lle iddi a dyna Mr. Gough yn dod yinlaen 1 gynnyg lie iddi osod ei phabell i lawr, er fod hynny yn golygn iddo fod heb blaunu tatws y flwyddyn honno. Gall- asai nodi llu o bethau tebyg ddanghosai galon garedig y gwir ddyn. Yr oedd yn mynd i le y gwerthfawrogid ei lafur yn yr Hfengyl yn fawr. Ar ran Cyindeitlias y Gweinidogion eyfiwynodd i Mr. Gough nifer o gyfrolau o lisboniad Dr. Parker. Mewn ychydig eiriau wrth ddiolch, cydna- byddodd Mr. Gough ei ddyled i holl weinidogion y Rhos a'r cylch. Cafwyd unawd eto, Iyhdr fy Alaiii (R. S. Hughes) yn dra effeithiol gan Mr. J. Edwards (Alaw Maelor). Y Parch. J. Howell a ddywedodd fod yn dda ganddo fod yn bresennol ar ran ei hun. Yr oedd cysylltiad agos wedi bod rhyngddo a Mr. Gough. Fe ddaeth yma ar ei ol ef, a dyma fe yn mynd eto. Yr oedd yn dda ganddo fod yn bresennol ar ran Mynydd Seion. Bu Mr. Gough 311 ei phulpud a'i chyrddau anitywiol lawer gwaith, ac yr oedd: croe:aw a pharch iddo yno bob amser. Mae yma ryw ysbryel symud yn y lie yn awr hefvd. ac wyr neb faint leda hwnnw ond tybiai y byddai Mr. Mitchell, Mr. Davies ac yntau yn sefyll ar y Groes yna, ac yn canu triawd Idwal Jones may come, Gough may go, but we stay on for ever.' Dvinunai bob llwycldiant i Mr. Gough a'r teulu. Dywedodd Mr. James Edwards mai cynrych- iolwr ydoedd yn siarad yn y cyfarfod dros Bethlehem, a hynny yn abseuoldeb Dr. Price. Yr oedd yn dda ganddo ddweyd gair. Bethlehem ydoedd y fam-eglwys, yn y byd a'r eglwys oreu. Ymlonnai wrth glywed y ganmoliaeth bentyrrid ar Salem, oblegid po fwyaf wneid o'r ferch, mwyaf i gyd fyddai anrhydedd y fam. Pel y » bydd y fam y bydd y ferch. Nid oedd ganddo | anerchiad, ond 3rr oedd Mr. Gough yn destyn rhagorol. Yr oedd un peth da yn Mr. Gough heb ei grybwyll, sef ei ddawn fel pvvyllgorwr. Cawsom gryn bronad ohono mewn pwyllgorau, a gwelsom ef yn ein dwyn lawer gwaith o dywyll- J| wch i oleuni. Vr oedd yn dda ganddo dros 1 Bethlehem ddatgan ei gofid o'i golli, a'i dymun- iadau goreu am ei I wyddiant yn ei gylch newydd. |^ Cododd Mr. Samuel Roberts, trysorydd Salem, | i ddiolch i bawb am bob rhodd at y dysteb i j Mr. Gough. Carai enwi llu tuallan i Salem, ond .1 ni chaniatai amser iddo eto nid allai ymatal heb j enwi rhai, pe dim ond er dangos pa mor bell- | gyrhaeddol ydoedd dylanwad Mr. Gough. per- j byniwyd llythyrau caredig ocldiwrth Mr. E. T. j John, A.S., a £ ] 3' s., ac oddiwrth Mr. C. Edwards, I Trefynant Hall, a £ 1 a rhodd anrhydeddus oddiwrth Dr. Peter Price. Dymunai roddi mynegiant i lais Salem ar yr amgylchiad hwn. Yr oeddynt fel eglwys wedi byw gyda Mr. Gough am bum mlyiiedd-a rhaid byw gydag un i'w adnabod. Ni bu erioed gysylltiad anwylach rhwng gweinidog ac eglwys nag a fu rliwng Mr. Gough a Salem. Yn ystod yr amser y bu yma ni bu yr un gair croes rhyngddynt, nac un anghydwelediad. Gallasai pobl oddiallan fedciwl mai fel arall y mae yn Salem, oblegid dvnii. ni mewn naw mlynedd o amser yn colli y trydydd gweinidog. Ond y mae y cysylltiad wedi bod yn hynod o hapus a phob gweinidog, ac yn fwy felly gyda Mr. Gough, os rhywbeth, nag un arall. Dymunai ddweyd gair am Mrs. Gough. Dynes dawel ydoedd hi—ni wnaeth fuss erioed. Yr oedd ganddi ddigon o Ie i hynny gartreff. Ond boneddiges ydoedd er hynn3" — wedi dysgu meddwl a siarad yn barchus am bawb, ac wedi arfer gwneud a allai i lonni pawb. Yn wir, ni buasai Mr. Gough yr hyn yw onibai am ei gofal a'i sirioldeb hi. Bydd ei hymadawiad hi yn golled fawr. Pob bendith ar y teulu i gyd. Cvinerodd yr anrheg y ffurf o travelling bag a phwrs o aur. Cyflwynwyd hi, gydag ychydig eiriau pwrpasol iawn, gan Mr. John Davies, y diacon liynaf. Cafodd Mrs. Gough ei hanrhegu ag umbrella drudfawr y Saboth cynt. Mr. Gough a ddywedai Fy araith i fydd 3-* ferraf heno. Nis gwn er's amser pa un ai yn y corff vr wyf ai allan ohono. Cefais gytle neithiwr i cldweyd fy meddwl wrth Salem. Fy nyled- swydd gyntaf ydoedd bod yn ffyddlawn i Salem, a cheisiais golio hynny o hyd, er fy mod yn ofni na fum hanner y peth ddywedwyd yma heno. Anturiaeth bwysig ydoedd dyfod i'r Rhos a bum vn gwrando gryn dipyn ar ddau lais cyn dod yma—un yn dweyd wrthyf, Dos, a'r llall am imi beidio dod- Oad trwy ffydd y bwriais fv hun a'm teulu arnoch bum mlynedd yn ol, ac ni chefais le i edifarhau. Yr wyf yn falch o gael dod i gysylltiad ag athrylith grefyddol y Rhos, ac ni phetrusaf ddweyd fod yma lawer o hwnnw. Diolchaf o galon i Salem ac i bawb am eu caredig- rwydd, canys cefais lawer ohono. Diolchai hehl am yr hyn ddywedwyd am Mrs. Gough. Gallai ddal yn weddol garedigrwydd ei hun, ond pan ddeuai 1 IV rai annwyl syfrdenid ef. Mi wn fod Mrs. Gough yn deilwng, a'r Duw mawr yn unig wyr faint fn hi i iiii-sirioldel-) mewn anobaith, doethineb mewn anhawster, a gair parod pwr- pasol ganddi pan dueddai ef i ymffrostio mewn llwyddiaut. Wei, yr 3-dyni fel teulu Y11 wynebu ar gylch newydd. Ni anghofiaf bythyrlien gylch, a'm dymtiniacl olaf ydyw am i chwi gofio am danaf wrth Orsedd Gras. 'Yna eafwyd, datganiad rhagorol o'r cytgan, Pwy fel Efe gan y cor. Diweddwyd un o'r cyrddau goreu o'r natur hwn y buom 37nddo erioed trwy weddi gan y Parch Idwal Jones. Yr organyddion oeddynt Mri. John Roberts a John Williams, A.R.C.O., A.R.C.M. IAGO DDU.

Advertising