Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
tvleddyginiaeth Ddyogel AT Anhwyld^rau'r Croen a'r Gwaed Os ydych yn dyoddef oddiwrth nnrhyw afiechyd sydd yn codi oddiar anmhnredd y gwaed, megys ECZEMA SCIRJFULA, GWENWYN VF GWAED, CLWYFAD i) nnrhyw natcr, OHWYDDIADAU OROENOL OLUNIAU DOLURUS, ORYDOYMALAU, GOUT, &c., dylech brofi gworth Olarks's Blood Mixture y Gwsed Burydd ao Adferydd bydenwog. Gwarentir < 4lirio y Gwaod oddiwrth pob anmhuredd sydd yn GODI OBDIWBTH BOB ACHOB, ac y mae yn rhydd oddi. wrth bobpetb sydd yn niweidiol i'r cyfansoddiad mwyaf gwKnaidd i un o'r ddau ryw, 0 fabandod hyd henain Miloedd 0 dystiolaethau o bob parth o'r byd. Oddiwrth yr holl Fferyllwyr a'r Ystordai, 2s 9o y botel. Gofynwch am Clarke's I Blood Mixture Gwmwci BVBLYCHUDAU DIWBKTH.
Cyfarfod Undeb Ysgolion Gogledd…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cyfarfod Undeb Ysgolion Gogledd Penfro. Cynhaliwyd yr un diweddai yn Ebenezer, Tt-efdraeth, dydd Mercher, Hydref 27ain, o dan tywyddiaeth y Parch J. H Evans, gweinidog y ilo. Dechreuwyd odfa'r bore drwy weddi gao y Parch J. Evans, Gideon. Pasiwyd fod y cwrdd nesaf i fyned i Fryn- borian yn Ionawr. Pasiwyd hefyd bleidlais o gydymdeimlad a'r Parch J T. Gregory, Peniel, yn ei gystudd, yigaydar llawenydd o glywed ei fod ar ellhad. Ba Mr Gregory am flynyddoedd yn aeiod ffyddlon a gwasinaethgaf iawn o'r undeb hwn. Gwnaed cyfeiriad haiyd at farwolaeth pedwar o'r cyn-gynrychiolwyr, set Mr William Nicholas, Antioch Mr A. M. Webb, Aberteifi Mr John Evans, Pontgynon a Mr John Davies, Llwyn- ychwrdd. Cleddid yr olaf y diwrnod hwnnw. Ya wyneb ymadawiad y brodyr hyn, (faith gysurus ydyw fod pedwar arall wedi gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn y cwrdd hwn fel eynrychiolwyr. Pwnc siarad y gyfeillach oedd-I Sefyllfa breseunol yr Ysgol Sal yn galw am Ddeffroad Triniwyd y mater yn ddeheuig a chynnes iawn gan y brodyr David Morgan, Trefdraeth; Arthur Thomas, Felindre; William Thomas, Brynmyrnach; David Lewis, Llandndoch Morris Phillips, Penygroes; David Morris, Gideon; D. Lodwig Davies, Trewyddel; Stephen Lewis, Pontgynon; W. Jenkins, Antioch; W. Thomas, AberteHi; Urias Richards, Tyrhos; a David Roes, Beynbarian. Dechreawyd odfa y prynhawn gan y brawd Da.vid Rees, a phregethwyd gan y Parcha R. n. NVilliai-us, Tyrhos, a W. Whittingtoa, Hope Chapel, AberteitL Yn odfa yr hwyr gwasanaethwyd gan y Parchn D Myddfai Thomas, Penygroes, a J. Caerau Rees, D D Brynberian. Caed odfeuon gwych iawn drwy'r dydd. Darparwyd lluniaeth ar gyfer y dieithtiaid gan ciiwiorydd caredig yr eglwys. Cafwyd gair am Lafurwyr Seion' yug ngbwrdd y bore. Pasiwyd cliolchgarweh i'r Ysgrifennydd am ei waith yn cyboeddi y iiyfryn hwn ar hanes yr uodeb yn ystod deng ndynedd a thrigain ei ymdaith. Teg yw i riunnau i ddiolch yn galonnog i eglwysi cylcb yr undeb, a llu o garedigion o'r tu allan am eu cefnogaeth wresog i'r anturiaeth. O'r mil copiau a argraffwyd, nid oes ond rbyw ddwsin o gopïau ar law. Clywaf gwyno o ambell gyf- eiriad fod enwau rhai o ddynion goreu yr eglwysi heb fod yn y llyfr. Nid oesgennyf mo'r help am hynny. Hanes y cwrdd undeb a geisiwyd gennyf i'w ddwyn allan, a hynny a wneuthum, ac nid hanes yr eglwysi Cymerais drafferth fawr i godi enw pob cynrychiolydd oedd ar gael yn llyfrau cofnodion yr ben ysgrifenyddion. Dim ond a'r rhai fa'n gyn- rychiolwyr oedd a fynno amcan y llyfr. Bu llu praill yn llawn mor weithgar gyda'r Ysgol Sul. ond na tnont edoed yn gynrychiolwyr. Trueni na chyhoeddid hanes y rheiny hefyd, oblegid teilwoe: vdvnt' Parod wyf i wneud, os caf gefnogaeth. E. J. LLOYD, Ysg.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
WERN, YSTALYFERA.—Cynhaiiwyd cyf- arfodydd hanner-blynyddol yr eglwys uchod Sul a nos Lun, Hydref 24ain a'r 25ain Y gennad y tro yma oedd y Parch T. E. Nicholas, Llangybi. Cafwyd cynulliadau lluosog, preg- ethau grymus a chasgliadau rhagorol. SARDIS, EFAILFACH -Gwasanaeth wyd yng nghyfarfodydd yr eglwys uchod Tachwedd 7fed a'r 8 fed gan y Parch D. Tegfan Davies, Aman- ford. Cafwyd gweinidogaeth nerthol a dyrch- afol.
GYDA'R MILWYR CYMREIG. '
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GYDA'R MILWYR CYMREIG. GAN Y PARCH. R. PERIS WITLIAMS. Deil y gwaith ynglýn a/r Deyrnas nad yw o Ir byd hwn i fynd rhagddo yng ngwersyll Hazeley Down ac yn y gwersylloedd craill sydd o amgylch dinas Caerwynt (Winchester). Y mae'r milwyr sydd yn y gwahatiol gatrodau wrthi yn brysur iawn y dyddiau hyn yn mynd trwy gwrs o ymarferiadau uiewn saethu. Bu y rhan fwyaf ohonynt yn Salisbury. Plain am rai dyddiau. Y maent wedi dychwelyd oddiyno erbyn hyn, ond y maent wrthi a'u holl egni gyda'u paratoadan ar ol dychwelyd. Ac er fod gwaith y caplaniaid i raddau yn gorfod dioddef ohenvydd y prysur- deb, eto yr ydym yn manteisio ar bob cyfle i ddarparu ar gyfer anghenion ysbrydol y bechgyn. ODFEUON. Cawsom rai odfeuon hytryd odiaeth, a r enein- iad yn amlwg iawn arnynt. Daw ynghyd gynull- eidfa fawr yn rhifo cannoedd lawer i'r Parade Service ar fore Saboth. Ceir gwasanaeth un o dair seindorf i arwain y canu cvnulleidfaol bob Sul. Daw seindorf y 16th Bataltion The Welsh Regiment (Catrawd Dinas Caerdydd) a seindorf y loth Battalion The South Wales Borderers (Catrawd Gyntaf Meibion Gwent), a seindorf y nth Battalion The South Wales Borderers (Ail Gatrawd Meibion Gwent) atom yn eu tro ac fel y gellid disgwyl gan y fath gynulleidfa, ceir canu ¡ ardderchog. Cawsom odfa Gymraeg am 3.30 o'r gloch ar brydnawn Saboth yn ddiweddar, yn addoldy yr Annibynwyr yn Jewry-street, Caerwynt ac er fod yr awr yn anghylleus, a nifer o'r Catrodau i flwrdd yn Salisbury Plain, yr oedd vno gynull- eidfa fawr wedi dod i'r odfa. Arweinid y canu yn yr odfa honno gan gor y 17th Battalion The Royal Welsh Fusiliers (Ail Gatrawd Meibion Gog- ledd Cymru). Arweinid y cor gan y Corporal W. O. Hughes o Ddeiniolen, ac yr oedd y Lieutenant W. T. Davies o Benybont-ar-Ogwy wrth yr organ ac yn peri iddi seinio'n soniarus dros ben. Canodd y cor yn fendigedig, a chafwyd unawdau gan y Sergeant Lydford-un o'r rhai waredwyd oddiar fwrdd y Lttsitania-a'r Preifat D. Morris o Draws- fynydd. Canodd y ddau yn ardderchog. Cefais innau y fraint o bregethu i gynulleidfa oedd yn gwrando'n astud iawn. Gwnaetliom gasgliad yn yr odfa tuag at yr Ysbyty Cynireig yn Netley. Cawsom odfa Saesneg yn yr un lie y nos Saboth blaenorol, ac odfa i'w chono ydoedd. Yr oedd yr addoldy eang yn orlawn, a llawer yn methu dod i uiewn. Cor Bataliwn Dinas Caerdydd enillodd yn yr Bisteddfod yr wythnos cynt, oedd yn arwain y canu. Bum hefyd yn pregethu ar fore Saboth yng Ngwersyll Winnall Down, lie y dechreuwyd yr odfa gan y Milwriad David. Davies, A.S., yr yswain o Landinam. A'r un Saboth yr oeddwn yng Ngwersyll Avington Park, lie yr oedd y Capten Llewelyn Williams, y meddyg adnab- yddus, yn gwasanaethu fel pen blaenor yn yr odfa. YMWEWYR. I Erys y Parch. John Williams, Brjusiencyu, yng Nghaerwynt ar hyn o bryd. Pregethodd yn Neuadd y Ddinas nos Saboth wythnos i'r diw- eddaf ac er fod yr hin yn hynod anffafriol, daeth cynulleidfa luosog ynghyd. Y Saboth diw- eddaf yr oedd yn Winnall Down yn y bore a daeth i Hazeley Down yn yr lnvyr. Pregethodd yn ardderchog bob tro—ni c.hlywais ef erioed yn well—ac yr oedd yn amlwg fod y bechgyn yn mwynhau ei weinidogaeth yn fawr. Bit y Parch. W. Llewelyn Lloyd a D. Lloyd Jones, Aber. yma, a chlywais iddynt gael odfeuon hyfryd yn rhai o'r gwersylloedd. Gwelais Mr. J. B. Powell, Y.H., Gwrecsam, a'i briod yma, a Mr. J. Ven- more, Y.H., Lerpwl, ar ymweliad a'u meibion .sydd yn swyddogion yn y fyddin, Clywais hefyd fod y Parch. D. C. Herbert, Brynsiencyn, yn gwasanaethu gyda'r Y.M.C.A. yng ngwersyll Flower Down. YR YSGOT. SABOTlIOI, c A CHYliARFODYDD WYTH-I NOSOIY. Deil yr Ysgolion Sabothol yn llewyrchus. Caw- som gryn yclxwanegiad at rif yr aelodau trwy ddyfodiad y 17th Battalion The Royal Welsh Fusiliers yma o Flower Down. Ysgrifennydd yr Ysgol Gymraeg yw y Preifat Caradog Pugh Williams o Benygraig, Cwin Rhondda, a bachgen hynod ffyddlon ydyw. Ysgrifennydd yr Ysgol Seisnig yw y Corporal Sage, ac y mae yntau hefyd yn fachgen dymunol iawn. Y mae gennym gyfarfod sydd yn gyfuniad o gyfarfod gweddi a chyfeillach bob nos Fercher, a daw cynhulliad rhagorol ynghyd. CYFARFOD DIOI.CI! Ail Y CYNHAI £ AF. Bu gennym gyfarfod i ddiolch am y cynliaeaf ar y IAull y cynhullwyd yng Ngliymru i gyunal cyfarfodydd diolchgarwch. Cawsom gv- nulleidfa luosog, a chyfarfod tan y gwlith. Y11 y Y.M.C.A. Hut y eynhelid y cyfarfod. Arweinid tnewn gweddi gan y Lieutenant Morgan Williams (wyr i'r enwog Barch. Edward Morgan o'r Dyff- ryn), y Preifat John Jones o Landudno Junction, a'r Corporal Ryan o Henffordd. Peth uewydd, yn ddiau, uiewn gwersyll milwrol oedd cyfarfod o'r fath. A fu cyfarfod o'r blaen fel liyn, tybed ? CYMUNDIJB. c)(Ifa v lios Sal-)otli c\-liti,f o'i- inis gennym 1 gofio Augen'r Groes, ac yr oedd v Gwr a fu gynt o dan lioelion yn amlwg iawii ar doriad y bara. Nid oedd na blaenor na diacou yn y gwasanaeth i fynd a'r elfennau oddiam- gylch, ond aed a'r bara a'r gwin i'r disgybliou gan y Sergeant H. G. Hughes o GaerdyTld, A- Preifat T. Whitelock o'r Ystracl Rhondda, a luinnau. Nid anghofir y Cymundeb hwn gennym. Bydd yr atgof am dano fel gwlith ar ein profiad am ddyddiau lawer i dclocL CYNGHEJRDDAU. Yr ydym wedi cael cvngherddau tra llwvdd- iannus bob wythnos. Ar nos Wener y cynhelir y cvngherddau. Dymunai y bechgyn eu cael ar y noswaith lion gan mai dyna'r noswaitli y derbyniant eu tal a chredwn fod y cvngherddau wedi cadw llawer ohonynt rhag mynd i ddiota. Cymerir rhan ynddynt gan amryw o'r swydd- ogioii, ac hefyd gan nifer o'r milwyr cyffrediu. Mae yn eu plith gautorion gwych ac adroddwyr j campus. DIOLCH. Diolch i berchenogion Y Brython, Y TYST, V Goleuad, Y Cymru, a!r Herald Cyrnraei* am ddan- fon eu uewyddiaduron yma bob wythnos. Hefvd diolch am ddau gopi yn fisol o'r Gorla 11. Goddefer i mi yn v fan yma alw sylw at y ddau argraffiad-un yn Gymraeg a'r llall yn ,Sae,siieg-o Gwlad fy Nhadau Rliodd Cymru i'w Byddin '—llyfr sydd newydd ei gyhoeddi gan Mri. Hodder a Stoughton. 0 ran ei gynllwys a'i droad allan y mae yn gampus, ac yn rhad iawn am 2/6-y pris ofynnir am dano. Rhoddir yr holl el\ oddiwrth ei werthiant i Gronfa Genedl- aetliol y Milwyr Cymreig. Pryner y llvfr. i SYMUI). Cyn yr } inddengys yr ysgrif lion, byddaf wedi symud oddiyma i rywle arall i wasauaethu gyda'r Expeditionary Force ar y Cyfandir. Parhewch i weddio droswvf a thros eraill sydd yn llafurio ) inhlith y milwyr, yn ogystal a thros y bechgyn sydd yn y Fyddill a'r Llynges. Or,NODIAD. Dydd Sadwrn cefais gyfle i groesawu y Parch. James Fvans, B.A., yma o Gaerdydd. Y mae wedi ei benodi yn gaplau, a bydd yn gwasanaethu gyda'r Fyddin Gyiureig.
....-Capel-y-Ulyn, Glyn-nedd.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Capel-y-Ulyn, Glyn-nedd. Gwyl Flyityddol.-Cynnatiodd yr eglwys uchod ei gwyl bregethu flynyddol Sul a LInn, Hydref 31ain a Tachwedd laf, pryd y pregeth- wyd gan y Parchn J. Towyn Jones, A.S., a D. M. Davies, Waunarlwydd. Cafwyd cyfarfodydd eithriadol dda. Darlith.-Bu y Parch D. M. Davies yma hefyd yn traddodi ei ddarlith odidog ar < Gipsy Smith.' Daeth tyrfa luosog i'w wrando, a thystial. pawb mai dyma un o'r darlithiau gorou draddodwyd yn y He.