Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
AT EIN GOHEBWYR.j 1
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. DALIER SYIyW.—Hoffem i'n gohebwyr gofio fod cyfnewidiad mawr wedi cymryd lIe ym mhris cludiad ysgrifau trwy'r Llythyrdy. Byddai yn burion iddynt bwyso pecyn cyn ei anfon, a rhoi'r stamps gofynnol arno. 0 hyn all an bydd raid i ni wrthod talu'r draul ddwbl yn eu lie, a dych- welir yr ysgrif trwy'r IJytliyrdy, a bydd raid i'r anfonwyr dalu, a cholli'r cyfle i ymddangos yn ein ilesaf yr un pryd. Gair arall er mwyn popeth meithriner y niesur byr, ac nad yw o aruthrol bwys i wybod pwy declireuodd neu a ddiweddodd trwy weddi, pwy oedd yn canu'r (jfferyn, nac ychwaith fod yn dda gan ddwsin o siaradwyr fod yn bresennol, &c. Mae ein bwrdd yn llawn, a'n hamser yn bur brin a gwerthfawr, a'n tymer weithiau yr un mor brin a gwerthfawr cymerwch drugaredd. arnom, da chwi. Os na Avnewcli, bydd raid i ni fesur a barnu adroddiadau o gyfarfodydd a newyddion lleol wrth y droedfedd cyn. cynnyg eu darllen. GOT. Urddiad Mr John Morgans yn y Christian Temple, Antanford--Ni ddaeth un hysbysiad i'r Swyddfa am yr urddiad hwn sydd i gymeryd lie ddydd Ian nesaf. Mewn Llaw.—P. R. Thomas—Gogleddwr— Cyfarfodydd Chwarterol Cyfundeb Arion a Chyfundeb Ceredigioli-Cyfarfocl Ymadawol y Parch J. Hywel Thomas, Trefgarn, Penfro- Tabernacl, Cwmgors—-Tabor, Maesycwmwr— Tlandeilo a'r Cylch—Seion, Edwardsville—Tre- ffviino-n-C,ogledd, Cerecligioii.Lin Henwad yn Llanelli—Cylch Tlandeilo—Scranton, Pa.Bir- luiughain -Y Golofn Farddonol—Cyfarfodydd. — «
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Ebenezer, Tylorstown. NIFBR o Gas Fittings mewn cyflwr da i'w rhoi am ddim at wasanaeth Ysgoldy neu Gapel. ROWLAND HUGHES, Gweinidog.
-I FFERMWYR CYMRU. ! I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
FFERMWYR CYMRU. Y CAMJA WNEIR AJRDYvVYSOG- AETH. YR wythnos ddiweddaf ymwelodd dir- prwyaeth bwysig o Gymru ag Arglwydd SEEBORNE, Llywydd Bwrdd Amaethydd- iaeth, i alw ei sylw at angen Cymrn am well chware teg ynglyn a hyrwyddo budd- iannau Amaethyddiaeth. Derbyniwyd y Ddirprwyaeth gan Arglwydd SEEBORNE, Mr. F. D. ACEAND, A.S., Ysgrifennydd Bwrdd Amaethyddiaeth, a'r Proffeswr BYRNES JONES, Aberystwyth, y Dir- prwywr dros Gymru. Cyflwynwyd y Ddir- prwyaeth gan Mr. E. T. JOHN, A.S., Cad- eirydd Cymdeithas Amaethyddiaeth a Dat- blygiad Gwledig Cymru. Ymhlith y D?ir: prwywyr yr oedd Mr. JOHN HINDS, A.S. Dr. SHARE JONES, Prifysgol Lerpwl; Mr. AKERS, St. Fagan's Mr. E. R. DAVIES, Pwllheli; a Mr. HUBERT ALEXANDER. Ymhlith eraill a fwriadent fod yn bres- ennol i gefnogi y cais, ond a luddiwyd, yr oedd y Proff. WHITE, Bangor; Mr. OWEN PRICE, Nantyrharn Mr. J. W, STEPHENS, Kington yr Henadur IEETYD THOMAS, Caerdydd Mr. ROBERT EVANS, Crynierth; Mr. W. G. JAMES, Ivlysyronen ac eraill. Wrth gyflwyno'r Ddirprwyaeth dywed- odd Mr. E. T. JOHN fod ffermwyr Cymru, tra vn croesawu y Cyngor Cenedlaetliol a benodwyd gan y Llywodraeth i edrych ar ol buddiannau Amaethyddiaeth yng! Nghymru, yn edrych ar y Cyngor hwn fel trefniant dros amser yn unig. Hyderent y ceid yn fuan Fwrdd Amaethyddiaeth i Gymru fel ag a geid eisoes yn yr Alban a'r Werddon. Yr oedd amgylchiadau Cymru yn dra gwahanol i eiddo rhannau eraill o'r deyrnas. Yr oedd Cymru, hefyd, wedi derbyn lawer iawn llai na'i chyfran teg o arian y Llywodraeth tuagat addysg Amaethyddol a datblygiad Amaethydd- iaeth. Yr oedd angen Cymru yn fwy, ac yn galw am sylw buan, yn gymaint ag nad oedd y tir yng Nghymru yn cynhyrchu ar gyfartaledd agos cymaint yr erw ag ydoedd yr Alban a'r Werddon. Cyn- hyrchai y Werddon ar gyfartaledd 0 30 i 40 y cant yn fwy o rawn-gwenith, haicld, ceirch—nag a wna Cymru. Un o efieithiau yr anghyfartaledd hwn oedd hyn Prisid gwerth cynnyrch tir Cymru yn 1910, wrth gyfrif y gwenith, haidd, ceirch a gwair, yn £ 4 9s. 6c. yr acer. Gwnai hynny gyfanswm o £ 4,500,000. Petai tir Cymru wedi cynhyrchu ar gyfar- taledd fel y gwnaeth tir y Werddon, buasai'r gwerth yn £7 19s. 3c. yr acer. Gwerth y cropiau felly fuasai £ 8,300,000. Hynny yw, dylasai tir Cymru fod wedi cynhyrchu gwerth £ 3,800,000 yn fwy nag a wnaetli. Amlwg felly ydoedd nad oedd tir Cymru yn cynhyrchu agos i'r hyn a ddylai gynhyrchu. Talai ei ffordd felly i'r Wladwriaeth wario mwy ar addysg a datblygiad amaethyddol yng Nghymru. Yr oedd hyn yn bwysicach lief yd yn awr yn wyneb y ffaith fod y rhyfel pres- ennol yn gosod beichiau enfawr ar y Dywysogaeth. Yn ol ei phoblogaeth bydd £ 116,000,000 o ddyled y rhyfel yn syrthio ar Gymru am y ddwy flynedd yn terfynu diwedd mis Mawrth nesaf. Yn ol cyfoeth Cymru, o'i fesur yn ol yr hyn a godir o dan Dreth yr Incwm, cyfran Cymru o'r ddyled am y ddwy flynedd a fyddai £ 63,000,000. Yr oedd y ddyled anferth hon yn ei gwneud yn hanfodol angen- rheidiol i sicrhau y cynnvrch mwyaf fo'n bosibl o bob acer o dir yn y Dywysogaeth. Yr oedd y ffermydd ;-yng |Nghymru|fel rheol yn rhai by chain, ac felly yn^galw am ddatblygu yr egwyddor o gydweith- rediad. Dywed y Proff. HALl, fod fferm- wyr Cymru yn methu gwario yr hyn a ddylid am wrtaithenydau i'r tir. Hawliai Cymru Fwrdd Amaethyddiaeth iddi ei hun, a bod swyddogion y Bwrdd hwnnw yn medru Cymraeg, am mai Cymraeg yw iaith gyffredin mwyafrif mawr ffermwyr Cymru hecldyw. Cwvn mawr Cymru, pa fodd bynnag, ydoedd fod yr Alban a'r Werddon yn cael eu ffafrio yn ddirfawr o'u cyipharu a'r hyn a gai Cymru mewn arian gan y Llyw- odraeth. Rhoddodd y I/lywodraeth yng nghorff y 12 mlynedd yn diweddu yn 1912 mewn arian i hyrwyddo buddiannau y tair gwlad fel hyn :— Y W erdd on £ 2,300,000 Yr Alban £553,738 Cymru £ 28,917 Nid oedd y ffigyrau hyn yn cynnwys yr I hyn a roddwyd i'r Werddon at ddibenioR pryiiu'r tir. O fewn y tair blynedd diw- eddaf rhoddwyd I I'r Werddon £ 850,000 I'r Alban £ 700,000 I Gymru, Rywle o £25,000 i 430,000 Yr oedd yn wrthun meddwl fod cymaint o arian y Wladwriaeth yn myned i gy- northwyo ffermwyr llewyrchus yr Alban, ac mor ychydig i ffermwyr tlawd Cymru. Yr oedd yr un anghyfartaledd i'w gan- fod ynglyn a rhoddion y Llywodraeth at Addysg Amaethyddol yn y Colegau :— Cafodd Colegau yr Alban £ 34,000 y flwyddyn. Cafodd Colegau Cymni £ 12,000 y flwyddyn. Danghosai rhoddion Dirprwywyr Dat- blygiad gyffelyb anghyfartaledd. Troi clust fyddar a wnai'r Dirprwywyr hynny i geisiadau Cyngor Cenedlaethol Amaeth- yddiaeth Cymru. Teimlid yn gryf y dylai Cyngor Cymru gael rhywun yn y Senedd i'w gynrychioli fel yr edrych Mr. T. W. RUSSELE ar ol buddiannau Amaethydd- iaeth y Werddon, a Mr. McKINNON WOOD eiddo'r Alban. Dylai Cyngor Cymru gael mwy o awdur- dod, a mwy o arian at ei wasanaeth. Yr oedd amryw bethau pwysig yn galw am sylw'r Cyngor, ond nid oedd ganddo hawl i ymdrin a hwynt. Dyna'r Pysgodfeydd, er enghraifft. Yn y flwyddyn 1913 dygwyd i borthladdoedd Cymru werth £ 738,000 o bysgod i borthladdoedd y Werddon dyg- wyd gwerth £ 294,000. Ond cafodd y Werddon £ 68,000 y flwyddyn honno i ddatblygu ei physgodfeydd, tra na chafodd Cymru a Lloegr gyda'n gilydd ond yn unig £ 23,000. Da fyddai gan Gymru weled gosod tir- oedd y Goron yng Nghymru o dan awdur- dod Bwrdd Amaethyddiaeth Cymru. Ceir yng Nghymru heddyw dros 80,000 acer o'r cyfryw dir yn agored. Hyderai y trefnai Arglwydd SEEBORNE i gael cyd- ymgynghoriad rhwng y Bwrdd Amaeth- yddiaeth, Dirprwywyr Datblygiad, Pwyll- gor Amaethyddol yr Aelodau Cymreig, Colegau Cymru, ac awdurdodau eraill, er gweithio allan rhyw gynllun ymarferol i 1 e s o 1 i amaethwyr ac amaethyddiaeth Cymru. HjSiaradodd Mr. E. R. DAVIES, Pwllheli, Mr. AKERS, a'r Proff. SHARE JONES. Yr oedd sylwadau Dr. SHARE JONES mor bwysig, ac yn taflu y fath oleuni newydd ar yr anghyfiawnder a wneir a bechgyn Cymru, fel yr hawlia erthygl ar wahan. Ceisir gyhoeddi ei sylwadau yn ein rhifyn yr wythnos nesaf. Wrth ateb sylwadau'r Ddirprwyaeth, dywedodd Arglwydd SEEBORNE fod yn rhaid iddo gydnabod fod Mr. JOHN wedi profi fod yr Alban a'r Werddon wedi cael llawer mwy o chware teg nag a gafodd Cymru. Ar yr un pryd sylwai fod Lloegr hefyd yn dioddef yr un modd a Chymru. Eto cydnabyddai yn rhwydd fod gan Gymru achos cyfiawn i gwyno. Credai fod ffermwyr Cymru, fel dosbarth, yn barotach na ffermwyr Lloegr i fanteisio ar ffrwythau ymchwiliad gwyddonol. Blin oedd ganddo nad oedd amgylchiadau y deyrnas ar hyn o bryd yn ei gwneud yn bosibl i ychwanegu yn ddioed at roddion ariannol y Wladwriaeth er hyrwyddo Amaethyddiaeth yng Nghymru na Lloegr. Adgoffai'r Ddirprwyaeth fod rhoddion y Llywodraeth i'r amcanion hynny yng Nghymru wedi chwyddo o £ 3,000 y flwyddyn yn 1912 i £ 15,000 y flwyddyn eleni. Dywedai hefyd yn ddiainwys mai ei fwriad pendant oedd gWlleuthut pob