Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
I Capten y Parch. R. Peris…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Capten y Parch. R. Peris Williams. Cyn y bydd y llinellau hyn wedi .dod i law ein darllenwyr bydd y brawd hoff a galluog, y Parch. Peris Williams, wedi myned i'r ffrynt i weini mewn pethau ysbrydol i'r Fydditi Bryd- einig. Efe oedd y caplan cyntaf benodwyd i'r Pyddin Qymreig o blith yr Aniiibynwyr, ac mae wedi gweithio yn ddiflin a llwyddiannus gyda gwahanol gatrodau ac mewn amryw wersylloedd er's ijeg mis. Mae yn Divisional Chaplain er's llawer o amser, a bydd cyfrifoldeb mawr arno yn y ffrynt. Eiddunwn i'n cyfaill hoff bob ben- dith a nerth ysbrydol, a gweddiwn am i'r amddi- ffyn dwyfol fod drosto a'i ddwyn yn ol yn iach a diogel i fynwes ei deulu a'i eglwys yn fuan eto. Duw yn rhwydd iddo.
CYFARFODYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFODYDD. MYNYDD SEION, ABERCYNON. -Cynhal iodd yr eglwys hou ei chyfartodydd pregethu ar y dyddiau Sadwrn, Sal a'r LluD, Bydref 30ain, Slain, a Thachwedd laf Gwasanaethwyd gan y Parcha Ben Davies, Llandysul, a D. H Williams, M.A. Barry. Cafwyd gwasaDaeth gwerthfawr drwy y ddau frawd, ac arwyddion amlwg fod eneiniad ar y genadwri. Yr oedd y cynulliaiau yn dda ag ystyrled yr hin an- nymunol ar y Sal, ac offry odd y saint befyd yn ew /llysgar a helaetb i'r Arglwydd. Boed bendith yr Arglwydd ar yr holl wasanaethau NODDFA, ABERAMAN.-Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd pregethu Sal, Tachwedd 7fed, pan y progethwyd dair gwaith yn nerthol iawn gan y Parch T. Rees, Sirhowi. Boed arddeliad ar y genadwri amseroL TABOR. LLANWRDA-Cafwyd cyfarfodydd diolchgarwch dymunol yma eleni. Yn y bore unodd yr eglwys mewn gweddiau cynnes, ac yn y prjdnawn a'r hwyr cafwvd dwy bregeth amserol iawn gan y Parch Stephen Thomas Salem. Gwisga yr acbos goreu wedd lewyrchus iawn yn y lie hwn. Nid ydyw y Parch John Davies wedi bod yma ond ychydig amser, ond y mae llwyddiant amlwg ar ei ymdrechion yn yr eglwys a'r cylch. Da gennym nodi fod yr eglwys wedi ychwanegu mewn nifer, ac hefyd fod arwyddion o wenau yr Arglwydd yo amlwg yn y cynulliadau cyhoeddus. Ymddengvs Mr Davies a'i bobl yn fawr yn serch ea gilydd, Arhosed y dylanwadau nefol yn y He.
I MATER ON LLAFUR. I-
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I MATER ON LLAFUR. I I GAN BURLAIS. Cofir i Arglwydd St. Aldwyn, yn y Cwrdd Cymodi mis Medi diweddaf, gydsynio a chais glowyr Deheudir Cymru a sir Fynwy am ych- wanegiad at eu cyflogau o 121 y cant ar y safon newydd. Trefnwyd fod y cytundeb newydd i weithredu o Awst 2lain felly, liyd eto, ni fu mewn grym ond am ryw dri mis. Er hynny, gyrrodd -Mr. W. G. Dalziel, ysgrifennydd. Cynghrair y Meistri, eisoes at Mr. Tom Richards, A.S., Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Glowyr, rybudd o fwriad y meistri i ofyn am leihad neu ostyngiad o 5 y cant yng ngliyflogau'r gweith- wyr yng nghyfarfod nesa'r Bwrdd Cymodi a gyferfydd ar y iofed o'r mis hwn. Sail y cais hwn o eiddo'r meistri yw fod pris y glo wedi gostwng yn fawr yn ystod y tri mis diweddaf. Er codi o bris y coed a phob nwydd arall y mae'n rhaid wrtho yn y gwaith o go li'r glo, mae'r Ivlywodraetli ei hun wedi penderfynu talvi tri swllt y dunnell yn llai am lo Cymru ac o gymharu'r pris a delir heddyw am y glo hwn gaii fasnachwyr tramor a'r pris a delid ym mis Mehefin, gwelir ei fod wedi gostwng rhyw ddeu- swllt y dunnell. Dyma un o'r rhesymau a ddygir ger bron gan y meistri dros y cais presennol. Ymddengys hefyd fod llai o lo yn cael ei gludo oddiyma i wledydd tramor yn y dyddiau hyn nag ym misoedd cyntaf y ilwyddyn, ac o gan- lyniad ceir llawer mwy o le ar y farchnad. Gwelir ar bob llaw ar wYlleb y pyllau glo gnwd toreithiog, ac y mae ein rheilffyrdd yn tagu o ddiffyg llongau a chyfieusterau rhesymol i werthu'r glo a'i gludo dros for. Pan eir i arch- wilio llyfrau'r perchenogion yn fanwl, dargan- fyddir, o bosibl, nad yw'r cais presennol am ostyngiad yn hur y gweithiwr yn un teg a chyf- iawn. Gorffwys y cyfrifoldeb o benderfynu hyn- yna ar ysgwyddau'r cadeirydd amhleidiol. sef Arglwydd St. Aldwyn a diau y dadleuir yn gryf yn ei erbyn gan gynrychiolwyr Llafur. Ond os nad yw'r cais yn brawf o ddim amgenach, mae'n brawf o leiaf nad yw'r fasnach lo mor llwyddiannus ag y bu. Yn ol pob argoel, dirywio a wna tra pery'r trefniadau presennol. Yn ol y trefniadau hyn a chyfraith gwlad, nid oes hawl i neb masnachwr i allgludo glo o'r wlad hon i wledydd tramor heb ganiatad arben- nig y Bwrdd Masnach. Traethasom ein barn dro yn ol ar beryglon y polisi hwn, ac argyhoeddwyd ni nad bendith i gyd oedd y drefn newydd. Y sawl a wyr fwyaf am y fusnes yw'r parotaf i gydnabod a cliyfaddef mai anodd yw derbyn caniatad oddiwrth swyddogion y Bwrdd Mas- nach. Am hynny, mae llawer mwy o lo ar ein rheilffyrdd ac yn eill porthladdoedd nag y gellir ei drosglwyddo i fasnachwyr tramor. Nid yw'n syndod, felly, i un o byllau glo'r Deheudir, sydd yn gofalu am anghenion ein Dlynges, fod yn segur am naw diwrnod mewn mis, ac amryw craill am ysbaid llai. Yn yr amgylchiadau, dyg- wyd cynygiad ger bron un o bwyllgorau lleol Llafnr yn ddiweddar i drefnu dyddiau segur penodol bob mis, yr hyn sydd brawf eglur fod y darpar ar hyn o bryd yn fwy na'r gofyn, neu, yn hytrach, na'r cyfleusterau i allgludo'r glo. Yn y pen draw, mae'n eglur ddiamwys y milwria yn enbyd yn erbyn buddiannau'r glowyr eu hunain. Po leiaf y cyfleusterau i werthu'r glo, lleiaf gwaith a chyflog y gweithiwr. Hwyrach mai'r agwedd hon oedd ym meddwl Mr. Clement Edwards, A.S., ac efe'n arweinydd twym ei sel dros anghenion a buddiannau'r glowyr, pan yn gofyn i Mr. Runciman, Llywydd y Bwrdd Masnach, yn Nhy'r Cyffredin y dydd. o'r blaen, a oedd yn dwys ystyried sefyllfa'r fasnach lo yn Neheudir Cymru. Mae agwedd arall i'r cwestiwu. Mae llongau masnach Prydain Fawr yn cilio o'r wlad hon i wledydd tramor, ac yn cario nwyddau rhwng gwledydd amhleidiol. Mae'r rheswm am hyn yn eglur ddigon. Os na ellir cael glo yma i'w gludo dtos for, nid yw'n talu'r fforcld iddynt ddod yma o gwbl. Ac y mae gwledydd tramor yn galw'n uchel am danjait oherwydd y prinder, a llongau Germani wedi eu gyrru oddiar wjaieb y moroedd. Mae'n dda geunym ddarllen bod y Ivlywodraetli yn declireu symud yn y mater pwysig hwn. Mae'n rliaid. i berchenogion llongau ar hyn o bryd. hysbysu cyfeiriad. pob llong o'u heiddo. Nid ydym yn eredu bod polisi'r Wein- yddiaeth. o atal y faenacli 10 jn fochljnll i oatwng ei bris yn y wlad hon. Ychydig o lo'r Deheudir a werthir yma fel glo cartref, ac y mae cyfraith gwlad erbyn hyn yn llywodraethu'r prisoedd hynny i raddau pell.
GLOYWI'R GYMRAEG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GLOYWI'R GYMRAEG. Danfoner pob gofyniad a gohebiaeth ynglyn a'r golofn hon i'r Parch. FRED JONES, B.A., B.D., Rhymney. Mewn (llythyr earedig iawn y mae fy nghyfaill Hawen Rees yn gofyn ynglyn a dyblu'r cydseiniaid n ac r yn unig. 'Ai dyna'r gair olaf ar ddyblu'r cydseiniaid ? Onid yw'r m ddwbl yn y geiriau cymmod, cymmysg, cymmaint, a'u cyffelyb wedi eu harfer er mwyn cyfeirio'r ffordd at dardd- iad y geiriau ? Yn hollawl y dywedwch, Hawen. Ond yn wir nid ydyw'r ddwy m yn dangos tarddiad y geiriau. Dyna cymmod o cym a bod. Ond nid y ddwy m a rydd y wybodaeth hon i mi. Gwybod yr wyf fod y sain m a geir wrthi ei hun heddyw mewn gair yn tarddu o m, a rhyw lythyren arall a fu yn ei chesail rywbryd -er enghraifft, cymav, o com a par. Ni allai in, ped ysgrifennid hi bum waith, roddi i mi'r wybodaeth hon. A gan nad oes onid sain fer o flaen m yn Gymraeg, i ba beth y dyblir ? Orgraff ddarbodus lawn yw r Orgraif Newydd, a da lawn hynny i un sydd wedi byw trwy ryfel am ugain mlynedd neu ragor Eto mi wn am enghreifftiau lIe mae ysgrifennu geiriau fel cym;»/zorth' a brenMn er mwyn dangos y tarddiad yn niweidiol iawn. Mi glywais wr da, galluog yn ddiweddar yn darllen o'r pulpud brenhin,' gan chwythu yr h allan. Nid y pregethwr oedd ar fai, eithr ei Feibl am ysgrifennu bren/iin yn lie brenin" yr unig y gwyr y Gymraeg am dano. (b) Pwnc o deimlad ydyw dyblu'r cyd- seiniaid yn Sabboth, Philippiaid, Colossiaid a'u cyffelyb. Yn ol y rheol, un a ddylai fod ond fe deimla llawer fod arbenig- rwydd enwau priod yn gwarafun i law dyn ymyrryd a'r sillafiad traddodiadol. Dilynedjlpawb ei deimlad ei hun felly, meddaf fi. S.J.—' Pa un ai yn gynt ynte ynghynt ? Wrth lunio rhagferf o ansoddair drwv roddi yn o flaen y treigliad meddal a gymer yr ansoddair fel rheol, megis yn dda. Ond fe gymer yn y treigliad trwynol weithiau, fel ag y gwna yn yr ymadroddion, yng J Ngwynedd, ym Modafon, &c. Yn yr enghreifftiau hyn fe gyll yn ei acen, ac fe dawdd i mewn i'r ymadrodd fel ag i wneuthur un gair sydd naill ai yn ymad- rodd rhagferfol neu arddodol. Dyma'r geiriau :-ynghyd, ynghylch, ynglyn, ynghoil ynghudd, ymhell, ymhlith, ymysg, ymron, ymlaen, ymhen, Y1gham, ymhellach, ynghynt (J .M.J., tud. 175). LL.D.—Y mae'eh awgsym ynghylch tarddu'r gair testun o textus ac nid o testimonium yn ddiddorol, ond nid yw wedi fy argyhoeddi i. Fe geir test o text yn ddigon rhwydd fel yrawgrymweh. Wedyii, Os wyf yn deall eich cynnyg yn iawn, v terfyniad bychanol yn ydyw'r gweddill. Yr hyn sydd derfynol yn erbyn yn ydyw mai testun, ac nid testyn, ydyw'r gair mewn lien hyd yn gymharol ddiweddar. Wrth darddu'r gair o testimonium, dyma sy'n digwydd (r) Fe gollir y terfyniad iutn fel arfer. (2) Fe droir 0 hir yn u, megis yn pechadur o peccator(em). (3) Fe gollir i o'r sillaf ddiacen. Felly dyna test fun. Mae'n wir na cheir y gair test fun mewn lien, eto ni wyddom y collir ar ol cytsain galed. Y mae Bendigeidrau yn enghraifft dda, gan y ceir hefyd Bendigeid/rau ochr yn ochr ag ef. Nid ydyw ystyr testun o testimonium yn anhawster i mi chwaith. Ystyr testimonium ydyw gosodiad dwys i ategu rhywbeth, megis Yr ydwyf fi'l1 ddif- rifol yn hysbysu.' Dyna'r grym gwreiddiol i testun hefyd. Y mae'n y capel heddyw deimlad o awrdurdod ynglyn a testun. Olli theimla'r gynulleidfa fod cadernid tra- gwyddol y tu ol i wr a gwyd ei destun: gan nad o ba ran o'r Ysgrythyr ? Y testun ydyw'r gair a'r dystiolaeth.' Wedyli y mae'r ystyr, unrhyw ysgrifen mewn llyfr, yn dilyn yn naturiol. Wrth reswm, camgymeriad diweddar ydyw testyn am testun, fel ysgrythyr am ysgrythur. Ond gan fod y wedi ennill ei sain dywyll yn testynau ac ysgrythyrau, y mae'n well mwyach efallai ysgrifennu'n rheolaidd hefyd testyn ac ysgrythyr. Eithr yr hen ffurf ydoedd testun, testunion. Cymaint a hynyna heddyw. F. J. I
-I FFERMWYR CYMRU. ! I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
defnydd posibl o beirianwaith Cyngor Cenedlaethol Amaethyddiaeth Cymru. Nid arno ef y byddai'r bai os na phrofai'r Cyngor hwnnw o wasanaeth mawr i Gymru. Dywedodd hefyd fod yr Adroddiad Swydd- ogol ar waith Dirprwywyr Amaethydd- iaeth Cymru ar fedr gael ei gyhoeddi, yn ol yr addewid a wnaed i Mr. E. T. JOHN, A.S. ——————————