Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

1 Y WERS SABOTHOL. l\ t ___t

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

1 Y WERS SABOTHOL. l\ t t | Y WER8 RYNGWLADWRIAETHOL i c v A 6 $Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., t TREFFYNNON. TACHWEUB 28aiu.—Amos ,y Proffwyd Dewr. Amos v. 1-15. F Y Tesxyx F;URAIDD. Y proffwyd sydd a breuddwyd ganddo, myneged freuddwyd a'r hwn y mae ganddo Fy ngair, llefared Fy ngair mewn gwirionedd beth 3'w yr us wrth y gweti: ith ? medd yr Arglwydd.'—Jer. xxiii. 28. J r. ?.S Rhagarweinioi,. ? i AMOS ydoedd broffwyd ffyddlawn i'r Arglwydd, yn byw yn nyddiau Uzziah, brenin Judah, a Jeroboam II., brenin Israel. Yr oedd Esaiah a Hose a yn gydoeswyr iddo. Yr oedd ei gartref yn Tecoa, lie oddeutu chwe milltir o Bethlehem, a thua deuddeg milltir i'r deheu o Jerusalem. Bugail a thriniwr coed sycamor ydoedd wrth ei alwedigaeth. Er ei fod yn perthyn i deyrnas Judah, galwyd ef i fod yn broffwyd i Israel. Ystyr ei enw ydyw (Cludwr beichiau,' ac yr oedd ei enw yn gydweddol a natur y gwaith y galwycl ef i'w gyflawni. Rhagfynegodd ddinistr y cenhedloedd a wrthwynebent yr Israeliaid ar y pryd, ac hefyd y barn an ag oeddynt i ddisgyn ar yr Israeliaid am eu pechoaau. Yn y rhan gyntaf o'i broffwydoliaeth, condemnia bechodau y cenhedloedd a amgylchynent Israel. Yna rhydd ddisgrifiad o gyflwr moesol Judah ac Israel. Rhagfynega eu dinistr. Wedi hynny, cawn broffwydoliaeth glir am y Messiah, a chyf- eirir ati yn Actau xv. 16, 17. Hynodir Amos gan gymhariaethau oddiwrth fywyd gwledig, ac y maent oil yn hynod naturiol a tharawiadol. Yn y Wers cawn olwg ar Israel mewn llwyddiant II mawr, ac yn byw yn foethus. Rhybuddia y proffwyd hwynt o'u perygl, gan eu bod fel cenedl yn parhau i wrthryfela yn erbyn Jehofah. Yr oedd dinistr sicr yn eu haros. Eu hunig ddiogel- weh ydoedd dychwelyd yn edifeiriol at yr Ar- glwydd. ESBONIADOI" Adnod I Gwrandewch y gair hwn a godaf i'ch erbyn, sef galarnad, 0 dy Israel.' Gwran- dewch y gair hwn. Yr oedd gan Amos genadwri oddiwrth Jehof ah, ac y mae am gael sylw y bobl. Galarnad. Y mae y gair yn golygu tristwch un ar ol cyfaill ymadawedig. Yr oedd y proffwyd yn gofidio dros y genedl fel un oedd eisoes wedi ei dinistrio. 0 dy Israel. Y Deyrnas Ogleddol. Adnod 2.—' Y wyryf Israel a syrthiodd ni chyfyd mwy gad aw 3" (1 hi ar ei thir nid oes a'i cyfyd.' Y wyryf Israel a syrthiodd. Personolir Israel fel gwyryf (virgin) wedi syrthio. Nid oes dim prydfertliwch ynddi mwyach. Yr oedd y genedl ar y pryd yn nodedig o Iwyddiannus, ond gwelai y proffwyd y dinistr oedd yn eu haros, a chvfeiria ato fel pe eisoes wedi disgyn arnynt. Yr oedd y wyryf wedi ei gaaael, ac yr oedd ei sefyllfa yn anobeithiol. Nid oes a'i cyfyd. Dyma ddarlun o Israel pan eu cymerw-yd hi i gaetliiwed gan Assyria, ac iii ddychwelasant byth. Adnod 3 Canys y modd hyn y dywed y-r Arglwydd Dduw Y ddinas a aeth allan a mil, a weddill gant a'r hon a aeth allan ar ei chanfed, a weddill ddeg i dy Israel.' Y ddinas a aeth allan a mil. Rhaid cael dinas fawr i daclu mil o fil- wyr arfog, ond yn nyddiau Jeroboam II. yr oedd viit ddinasoedd yn gallu gwneud hyn. Hr eu cryfder a'u cyfoeth, hysbysa y proffwyd hwynt y buasent yn cael eu lleihau y ddegfed ran trwy orchfygiael a thrychinebau. Y ddinas a miUyn cael ei lleihau i gant, a'r hon oedd a. chant i ddeg. Adnod 4. Olierwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth dy Israel Ceisiwch Fi; a byw fyddwch.' Olierwydd fel hyn y dywed yr Ar- glwydd. Y mae y proffwyd yma yn cyfeirio y bobl at yr uuig ffordd y gallasent gael ymwated oddiwrth y dinistr oedd ar ddisgyn arnynt. Yr oeddynt wedi myned ymhell oddiwrth Jehofah trwy anufudd-dod. Anoga y proffyvyd hwynt i ddychwelyd yn edifeiriol, a cheisio Ei amddi- llyniad. Yr oedd gobaith i dy Israel fyw, ond iddyn t geisio Jehofah mewn gwirionedd. Adnod 5. Ond nac ymgeisiwch a Bethel, ac nac ewch i Gilgal, ac na thramwywch i Beer- seba oherwydd gan gaetligludo y caethgludir Gilgal, a Bethel a fydd yn ddiddym.' Ond nac ymgeisiwch a Bethel. Yrn Methel yr oedd Jero- boam wedi sefydlu eilnnaddoliaeth ac yr oedd y bobl, trwy fyned i Bethel i addoli, wedi dwyn arnynt eu huuain (idiiiistr. V mae y proffwyd yn eu rhybuddio rhag yr arferiad. Nac ewch i Gilgal. Dyma wersyllfa gyntaf yr Israeliaid yng Nghanaan ar ol croesi yr lorddonen. Erbyn hyn yr oedd wedi myned yn gyrchfan eilunaddol- iaeth. Na thramwywch i Beer seba. LIe yn neheu Judah. Yr oedd yn enwog fel un o brif aros- faunau v patriarchiaid ar eu hymdaith gynt. Cafodd ei enw oddiwrth y ffynnon a gloddiwyd yno, a'r llw a gadarnhaoclcl gytundeb Abraham ag Abimelech. Safai oddeutu ugain milltir i'r deheu-orllewin o Hebron. Yr oedd erbyn hyn wedi myned yn gyrchfan gau-grefydd. Proff- wyda y proffwyd ddinistr y ddau le. Adnod 6. Ceisiwch yr Arglwydd, a byw fyddwcli rhag iddo dorri allan yn nhy Joseph fel tan, a'i ddifa, ac na byddo a'i diffoddo ym Methel.' Ceisiwch yr Arglwydd, a byw fyddwch. Dyma yr unig ffordd am waredigaeth. Yr oedd y dinistr ar ddisgyn. Rhag iddo dorri allan yn nhy Joseph. Wrth yr ymadrodo. hwn golygir Israel. Ephraim ydoedd fab Joseph, ac yr oedd llwyth Ephraim yn un o'r rhai pwysicaf o Iwythi Israel. Adnod 7.—' Y rhai a drowcli farii 311 wermod, ac a adewch gyfiawnder ar y llawr.' Y rhai a adewch farn yn wermod. Y mae wermod yn gotygu chwerwder. Nid oedd cyfiawnder i'w gael yn Israel. Yr oedd y bobl yn dioddef oddiwrth orthrwm ac anghytiawnder. Y mae y proffw3rd vn galw ar y rhai oedd yn euog o anghyflawnder i geisio yr Arglwydd. Adnod Ceisiwch yr Hwn a wnaeth y saith seren, ac Orion, ac a dry gysgod angeu yn foreddydd, ac a dywylla y dydd yn nos yr Hwn a eilw ddyfroedd y mor, ac a'u tywallt ar wyneb v ddaear Yr ArgIwydd yw Ei enw.' Ceisiwch yr Hum a wnaeth y saith seren. Pleiades—saith seren ddisglair iawn yn y ffurfafen. Ac Orion. Twr arall o ser disglair. A dry gysgod angeu. Nos. Yn foreddydd. Yr Arglwydd sydd yn peri fod dydd yn canlyn nos, a nos yn canlyn dydd. Yr Hum a eilw ddyfroedd y mor. Etc sydd yn peri fod dyfroedd y mor yn ymgodi yn gymylau, ac yn gwlawio ar y ddaear. Yr Arglwydd yw Ei enw. Jehofah—y tragwyddol Ddmv. Adnod 9.—' Yr Hwn sydd yn nertliu yr an- rheithiedig yn erbyn y cryf, fel y delo yr an- rheithiedig yn erbyn yr amddiffynfa.' Yr Hwn sydd yn neythu yr anrheithiedig. Saesneg That bringeth sudden destruction upon the strong. Wedi cyfeirio at allu Jehofah yn Ei lywodraeth ar y byd anianyddol, y mae yn myried ymlaen i roddi enghreifftiau o'i lywodraeth foesol ar y byd. Dyga ddinistr syclyn ar y cryf. Nid oes yr un amddiffynfa all eu gwaredu. Adnod 10.—' Cas ganddynt a geryddo 3-11 y porth, a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith.' Cas ganddynt a geryddo yn y porth. Y mae y rhai sydd a'u bryd ar ddrygioni yn cashau cerydd. Y mae y rhai sydd yn gwrthwynebu pechod yn cael eu cashau. Yn y porth y gweinyddid cyf- iawnder yn y dinasoedd Dwyreiniol. A ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith. Casheid y rhai oedd yn llefaru y gwir ac yn condemnio drwg. Adnod 1 1 .—' Oherwydd hynny am i chwi sathru y tlawd, a dwyn y beichiau gwenith oddi- arno chwi a adeiladasoch dai o gerryg nadd, ond ni thrigwch ynddynt planasoch winllan- oedd hyfryd, ac nid yfwch eu gwin hwynt. Oherwydd hynny am i chwi sathru y tlawd, Yr oedd y bobl hyn wedi dyfod i feddiant o gyfoeth trwy drais ac anghyfiawnder. Gorthryment y tlawd. A dwyn y beichiau gwenith. Y rhai mewn awdurdod yn hawlio mwy nag a ddylent oddiar v rhai oedd yn llafurio y ddaear. Yr oeddynt yn adeiladu tai o gerryg nadd, ac yn plannu gwinllanoedd hyfryd, ond ni chawsent fwynhau en tai na'u gwinllannoedd. Ttwy anghyliawnder yr oeddynt wedi llwyddo. Adnod 12.—' Canys mi a adwaen eich anwir- eddau lawer, a'ch pechodau cryfion y maent yn blino y cyiiawn, yn cymeryd iawn, ac yn troi heibio y tlawd yn y porth.' Canys mi a adwaen eich anwireddau. Y mae y proffwyd 3-11 nodi eu hanwireddau lawer a'u pechodau cryfion. Yr oeddynt yn euog o orthrwm, cel-wobraeth, ac atal cyfiawnder yn y porth. Adnon 13.—'Am hyiiiiy y neb a fyddo call a ostega yr amser hwnnw canys amser drwg yw. A 1n hynny yneb a fyddo call. Mewn adeg o orthrwm a thrais, y call a fydd ddistaw rhag peryglu ei fywyd. Ond yr oedd Amos yn gweithredu oddiar egwyddor uwch. Adnod 14.—' Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni, fel y byddoch fy-w ac felly yr Arglwydd, Duw y lluoedd, fydd gyda chwi, fel y dywedasocli.' Ceisiwch ddaioni. Y mae Amos 3-11 galw ar Israel i newid cwrs en bywyd. Vr oeddynt wedi bod yii dilyn drygioui, ond os dychwelent at Jehofah cawent fyw. Yr oedd gobaith iddynt ond edifar- hau. Fel y dywedasach. Nid oedd yn ddigon iddynt fod yn bobl yr Arglwydd mewn enw rhaid iddynt fod felly mewn gwirionedd. Adnod 15. Cashewch ddrygioni, a hoffwch ddaioni, a gosodwch farn Y11 y porth efallai y bydd Arglwydd Dduw y lluoedd yn raslawn i weddill Joseph.' Cashewch ddrygioni. Defnyddia y proffwyd ymadroddion cryfioll yn galw arnynt i edifarhau. Yr oedd gobaith eto am waredigaeth i Israel. I GOFYNIADAU AR Y Wers. 1. Pwy oedd Amos ? Pa bry(I ae Ylliha le yr oedd 3m byw ? 2. Beth oedd ei alwedigaeth ? 3. Dan deyrnasiad pwy frenin yn Judah ac yn Israel yr oedd 3-11 proffwyvdo ? 4. Yn erbyn pwy y mae yn cyhoeddi barned- igaethau ? 5. Beth oedd sefyllfa Israel 3-11 dymhorol yr adeg yma ? 6. Beth oedd eu sefyllfa foesol ? 7. Nodwch y pechodau neilltuol yr oedd y bobl yn euog ohonynt ? 8. Beth a ddywed y proffwyd fuasai canlyii- iadau y pechodau hyn ? 9. Pa beth y mae Amos yn annog y bobl i wneud ?

I RHAI RHESYMAU