Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

POB OCHR I'R HEOL. fc d

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

POB OCHR I'R HEOL. fc d ——— 1\iI (r) Y fmae Mr. Arnold Toynbee wedi cyhoeddi llyfryn difrifol yn rhoddi hanes yr Armenian Atrocities diweddaraf i'r byd. Mynegir ffeithiau sydd yn ddigon i fraw- ychu'r byd gan mor erchyll ydynt. Dang- hosir Twrci yn araf gynllunio i ddinistrio y genedl fechan hon, ac wedi hynny yn rhoddi'r cynllun melltigedig mewn grym yn yr holl bentrefi a dinasoedd ymron. Llofruddio'r gwyr a'r meibion i gyd i ddechreu-pawb uwchlaw pymtheg oed, heb gymeryd sylw o na safle na chyfoeth na thalent na defnyddioldeb na swydd na dim. Wedi cael gwared fel hyn o'r Armen- iaidfgwrywaidd, yna arwain eu gwragedd a ti,,plant allan i'r anialdiroedd i ymosod arnynt yno, a'u difetha i gyd. Gwerthu'r merched ieuainc i gaethiwed yn nhai'r Tyrciaid cnawdol, a gwneud y pethau mwyaf anfad a gweddill y genedl. Yn holl hanes y bydfy mae'n amheus gennym a oes cenedl wedi dioddef fel yr Armeniaid. Cenedl fechan dra thebyg i'n cenedl ni ydoedd, yn cartrefu yn y bryniau fel rheol, ac yn ddarbodus a diwyd iawn. Drwy holl gydol yr oesau gwnaeth ymdrech i ddiogelu crefydd hefyd, a dyna ei phrif bechod yngolwg y Twre. Os nad yw wedi dod yn bryd ac yn gyfle i dorri nerth yr adyn ysgeler hwn i lawr, nis gwyddom o gwbl am werth nac ystyr i'r rhyfel. Cyf- iawnheid hyd yn oed gyflafan mor erchyll a honjpe y gellid drwyddi gloffi am byth y Twrc a'i wehelyth. Bwystfil mewn awdurdod ar ei well ydyw, a sicr yw nad oes neb yn ddiogel tra y caniateir ar- glwyddiaeth i'w fath ef. Rhoddodd yr Arglwydd ef ynIein llaw yn awr. j^Go- beithio y gwneir ag ef yr y mae'n llwyr haeddu ei ddifreinio o bob awdur- dod. r¡ j (2) Aethdyddiaugogoniant Groeg heibio, mae'n amlwg. Ymhell, bell yn ol y mae eijjChyfnod Aur. Gallsai ddod i fawredd eto onibai fod iddi ynfytyn yn frenin. Pa wendid bynnag a ddichon fod mewn dyn neu genedl, nid oes ddim a esgusoda frad- wriaeth. Troes y Cystenyn hwn ei gefn ar ei gytundeb cenedlaethol a Serbia- dyna ddigon i'w gollfarnu. Bistedd ar y mur y mae er's misoedd, gan wylio pwy sydd debycaf o ennill y maes, a'i fwriad wedyn yw ymdaflu i lif y fuddugoliaeth. Nid yw iawnder ynfgolygu dim iddo nid yw dymuniadau ei bobl yn golygu dim iddo nid yw cryfder a llw Venezolos yn golygu dim i'r brenhinyn hwn. Gresyn nad ellid ei ddiorseddu yn hytrach na'i fod yn gallu cloffi uchelgais ei wlad a pheryglu ei rhagolygon. Bydd enwau.holl frenhinoedd y Balkans yn rheg yng ngen- euau'r cenedlaethau a ddaw. Ymladdwyr eyndyn yw milwyr Serbia, ond gwlad fach hanner anwar yw hithau. Mae ein holl gydymdeinflad ni a phobl Serbia, bid siwr, a gobeithiwn na ddinistrir hwy yn y cyfwng hwn ond ofnwn mai cenhedloedd gwaed- lyd, bradwrus ac anniolchgar yw trigolion y Balkan States drwyddynt draw. Dyna Rwmania yn yr un man a Groeg Yn agos i flwyddyn a hanner o ryfel wedi mynd heibio, hithau'n son am daro o hyd, ond heb wneud eto. Rithr gwaeth na'r oil yw brad Bwlgaria a chynllwyn Groeg. Groeg sydd yn siomi'r byd fwyaf o'r oil. Gall droi on plaid, gall droi fel arall. Wyr neb ddim. Cyndyn a ffol ydyw, (3) Y mae Mr. Haydn Jones, A.S., ar fedr cyhoeddi llyfr emynaufa^thonau newydd. Ni fwriedir iddo fod yn gystadl- euydd a'r gwahanol lyfrau geir yn yr enwadau, ond yn fath o Atodiad cynorth- wyol iddynt oil. Gwyddys fod Mr. Haydn Jones yn fab i'r cerddor J. D. Jones, Rhuthyn, yr hwn gyda Thanymarian a ddygodd allan ( Lyfr Emynau a Thonau ein Henwad ni flynyddau yn ol. Y mae llawer o ysrbyd cerddgar ei dad yn yr Aelod Seneddol, ac am dros bum mlynedd ar hugain y mae wedi arwain y gan yng nghapel y Methodistiaid yn Nhowyn, Meir- ionydd. Gwyr efe felly pa beth y mae o'i gwmpas yn drwyadl. Gwneud detholiad canadwy o donau cyfaddas i'r cysegr yw ei amcan, ac argraffu emynau owaith awduron hen a diweddar 0 dan v tonau. Diau y gwelir y llyfr hwn yn y gwahanol enwadau fel eu gilydd, am y bydd yn an- enwadol ac at wasanaeth pawb. Pwy wyr, gall wedi'r oil mai dyma arweinia yn y pen draw i un llyfr emynau i'r holl enwadau j Ymneilltuol, ac mai yn y ffordd hon y caiff crefydd y llyfr goreu, ac nid drwy nifer o gasgliadau o emynau, llawer ohonynt wedi eu gwneud gan bersonau anghymwys hollol. Edrychwn ymlaen at Lyfr Tonau ac Emynau yr Aelod Seneddol. (4) Y mae'r Parch. J. P. Gough wedi dechreu ar ei waith tua Phlasmarl er's tua mis o amser.Croesaw i'n hannwyl frawd i lawr i'r De. Gwasanaethodd yn dda yn ardal y Rhos, a bu yn llwyddiannus iawn, gan ennill iddo ei hun enw fel pregethwr rhagorol a gwr yn gweithio gydag egni mawr ymhlaid ei Arglwydd. Daeth i gylch pur boblog ac i ymyl tref fawr. Rhyw ysgubo heibio rhwng Abertawe a Threforris y mae'r bobl, efallai ond y mae maes a wna chware teg a. holl egnion|Mr.|Gough ym jMhlasmarl. (5) Dyna'r Parch. R. T. Williams wedi dechreu ym Mhant-teg, Caerfyrddin, hefyd, fel olynydd i un o'r gweinidogion mwyaf unplyg yn ein gwlad, y diweddar Barch. Peter Da vies-gwr y bydd melys son am dano yn y fro honno am hir amser gwr dihoced a diniwed, a chwbl ddiymhongar. Y mae'r ffaith fod cymaint parch yn cael ei dalu i Mr PeterDa vies yn argoeli yn dda i Mr. Williams, ei olynydd Uwydd- iant iddo.1* I s i £ "j~ t (6) Peth rhyfedd iawn yn" hanes y wlad hon yw cau'r Colegau Diwinyddol i fyny, gan awgrymu i'r myfyrwyr fod cylch arall yn gofyn mwy am danynt yn y dyddiau hyn. Gobeithiaf na chaeir yr un o'n Colegau ni yng Nghymru, beth bynnag a chamsyniad mawr, dybygaf fi, oedd gwneud hynny a Choleg Bradford. Rhwng ein brodyr Methodistaidd â'u mater eu hunain. Mae rhyw fath o wallgofrwydd milwrol Tyn araf feddiannu rhai pobl, 'rwy'n ofni, ac ni welant wahaniaethau o gwbl. Dichon fod y myfyrwyr o oedran milwrol,' ond dynion wedi ymgysegru i gylch arall ydynt. Os oes ystyr o gwbl mewn ( 11eilltuo i waith yr Arglwydd,' yn sicr fe ddylid parchu'r ystyr honno. Ac os bydd angen rhywrai'n fwy na'u gilydd yn y wlad honfymhen ychydig amser, angen proffwydi'r Arglwydd fydd honno. Duw helpo gwledydd sydd wedi eu gor- ddiwes gan y fath ddallineb nes gwaeddi i ami bawb yn-ddiwahaniaeth ymdaflu i'r ysgarmeslwaedlyd hon. Os yw Ffrainc yn methu gwahaniaethu rhwng dyledswyddau y cysegr ag eiddo ffosydd y rhyfel, nid oes angen am i Gymru ei dilyn. Ynghanol ei llid i gyd, dywedir fod hyd yn oed yr Almaen yn parchu swydd ei gweinidogion, ac yn eu rhyddhau o bob galwad i godi arfau. A fyddwn ni ar ei hoi hi, ynte ? Yn hyn o beth gallwn gymeryd gwers oddiwrth wlad sy'n ymddangos fel pe wedi dirywio llawer mewn ffyrdd eraill. Brys rhan o'i gweledigaeth oreu yn eiddo iddi o hyd. Nid aeth yn anobeithiol ddall eto. Y mae meibion a brodyr a pherthynasau agos i weinidogion y deyrnas hon o dan arfau ymhob man. Nid amhriodol er ategu hyn fydd dweyd fod i mi fy hun saith o 1 neiaint o dan arfau. Bithr yn sicr y mae rhywbgth i'w ddweyd dros beidio poeni'r gweinidogion a'r myfyrwyr diwinyddol gyda cheisiadau cyndyn am iddynt ym- restru. Gwnaed pob un hynny a ddewiso, wrth gwrs. Mater i gydwybod pob un yw. Parod ydym oil i wneudfein rhan ac i aberthu llawer er mwyn ein gwlad, yn ddios ond y mae gwasanaeth goreu a phwysicaf ei gweinidogion i'r wlad hon yn bosibl yn ymyl allor yr Arglwydd.' (7) Da oedd fgennyf Jweled y Parch. Jonathan Bvans yn rhuthro i'r adwy i > gyfarfod a sylw wnaed yn y British Weekly ynglyn a chefnogaeth y gweinidogion i'r mudiadau milwrol. Rywfodd cyplyswyd enw Mr. Alfred T. Davies a'r peth. Ysgrif- ennodd y bonheddwr hwnnw ar ol hynny i ddweyd na ddygodd efe gyhuddiad o gwbl yn erbyn y gweinidogion. Dilys yw iddo ddyfynnu 11) thyr rhywun oedd yn condemnio'r gweinidogion, gan awgrymu fod cryn ddigofaint tuag atynt yn y wlad. Yr oedd gwir angen troi peth fel byn yn ol, a dwyn y cyhuddwyr wyneb yn wyneb a'u haeriadau a da y gwnaeth Mr. Evans, Penarth, yn ateb y cyhuddiad hwn. Maei yn amhosibl deall pa beth sydd ym meddwl y recruiting officers. Ymhob cyfeiriad y mae'r eglwysi a'u gweinidogion wedi rhoddi pob cymorth dyladwy, a rhai gweinidogion wedi gwneud mwy o lawer nag a fernid yn angenrheidiol gan eraill-troi allan i annog bechgyn i ymrestru. Rhoed Testamentau i'r milwyr oil gan yr eglwysi a adawsant, a darparwyd yn helaeth ar gyfer eu cy- suron. Croesawyd hwy i socials aneirif, ac awd i gostau anferth er mwyn y milwyr. Nid oedd neb yn atnlycach ynglyn a r trefniadau hyn ar hyd a lied y wlad na'r gweinidogion. (8) Cofier fod nifer fawr wedi troi yn gaplaniaid hefyd, gan adael eu heglwysi; ac nid yn ddiberygl y gellir gwneud hynny bob amser. Hyd eithaf eu gallu, ac yng ngrym gwladgarwch mawr, ie, gan wneud rhyw gymaint o drais a'u teimladauleu hunain, a chan ofni yn amljfod ynfan- ffyddlon i'w hegwyddorion ac i'w Meistr mawr, y mae gweinidogion y wlad drwyddi draw wedi gwneud popeth oedd yn bosibl. Os bydd i rywraiddioddef yn eu ham- gylchiadau oherwydd y rhyfel, ymddengys mai proffwydi yr Arglwydd sydd deb- ycaf o wneud hynny, yn ol'yr ohebiaeth fawr yn y South Wales Daily News ond er dioddef ohonynt, nid achwynant: ac ni soniodd neb am war bonus iddynt hwy. Ni ostyngwyd eu rhenti, ni, werthwyd nwyddau iddynt am lainag i eraill,ni ddisgwyliasant hynny ond yn sicr dis-