Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

I CYFUNDEB DWYREINIOL DINBYCH…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

I CYFUNDEB DWYREINIOL DINBYCH A I FFLINT. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod ym Mryn Seion, Brymbo, nos Fawrth a dydd Mercher, Hydref 26ain a'r 27ain. Preg- ethwyd nos Fawrth gan y Parchn. W. Daniel, Tanyfron, a J. Milton Thomas, Vroncysyllte—y blaenaf ar bwnc o ddewisiad yr eglwys, sef Dyledswydd yr Eglwys yn yr Argyfwng Pres- ennol. Am 10 bore Mercher yr oedd y Gynhadledd, o dan lywyddiaeth Mr. John Roberts, Rhos, y cadeirydd am y flwyddyn. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. Hugh Roberts Llangollen. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. Dygodd y Parch. J. Howell, Ponciau, i sylw y Gynhadledd Mr. William Jones, brawd ieuanc sydd wedi dechreu pregethu ym Mynydd Seion. Trefnir i arholi Mr. Jones cyn y Cyfarfod Chwart- erol nesaf Derbyniwyd yn aelodau newyddion Mri. William Jones a George Griffiths, diaconiaid ym Methlehem, Rhos. Datganwyd llawenydd i weled yn bresennol y Parch. Fred Davies, Bethesda, Talybont, Ceredigion. Awdurdodwyd yr Ysgrifennydd i roddi llyth- yrau gollyngdod o'r Cyfundeb hwn i'r Parch. J. P. Gough, Salem, Rhos, i Gyfundeb Gorllew- inol Morgannwg, a'r Parch. Gwilym Thomas, Brymbo (S.), i swydd Leicester. Cyflwynodd y Parch. J. Talwrn Jones, adrodd- iad Pwyllgor yr Ysgol Sul a Dirwest. (I) Dy- munir ar i'r eglwysi roddi sylw i Ddirwest yn eu holl gyfarfodydd cyhoeddus ar yr ail Sul o'r mis-Tachwedd I4eg. (2) Fod ysgrifennydd y Pwyllgor i yrru at weinidogion yr eglwysi i ddymuno arnynt newid pulpudau ar y Saboth Dirwestol. (3) Dewiswyd y rhai canlynol yn Arholwyr Cyfundebol yn Arholiad Mawrth, 1916 -Dosbarth II. Mr. ArthurRowlands, Rhuthyn. Dosbarth III. Mr. Beckett Lloyd, Bwlchgwyn. Dosbarth IV. Parch. J. H. Richards, Talwrn. (4) Canlyniad Arholiad Mawrth, 1915. Ymgeis- iodd 36-yr un faint a'r llynedd 19 o'r Cyfundeb Dwyreiniol—lleihad o 4 oddiar y flwyddyn ddiw- eddaf 17 o'r Cyfundeb Gorllewinol—cynnydd 04. Er nad yw nifer yr ymgeiswyr yn agos yr hyn ddylai fod, y mae gennym achos i lawenhau oherwydd safle uchel y rhai a gymerasant ran yn yr arholiad. Yn Nosbarth II., Miss S. Jane Williams, Gwersyllt, enillodd y gold medal-yr uchaf yng Nghymru yn ei Dosbarth, gyda 96 y cant o farciau. Mr. James Edwards, Rhos, enillodd yr ail wobr yng Nghymru (medal gold centre) yn Nosbarth IV., gyda 89 y cant o farciau. Cafodd Mr. Edwards y pumed wobr y ddwy flynedd flenorol. Cyflwynwyd adroddiad y Pwyllgor Cenhadol. (1) Dymnuir coffau yr eglwysi am ddathliad can- mlwyddiant John Williams, merthyr Erromanga, y flwyddyn nesaf, a'n bod yn ymrwymo i wneud yr oil a allwn er sicrhau'y bydd yr achlysur yn foddion i ddyfnhau sel Genhadol yr eglwysi, ac i'w hailliog i weddiau a diwydrwydd a haelioni cynhyddol er rhoddi Crist i'r byd.' (2) Fod y Parchn. J. Howell. Ponciau, a W. Daniel, Tan- yfron, a Mr. D. Jones, Hartsheath, i ymweled a'r eglwysi am y tair blynedd nesaf ar ran Cym- deithas Genhadol Llundain. (3) Disgwylir i'r Pwyllgor hwn drefnu ymweliadau y brodyr a'r gwahanol eglwysi. (4) Hyderir y bydd i'r Pwylt- gor barhau i ymdrechu uno y gwahanol eglwysi gweiniaid â'u gilydd. Cyflwynodd Mr. H. O. V. Cook, cyfreithiwr, Gwrecsam, adroddiad Pwyllgor Prisiant. Dewiswyd (I) Cadeirydd am y flwyddyn nesaf, y Parch. W. Daniel, Tanyfron. (2) Trysorydd, Mr. Jarrett Harrison, Brymbo. (3) Ysgrifennydd am dair blynedd, y Parch. J. D. Jones, A.T.S., Brynteg. (4) Archwiliwr, Mr. Robert Bates, Rhosymedre. (5) Cynrychiolydd ar Bwyllgor y Caniedydd,' Mr. T. Lloyd Williams, Gwrecsam. (6) Eto, ar Bwyllgor y Gronfa, Mr. J. Wilcoxon, Talwrn. (7) Pwyllgor Cenhadol, Mri. J. Roberts, Rhos H. V. O. Cook, Gwrecsam Isaac Roberts, Coedpoeth W. Smith, Brynteg R. Ingram Parchn. J. W. Rowlands, J. P. Roberts, J. Milton Thomas, J. Talwrn Jones, a W. Williams, Ponciau. (8) Pwyllgor Dirwest a'r Ysgol Sul, Parchn. H. W. Parry, T. E. Thomas, J. Howell, J. D. Jones, A.T.S., a'r Mri. Allen Lettsome; D. Jones, Hartsheath J. P. Davies, Gwrecsam Samuel Moss, Coedpoeth a'r Parch. E. Roberts, Pentrefoelas. Penderfynwyd cynnal y cyfarfod nesaf yn Ebenezer, Rhos—y Parch. S. M. Jones, Gwer- syllt, i bregethu ar Y Genhadaeth,' a'r Parch. J. Talwrn Jones, Brymbo, i bregethu ar bwnc o ddewisiad yr eglwys. Cafwyd trafodaeth ar y Drysorfa Gynorth- wyol. Derbyniwyd gair oddiwrth y Parch. J. Charles, Dinbych (Cadeirydd yr Undeb Cym- reig), yn datgan gofid oherwydd anallu i fod yn bresennol. Awgrymodd yr ysgrifennydd, Mr. D. Jones, Hartsheath, i alw y Pwyllgor ynghyd ar unwaith er gwneud darpariadau ar gyfer yr ymgyrch gyffredinol fwriedir wneud ynglyn a r mudiad o hyn i ddechreu y flwyddyn nesaf. Pasiwyd y penderfyniadau caillynol:- (1) Fod y Gynhadledd hon yn dymuno dodi ar gof a chadw y golled fawr gafwyd drwy farw- olaeth y pregethwr poblogaidd, y gwleidyddwr aiddgar, a'r llenor enwog, y Parch. Evan Jones, Caernarfon, gan ddiolch i Dduw am ei godi a'i gynnal am gynifer o flynyddoedd i fod o gymaint gwasanaeth i'r Dywysogaeth ac yn mynegi ein cydymdeimlad llwyraf a'r teulu galarus, ac a'r Cyfundeb Methodistaidd Calfinaidd y bu yn aelod mor amlwg ac ymroddedig ohono. (2) Fod y Gynhadledd hon yn dymuno rhoddi mynegiad cynnes o'u parch i goffadwriaeth, a'n gwerthfawrogiad o wasanaeth ffyddlon gyf- lawnwyd gan y Parch. Owen Thomas, M.A., Dalston, Llundain. Brawd hynaws, caredig a siriol; pregethwr meddylgar ac efengylaidd, ac yn llenor coeth. Bu unwaith yn aelod gwerth- fawr o Gyfundeb y ddwy sir hyn, ac yn cyn- rychioli'r Cyfundeb ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Genhadol Llundain am rai blyn- yddoedd. Datganwn ein cydymdeimlad dwysaf a'r perthynasau yn eu galar a'u hiraeth.' (3) Ein bod fel Cynhadledd yn cydymdeimlo yn ddwfn a'r Parch. O. J. Owen, Ebenezer, Rhos, ym marwolaeth ei annwyl briod, gwraig rin- weddol a mam ofalus yn ystyr lawnaf y gair. Hefyd, a theulu y diweddar Joseph Edwards, yr hwn fu yn ddiacon am rai degau o flynyddoedd yn eglwys Queen-street, Gwrecsam.' (4) Ein bod fel Cynhadledd yn dymuno mynegi ein cydymdeimlad mwyaf diffuant a gweddwon ac amddifaid a holl berthynasau y milwyr gollasant eu bywydau dros eu gwlad yn y rhyfel echryslawn bresennol, ac yn gofyn i'r Ysgrifennydd anfon llythyr ar ran y Gynhadledd at bob teulu, hyd y gellir.' Derbyniwyd rhestr oddiwrth 18 o eglwysi o'r dynion perthynol i'w cynulleidfaoedd oeddynt yn rhywle ynglyn a'r Fyddin. Erfynnir am i'r gweddill o'r eglwysi anfon eu rhestr i'r Ysgrif- ennydd ar unwaith. Traddododd y Cadeirydd ei anerchiad ymad- awol o'r gadair ar ei 'Atgoflon am rai Cenhadon,' gan gyfyngu ei sylwadau yn bennaf i'r dweddar Barch. J. H. Hughes (Ieuan o Leyn). Cynhwysai yr anerchiad ffeithiau diddorol a brawddegau bachog ac apeliadol. Diolchwyd i'r Cadeirydd am ei sylwadau, ac am ei waith yn llywyddu mor llwyddiannus yn ystod y flwyddyn, ac i Mr. Jarrett Harrison fel trysorydd, a'r Parch. T. E. Thomas, Coedpoeth, am lanw y bwlch fel ysgrifennydd yn ystod y flwyddyn. Am 2 o'r gloch pregethwyd gan y Parch. J. Howell, Ponciau, ac am 6.30 gan y Parch. Peter Price, B.A., D.D., Rhos. Cafwyd odfeuon grymus ac effeithiol iawn. Gwnaeth eglwys Bryn Seion a'i gweinidog, y Parch. J. Talwrn Jones, bopeth i roddi derbyn- iad urddasol a chalonogol i'r Cyfarfod Chwart-

CYFUNDEB ARFON.