Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYFLOG Y GLOWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFLOG Y GLOWR. GAN BURLAIS. Ychydig ddyddiau yn ol dygwyd materion ynglyn ag hur y glowt unwaith eto i sylw y Bwrdd Lleol, a gyfarfu o dan lywyddiaeth Arglwydd St. Aldwyn. Rhoisai'r perchenogion rybydd ar y iaf o'r mis hwn y byddent yn gofyn am ostyngiad 0 5 y cant yng nghyflogau'r gweith- wyr am fod pris y glo wedi gostwng rhyw ddeg ceiniog y dunnell oddiar mis Medi. Ar hyn o bryd derbynia'r glowyr yn agos i 31 y cant uwchlaw safon 1915 ac fe gofir iddynt dderbyn ychwan- egiad o 12f y cant at eu cyflogau mor ddiweddar a mis Medi. Credai Mr. Vernon Hartshorn ac eraill y dylasent fod wedi derbyn, bryd hynny, ychwanegiad o 15 y cant a hwn oedd un o'r prif resymau a ddygwyd ger bron Arglwydd St. Aldwyn gan arweinwyr Llafur yr wythnos ddiw- eddaf yn erbyn cais y meistri. Ceisient brofi, ymhellach, fod y fasnach, ar y cyfan, yn fwy Ilewyrchus nag yn yr un cyfnod y llynedd, a bod y rhagolygon yn foddhaol. O'r ochr arall, honnai y meistri fod pris y glo wedi gostwng, a bod llawer llai o lo wedi ei werthu. Allgludwyd miliwn o dunelli yn llai yn ystod y tri mis diweddaf nag yn ystod yr un cyfnod yn 1914. Mae diffyg Uongau masnach yn cyfrif am hyn i raddau pell. Er enghraifft, yn Rhymni yr wythnos ddiw- eddaf yr oedd pedair mil o lowyr allan o waith, pedair mil yn y Rhondda, a dwy fil yn sir Fynwy, oherwydd y diffgy hwn yn unig. Ceir miloedd eraill, meddai Mr. F. L .Davis, o bryd i'w gilydd, yn gwrthod gweithio am resymau eraill, bach a mawr, y cyfeiriasom atynt dro yn ol. Ymhlith y rhain, hwyrach mai anundebiaeth yw'r amlycaf. Daeth y cwestiwn pigog hwn o flaen Pwyllgor Gweithiol Undeb Glowyr Deheudir Cymru yr wythnos hon. Rhoddwyd ystyriaeth ddwys i'r mater, a phenderfynwyd galw sylw Llywydd y Bwrdd Masnach, Mr. Runciman, at y drafferth. Hefyd, mae'n eglur ddigon fod pris coed, a phob nwyddau sy'n angenrheidiol at wasanaeth y glowyr, wedi codi. Am y rhesymau hyn taflodd Arglwydd St. Aldwyn ei goelbren o blaid cais y perchenogion ac felly bydd cyf- logau'r glowyr, am o leiaf dri mis, yn 5 y cant yn is na chynt. Mewn cyfeiriad arall bu'r gweithwyr yn fwy llwyddiannus. Gwyddys i'r Llywodraeth, yn y flwyddyn 1912, basio Deddf y Minimum Wage. Pwrpas y Ddeddf hon oedd sicrhau na fyddai cyflog y glowr ar unrhyw gyfrif yn is na choron y dydd, ond ar amodau a thelerau neilltuol. Er enghraifft, byddai'n rhaid i'r sawl a hawliai'r minimum wage weithio pum niwrnod o bob chwech, oddieithr bod afiechyd neu rhyw reswm digonol cyfifelyb yn rhwystr iddo. Yn ail, byddai yn rhaid i'r gweithiwr fod yn brydlon wrth ei orchwyl, a rhoi diwrnod Ilawli o waith. Daeth cyfnewidiadau mawr a phwysig ynghol y cytun- deb y deuthpwyd iddo ym mis Gorffennaf y flwyddyn hon. Gwnaethpwyd ffwrdd a'r hen safonau. Codwyd cyflogau'r mwyafrif ymhell uwchlaw minimum y Ddeddf. DifLannodd hefyd y telerau a'r amodau y cwynid o'u herwydd, ag eithrio rhyw nifer fechan. Ond yr oedd yn aros eto yn gaeth wrth yr amodau tua dwy fil ar bymtheg o lafurwyr a gwaith Syr Lawrence Gomme, y gwr a ddewiswyd gan Lywydd y Bwrdd Masnach i gyfryngu, oedd penderfynu a ddylid rhyddhau'r dosbarth hwn. Rhoddodd ei ddyfarniad o blaid y gweithwyr. O'r braidd y gellid disgwyl dyfarniad gwahanol, oherwydd diddymwyd yr hen gytundebau'n llwyr pan wnaed y cytundeb newydd. Sail y telerau oedd Deddf y Minimum Wage ac yn ol barn Syr Lawrence Gomme, mae cytundeb mis Gorffennaf yn gwneud i ffwrdd a'r cyfan. Yr oedd mwyafrif y glowyr eisoes wedi eu gwaredu rhagddynt, ac ni welwn ei fod yn deg a'r gweddill eu cadw dan iau Deddf farw.

I 0 FON I FORGANNWG.

Advertising

YN ERBYNGORFODAETH.