Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

-"...+ Y WERS SABOTHOL. fi…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

+ Y WERS SABOTHOL. fi t b 9 i Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL §0 j $Y  Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., t i- TREFFYNNON. RHAGFYR 5ed. Balchter a Chosbedigaeth Uzziah.—2 Cron. xxvi. 8-10, 15-21. Y TESTYN EURAIDD.—' Balchter dyn a'i gos- twng ef; ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd.Diar. xxix. 23. RHAGARWEINIOL. YN y Wers hon dychwelir at hanes teyrnas Judah. Dilynwyd Joas gan ei fab Amaziah, yr hwn a laddwyd trwy fradwriaeth yn Lachis. Wedi hynny, urddwyd ei fab Uzziah yn frenin. Gelwir ef Azariah yn 2 Bren. xiv. 21. Mab un mlwydd ar bymtheg oed ydoedd pan urddwyd ef yn frenin. Parhaodd i deyrnasu am ddeu- ddeng mlynedd a deugain. Yr oedd ei deyrn- asiad yn hwy na'r un arall o frenhinoedd Judah, oddieithr Manasseh. Ei waith pennaf ydoedd adgyweirio y dinistr oedd wedi ei wneud yn ystod teyrnasiad ei dad. Dywedir ei fod wedi gwneud yr hyn oedd uniawn yngolwg yr Ar- glwydd. Tra y ceisiodd yr Arglwydd, Duw a'i llwyddodd. Aeth allan a rhyfelodd yn erbyn y Philistiaid-hen elynion Israel-a gorchfygodd hwy. Gorchfygodd hefyd yr Arabiaid, y rhai oedd wedi drygu Judah yn ystod teyrnasiad Jehoram a'r Mehuniaid. y rhai oedd yn trigo yn mynydd Seir. Adgyweiriodd Eloth, neu Elath —dinas yn Edom, ar y Mor Coch, yn agos i Esion-Gaber-lle pwysig ar y terfynau. Y mae hyn yn dangos ei benderfyniad a'i egni i osod y deyrnas mewn diogelwch. ESBONIADOL. Adnod 8. A'r Amoniaid a roisant roddion i Uzziah a'i enw ef a aeth hyd y mynediad i'r Aifft oherwydd efe a ymgryfhaodd yn ddirfawr.' A'r Ammoniaid a roisant roddion i Uzziah. Yr oeddynt wedi eu darsotwng ganddo, ac yn talu teyrnged iddo. A'i enw a aeth hyd y mynediad i'r AifJt. Aeth y son am ei lwyddiant milwrol ymhell dros derfynau Judah. Oherwydd ele a ymgryfhaodd yn ddirfawr. Cadarnhaodd ei deyrnas, ac ychwanegodd at ei nerth. Adnod 9.—' Hefyd Uzziah a adeiladodd dyrau yn Jerusalem wrth borth y gongl, ac wrth borth y glyn, ac wrth droad y mur, ac a'u cadarnhaodd hwynt.' Hefyd Uzziah a adeiladodd dyrau yn Jerusalem. Yr oedd muriau Jerusalem wedi eu dryllio yn fawr gan J oas, brenin Israel, yn ystod teyrnasiad ei dad. Adgyweiriodd y muriau, ac adeiladodd dyrau i ddiogelu y ddinas rhag ym- osodiad. Wrth borth y gongl. Sef y gongl ogledd- ddwyreiniol i'r ddinas. Wrth borth y glyn. Sef y porth oedd yn arwain i'r dwyrain i ddyffryn Hinnom. W rth droad y mur. Saesneg—' At the turning of the wall.' Golygir rhyw curve yn y mur tua'r dwyrain. Ac a'u cadarnhaodd hwynt. Sef eu cyweirio. Adnod 10.—'Ac efe a adeiladodd dyrau yn yr anialwch, ac a gloddiodd bydewau lawer oblegid yr oedd ganddo lawer o anifeiliaid yn y dyffryn- dir ac yn y gwastadedd a llafurwyr a gwinllan- wyr yn y mynyddoedd, ac yng Ngharmel: canys hoff oedd ganddo goledd y ddaear.' Ac ele a adeiladodd dyrau yn yr anialwch. Pel amddi- ffynfa ac fel gwyliadwriaeth a chysgod i'r anifeil- iaid. Ac a gloddiodd bydewau. I ddal dyfroedd yn amser y tymor gwlawog ar gyfer adeg o sychter. Ac yng Ngharmel. Ystyr Carmel ydyw lie ffrwythlon,' ac yn yr ystyr hwn yr arferir ef yma. Gwnaeth Uzziah lawer o welliantau yn ei deyrnas. Talodd hefyd sylw neilltuol i'r fyddin ac i angenrheidiau rhyfel. Yr oedd ganddo dri chan mil o filwyr, a dwy fil a chwe chant o swyddogion arnynt. Yr oedd y fyddin wedi ei rhannu yn wahanol finteioedd, a phob un dan swyddogion neilltuol. Darparodd arfau iddynt, sef tariannau, gwaywffyn, helmau, Uur- igau, bwaau a thaflau i daflu cerryg. Gwnaeth hefyd offer celfyddyd—math o machines i daflu ac i ergydio. Dyma'r cyfeiriad cyntaf sydd gennym mewn hanes at machines i daflu pro- jectiles. Adnod 16.—' Ond pan aeth yn gryf, ei galon a ddyrchafwyd i'w ddinistr ei hun canys efe a droseddodd yn erbyn yr Arglwydd ei Dduw ac efe a aeth i mewn i deml yr Arglwydd i arogl- darthu ar allor yr arogl-darth.' Ond pan aeth yn gryf. Tra parhaodd i fyw yn ofn Duw, llwyddodd a chryfhaodd. Ei galon a ddyrchafwyd i'w ddinistr. Aeth yn falch ei galon ac yn anni- bynnol ei ysbryd. Ni fynnai gydnabod ei rwym- edigaeth i Dduw, ond gweithredai yn ol ei ewyllys ei hun. Y mae perygl mawr mewn llwyddiant i'r galon ddyrchafu mewn balchter. Canys efe a droseddodd yn erbyn yr Arglwydd ei Dduw. Gwaith yr offeiriaid yn unig ydoedd arogl-darthu ar allor yr arogldarth. Yr oedd yr Arglwydd wedi cyfarwyddo Moses yn ei gwneuthuriad, a pha le y gosodid hi (Ex: xxxi. 1-8), a'r offeiriaid yn unig oedd i arogl-darthu ami. Ond ym malchter ei galon, mynnai Uzziah fod yn ben ar yr offeiriaid ac yng ngwasanaeth y deml. Nid oedd yn foddlon ar fod yn ben yn y wladwr- iaeth: mynnai fod yn ben ar bawb. Adnod 17.—'Ac Azariah yr offeiriad a aeth i mewn ar ei ol ef, a chydag ef bedwar ugain o offeiriaid yr Arglwydd, yn feibion grymus.' Ac Azariah yr offeiriad. Diau mai efe oedd yr arch- offeiriad ar y pryd, ac yr oedd yn ddyledswydd arno i amddiffyn cysegredigrwydd y gwasanaeth a gofalu na fuasai neb yn halogi yr allor. Yr oedd Uzziah wedi bwriadu arogl-darthu, ac y mae yn debygol fod hynny wedi dyfod yn wyb- yddus. Felly cawn fod Azariah yr offeiriad wedi myned ar ol y brenin, a chydag ef bedwar ugain o offeiriaid yn wyr grymus. Yr oeddynt yn ben- derfynol na chai yr allor ei halogi hyd yn oed gan frenin. Adnod 18.—' A hwy a safasant yn erbyn Uzziah y brenin, ac a ddywedasant wrtho, Ni pherthyn i ti, Uzziah, arogl-darthu i'r Arglwydd, ond i'r offeiriaid meibion Aaron, y rhai a gyseg- wyd i arogl-darthu dos allan o'r cysegr canys ti a droseddaist, ac ni bydd hyn i ti yn ogoniant oddiwrth yr Arglwydd Dduw.' A c hwy asafasant yn erbyn Uzziah. Hyn oedd eu dyledswydd. Ni pherthyn i ti. Er ei fod yn frenin, nid efe oedd i arogl-darthu ar yr allor. Yr oedd hynny yn perthyn i'r offeiriaid, ac iddynt hwy yn unig. Yr oedd yn trawsfeddiannu yr hyn nad oedd ganddo hawl iddo. Yr oedd y gwaith o arogl- darthu yn perthyn i'r rhai a gysegrwyd o feibion Aaron. Dos allan o'r cysegr. Arferant eu haw- durdod fel offeiriaid i orchymyn iddo fyned allan. Canys ti a droseddaist. Yr oedd Uzziah wedi meddwl cael rhyw ogoniant iddo ei hun wrth weithredu fel offeiriad ond dywed yr offeiriaid wrtho yn bendant na byddai yn ogoniant iddo oddiwrth yr Arglwydd. Adnod 19. Yna y llidiodd Uzziah, a'r arogl- darth i arogl-darthu oedd yn ei law ef a thra yr ydoedd efe yn llidiog yn erbyn yr offeiriaid, gwahanglwyf a gyfododd yn ei dalcen ef, yng ngwydd yr offeiriaid yn nhy yr Arglwydd, ger- llaw allor yr arogldarth.' Yna y llidiodd Uzziah. Digiodd am fod neb, hyn yn oed yr archoffeiriad, yn beiddio ei geryddu ef a gorchymyn iddo fyned allan. Yn ei falchter teimlai fod ganddo hawl i wneud yr hyn a ewyllysiai. A'r arogl- darth i arogldarthu oedd yn ei law. Yr oedd yn benderfynol o wneud yr hyn oedd wedi fwriadu ac y mae am ddangos ei awdurdod i'r offeiriaid, Adnod 20.—'Ac edrychodd Azariah yr arch- offeiriad a'r holl offeiriaid arno ef, ac wele, yr oedd efe yn wahanglwyfus yn ei dalcen, a gwnaethant iddo frysio oddiyno ac yntau hefyd a frysiodd i fyned allan, oherwydd i'r Arglwydd ei daro ef.' Ac edrychodd Azariah yr archoffeiriad. Dyledswydd yr offeiriad ydoedd cyhoeddi barn ar y gwahanglwyf (Lef. xiii. 9-14). Ac wele, yr oedd efe yn wahanglwyfus. Yr oedd y gwahan- glwyf yn un o'r clefydau mwyat arswydus, ac yn anfeddyginiaethol. Tarawyd Uzziah a'r gwahanglwyf fel barn am ei hyfdra pechadurus. Yr oedd yn ei dalcen—mewn lie amlwg. Daeth yn sydyn pan oedd yn ddig wrth yr offeiriaid. Nid oedd dim halogedig i fod yn y deml, ac felly gwnaeth yr offeiriaid frys i'w fwrw ef allan. Diau ei fod yntau wedi ei ddal gan ddychryn. Adnod 21.—'Ac Uzziah y brenin a fu wahan- glwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac a drigodd yn wahanglwyfus mewn ty neilltuol; canys efe a dorasid ymaith o dy yr Arglwydd a Jotham ei fab ef oedd ar dy y brenin, yn barnu pobl y wlad.' Ac Uzziah y brenin a fu yn wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth. Dygwyd ef i dy neill- tuol-math o infirmary. Yr oedd y ddeddf Iddewig yn gwahardd i'r gwahanglwyfus gy- mysgu a neb. Rhaid oedd iddynt fyw ar eu pennau eu hunain. Oherwydd ei wahanglwyf yr oedd Uzziah yn anghymwys i weithredu fel brenin, a gosodwyd Jotham ei fab ar dy y brenin, yn barnu pobl y wlad. Ceir cyfeiriad at Uzziah yn Esaiah i. i. Bu yn wahanglwyfus hyd ei fedd. Pan fu farw, ni chladdwyd ef gyda'i dadau ym ni ddrod y brenhinoedd, oherwydd ei fod yn wahanglwyfus. Balchter Uzziah fu yn achos ei gwymp. Er cael ei rybuddio, myn- nodd ei ffordd, a bu hynny yn ddinistr iddo. I.. i i i GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Pwy oedd yn teyrnasu yn Judah ar ol Joas ? Pwy ddaeth ar ei ol ef ? 2. Beth oedd oed Uzziah pan ddechreuodd deyrnasu ? ei 3. Pa waith neilltuol a wnaeth yn nechreuad ei deyrnasiad ? 4. Beth ddywedir am ei gymeriad moesol yn y cyfnod hwn ? 5. Beth oedd dirgelwch ei lwyddiant ? 6. oP'a gyfnewidiad a ddaeth drosto yn y rhan olaf i deyrnasiad ? 7. Pa bechod neilltuol a gyflawnodd ? 8. Pwy a'i gwrthwynebai ? 9. Pa fodd y'i ceryddwyd am ei hyfdra a'i ryfyg ? 10. Pa hyd y bu yn wahanglwyfus ? 11. Paham nas gallasai weithredu fel brenin ? 12. Pwy ddaeth i'r frenhiniaeth ar ei ol ef ?

[No title]

Advertising