Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

eisoes, yn enwedig i'r rhai sydd wedi prynu eu ffermydd yn bur ddiweddar, ac wedi codi arian arnynt, pan yr oedd pris arian yn rhyw dair punt a deg swllt y cant. |Vr Mae ^cynilo ~wedi|declireu .,LWedi. "de- ctireu hefyd yn Jerusalem' —yn y Senedd. Gwrthodasant yn ol esiampl y Brenin i gau eu tafarn bach eu hunain yn Sant Stephan, er eu bod yn deddfncau tafarnau eraill y tuallan. Yr unig fan yn y deyrnas hon bellach ymha un y gellir sefyll glasses rownd a thalu am danynt yw yn y Senedd. Ond chware teg iddynt, y maent hwythau yn y Senedd o'r diwedd wedi penderfynu yn y modd mwyaf hunanymwadol fod yn rhaid iddynt hwytliau aberthu dros y deyrnas. Felly, o hyn allan, ni bydd i'r ysmygwyr yn y smoking-room Seneddol ddim ond spills I goroni'r aberth, ni cheir o hyn allan i'r ysgrifenwyr ragor o quills-dim ond steel Peiis Dyma ddau o arwyddion yr amseroedd-y quills yn mynd, a'r spills yn dod. Pwy faidd honni wedi hyn nad yw'r oes yn symud ? U Chware teg i'r Western Mail o Gaerdydd, er ei fod yn Dori anedifeiriol ac anobeithiol, y mae yn Gymro i'r earn, ac yn eiddig- eddus dros enw da Hen Wlad y Bryniau. Diolch iddo am hynny, a diolch ddwy- waith iddo am gyhoeddi pethau mor blaen ynghylch y llyfryn cableddus y cyfeiriais ato yn y TYST diweddaf. Mewn llythyr herfeiddiol oddiwrth yr awdur at Olygydd y Mail daw y gath o'r cwd, a gwelir mai Ymneilltuaeth y Cardi sydd yn blino'r bachgen. Dyna wreiddyn pob drwg. Drwy lwc, nid oes yr un o Ymneilltuwyr cedyrn Hawen a Twrgwyn yn hidio botwm corn beth yw barn yr ysgrifennydd am danynt, ac nid oes berygl iddynt dorri eu calonnau. Yr wyf newydd ddarllen dwy sketch o waith yr awdur yn yr English Review am Ebrill, 1915, ac y maent nid yn unig yn ddidalent ofnadwy, ond hefyd mor annhebyg i fywyd gwerinol Ceredigion ag yw Clochdy liangyfelach i'r North Pole. Os llenyddiaeth yw peth fel hyn, gwar- eder ni, Arglwydd daionus 'Rwy'n dweyd hyn am fod y cyhoeddwr yn dweyd mai fel llenyddiaeth yr oedd efe yn argraffu'r gyfrol Gwelais yn y W est em Mail fod prif lyfrfeydd y deyrnas-eiddo Mudie, a Smith, a Boot—wedi troi y gyfrolj dros y drws. Teimlent, yn ddiau, mai afradu arian yw talu pum swllt am gwd huddygl.

- -'- _n- - - - - - - - GALWADAU.

YR HEN FUGAIL A'R NIWI,.*…

INITHIO'R EGLWYS-DYNA'R FFORDD…

Advertising

Bethesda, Sir Gaernarfon.

[No title]

Advertising