Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Drama Nodedig Dyfnallt i
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Drama Nodedig Dyfnallt i 1RH AGH YSB YSI AD. Y maejy Gomedi uchod yn y Wasg, a bydd allan ymhen pythefnos. Rhydd hyn dawelwch meddwl i'r cwmniau ddisgwyl- iant yn bryderus am ei hymddanghosiad. Bydd ganddynt amser i ymgymeryd a'i dysgu a'i hactio yn ystod misoedd y gaeaf. Cyhoeddir nifer lluosog o'r llyfr, gan fod yr alwad am dano yn debyg o fod yn eithriadol gyffredinol. Anfoner yr archeb- ion i Swyddfa'r TYST a'r Cennad Hedd yn ddioed. Swllt yw pris y llyfr, ond bydd gostyngiad ar y tal am sypynnau yn ol eu maint. Rhoddir manylion pellach ynghylch y llyfr neilltuol hwn pan yr ymddengys.
AT EIN GOHEBWYR.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. DALIER SYLW.-Hoffem i'n gohebwyr gofio fod cyfnewidiad mawr wedi cymryd lie ym mhris cludiad ysgrifau trwy'r Llythyrdy. Byddai yn burion iddynt bwyso pecyn cyn ei anfon, a rhoi'r stamps gofynnol arno. 0 hyn allan bydd raid i ni wrthod talu'r draul ddwbl yn eu lie, a dych- welir yr ysgrif trwy'r Llythyrdy, a bydd raid i'r anfonwyr dalu, a cholli'r cyfle i ymddangos yn ein nesaf yr un pryd. Gair arall: er mwyn popeth meithriner y mesur byr, ac nid yw o aruthrol bwys i wybod pwy dechreuodd neu a ddiweddodd trwy weddi, pwy oedd yn canu'r offeryn, nac ychwaith fod yn dda gan ddwsin o siaradwyr fod yn bresennol, &c. Mae ein bwrdd yn llawn, a'n hamser yn bur brin a gwerthfawr, a'n tymer weithiau yr un mor brin a gwerthfawr cymerwch drugaredd arnom, da chwi. Os na wnewch, bydd raid i ni fesur a barnu adroddiadau o gyfarfodydd a newyddion lleol wrth y droedfedd cyn, cynnyg eu darllen.. GOL. Mewn LZaw.- Cyfundeb Cymreig Penfro — Carmel, Treherbert-Nebo, Glyncorrwg—Cymro —Bodfan—Cerddoriaeth a Cherddorion-Bech- gyn Cymru a'r Brifysgol-0 Lanelli i New York -Ffyilnongroew, Mostyn-Llwynhelyg-Cyfar- fodydd, &c.
GWERSI ETHOLIAD MERTHYR I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
GWERSI ETHOLIAD MERTHYR MAE etholiad Merthyr yr wythnos ddiw- eddaf wedi peri cryn siarad, ac wedi tynnu cryn sylw yn y Wasg. Fel y gwyddis, Mr. JAMES WINSTONE, Llywydd Cynghrair Glowyr y De, oedd yr ymgeisydd Iylafur swyddogol; ac yr oedd ei wrthwynebydd llwyddiannus, Mr. C. B. STANTON, ar- weinydd y glowyr yng Nghwm Aberdar, wedi ei guro ganddo ym malot y glowyr gyda mwyafrif o dros 1,500. A phan ddaeth y dewisiad ger bron Pwyllgor Cyn- rychioliadol Llafur, sef awdurdod ganolog yr Undebau Masnach yn y cylch, cafodd Mr. WINSTONE bleidlais o 17,000 yn erbyn rhyw 700 dros Mr. STANTON. Ac eto, pan gafodd yr etholaeth hawl gyfansoddiadol trwy etholiad swyddogol i ddewis ei chyn- rychiolydd, y dyfarniad oedd 10,286 dros STANTON, a 6,080 dros WINSTONE. Mae r mwyafrif mor antthrol-4,206-fel y mae yn galw am sylw a myfyrdod oawb vstvriol (1) Profa tuhwnt i bob amheuaetli nas I gellir dibynnu o gwbl ar balot a ffigyrau y trefniant sydd gan y gweithwyr i wneud eu dewisiadau. Credwn ni fod y ffaith fod etholiad o gwbl wedi cymryd lie yn drosedd hollol ar y triws rhwng y pleidiau gwleid- yddol, ac eto mae canlyniad yr etholiad yn cyfreithloni g w a i t h Mr. STANTON yn mynnu myned i'r pol, er iddo fod yn aflwyddiannus ym malot y glowyr a phleid- lais yr Undebau Masnach. Yn wir, ni chaf- odd Mr. WINSTONE yn agos gymaint o bleidwyr yn yr etholiad ag a gafodd ym malot y glowyr. Yn y balot ei nifer oedd 7,832, tra na chafodd yn yr etholiad ond 6,080. Or ochr arall, 6,232 gafodd STAN- TON yn y balot, ond 10,286 yn yr etholiad Dyna ddigon i gyfiawnhau STANTON, ar y wyneb, beth bynnag, am fynnu etholiad. Oblegid nid yw yn iawn a'r gweithwyr nac a'r etholaeth i wr gael ei ddewis trwy fwyafrif o ddynion na feddant hawl na llais o gwbl i ethol Aelod Seneddol yn gyfansoddiadol. Ac mae fot aruthrol y Pwyllgor Cynrychioliadol wedi ei phrofi yn fwy diwerth na'r papur yr ysgrifennwyd hi arno. Gwers fawr hyn i gyd yw nad yw'r ffordd sydd gan y gweithwyr i ddewis eu gwr yn un deg na ihesymol, a rhaid iddynt ei diwygio yn fuan, onite collir pob hyder ynddi, ac fe'i hanwybyddir ymhob etholiad. Mae'n amlwg fod 1,752 o bleidwyr WINSTONE yn y balot heb fot o gwbl yn yr etholiad, neu ynte wedi troi yn fradwyr iddo. Y cyntaf sydd gywir, debygem, ac a ymhell iawn i brofi yr hyn ddaroganir beunydd mai bechgynos ieu- ainc sydd yn llywodraethu fwyaf yng ngwaith a threfniant JUafur yn y glofeydd. Wrth gwrs, gall fod llawer o bleidwyr STANTON yn y balot cyntaf yn yr un cyflwr yn union, ond nid yw hyn namyn cadarn- had o bydredd ac annhegwch y trefniant. Mae'n wir i STANTON gymryd rhan ynddo, eithr mae'n wir hefyd iddo brotestio yn erbyn ei annhegwch yn gynnar iawn, Ond. nid yw hyn yn egluro o gwbl fwyafrif aruthrol STANTON, a byddai yn burion i'r gweithwyr sefyll uwch ei ben. (2) Dywedir fod STANTON yn fwy o wlad- garwr am ei fod yn bleidiwr gorselog o'r rhyfel, ac fod hynny wedi apelio yn ddwys at bawb yn ddiwahaniaeth yn yr ethol- aeth. Ond mae'n amheus gennym a yw yn fwy gwladgar na Mr. WINSTONE, yr hwn o ddechreu y rhyfel sydd wedi helpu'r Iylywodraeth ymhob modd, a chanddo hefyd fab yn ymladd yn ffosydd Ffrainc. Camwri o'r mwyaf ag ef oedd ei alw yn Pro-German. Yn wir, ar un ystyr, yr oedd yn llawer diogelach a thecach pleidiwr i'r rhyfel na'i wrthymgeisydd, am ei fod yn wrthwynebydd cryf a chyson i Orfodaeth Filwrol. Ac mae rhwystro Gorfodaeth, yn ein tyb ni, yn amod ein llwyddiant yn y rhyfel hwn. Perygl mwyaf y I/lywodraeth a'r genedl heddyw yw pandro i gri wallgof NORTHCUPFE a'i griw am Orfodaeth Fil- wrol, a pheri rhwyg yn y genedl fydd yn farwol i'n hachos. Yr oedd popeth ddy- wedodd Mr. WINSTONE ar y rhyfel yn ddoeth, gwladgar, a theymgarol i'r LIyw- odraeth. Ond yn anffodus iddo ef, nid yw rhai o arweinwyr y Blaid Lafur Annibyn- nol wedi bod mor deg a doeth ag ef ar y mater, ac yr oedd eu hymweliad a. Merthyr yn fwy o nivved iddo nac o les. Yr oedd popeth ddywedasant. yno yn liollol res- ymol a gwladgarol, ond glyna wrthynt ainheuaeti i ol-ietav, ydd rhai o'u mynegiadau dro yn dl. Cam dybryd a WINSTONE, yn ddiau, oedd ei baentio fel y gwnaed ym merw'r prawf. Er hynny, nid ydym yn credu fod hyn wedi cael hanner ydylanwad a briodolir iddo gan y wasg ar yr etholiad. Tipyn o ormodiaeth ymfflamychol yw llawer o'r hyn draethir ar berthynas y rhyfel a'r etholiad. (3) Ond paham, ynte, y cafodd STANTON y fath fwyafrif ? Yn un peth, am fod Rhyddfrydwyr a Thoriaid, ie, ac Undeb- wyr cydwybodol o blith y gweithwyr wedi fotio iddo, oblegid eu bod wedi hen flino ar ymddygiad ac agwedd llawer o aelodau y Blaid Lafur Annibynnol (yr I.L.P.) yn y cylch, os nad, yn wir, y Blaid fel plaid. Myn wthio ei phobl a'i phethau ei hun i bob cyfeiriad, heb roi fawr ystyriaeth i neb na dim arall. Mae wedi perchenogi bron yn llwyr y Miners' Federation. Mae hefyd lawer o'i phobl a'i harweinwyr wedi peri trallod a gofid mawr mewn eglwysi a chylchoedd crefyddol, ac maent wedi mynd allan o'u ffordd lawer gwaith i ddilorni yr eglwysi a'u gweinidogion a'u swyddogion, ac i danseilio eu gwaith a'u dylanwad. Sawl eglwys yng nghymoedd gweithfaol y De sydd wedi dioddef yn enbyd oherwydd yr ysbryd angharedig ac ymladdgar ddyg- wyd i mewn iddynt gan aelodau blaenllaw lodge leol y Blaid ? Ac mae pobl dda wedi dechreu canfod y niwed aruthrol wnaed gan bersonau anystywallt o'r fath, ac yn tybio ei bod yn bryd i'w stopio. Wrth gwrs, nid yw hyn yn feirniadaeth nac yn wrthwynebiad i Sosialaeth, fel y cyfryw a gwyddom mai Sosialwyr cydwybodol ydyw rhai o aelodau a swyddogion goreu ein heglwysi, a byddai crefydd Cymru yn llawer tlotach hebddynt. Yn wir, hwynt- hwy sydd wedi bod yn halen yr I.L.P., ac wedi rhoi iddi'r safle uchel a fedd mewn llawer man. Ond y drwg ydyw yr anghofir y da a'r aruchel yn fynych, tra y llysg y drwg ei hun i gof ac ymwybyddiaeth bar- haol pobl, ac anodd yw ei ddileu. (4) Tybed, hefyd, nad oedd llawer Tori a Rhyddfrydwr yn edrych ymlaen at ethol- iad arall, pryd y bydd y pleidiau oil yn ymgodymu am yr aelodaeth Seneddol, ac y bydd yn hawddach yn eu tyb hwy i goncro STANTON na WINSTONE y pryd hwnnw. Pa un a ydynt yn iawn yn eu tyb sydd bwnc arall, ond nid oes fawr arall yn cyfrif am gefnogaeth rhai pobl i STANTON. Yn wir, fel dyn a pherson, dew- isent WINSTONE ymhell o'i flaen, lawer ohonynt; ond edrychent ymhellach na'r ymgeisydd i gyfeiriad egwyddorion a brwydr sydd yn annhraethol bwysicach yn eu golwg. O'r ddau hyn dewisasant yr un mwyaf diberygl i'w hachos hwy mewn amser a ddaw. Bithr amser yn unig a ddengys ai cam ai cywir eu barn yn hyn o beth. Mae'n dra phosibl erbyn hynny y bydd STANTON wedi ei dderbyn yn ol i'w hen le yn ei Blaid, a bydd hynny yn newid llawer ar y sefyllfa.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
A Pel y Cadfridog Owen Thomas. MEWN colofn arall gwelir apel y Cadfridog Owen Thomas at fechgyn Cymru, yn galw arnynt i gofio traddodiadau eu gwlad, ac ymrestru yn y catrodau Lymreig os am gadw i fyny anrhydedd a hanes y genedl. Yn sicr mae'r deyrnas mewn argyfwng pwysig ac yn galw am wasanaeth gwir- foddol pob gwr ieuanc y mae y fiordd yn glir iddo ymrestru. Nid ydym yn credu