Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
-CYFARFODYDD. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFODYDD. I BRYNAWBL, YSTRADGLYNLAIS.—Cyn- haUwyd cyfarfodydd blynyddol yr eglwys uchod Tachwedd 20ain a'r 21ain, pan y preg- ethwyd gan y Parch T Ogwen Griffiths, Port Talbot. Cafwyd cynulliadau rhagorol a'r genadwri yn nerthol. EBENEZER, LLANELLI.—Sul a nos Lun, Tachwedd 21ain a'r 22ain, cynhaliodd yr eglwys hon ei gwyl bregethu. Y pregethwr neilltuol oedd y Parch D. Stanley Jones, Caernarlon.-Y nos Wener dilynol traddododd y gweinidog, y Parch T. Orchwy Bowen, ddarlith ar Forgan Llwyd o Wynedd.' SARDIS, TRIMSARAN.-Cynbaliodd yr eglwys hon ei chyfarfodydd hanner- blynyddol SuI, Tachwedd 21ain Gwasanaethwyd yn rhagorol iawn gan y Parch E. Aman Jones, B.A., Ceinewydd.— Cawsom hefyd ddarlith alluog gan Mr Jones y nos Sadwrn Waenorol ar Foeaeg Cristionogol.' Cadeiriwyd yn dde- heuig gau y Parch E T. Rees, ourad y lie, a chyn-gurad Ceinewydd. Tallodd Mr Rees rodd sylweddol i drysorfalr eglwys.
PENMAIN, SIR FYNWY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENMAIN, SIR FYNWY. Y Sul a'r Llun, y 14eg a'r isfed o Dachwedd, cynhaliwyd cyfarfodydd i ordeinio Mr. D. W. Bclwards, B.A., o Goleg Aberhonddu, yn wein- idog ar hen eglwys barchus Penmain. Yn ystod y Sul pregethwyd gan y Prifathro T. Lewis, M.A., B.D., Coleg Coffa Aberhonddu. Yn odfa yr hwyr pregethodd ar Natur Eglwys.' Prydnawn Llun am 2 o'r gloch cymerodd y cyfarfod ordeinio le. Yr oedd llu o gyfeillion wedi dod o wahanol fannau i gymeryd rhan yn y gwasanaeth ac i ddymuno Duw yn rhwydd i'r hen eglwys ac i'r weinidog ieuainc ar ddechreu peniiod newydd yn eu hanes. Ymhlith v gwein- idogion oedd yn bresennol gwelwyd y Parchn. Jacob Jones, Bethesda, Merthyr (Is-gadeirydd yr Undeb) P. W. Hough, Coed-duon C. Tawel- fryn Thomas, Groeswen W. Owen. Barry R. T. Williams, Pant-teg, Caerfyrddin Fred Jones, B.A.,B.D., Rhymni; E. B. Powell, Maesycwniwr T. Salmon, Pontlotyn T. Jones, Senghenydd J. B. Llewelyn, Mynyddislwyn; J. W. Price, Troedyrhiw J. T. Jones, Ynysybwl J. Davies, Grangetown, Caerdydd T. M. Roderick, Cwm- gors a'r Athrawon Joseph Jones, B.A., B.D., a D. Miall Edwards, M.A., Aberhonddu. Yr oedd yn bresennol hefyd nifer o gyd-fyfyrwyr Mr. Edwards o Aberhonddu. Derbyniwyd nifer o lythyrau yn datgan dy- muniadau da, ac yn gofidio oherwydd anallu i fod yn bresennol, oddiwrth nifer o weinidogion a lleygwyr. Oherwydd absenoldeb anorfod y Parch. R. E. Peregrine, B.D., Rhymni, cymerwyd y gadair gan y Parch. C. Tawelfryn Thomas, Groes Wen. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. B. Llewelyn, Mynyddislwyn. Ar ol ychydig o eiriau agoriadol gan y Cad- eirydd, galwyd ar Mr. Gomer Evans, mab yr hen weinidog, yr Hybarch Robert Evans, yr hwn a roddodd yn fyr ychydig o hanes ei dad, er mwyn cael cydio'r gorffennol wrth y dyfodol, Cafwyd anerchiad tyner a byw. Diddorol oedd ei wrandaw yn dangos cadwyni yr olyniaeth i ni. Pan oedd y Parch. Robert Evans yn wein- idog ym Methel, Aberdar, cafodd y fraint o dderbyn tad a mam y Parch. Rhys T. Williams, Pant-teg, Caerfyrddin (cyn-weinidog Ynysgau, Merthyr), yn aelodau. 0 dan weinidogaeth Mr. Williams, pan yn Ynysgau, y dechreuodd Mr. Edwards bregethu ac wele yntau wedi derbyn galwad i fod yn olynydd i'r Parch. Robert Evans. Hir y conr anerchiad Mr. Gomer Evans. Rhoddwyd hanes yr alwad gan Mr. Moses Davies, un o'r blaenoriaid. Gofynnodd y Parch. Thomas Jones, Senghenydd, y gofyniadau arferol i'r gweinidog ieuanc, ac atebwyd hwy yn fodd- haol dros ben. Yna cymerwyd yr arwyddion o du'r eglwys ac o du'r gweinidog fod yr alwad yn cael ei chadarnhau. Ar ol hyn offrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch. P. W. Hough, Coed-duon, a phregethwyd y siars i'r gweinidog ieuanc gan y Parch. Rhys T. Williams, Pant-teg. Galwyd yn awr ar Mr. George Lewis, B.A., un o fyfyrwyr Aberhonddu, a mynegodd yntau y syniad uchel a goleddid gan y myfyrwyr o Mr. Edwards fel myfyriwr, pregethwr, cyfaill a dyn. Daethpwyd yn awr at orchwyl hyfryd iawn. Yn ol ei hen arferiad garedig, penderfynodd eglwys Ynysgau na chai ei phlentyn ddechreu ei fyd gweinidogaethol heb arwydd sylweddol o'i serch a'i pharch tuag ato. Ymgymerodd y chwaer Mrs. Lewis, Georgetown, a chasglu ar gais yr eglwys tuag at gael rhodd. Cynrychiolid eglwys Ynysgau gan y diacon ffyddlon, Mr. David Nicholas. Yn ei ddull diddorol, mynegodd fod mam-eglwys Mr. Edwards yn ei anrhegu a roll- top desk hardd, a revolving library chair. Da calon oedd gweled cynifer o gyfeillion Ynysgau yno yn dymuno Duw yn rhwydd i'n cyfaill ar gychwyn ei yrfa weinidogaethol. Anrhegwyd Mr. Edwards hefyd a cheque gan Oymreigyddion Merthyr. Daeth Mr. J.Williams, trysorydd y Gymdeithas, i'w cynrychioli oher- wydd absenoldeb drwy afiechyd y cyfaill caredig a diddan, Merthyrfab. Chwith oedd cofio am yr annwyl ddiweddar Mr. D.D.Williams, y TYST. Pe yn fyw, cawsid mwynhau presenoldeb siriol D.D. ac fe glywsem ei lais yn crynu gan gared- igrwydd ei galon fawr. Cyfaill gonest i blant Ynysgau oedd Mr. D. D. Williams, a chwith oedd gweld ei le yn wag ymhlith cyfeillion Ynysgau, 1 Diolcfccdd Mr. Edwards utewa goir-iaa byt a phwrpasol am yr anrhegion gwerthfawr. Siaradodd yr Athrawon Joseph Jones a Miall Edwards eiriau caredig am Mr. Edwards fel myfyriwr a chymeriad aml-ochrog. Gorffennwyd y cyfarfod drwy weddi gan y Parch. E. B. Powell, Maesycwmwr. Yn yr hwyr am 6 pregethwyd gan y Parchn. Rhys T. Williams a Jacob Jones, Merthyr, pryd y pregethodd yr olaf siars i'r eglwys. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol iawn, a set Duw yn amlwg arnynt. Boed i'r eglwys a'r gweinidog ieuanc deimlo fod y Sanct yn eu canol, a bod bendith y Goruchaf ar yr holl wasanaeth. Blin oedd gweled lie yr hen weinidog, y Parch. Robert Evans, a'i briod yn wag. Yr oedd y ddau gartref oherwydd afiechyd. Duw fo'n dyner wrthynt yn hwyrddydd oes, a doed Ei dang- nefedd i'w calon, a phrofi gaffont o hyfrydwch tir Beulah wrth neshau i ororau y wlad sydd well. I Senghenydd. T. JONES.
-._._-IY Drysorfa Gynorthwyol.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Y Drysorfa Gynorthwyol. I SWN SYMUD. Moi,i.-Dywed yr Ysgrifennydd Cyfundebol, y Parch. E. B. Jones, Gwalchmai, fod y Pwyll- gor wedi cyfarfod, ac yn penderfynu gyrru y mudiad yn ei flaen.' Y mae Mon eisoes wedi gwneud yn lied dda, ac wedi dringo i fod yn 7fed o ran cyfartaledd ei haddewidion. Allan o 42 o eglwysi yn y sir, nid oes ond 10 yn rhifo dros 100 o aelodau, ac y mae 13 o dan 50 o rif. Brysied yr hen sir, er hynny, i hawlio ei lie fel Mon, Mam Cymru, yn yr ystyr hon. Maldivyn. G w n a e t h cyfeillion Maldwyn drefniadau perffaith yn gynnar yn hanes y symudiad. Y mae y Parch. G. Griffiths, Dref- newydd, yr Ysgrifennydd Cyfundebol, wedi galw y Pwyllgor, gan hyderu gallu rhoi bywyd newydd yn y gwaith. Arloil .-Y mae y Prifathro Rees o Fangor, yr Ysgrifennydd Cyfundebol yma, yn dechreu aflonyddu y gwersyll. Y mae rhai rhannau o Arfon yn dyn iawn yng ngafaelion y dirwasgiad gweithfaol, yr hwn sydd wedi cyrraedd i'w bwynt eithaf yn ystod y Rhyfel. Dwyrain Myrddin.—Y mae'r Pwyllgor yma hefyd yn cael ei alw ynghyd, a'r ysgrifenydd- ion-Mr. D. Harries, Llanelli, a'r Parch. J. Evans, y Bryn-yn debyg o beri i'r gwersyll symud. Gorllewin Morgannwg.—Y mae yr Ysgrifen- nydd, Mr. James Hinkin, Pontardawe, wedi ail- afael yn ei orchwyl, a'r Pwyllgor wedi cwrdd, a swn symud yn y gweithrediad.au.' Yma y mae yr Arolygwr yn byw, ac wedi gwneud gwaith mawr ei hunan. Mynned weld yn awr fod y Pwyllgor yn gweithio. Disgwyliwn ragor o newyddion o'r Cyfundebau yn fuan iawn, a'r rhai hynny, ni a hyderwn, yn rhai calonogol iawn. Q'r A merica.-Dyma farn papur American- aidd am gyflogau bychain Canlyniad an- ocheladwy cyflogau annigonol i weinidogion fydd, naill ai y bydd y gweinidogion yn gorfod bod yn ddibriod, neu ynte y bydd yn rhaid iddynt feddu incwm ar wahan i'w cyflogau, neu -—waeth na'r ddau, a llawer mwy tebyg-wein- idogaeth israddol.' Yn sicr nis gall Cymru, gyda'i chyfundrefn addysg berffaith, fforddio byw ar weinidogaeth israddol, nac ailraddol chwaith. W. Ross HUGHES, Ysg. Cyffredinol. Borthygest, Tachwedd 24ain, 1915.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
1)WY 'lL 0 1) ''l'lU —♦ Bywgraffladau Byr o'r Prlf Wronlald, &e G Y Parch. T. Mardy Rees, Castellnedd S4 tudalen. Prts, Llian, 4c.; amløfJ bnpur, Ie. cludiad, 1 c. vn ychwanegol; blaendal gyda'r Archeb. Oddiwrth y Cyhooddwyjr- ■JOSEPH WILLIAMS & SONS, (iiERlHYR), LTD., BWTDDVA'lk I Tyst.' MSKYHYB TYDm.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
mewn Gorfodaeth Filwrol gyfreithiol, am y byddai yn ein tyb ni yn farwol hollol nid yn unig i'n bywyd cenedlaethol, end. hefyd i'n llwyddiant yn y rhyfel hwn. Creai rwyg a'n parlysai yn ddiatreg. Ond wedi dweyd hyn ychwanegwn mai'r unig ffordd effeithiol i osgoi Gorfodaeth ydyw gwneud ymrestriad gwirfoddol yn llwydd- iant. A dylai pawb o fewn terfynau'r oed priodol wynebu'r mater yn eofn a chyd- wybodol, gan ddilyn ei argyhoeddiad yn ddiymdroi. Da fydd gan y Cymry ddeall am y ddarpariaeth ragorol wneir gan y Cadfridog a'r awdurdodau ar gyfer ein bechgyn. Cant filwrio gyda'u gilydd dan arweiniad swyddogion o'r un gwaed a hwy eu hunain. Perchir eu hiaith a'u hargy- hoeddiadau crefyddol, a gofelir am gaplan- iaid Cymreig i weini iddynt mewn pethau ysbrydol. A gallwn dystio yn bersonol fod hyn yn wir llythrennol. Mae pump o wein- idogion Annibynnol Cymreig eisoes yn gaplaniaid-tri ohonynt yn y ffrynt. Mae y Parch. R. W. Hughes, Rhuthyn, yn y Dardanelles, y Parch. Peris Williams eisoes yn Ffrainc, a'r Parch. James Evans, B.A., yn gadael am Ffrainc yr wythnos hon. Penodir ychwaneg eto o gaplaniaid fel bo'r angen, ac mae'r gweinidogion a'r capeli Cymraeg a Saesneg yn ardaloedd y gwersylloedd yn gweithio yn ffyddlon ac effeithiol ymysg y milwyr o Gymru. Mae cysur a hawliau bechgyn Cymru yn ddiogel yn Haw y Cadfridog Owen Thomas. Capten y Parch. James Evans, B.A. NID oes ond ychydig wythnosau er pan ben- odwyd y brawd hoff, y Parch. James Evans, B.A., yn gaplan i'r milwyr Cymreig, ac y mae eisoes dan orchymyn i fyned allan i'r ffrynt yn Ffrainc gyda'r catrodau sy'n ymadael yr wythnos hon. Eiddunwn iddo bob nerth a bendith, a chyflwynwn ef i ofal ac amddiffyniad ei Arglwydd. Bydd ei waith fel Ysgrifennydd Undeb Cenedl- aethol Eglwysi Efengylaidd Cymru, yn ystod ei absenoldeb, yn cael ei gario ymlaen gan y Parch. John Roberts, M.A., 77 Ninian-road, Cardiff, gweinidog parchus y Methodistiaid Calfinaidd yn Pembroke Terrace, ac iddo ef y dylid anfon pob go- hebiaeth a chyfraniad ynglyn a'r Undeb. Gellir cael y llyfrau a'r llenyddiaeth gy- hoeddir gan yr Undeb oddiwrth Mrs. Evans, 5 Partridge-road, Cardiff, fel o'r blaen.