Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

' CWRS PRESENNOL B.D. CYMRU.'

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CWRS PRESENNOL B.D. CYMRU.' At Olygydd y Tyst. SYR,—Yr oedd yn dda iawn gennyf glywed fy hen gyfaill, Mr. P. R. Thomas, yn torri'r hir ddistawrwydd rhyngom trwy estyn bonclust i mi. Mor bell ag y deallaf ysgrif Mr. Thomas, y mae o'r un farri a minnau, ac yn groes i farn Dyledwr,' ynglyn a'r B.D. ac eto myfi. a leddir. Y mae dau beth yn yr ysgrif yn galw arnaf i amddiffyii fy nghymeriad :— (1) Ebr Mr. Thomas Mae amcan uwch mewn dysgu Hebraeg na deall cenadwri'r proffwydi yn yr iaith arferent hwy.' Paham, ynte, na ddywedych chwi beth ydyw'r amcan hwnnw, Mi. Thomas ? (2) Dyfyniad arall Ond gyda Groeg y Testa- ment Newydd yr a Mr. Jones fwyaf ar gyfeil- iorn. Fe wyr darllenwyr y TYST, yr hyn anghofiodd ein hen gyiaill, mai'r Aramaeg, ac nid y Roeg, oedd iaith Crist a'r apostolion.' Yn awr, rhag i ni'n dau dywallt gwaed yn ofer, dyma ychydig eiriau ar y mater gan awdurdod uchaf y deyrnas hon ar iaith, y Testament Newydd, sef Dr. J. H. Moulton That Jesus Himself and His apostles regularly used Aramaic is bevond question, but that Greek was also at command is almost equally certain.' Annichon, felly, ydyw gwybod beth oedd y gwreiddiol o'r cwbl o eiriau Iesu hyd yn oed ond hyn a wyddom-mai yng Ngroeg y Testament Newydd —iaith gyffredin Ymerodraeth Rhufain-y preg- ethwyd ac yr ysgrifennwyd Ei eiriau Aramaeg, hyd yn oed yn yr oes gyntaf gan mwyaf. Felly yr wyf yn dywedyd eto mai yn iaith wreiddiol y Testament Newydd y deuwch at eiriau ac vsbrvd Iesu a'i ddisgyblion. Fel hyn yr a. P.R.T. yn ei flaen Ymhellach, Iddewon, ac nid Groegwyr, oedd awdwyr llyfrau y Testament Newydd; a thray cyfansoddent yn yr iaith Roeg, dengys eu cynhyrchion y meddyllient yn yr iaith Aramaeg. Felly, rhyw fath o gyfieith- lad yw'r Testament Newydd yn y gwreiddiol.' Oho Fel hyn y dywed Dr. Moulton am yr Iddewon hyn They would write as men who used the language from boyhood, not as foreigners painfully expressing themselves in an imperfectly known idiom. It does not appear that any of them used Greek as we may sometimes find cultured foreigners using English, obviously translating out of .their own language as they go along.' Yn wir, tebyg iawn oeddynt i'r Cymry sydd wedi dysgu Cymraeg a Saesneg o'u mebyd, yn hollol ddilyffethair yn y ddwy iaith. Ydwvl. v tu cefn i 1. H. Moulton, FRED JONES.

JOHN VIRIAMU JONES.'

I AT OLYGYDD ' Y TYST.'

Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney.

Tabernacl, Pontyclun.I

[No title]

Moriah, Rhymni. I Moriah,…

I HEN DEULU Y WINLLAN.