Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
—••j TABOR, MAESYCWMWft.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
—• TABOR, MAESYCWMWft. Owrdd y Bobl Ienainc. Cafwyd te cym- deithasol ae amser difyrus nos Fawrth Tachwedd 2il Yr oedd y chwiorydd ar ea goreu, a chafwyd amser cofiadwy Cymerwyd rhan mewn siarad gan yr ysgrifennydd, Mr Tom Lewis, a Mr W J. Thomas, ysgrifennydd y gymdeithas. Canodd Mr T. Binon Thomas gân amserol. Llywyddwyd gan Mr S. A Lewis, y Graig, Hengoed. Nos Fawrth, Tachwedd 9fed, Mr W. J. Thomas oedd yn areithio ar Yr hyn mae yr Eglwys wedi wnend i'r Werin.' Cafwyd ymdrafodaeth drylwyr o'r testyn. Cymerwyd rhan gan amryw yn yr ymddiddan a ddilynodd. Llywyddwyd gan Mr S. A Lewis. Y Gobeithl,u.-Daw Hiaws o blant yma ar nos Lun i glywed am gariad yr lesa Mae yn gaffaeliad i ni yn Nhabor i gael gwasanaeth Mr Levi Morris, gynt o Bontlotyn, yr hwn sydd wedi hen arfer ag ymwneud a phlant y Band of Hope. Efe yw yr ysgrifennydd Cymer Mr T. Gwenffrwd Jones, A.T S.O., at y canu. Bwriada ddysgu cantawd fach i'r plant. Cyfeilir ar yr offeryu gan Miss Lewis, y Graig Nid oes neb yn fwy gweithgar a phrysur gyda'r plant na'n hannwyl weinidog, y Parch E B Powell. Sicr y cawu amser da er dod a'r plant i adnabyddiaeth o'r Ceidwad. Anrhegu.-Nos Fercher, Hydref 21ain, an rhegwyd Mr T. Einon Thomas a baton hardd gan aelodau y cor Gwnawd y gwaith o anrhegu gan Miss Minnie Williams, yr organ yddes Heb yn wybod i Mr Thomas y gwnawd yr oil, a mawr oedd ei syndod. Mae Einon wedi bod yn arweinydd y gan yma ers saith mlynedd bellach. Dylid dweyd un path am y cor hefyd, set ei barodrwydd i wneud a alio er llwyddo gwaith yr Arglwydd. Nos hu, Hydref 27ain, rhoddasant gyngerdd yn rhad i'r achos Saesneg dan ofel Mr Lewis, Cwmsyflog, yn Abarbargoed. Gwnaethant yn dra rhagorol. Dyna ysbryd y Crist o hyd-y cryf yn heipu'r gwan. Llwyddiant mawr i'r arweinydd a'r cor yn y cyfeiriad hwn. Mae Miss Marjorie Morgan yn gwneud ei gwaith gyda boddhad fel ysgnfenyddes, a Mr Tom Lewis yn gofalu mown ffordd effeithiol am yr holl drefniadau Cyngerdd.-NLos Iau, Hydref 27ain, cynhal- iwyd cyngerdd mawreddog yn Nhabor or cynorthwyo tri o'r pentrefwyr sydd yn wael er's cryn amser. Llywyddwyd gan Mr T. Price Thomas; cyfreithiwr, Maesycwmwr Y cantorion oedd Miss Thomas. Aboroarn, soprano; Miss Gwladya Arthur, Newbridge contralto; Me Harry Lewis, Nelson, tenor; a Mr David Chubb, Pontypridd, bass Cyfeil- iwyd gan Miss Llywela Lewis Hengoed Yr oedd y oanu yn ardderchog a'r gwrandawiad yn astud. Un peth oedd yn mUwrio vn et erbyn, set fod cor T^bor yn Aberbargoed yr un noson. Gobeithio y trosglwyddir wm sylweddol i'r dynion hyn sydd wedi m^thu gweithio. Mae y pwyllgor i'w longyfarch yti r fawr am ei waith ac am ei drefoiadau medrus. Gymrodorion Ystrad Mynach a'r Gylch Nos Wener, Tachwedd 5ed, yn Siloh, Ystrad Mynach, bu Gwili yn traethu ar Bob,' un o'r cymeriadau geir yn 'Rhys Lewis.' Mae yr araeth hon yn werth i'w chlywed eto. Llyw- yddwyd gan y Parch E. B. Powell, Maes ycwmwr. Cafwyd can gan Mrs Bdnley Griffiths, „a chyfeiliwyd gan Mr Brinley Griffiths, Hengoed. Diolchwvd vn gynnes i Gwili gan y Cadeirydd a Mr John L!oyd. Bglwysi Ieuainc --Dymunwn gvfeirio at y ddwy eglwys sydd yn Ystrad Mynach -yr un Gymraeg ar un Saesieg Er nad ydynt ond leuanc iawn, mae yr Efengyl yn cael ei He a'i dylanwad rhwng a thuallan i'w muriau Yn Mon?b, yr eglwys Gvmraeg, y Parch T I wvn Thoma,. Quakers' Yard, s?dd ya b° «oili I gofelir am yr eglwysSaestieg gan y Parch litiva Griffiths, inab Penar Mae y ddau frawd yn llawn o ysbryd yr Efengyl. ac yn gwneud a fedront i ddwyn lesu Grist yn agos at y bobl I Adailada Mr Griffiths yr eglwys wrth ofalu am y plant, a sicr y daw cynhaeaf yn ei bryd. Edrychwn ymlaen at yr amser pan y bydd eglwys gref gyda'r Saesonjyu Ystrad Mynach. Mae yna frodyr da befyd ym Moriah, y rhai sydd yn gwneud pob aberth er mwyn yr achos. Pob llwyddiant ddilyno vr eslwvsi hvn a'u gweinidogion. 0. LLEWELYN.
I YR ANNIBYNWYR CYAREIG.:
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I YR ANNIBYNWYR CYAREIG. Y mae enwau mawrion yn perthyn i'r linwad Annibynnol, o ddyddiau Penry hyd heddyw. Amhosibl fyddai gwneud rhestr o ddiwygwyr a phregethwyr a dioddefwyr ac arweinwyr Cymru heb roddi lie amlwg i'r Annibynwyr yn y rhestr. Afraid yw aros i fanylu ar eu gorchestion yn y fan hon, ac i son am eu hingoedd a'u gwroniaeth, eu llafur a'n gwerth, eu dylanwad a'u cymwyn- asau aneirif i'w gwlad. Pa un bynnag ai gyda Illenyddiaeth-ymhob cangen ami a geir hyd yn hyn yng Nghymru—ai gyda chercldoriaeth, ai gyda gwleidyddiaeth, ai yn llwybrau ebyrth annhraethol i hyrwyddo daioni ymhob ffurf arno, ac i sicrhau iachawdwriaeth y genedl—gwnaeth yr Annibynwyr eu rhan, a gallant yn deg hawlio cyfuwch safle ag unrhyw enwad neu ddosbarth o bobl a fedd y wlad. Nid gydag ymffrost, ac er mwyn udganu'n ffol ac ymogoneddu'n benwan, y coffeir ein darllenwyr o hyn. Gwaith rhwydd fyddai manylu llawer, ac enwi dynion nas gall y wlad eu hanghofio byth mwy ond ymgroeswn. Pa le y mae'r Euwad arni heddyw ? A yw yn dal i fod yn ofalus a gochelgar ac hunan- aberthol ? Ac a yw'n cofio ei draddodiadau a'i urddas gynt, ac yn cadw ei safle o ran doethineb ac ysbrydolrwydd a nerth ? Nid ydym ar adegau yn gwbl esmwyth. Blinir ni weitliiau gan yr ofn fod mwy o arwyddion nychtod nag o gadernid. Y mae rhyw bethau sydd fel pe n darogan dirywiad ac yn awgrymu peryglon. Er yn credu fod yr Enwad yn symud tuag ymlaen, cyfyd ynnom ar ambell foment awydcl gofyil-Ymlaen i bale ? ac, Ymlaen ymha fodd ? Nid mewn ysbryd beirniadol, a chyda chwerwder siomiant yn ein calon, y gwnawn hyn, eithr o wir gariad at yr achos ac o eiddigedd dros yr Enwad. Tybed nad doethineb fyddai sefyll ar y ffyrdd weithiau ac ymholi, Ble'r ydym ? a Pha sut y daethom i'r fan hon ? Gall yn wir y gwelwn fod angen newid y cyfeiriad, ac efallai droi yn ol ychydig. Nid drwg fyddai ail feddwl pethau, ac archwilio'r -sefyllfa. Y mae rhai o sefydliadau goreu'r Enwad mewn perygl oddiwrth fateroliaeth ac ysbryd gorfaelu ac hunangais. Y mae rhedeg ar ol y plisgyn ac anghofio'r cnewyllyn yn dod yn brofedigaeth i'r Enwad hefyd. Y mae dosbarthiadau new- yddion yn rhyw led ymwthio, ac fel pe a'u bryd ar oresgyn yr Enwad. Y mae hunanymwadiad a gwasanaeth rhad a gwiffoddol yn prysur ddar- fod yn yr eglwysi, heb son am y dibrisio diangen- rhaid sydd ar bethau gwertlifawr. Y mae'r elfennau sy'n bygythio niweidio yr Enwad Annibynnol heddyw yn dod o amryw gyfemadau, ac yn torri i mewn drwy wahanol adwyau. Os am ddiogelu yr Enwad a'i gadw'n unol ac heddychol ac yn iach ei ysbryd—fel y dylai fod-goreti po gyntaf i dalu sylw i'r adwyon hyn, a'u cau. Dylid dodi rhywbeth yn y bylchau yn ddioed, a gwneud yn sicr nad oes i'r peryglon hyn ddyfodiad i mewn. Os nad ellir dodi llld* -dau ytJ y bylchau ar hyn o bryd, o'r hyn lleiaf doder rhywbeth ynddynt gwell eu llenwi hyd yn oed a beicliiau o ddrain nag i ardd yr Enwad gael ei hanrheithio gan fwystfilod y di- ,4ai-i fivystfilod y di- ffaethwch. Eu crybwyll yn fyr a wnawn yma, nid am nad allem ymhelaethu. Gair i gall medd yr hen air. Y prif sefydliad yn yr Enwad ar hyn o bryd yw'r Undeb, ac y mae hwnnw'n caelei bender- fynu-o ran ei raglen; a'i destynau, a'i siarad- wyr a'i faterion cynadleddol, a phob trefniadau eraill-gaii y Cyngor, sef ei bwyUgor gweinyddol. Y mae r Undeb wedi cynhyddu ac vmberffeithio yn fawr yn y blynyddau diweddaf, ac wedi mynd yn sefydliad mor gryf nes fod yn lied anawdd cael mannau digon mawrion i'w dderbyn. Bydd yn agos i chwe chant o weinidogion a lleygwyr yn anfon eu henwau fel rhai'n bwriadu bod yn bresennol. Ymysg y rhai hyn ceir weithiau nifer o chwiorydd, ac y mae hynny'n arwain i ben- bleth ar adegau. Pa angen sydd am y boneddig- esau mewn gwyl sydd yn wyl fusnes i raddau pell, anawdd dyfalu, os nad i weld pa faint fedr eu brodyr ffraeo a siarad yn ddibwynt mewn cynadleddau. Wythnos o wyliau ar lan y mor I yw wythnos yr Undeb i rai--cyfle i fwynhau eu hunain mewn ffordd rad. Ie, yn rhy fynych, y mae perygl. Ticyn o ddyddie yn n wr y mor neu gyfle i fynd am dro i'r Sowth, os medra i gAl Sul ne' ddau yno-a gorffen tua Llanwrtvd, rwan.O'y (Gellinen,' cyhoeddiad y genedl.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GENI, PRIODI, A MARW. PRIODASAU. JONEs-THOMAs.-Bore Mawrth, Tachwedd 2il, yn Siloh, Penybanc, gan y Parch Stephen Thomas, Mr William Jones, Glyntai, Tirydail, a Miss Lizzie Thomas, Park View, Penybanc. Gwas y priodfab ydoedd Mr D. Davies, Tirydail, a'r llawfoiwyn ydoedd Miss E. Thomas, Pantyclai. Ymhlith y cwnmi hapus yr oedd Mr Jones, masnachydd, Amanford, brawd y priodfab; Mr David Jones, Pantyclai, ewythr y briodasferch, ynghydag amryw eraill o gyfeillion y lie. Yr hyn roddai arbenig- rwydd neilltuol i'r amgylohiad oedd presenoldeb yr henafgwr parchus Mr John Jones, Pantyclai—tadcu y ferch ieuanc-ac efe yn 93 mlwydd oed. Edryohai yn siriol a hoyw. Croesawyd y cwmni i'r wledd bnodasol gan Mrs Thomas, Park View, mam y briodasferch, lie y gweinwyd yn groesawgar gan Mrs Jones, Pantyddaufryn Mrs Davies, Langwm Mrs Thomas, Llandeilo; a Miss Price, Ty'rcapel. Ymhlith y cwmni dedwydd hefyd yr oedd Mr W. Davies, Langwm, a Mr W. Thomas, Park View. Ymadawodd y par ieuano am Abertawe ynghanol dymuniadau goreu y cyfeillion oil. MARTIN-THOMAS.—Bore lau, Tachwedd 25ain, yn Gilead, Coity, gan y Parch G. R. Griffiths (brawd- yng-nghyfraith y briodasferch), Mr Prancis Vlartin, Parcgwyllt, Coity, ger Penybont, a Miss Bronwen Thomas, merch vjr Daniel Thomas, Ty Gwalia, Coity, ac arweinydd y gan yn Gilead er s blwyddi lu. Wedi'r cylymu, mwynhawyd arlwy felus yn Ty Gwalia gan nifer luosog o wahoddedigion, ac yna ymadawedd y par ieuanc i dreulio eu mel-ddyddiau yng Nghaerdydd. MARWOLAETHAU. Ev ANs.-Tarawyd ardal Salem, Llandeilo, a syndod yn ddiweddar gan y newydd trist am ymadawiad sydyn un o'r ardalwyr mwyaf parchus, sef Mrs Evans, annwyl briod Mr William Evans, Tyllwyd. Ni chafodd ein chwaer ei breintio a phabell gadarn, ond hawdd deall mai gwannaidd oedd y ty o glai, a dioddefai yn fawr ar brydiau er hynny, preswyliai yn y ty gwannaidd hwnnw berson o nodwedd hapus iawn, a bob amser yn lion a siriol, ac yn edrych ar ochr oleu i bob amgylchiad. Collodd ein cyfaill un o'r gwragedd goreu, a bydd bwlch mawr ar ei hoi ar yr aelwyd. Yr oedd hefyd yn un o'r mamau mwyaf tyner a gofalus, ac nid bychan oedd yr hiraeth gan y plant a'i hanwylai mor fawr ar ol ei cholli. Ni bu ei ohystudd olaf ond ychydig oriau, ac er pob ymdrech o du y meddyg a'r teulu, ymad- awodd a'r fuchedd hon bore Mercher, Tachwedd 3ydd. Daeth tyrfa fawr ynghyd bore y Sadwrn canlynol er talu y gymwynas olaf i'w gweddillion marwol. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch Stephen Thomas. Sylfaenodd ei sylwadau ar yr amgylchiad oddiar 2 Cor. iv. 16. Talodd warogaeth uchel i'r chwaer ymadawedig fel dynes 0 duedd- iadau crefyddol parchus. Ar ol canu pennill, cychwynwyd yn dyrfa fawr ar anifeiliaid ac mewn cerbydau tua Talyllychau, lie y cleddid y marw. Gwasanaethwyd yn yr eglwya gan y Parch J. Long Price, fleer. Rhoddwyd pennill allan ar lan y bedd gan y Parch E. G. Rees, Abergorlech. Ymhlith y nifer fawr o berthynasau galarus yr oed I Mr William Evans a'r plant, sef Mr Evan Evans, Aber- hoddu; Mr John Evans, Aberdar; Miss Sarah Evans a Mr D. Robert Evans, Tyllwyd. Yr Ar- glwydd a'u diddano oil yn eu gofid blin. Nid oedd ein chwaer ond 52 mlwydd oed. HUMPHREYS—Gorchwyl prudd yw cofnodi symudiad y brawd annwyl Mr D. Lloyd Humphreys, mab Mr Evan a Mrs Humphreys, Sutton-street, Birmingham, yn 21 mlwydd oed. Bu ein brawd yn gwaelu am tua dwy flynedd, a dioddefodd ei gystudd yn siriol dros ben. Yr oedd wedi gwneud ei hun yn wasanaethgar yn Wheeler-street, ac efe oedd ysgrifennydd yr Ysgol Sul y flwyddyn hon. Yr oedd nifer y wreaths ar ei arch yn dystiolaeth fel yr oedd yn cael ei garu gan hen ac ieuanc. Claddwyd yn Witton dydd Mercher, Tachwedd 24ain, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch T. J. Williams. Cydymdeimlir yn fawr A Mr a Mrs Humphreys a'r teulu oil yn eu galar.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
♦ SALEM, PONTSENNI —Tachwedd 16eg, cyn- haliodd yr eglwys hon ei chyfarfodydd diolch- garwch eleni. Cyfarfod gweddi yn y bore. Pregethwyd yn y prydnawn a'r hwyr gan y Parch H. Elvet Lewis, M.A., Llundain. Dis- gwyliwyd hefyd am wasanaeth y Prifathraw T. Lewis, M A, B D., Coleg Coffa, Aberbonddu, i bregethu yn Saesneg, ond lluddiwyd Mr Lewis i fod yn bresennoL Gorfu arno fyced i Lundain at Awdurodau Swyddfa Rhyfel. Cafwyd odfeuon J hyfryd, ac arhosed y fendith arnynt.
I HEN DEULU Y WINLLAN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Grammar sant yw « Calon lan yn Hawn daioni' —enaid wedi ei danio gan fflachiadau y net enaid mewn Ilawn deimlad o'i angen yn nesu at ddrws trugaredd gan ofyn am gardod, a diolch am dani o eigion ei galon Gwr gwresog ei ysbryd oedd efe yn y cwrdd, ac yr oedd ei 'Amen'gynnes yn ysbrydiaeth i'r pree-ethwr a r gynulleidfa OYFAILL JOHN.