Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN YR EGLWYS. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN YR EGLWYS. I TRAGWYDDOL EI NATUR, BYTHOL EI BARHAD.*  l?' ?VANs, A I A GAN Y PARCH..K K8RI M.A., CAERF YKDDIX. '0 Arglwydd, at bwy yr awn ni? gennyt Ti y mae geiriau y bywyd tragwyddol.'—- IOAN vi. 68. Yr wyf yn meddwl fod yna fantais i'r bywyd tragwyddol ddod yn ol i'w hawliau y dyddiau hyn. Y mae yna bwyslais mawr wedi ei roddi y btynyddoedd diw- eddaf ar y bywyd tymhorol ac y mae yn ddiamheu fod eisieu gwneud hynny. Y mae pwyslais wedi ei rodddi ar berth- ynas y bywyd tymhorol a'r bywyd tragwyddol ac y mae'n ddiamheu fod yna amcan i hynny. Y mae o bwys i ni gofio mai nid bywyd llai, mwy digynnwys a mwy diallu na'r bywyd tymhorol yw'r bywyd tragwyddol, ond yn fwy ei gyn- nwys a mwy ei allu—bywyd trech na'r tymhorol. Bywyd nas gellir profi ei allu nes rhoi cyfle i'r bywyd tymhorol ddat- blygu ei holl allu ef. Duw sydd wedi gwneud y byd yma-byd hanes, byd busnes, byd gwleidyddiaeth. Bywyd mawr iawn. Ac yr oedd eisieu byd fel hwn ar Dduw, er mwyn iddo ei ddarostwng er mwyn iddo ei wneud yn is-wasanaeth- gar i'r bywyd tragwyddol. Y mae wedi ei orchfygu, ac y mae yn gwneud hynny o hyd. Yn awr, y mae y bywyd tragwyddol, yn ol loan, yn fywyd presennol—yn fywyd y gellir ei feddiannu'n awr. Nid bywyd i ddechreu wedi i ni adael y ddaear yma. Y mae ganddo fywyd tragwyddol.' Ac nid bywyd annibynnol ar y tymhorol yw, nid bywyd yn cael ei fod trwy fynd i leiandai neu fynachtai mohono, ond bywyd yn cael ei fyw yma mewn amser a lie. Y mae o bwys i ni gofio mai nid bywyd llai, ond bywyd mwy cyfoethog ydyw^bywvd y dyn ysbrydol na'r dyn anianol, a hynny am y rheswm ei fod yn byw ynglianol syl weddau a gwerthfawreddau (values) nad ydynt yn bod i'r dyn anianol. Y mae'n bosibl i ni ei sylweddoli yn awr ond i ni gydymffurfio a'r amodau. Mater o uchter a dyfnder a lie. One crowded hour of glorious life.' Y mae yn perthyn i order foesol uwch, ond ei bod yn o/der, yn gyfundrefn, y gellir dod i berthynas bywyd a hi yma ar y ddaear. Ond eto, y mae yna agwedd o barhad i'r bywyd yma. Y mae'r perthau gwerthfawr yn bethau sydd i barhau. Ac y mae'r bywyd yma yn fywyd nad ydyw yn perthyn i fyd sydd a'i ddull yn myned heibio. Y mae bywyd un oes yn wahanol i fywyd oes arall. Nid ydyw'r bobl sydd yn- perthyn i wahanol oesoedd ddim yn byw i'r un pethau, nac yn siarad yr un iaith yn ami, nac yn ymgyf- addasu i'r un gwrthrychau na dilyn yr un cyfathrachau. Ond y mae bywyd i'w gael sydd yn perthyn i oesoedd yr oesoedd, nad ydyw yn gyfyngedig iitit oes, ac y mae yn bosibl i ni ddringo iddo. Ac y mae pawb sydd wedi cael y bywyd yma yn adnabod eu gilydd ar hyd yr oesau. Y maent yn siarad yr un iaith, yn hyddysg yn yr un dirgelion. Y maent yn adnabod eu gilydd, ac yn pasio i mewn i fywyd y naill a'r Un o'r Anerchiadau draddodwyd yng Nghyf- eillach Cymanfa Lerpwl, Hydref 8fed i'r iofed. llall. Yng Nghrist bydd pob sant yn medru cwmnia gyda Phaul ar lefel bywyd yr oesau. Ac y mae Pedr eisiau mynd i'r bywyd yma Gennyt Ti y mae geiriau y bywyd tragwyddol.' Yr wyf yn hoffi'r gair geiriau.' Y mae'n fywyd y gellir ei osod allan mewn geiriau. Y mae'n fywyd y gellir ei fynegi. Bywycl yn unol a'r rhesymoldeb uchaf sydd yn bod. Y mae Iesu. Grist yn gosod geiriau uwchlaw gwyrthiau fel iaith bywyd tragwyddol. Yr oedd pobl y gwyrthiau wedi troi'n ol. Y mae Pedr yn dweyd Gennyt Ti y mae geirial1 y bywyd tragwyddol.' Credwch Fi, Fy mod I yn y Tad a'r Tad ynnof Finnau, neu credwch Fi er mwyn y gweith- redoedd eu hunain.' Fy apel uchaf ydyw Fy nghredu I am Fy mod I yn dweyd os na chredwch Fy ngeiriau, credwch y gweithredoedd. Nid yw Pedr eto yn dweyd, Ti yw Gair y IK-wyd,' ond Gen- nyt Ti y mae geiriau y bywyd tragwyddol.' Gadewch i ni gofio fod Duw yn rhoi gair trwy'r bardd, trwy'r arlunydd, trwy'r gwyddonydd ond trwy les-Li Grist y mae yn rhoi geiriau'r bywyd tragwyddol. Yng Nghrist y mynega Ei Hun yn llawn. 'At bwy yr awn ni ? medd Pedr. Y mae Westcott yn dweyd na ddaeth Judas erioed at Iesu Grist na ddaeth efe ddim allan ohono ei hunan at Grist. Y mae dod at Grist, yn ol loan, yn golygu credu yng Nghrist—derbyn Crist. Cawn geiriau gan rywrai eraill, medd Pedr, ond yr ydym yn mynd i mewn am eiriau bywyd tragwyddol, We are out for eternal lije.' Gobeithio y cawn ni ddweyd hynny. Nid yw geiriau'r bywyd tragwyddol gan neb arall. Ein heisiau mawr ydyw cael sylweddoli, cael canfyddiad newydd i'r bywyd tragwyddol. Os ydyw eich syniad am fywyd tragwyddol yn isel, y mae eich syniad am Grist yn isel. Ond os gwelwn ogoniant y nef, fel deimlwn fod eisiau Gwaredwr Dwyfol i'n hachub.

Anrhydeddu Eurof a Chrwys…

Pwyllgor Dewis Swyddogion…

Advertising