Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYFUNDEB DWYREINIOL CAER-…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CYFUNDEB DWYREINIOL CAER- ?: CYFUNDEB FYRDDIN. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn y Tabernacl, Crosshands, dyddiau Mercher ac Iau, Hyclref 2ofed a'r 2iain. Y Gyn- hadledd pryduawn Mercher am 2 o'r gloch, dan lywyddiaeth y Parch. G. G. Williams, Gwynfe cadeirydd y Cyfundeb. Dechreuodd y Parch. S. Thomas, Salem, Llandeilo, trwy weddi. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyf- arfod diweddaf, gyda'r ychwanegiad fod y Parch. D. Harries, Penrheol, yn bresennol Y11 y cyfarfod hwnnw, ac mai y Parch. D. Tegfan Davies, Christian Temple, Amanford, ddechreuodd odfa prydnawn dydd Iau. Cynhelir y cyf arf ocl nesaf yn Seion, Burry Port, a phenodwyd y Parchn. T. Williams, Bryngoleu, Llanon; W. J. Williams, Carway a D. Tegfan Davies, Amanford, i bregethu ar y pynciau-y cyntaf i bregethu ar fater i'w roddi gan Seion, Burry Port, yr ail ar 'Arglwyddiaeth Crist,' a'r trydydd ar Ddirwest.' Darllenwyd llythyr oddiwrth ysgrifennydd Rehoboth, Pump Heol, yn cymeradwyo y brawd ieuanc, Mr. William John Jones, fel pregethwr oedd wedi ei godi i bregethu yn rheolaidd yn yr eglwys honno. Darllenwyd llythyr oddiwrth Gyfundeb De- heuol Morgannwg yn cyflwyno y Parch. D. Tegfan Davies, sydd wedi ymsefydlu yn y Christian Temple, Amanford, fel gweinidog teilwng, pregethwr da, a brawd ffyddlon. Wedi siarad croesawus gan y Parchn. D. Richards, Myddfai; J. Evans, Bryn, Llanelli; W. Davies, Llandeilo; a J. Morgans, Y.H., Amanford, rhoddodd y Cadeirydd, mewn ymadroddion pwr- pasol iawn, ddeheulaw cymdeithas i Mr. Davies yn enw y Cyfundeb, fel na byddai mwyach yn ddyfodiad a dieithriad, ond yn un o gyd-ddinas- yddion a'r saint. Dywedodd Mr. Davies ei fod yn ddiolchgar am y croesaw i'r Cyfundeb, ac yr ymdrechai fod yn deilwng o'r ymddiriedaeth osodid arno. Pasiwyd y penderfyniadau caulyiiol: (a) Bin bod yn cydymdeimlo a'r Parch. J. Ll. Hughes, Rehoboth, yn ei lesgedd. Dymunwn iddo ddiddanwch a thangnefedd Duw yn ei gys- tudd. Gwerthfawrogir gennym ymdrech yr eglwys yn Rehoboth i dalu cyflog Mr. Hughes, ac yr ydym yn dymuno ar bob brawd yn y Cyfundeb roddi Saboth yn wasanaeth rhad er mWYll cynorthwyo y rhai ymdrechant tan anaws- terau. Hefyd, dymunwn gyflwyno i sylw ffafriol y Cyfundeb ac eraill tuallan y mudiad sydd wedi ei gychwyn gan yr eglwys i wneuthur tysteb deilwng i Mr. Hughes. Pan daw apel atoch, na throwch hi heibio oblegid gofynioil yr achos. (b) L,, in bod yn cydymdeimlo a'r rhieni a'r perthynasau sydd inewn galar ar ol y milwyr hynny fuont feirw ar faes y gwaed, neu o'u clwyfau yn y clafdai hefyd, a'r rhieni a'r perth- ynasau sydd mewn gofid am y rhai a glwyfwyd, yn ogystal ag a'r clwyfedig hefyd, a'r rhieni a'r perthynasau sydd mewn ing meddwl dibaid oher- wydd y rhai sydd yn gystuddiol yn y clafdai ac ymhell oddicartref, yn ogystal ag a'r cyfryw sydd mewn doluriau a chiefydau hefyd, a rhieni a pherthynasau y rhai a gymerwyd yn garcharorion yn y rhyfel annuwiol presennol, yn ogystal ag a'r rhai a garcharwyd. A gweddiwn ar Arglwydd y lluoedd drefiiu goruchwyliaethau i gymhwyso ein gwlad a'n teyruas yn foesol ac ysbrydol fel y gall dderbyn y fuddugoliaeth.' Mae dymuniad am i'r penderfyniad hwn gael ei ddarlleu ymhob eglwys yn y Cyfundeb. Rlioddodd y Parch. T. W, Morgan, Philadel- phia, rybudd y byddai yn cymiyg penderfyniad ynglyn a chodi pregethwyr yn y Gynhadledd nesaf. Ni ddanfonodd Mr. Morgans y pender- fyniad i mi, ond diau y gwiia erbyn ei argraffu ar yr agenda. Penderfynwyd gohirio ymdriuiaeth ar y Drys- orfa Gynorthwyol hyd y cyfarfod nesaf, oblegid fod y Parch. D. Lloyd Morgan, D.D., Pontar- dulais, wedi methu bod yn bresennol yn y Gyn- hadledd lion i ddarllen ei bapur ar y mater. Dewiswyd Mr. David Harries, 70, New-road, Llanelli, yn gadeirydd y Cyfundeb am y flwyddyu ddyfodol. Yna traddododd y Parch. G. G. Williams, Gwynfe, cadeirydd y Cyfundeb, ei anerchiad wrth ymddeol o'r gadair ar y mater yu Amgyleliiadau Neilltuol Preseimol y Byd.' Cawsom anerchiad ardderchog. Siaradodd amryw o'r brodyr yn gymeradwyol, a phasiwyd i ein bod yn argraffu yr anerchiad yn ein Had- roddiad y flwyddyn nesaf, a'n bod hefyd yn diolch i Mr. Williams am roddi ei wasanaeth ffyddlawn ac effeithiol i'r Cyfundeb fel cadeirydd. Yr oedd yn bresennol y Parchn. G. G. Williams, Gwynfe (cadeirydd) W. Davies, Llandeilo D. B. Richards, Crugybar; D. Richards, Myddfai; S. Thomas, Salem, Llandeilo G. Jones, Capel Newydd, Hendy, Pontardulais W.Trefor Davies, Soar, a J. Evans, Bryn, Llanelli; T. W. Morgan, Philadelphia; D. J. Lewis, B.A., Tumble; T. M. Price, Llanon W. J. Williams, Carway D. Tegfan Davies, Christian Temple, a J. Morgans, Amanford; D. Rhydderch, B.A., Capel Seion L. Berian James, B.A., a G. Rees, Blaenau, Penygroes D. Harford Evans, Crosshands W. Moelfryn Morgans, Betws W. H. Harries, Pen- rheol; Mri. E. Williams, Llanymddyfri; W. Harries, Dryslwyn D. Harries, Llanelli, ynghyda diaconiaid y Tabernacl, Crosshands. Pregethwyd nos Fercher ym Methania, Llanon, gan y Parchn. W. H. Harries, Penrheol, a W. Trefor Davies, Soar, Llanelli; ac yng Nghapel Seion gan y Parch. D. Richards, Myddfai. Casglodd yr eglwys hon 14/7-2- at Drysorfa y Cyfundeb. Da iawn. Dechreuodd y Parch. W. Davies, Llandeilo am 6.30 yn y Tabernacl, Crosshands, a phreg- ethodd y Parchn. S. Thomas, Salem, Llandeilo, a G. Jones, Capel Newydd, Hendy. Dechreuodd y Parch. W. H. Harries, Penrheol, odfa bore Iau am 10.30 o'r gloch, a phregethodd y Parchu, W. J. Williams, Carway, a D. B. Richards, Crngybar. Dechreuodd y Parch. D. J. Lewis, B.A., Tumble, odfa y prydnawn am 2 o'r gloch, a phregethodd y Parch. Moelfryn Morgans, Betws, ar Y Genhadaeth,' pwnc roddwyd iddo gan y Gynhadledd. Llvwyddodd y Parch. W. Trefor Davies, Llanelli, wrth fwrdd y Cymundeb Cen- hadol. Gweddiodd y Parch. G. Jones, Capel Newydd, Hendy, o flaen y bara, a'r Parch. D. Richards, Myddfai, o flaen y cwpan. Diacon- iaid y Tabernacl oedd yn cario yr elfennau. Mae cyfarfod y Cymundeb undebol a gynhelir yn flynyddol yn arfer bod yn uchel mewn ysbryd- olrwydd, ac nid oedd hwn yn ol yn hyn i'r un a fu o'i flaen. Dechreuodd y Parch. T. M. Price, Llanon, odfa'r hwyr am 6 o'r gloch, a phregethodd y Parchn. L. Berian James, B.A., Penygroes, ar Edifeirwch,' pwnc roddwyd iddo gan Gynhadl- edd y Cyfundeb, a John Evans, Bryn, Llanelli. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r brodyr bregethodd ar bynciau neilltuol ar gais y Gyn- hadledd. Yr oeddent wedi paratoi yn dda, a thraddodasant eu cenadwri gyda dylanwad mawr. Gwnaethpwyd casgliad yn yr odfa hon at Drysorfa'r Cyfundeb. Fel hyn y daeth y Cwrdd Chwarter yn y Tabernacl, Crosshands, i ben. Nid oedd yr liin heb fod yn wlyb rhyw ran o dydd Iau, ond ni niweidiodd hynny luosowgrwydd cynulleidfa- oedd pob odfa, oblegid llawn oedd y capel, heb le i ragor drwy'r dydd. Pregethodd y gweision genadwri bendant, a hynny yn eglurhad yr Ysbryd a nerth. Nid wyf yn cofio cyfres Q. bregethau wedi cyfuno eu holl gyfeiriad yn Iesu Grist fel y cwrdd hwn. Tebyg nad a y cyfar- fodydd heibio heb adael eu dylanwad arhosol. Da iawn oedd gennyf y fraint o ddod unwaitli yn rhagor i'r Tabernacl, Crosshands. Bum yma yn ystod y Gymanfa Dair Sirol, wedyn yn sef- ydliad y gweinidog presennol. Gwnaeth yr ymweliadau hyn argraff ddwfn arnaf, oblegid gwelais ffordd urddasol y bobl yn ein croesawu. Cawsom yma dderbyniad anrhydeddus i'r Cwrdd Chwarter. Cawsom gwrdd Chwarter cyflawri, a derbyniad tywysogaidd i'r tai gan aelodau yr eglwys. Gwnaeth yr eglwys a'r gweinidog ddar- pariadau helaeth ar gyfer pawb, a chawsom chwiorydd siriol gyda chalonnau ymddiriedol a phur i weini arnoni. Pasiwyd bleidlais gynnes iawn o ddiolchgarwch iddynt am eu llafurus gariad a'u derbyniad croesawus i'r Cyfarfod 'j Chwarterol. Da iawn gennyf gwrdd a'r gweinidog, y Parch. D. Harford Evans, yn llwyddiannus a pharchus ymhlitb. ei bobl. Mae Mr. Evans yl1 bregethwr grymus iawn, yn weinidog ymroddgar, yii ddyn o argyhoeddiadau dwfn, ac yn ddewr wrth eu pregethu, ond hefyd yn fedrus i ennill dynion yn hytrach na'u llanw a chwerwder. Mae yn Crosshands a'r cylch hwn weinidogioll nodedig gan Iesu Grist. Dymunwn i'n hannwyl frawd a'i bubl bob beudith a gras. Cadwcr hwynt yn uudeb yr Ysbryd yng iighwlwm tangnefedd. Gweddiwu ar Ddnw fod y Cwrdd Chwarter yn fendith ac ysbrydiaeth. Tangnefedd arnoch a'r eiddoch. JOHN EVANS, Ysg.

1 ——»y I CYFUNDEB CEREDIGION.…