Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

GENt, PRIODI, A MARW. MARWOLAETHAU. WILLIAMS.—Bydd yn chwith gan lawer ddarllen am ymadawiad yr annwyl Mrs Elizabeth Williams, gweddw y diweddar Mr Thomas Williams, Tylaw- inder, ger Pontypridd, er ei bod wedi cyrraedd oedran teg. Ymadawodd a'r fuchedd hon ddydd Sadwrn, Tachwedd 13eg, pan yn ymyl 84 mlwydd oed. Yr oedd yn enedigol o ardal Cefnybedd, sir Frycheiniog. Derbyniwyd hi yn aelodeglwysig yn Beulah gan y diweddar batriarch D. Williams, Troedrhiwdalar, yn dra ieuanc, a bu ei goffadwriaeth ef yn gysegredig gan ei chalon ar hyd ei hoes. Symudodd i ardal Castellau i wasanaethu fel coges i'r Mri Harris o Treferig, a bwriodd ei choelbren i fysg hen ffyddloniaid yr eglwys hon, o ba un yr oedd yr hynaf pan fu farw Cyn hir ymunodd mewn priodas a Mr Thomas Williams, yr hwn, a'i rhag- flaenodd i'r wlad well amryw flynyddau, gan adael ar ol dri o blant i ddilyn yr esiamplau da a roddwyd o'u blaen. Mae dau ohonynt—Mri John Williams a Thomas Williams (Castellydd) wedi ennill y llawryf fel adroddwyr ar fanlawr yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr oedd ein diweddar chwaer, fel Martha gynt, bob amser yn barod i ymdrafferthu er dangos croesaw i bawb a alwent yn Nbylawinder, ac yn nodedig am ei medrusrwydd, ei thynerwch a'i pharodrwydd i weini ar unrhyw glaf fyddai yn yr ardal; a bydd ar ei hoi fwlch yn yr ystyr hwn, yn ogystal ag mewn ystyriaethau eraill, nas gellir yn hawdd ei lenwi. Y dydd lau caulynol, ymgasglodd tyrfa luOBOg i hebrwng ei gwaddillion at eiddo ei diweddar briod i gladdfa y Methodistiaid Calflnaidd yn Nhonyrefail. Cyflawnwyd y gwasanaeth yn y ty gan y Parch Walter Daniels (M.C), Trehafod, ac yn y capel gan y Parch Gwrhyd Lewis, Tonyrefail. Er fod amgylchiadau bywyd wedi ei symud ymhell o'i bro enedigol, hawdd oedd gweled ei bod wedi ennill iddi ei hun dorf o anwyliaid a deimlent yn ddwya wrth gefnu ar ei bedd. Heddwch i'w II wch.-Cymydog.

iBECHGYN CYMRU A'R BRI F.…

Mynydd Seion, Casnewydd, a…

I CYFARFODYDD.--

I -Booth-street, Manchester.

. Ffynongroew, Mostyn.

———— Llynhelyg.

Rehoboth, Brynmawr.