Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
GOGLEDD GWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GOGLEDD GWYR. Brynteg.Y gwr gwahoddedig i'r cyfarfod hanner blynyddol yma eleni oedd y Parch D. Silyn Evans, Aberdar. Cafwyd gweinidogaeth dda a chynulleidfaoedd llawnion i'w gwrando. Bendith yr lor ar yr had. Oym)-eigydd ion. -Caf wyd cyfarfod diddorol neiiituol o dan nawdd y gymdeithas hon, pryd y traddododd Mr J. Davies, B.A., anerchiad godidog ar I Cilhweh ae Olwen.' Nid oedd y testyn ond enwau dieithr i'r mwyafrif cyn dechreu; ceisient ddyfalu beth allasai fod: tybient wahanol bethau; ond fel yr oedd yr anerchiad yn mynd yn ei flaen, gwelid y diddordeb yn pefru yn fwy tanbaid yn y Hygaid, a boddlonrwydd yn eistedd yn esmwyth ar y wyneb-deallent mai ystori oedd o lyfr a elwid Y Mabinogion Mawr oedd y mwynhad, a sylweddolent fod mwy yn ein hiaith nag oeddent wedi feddwl. Llyw- yddwyd yn gampus gan y Parch D. H. Thomas, Ebenezer, Canwyd alawou Cymreig gan Miss N Williams, B.Se, Gowerton, i'w chyfeiliad ei hun ar y berdoneg, a chwareuwyd darnau detholedig ar y delyn gan Megan Glan Ta we- y ddwy yn hyfryd. Diolchwyd yn gynnes iddynt, ac i Mr Davies a'r llywydd. Noson swynol iawn. Anrheg Priodas —Yn ddiweddar gwelwyd deuddyn ieuanc yn gwneud eu ffordd at allor Hymen i ymgyfamodi mewn glan briodas. Yr oedd yr ardal yn gwenu yn serchog ar eu huniad, a'u mam-eglwys yn Brynteg yn rhoi ei bendith arnynt, Profodd Mr B Looker hen air y gwirionedd, mai 4 nid da bod dyn ei hun,' a gwelodd certain something yn Miss M Morgan oedd yn ei foddloni yn fawr, a chytunwyd gydag unfrydedd gwresog i fyw ar yr un aelwyd. Teimlodd athrawon ac athrawesau y plant yn yr hen gapel awyddfryd i ddathla yr amgylchiad hapus yn en plith hwy drwy gyf- lwyno anrheg i Mrs Looker yn arwydd o'u gwerthfawrogiad o'i gwasanaeth gyda'r plant yno am un flynedd ar ddeg. Trefnwyd yr oil yn dawel iawn. Ar brydnawn Sal pan oedd y plant yn mynd allan, gofynwyd i'r athrawon a'r athrawesau i aros ar ol. Cymerwyd y gadair gan Mr G. D. Stephen. Hysbysodd yr amcan mown geiriau caredig a chynnes. Galwodd ar Mrs Morgan, priod y gweinidog, i gyftwyno y rhodd-silver fruit basket-yr hyn a wnaed, drwy ddymano hir oes a bendithion goreu nof a daear ya eiddo icldynt. Cafwyd ychydig eiriau llongyfarchiadol gan Mri T. Rees, T. Davies, Mrs Shepherd, a phenillion tarawiadol gan Mr D. Williams,T.S.C. Yr oil mor ddistaw a thyner a'r wawr ar aellV bryn, ond yn gweithredu tel cordial i'w calonogi i bob gweithredu dda. Well done! ILLTYD.
RHUTHYN.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHUTHYN. I CladdedigaethliMr Morris Jones, Merllyn.- Rhoddwyd gweddillion Mr Morris Jones, Merllyn, yn ei hir gartref yng nghladdfa y Rhiw, Pwllglas, a daeth torf o berbhynasau a chymdogion idalu eu teyrnged olaf iddo Yr oedd yr ymadawedig yn hann o deulu adna byddus yn y Bala a'r cyIch, o'r lie y daeth i Ruthyn saith mlynedd yn ol, a thystia y Parch Talwyn Phillips i'w ffyddlondeb i'r achos tra yn aelod yn ei eglwys. Tair blynedd yn ol dewiswyd ef yn ddiacon gan eglwys Gynulleid- faol Pendref, Rhuthyn, a danghosodd ffyddlon deb neiiituol yn holl gyfartodydd yr eglwys Cafodd gystudd hir a thrwm. Cwynai er's tro, ond daeth y diwedd yn sydyn ac annisgwyl- iadwy iawn. Teimlir colled fawr ar ei ol, a bydd ei le yn wftg yn yr eglwys. Gwelwyd yn bresennol yn yr angladd Mrs Morris Jones (y weddw) Mary Catherine a John Morris (merch a mab): Miss Dinah Jones, Bala (chwaer); Mr a Mrs Williams, Trefriw Mr a Mrs Rowlands, Siambar Wen; Mr Hughes, y Graig (tad-yng-nghyfraitb), ac eraill o'r teulu Henadur T. H. Roberts, Mri H Wiliiams, R Roberts, a A H Rowlands, swyddogion eglwys Rhuthyn. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn Talwyn Phillips, B D., Bala; J Pritchard, Cynwyd; R. R. Parry, Rhuthyn; ac H. M. Roberts, Rhiw Tystient oil i'w gymeriad gIân, ei sefydlowgrwydd a'i ffydd- londeb tuag at bob achos da. Gadawodd ar ei ol weddw ieuane a thri o blant, a'n dy muniad ni yw y bydd nawdd Duw dros y teulu a'r eglwys yn eu galar a'u colled. • Ei enw'n perarogli sydd, A'i hun mor dawel yw.'
iLLANBEDR PONTSTEPHAN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
i LLANBEDR PONTSTEPHAN. Y G ymdeithas Ddiwylliadol Gristionogol— Er fod nifer fawr o fechgyn ac amryw o ferched yn perthyn i eglwys Soar wedi gadael or gwasanaethu eu gwlad yn y rhyfel erchyll presennol, penderfynwyd cynnal amryw gyfar- fodydd yn ystodimisoedd y gaeaf, a chafwyd gan y Parch Evan Evans, ein gweinidog, i agor y tymor mewn anerchiad diddorol ar ffurf o ddarlith ar 'Y Gymanfa Dairsirol,' neu y Gymanfa Fawr, fel y geilw rhai hi, a hynny nos Wener cyn y diweddaf. Cymerwyd y gadair gan y brawd ffyddlon Mr J. E. Jones, Eryl, yr hwn a draddododd anerchiad byr wrth gyflwyno y darlithydd i'r gynulleidfa. Bu Mr Evans yn ffodus af ei ddewisiad o destyn; yr hwn oedd yn ddiddorol dros ben. Soniai gyda mawrglod am Gymanfa Pencader yn 1803; Ffalybrenin, 1812; Horeb, Llandysul, 1820; Aberystwyth, 1835; Hawen, 1843 Llan- bedr, 1860; Hawen, 1868; Peneader, 1869; Capel-y wig, 1872; Aberaeron, 1874; Rhyd- ybont, 1877; Llandysul, 1880; Talybont, 1882; Aberteifl, 1888 Llanarth, 1890; Llanbedr, 1892; Glynarthen, 1895; Aberaeron, 1898; Llanon, 1901; Llangranog, 1904; Ffaldybrenin, 1906: Llandysul, 1909; Ceinewydd, 1912; a'r un am 1916 i'w chynnal yng Nghastellnewydd Ernlyn. Dylai eglwysi'r tair sirddal ar y cyfle i glywed hon drwy wahodd Mr Evans i'w thraddodi. Y mae yn Hawn o wersi buddiol o'r dechreu i'r diwedd, a medr yntau yrru'r gyn- ulleidfa i wylo a chwerthin bob yn ail. Diddorol iawn oedd ei nodiad o'r pregethwyr newydd ddaeth i sylw Cymru ar aohlysuron o'r fath—Herber yn Pencader, Owen (Gtandwt) yn Aberaeron, Ossian yn Rhydybont, Elfed yn Llanbedr, &e. Cafwyd awr a hanner o flasus- fwyd o'r fath oren, a pbawb yn barod i ddweyd, If Melus, moes eto.' ARDWYN.
I Hermon, Plasmarl.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Hermon, Plasmarl. Croesawu'r Gweinidog New dd.-Y mae'r Parch J. P. Gough, o Salem, Rhos, wedi ym- sefydlu yn weinidog ar yr eglwys uchod oddiar Tachwedd 7fed. Y nos Iau blaenorol i hynny cynhaliwyd yma de croesaw a chyfarfod am- rywiaethol i'w groesnwu ef a'i deulu i'n plith. Daeth tort o bobl ynghyd. Llywyddwyd yn y cyfarfod cyhoeddus gan un o'r diaconiaid, a siaradodd dau o'r rhai hynaf ohonynt, set Mr Thomas Williams a'r hen batriarch mwyn Mr W. Williams, an o gychwynwyr yr eglwys, gan groesawu Mr Gongh a'i deulu i'n plith, a datgan eu llawenydd ein bod wedi bod mor ffodus i gael olynydd mor deilwng i'r gweinidogion rhagorol fu yma yn flaenorol, a dymuno am fendith Duw ar y briodas. Yr oedd y rhaglen yn gynwysedig o ganeuon ac adroddiadau, canu gyda'r delyn, a phlant yr ysgol yn canu alawon Cymreig mewn diwyg a dullwedd Gymreig. Cafwyd noson ddiddorol. Y mae Mr Gough wedi dod i gylch a digon o sc6p ynddo i weithio-at bobl sydd wedi arfer parchu a chydweithio gyda'i gweinidogion. Dymunwn fendith Duw ar yr holl wasanaeth. AELOD.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
THE VOLUMES MENTIONED THE VOL UMES MENTIONED JTFJ3 WC 3 W BELOW ARE NOW AVAILABLE IN .c. ARTISTIC ENVELOPES JL\ 6^ BEARING A DESIGNED LABEL IMPRINTED "WITH THE Ti/r A S SEASON'S GREETINGS," ■ AND HAVING A SPACE FOR C DS THE SENDER'S SIGNATURE. MTrnk. ??t? No EXTRA CHARGE IS MADE. THE ARTIST'S SKETCH-BOOK" SERIES Each containing 24 reproductions in facsimile from pencil drawings. Price Is. net each. CAMBRIDGE CANTERBURY EDINBURGH FLORENCE GLASGOW HARROW HASTINGS LONDON LONDON AT NIGHT NEWCASTLE-ON-TYNE OXFORD PARIS ROCHESTER ROME STRATFORD-ON-AVON VENICE WINCHESTER WINDSOR AND ETON THE ZOO ETON I WATER-COLOUR SERIES Each containing 20 Full-page Illustrations in Colour. Price Is. net each. I v I ESSEX WATER-COLOURS HAMPSHIRE WATER-COLOURS KENT WATER-COLOURS LONDON WATER-COLOURS I- SURREY WATER-COLOURS SUSSEX WATER-COLOURS THE" FASCINATION" SERIES Each containing 24 Full-page Illustrations from Photographs. Price 18.6d. net each. BELGIUM BRITTANY HOLLAND IRELAND SWITZERLAND "BEAUTIFUL BRITAIN" SERIES Each containing 12 Full-page Illustrations in Colour. Price 1S. 6d. net each. ABBOTSFORD ARRAN, ISLE OF CAMBRIDGE CANTERBURY CHANNEL ISLANDS COTSWOLDS ENGLISH LAKES FIRTH OF CLYDE GIRTON COLLEGE ISLE OF MAN ISLE OF WIGHT KILLARNEY LONDON NEW FOREST OXFORD PEAK COUNTRY ST. PAUL'S CATHEDRAL STRATFORD-ON-AVON THAMES TOWER OF LONDON TROSSACHS NORTH WALES WESSEX WESTMINSTER ABBEY I WINCHESTER WINDSOR AND ETON THE WYE YORKSHIRE COAST AND MOORLAND I "BEAUTIFUL EUROPE" SERIES I t Each containing 12 Full-page Illustrations in Colour. Price is ed. net each. I I BELGIUM LAKE OF COMO LAKE OF GENEVA LAKE OF LUCERNE NORWEGIAN FJORDS THE ENGEDINE I VENICE I "QUOTATION AND PICTURE" SERIES Each containing 16 Coloured Vieivs of Places or Buildings, with descriptions by Poets or I well-known Authors. Price Is. net each. LONDON ENGLISH LAKE DISTRICT SCOTLAND A. & C. BLACK, Ltd. 4, 5 & 6 Soho Square. LONDON.