Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw.—Manchester a'r Cylch-Taber- nacl, Pencader—P. R. Thomas—Cymaufa Ganu Caerdydd-Ebeneze- Caerdvdd-Machynlleth a'r Cvlch-Fbenezer, Tyne widd--Castellnedd-- Treorci -Siloh, Gland wr-- Trew illiam-- Hermon, Plasmarl-pontardulais--Sefydliad y Parch T. D. Lloyd Morgan yn Heywood-Capel Helyg, Sir Gaernarfon-Manyolaethau-Cyfarfodydd.
GORNEST Y GWLEDYDD. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GORNEST Y GWLEDYDD. RHAI AGWEDDAU MOESOE A MAS- NACHOL. GAN MR. E. T. JOHN, A.S. YSTYRRIR gan lawer fod cyhoeddiad rhyfel rhyngom a'r Almaen yn Awst, 1914, ynghyda chwrs dilynol digwyddiadau, yn arwyddo dilead a difodiad llwyr ar bob egwyddor foesol fel elfen yng ngwladlyw- iaeth Ewrop, ac yn brawf diymwad o oferedd a ffolineb dibynnu ar ddim amgen na nerth milwrol ar for a tliir. Er fod Prydain Fawr wedi paratoi llynges enfawr ac anorchfygadwy, edliwir iddi ei dygn annoethineb yn methu trefnu yn brydlawn fyddin hefyd hafal i fyddinoedd anferth Galluoedd mawrion y Cyfandir. Er hyn, nid oes dim amlycach na'r ffaith fod cyfranogiad Prydain ei hun, undeb ac unfrydedd ei phobl, cynhorthwy brwdfrydig India a'r Trefedigaethau, cyd- weithrediad yr Eidal, effaith datganiad diamwys barn y werin, parodrwydd yr Unol Daleithiau i'n cyflenwi a rheidiau rhyfel (er braidd yn amheus ar y cychwyn) —oil yn seiliedig ar, ac yn ffrwyth union- gyrchol canfyddiad clir o'r egwyddorion moesol annhraethol bwysig sydd wedi achosi yr anghydwelediad a'r gwrthdaraw- iad alaethus presennol. Y mae yn eithaf sicr fod Syr EDWARD GRL, Y ei hun, er ei ymrwymiad ymarferol i Ffrainc pan drefnodd iddi gynnull ei llynges ym Mor y Canoldir, ymhell iawn o gredu yn ffyddiog y byddai i Dy y Cyff- redin a phobl Prydain gydweled a chymer- adwyo ei ddymuniad ar i Brydain gymeryd rhan inor flaenllaw yn y rhyfel-ar wahan i waith yr Almaen yn goresgyn Belgium, a thrwy hynny ddibrisio cyfraith y gwled- ydd, ac ymgymeriad ac addewid bendant Prydain, Ffrainc, a'r Almaen ei hun. Nerth ystyriaethau moesol sydd felly wedi creu cyfuniad aruthrol y Cynghreir- iaid, sydd ynddo ei hun yn cynnwys nid yn unig bosibilrwydd, ond sicrwydd budd- ugoliaeth ae y mae lawn eglured fod natur anfad gwaith milwyr yr Almaen yn ystod wythnosau cyntaf y rhyfel ac wedi hynny, wedi ysbrydoli amddiffyniad pybyr Liege, ac ennyn dewrder yr enciliad o Mons, a'i ffrwytli ym muddugoliaeth annisgwyl- iadwy ac anesboniadwy y Marne, a llwyr ddyrysiad lioll gynlluniau milwrol yr Almaen. Gan fod ystyriaetha-Li, o tiniondeb gwledydd, felly, yn rhan mor bwysig ac mor anilwg yn nechreuad y rhyfel, gofidus a siomedig ydoedd gweled gwladweinwyr Prydain yn dewis rhoddi eu holl bwys a'u goglud ar weithred- iadau y fyddin a'r llynges yn unig. wnig. Mae'n wir ein bod yn'dra llwydd- iannus ar y mor ond, er hafal dewrder, aneffeithiol hyd yn hyn ydyw ein hym- drech ar y tir i sicrhau unrhyw fantais glir a phendant. Buasai Swyddfa Dramor fedrus, oleuedig a phenderfynol, yn man- teisio ar y eyfle di-ail i uno holl.wledydd cred mewn condemniad diamwys o ddy- bryd gamymddygiad yr Almaen ond yn lie hynny, ar wahan i weithrediadau'r llynges, y mae gwladlywiaeth trefnidedd wedi ei hesgeuluso ganddi gyda j|rhyw drylwyredd dieithr. Gallesid yn "addas ac yn bapus wahodd yjgwledydd amhleidiol i sefydlu yn yr Hague ar ddechreu'r rhyfel ddirprwyaeth o wladweinwyr o gyrhaeddiadau a safle uchel, i ystyried a datgan eu barn ar bob cyhuddiad o gamwri a throsedd a ddygid yn erbyn y gwahanol Alluoedd buasai eu bodolaeth a'u dyfarniad ynjddigonol i atal o leiaf rywfaint o ormod rhysedd rhyfel. Yn absenoldeb hyn o Lys Awdurdodol, dylasai Prydain Fawr a'i Cyhnghreiriaid ddwyn yn ffurfiol o flaen y Llysoedd amhleidiol, gyda phob manylion, eu cy- huddiadau yn erbyn dulliau anghyfreith- lawn yr Almaen o frwydro—cwrs mwy gobeithiol a ffrwythlawn na phentyrru yn y Swyddfa Dramor ein ewynion cyfiawn erbyn yr adeg y byddir yn ceisio trefnu telerau heddwch—a dyfeisio rhyw drefn- iant fyddai yn galluogi cenhedloedd i gyd- fyw yn y dyfodol yn dangnefeddus ac heddychlawn. Mewn gwirionedd, y mae gwladlywiaeth dramor Prydain, a barnu wrth ei ffrwythau, wedi bod yn neilltuol o aflwyddiannus. Yn ymddangosiadol, ac yn ddios yn wirioneddol, am yn agos i naw mlynedd ymdrechwyd sefydlu heddwch E-wrop ar seiliau sicr a pharhaol, a chynhyrchwyd Armagedon; am ryw bymtheng mis ceisiwyd ail greu Cynghrair y Balkans, ond sicrhawyd bradwriaeth Bwlgaria a phetrustod Groeg a Rwmania Er amlyced uniondeb ysbryd a chywirdeb amcan Syr EDWARD GREY, y mae aflwydd- iant y Swyddfa Dramor yn fwy llwyr na'r eiddo y Swyddfa Rhyfel. Er i honno aflwyddo yn enbyd gyda chad-ddarpar- iadau, bu yn neilltuol o lwyddiannus mewn sicrhau gwasanaeth miliynau o'n meibion pybyr. Hyd y gellir deall, y mae y gwaith o ennill cydweithrediad Groeg a Rwmania wedi ei drosglwyddo i'r milwr-wladwein- ydd Arglwydd KITCHENER—gwr sydd yn eithaf tebyg yn ymfalchio ynHeddwch Vereeniging fel gorchest ddisgleiriaf ei yrfa. Ar wahan i dryblith annosbarthus y Balkans, a raid i'n Swyddfa Dramor bar- hau yn hollol ddiymadferth, heb unrhyw gwrs yn agored iddi ond hir ddisgwyl am fuddugoliaeth filwrol a oedir yn feunydd- iol, neu barhau mewn rhyw amynedd an- obeithiol i wylio am awr hirbell dihys- byddiad nerth milwrol yr Almaen a'i Chynghreiriaid, gan anghofio y gwanheir gwledydd eraill fel Ffrainc a'r Eidal hefyd yn anaele ? Llwyr anwybyddir y ffaith alaethus fod y cyfryw drefniant yn rhag- dybied aberthu holl obaith a blagur ein pobl, gan orlwytho cenedlaethau i ddyfod a beicliiau annirnadwy o ddyled a chynni a thlodi. Gwelir diffyg adnoddau a dyfais yng ngwladlywiaeth Prydain yn ystod y rhyfel lawn cymaint a'r diffyg gwelediad dybryd a fodolai cyn y rhyfel. Ond i'r rhai hynny sydd yn parhaui gredu yn egwyddorion masnach rydd a chyflafareddiad rhyngwladwriaethol, mae sefyllfa pethau yn llawn o bosibilrwydd budd a bendith bron anhygoel yn hytrach nag o longddrylliad llwyr. Os cyfyngwn ein sylw a'n rhagwelediad i gysylltiadau dyfodol Prydain a'i Chynghreiriaid, y mae yn sicr yn gwbl annichonadwy i'r cenhedl- oedd a'r gwledydd sydd heddyw yn rhwym mewn undeb mor annatodol agos, i edrych ymlaen at ddyddiau pan y byddant hwy eto yn penderfynu anghydwelediad dnvy rym arfau ac y mae bron mor anawdd credu y bydd eu llywiawdwyr eto yn fuan' yn prysur ddyfeisio ffyrdd i gau allan o'u gwahanol wledydd ffrwyth diwydrwydd cydwladwyr y bobl a roddasant en bywyd yn aberth i ryddhan tiroedd anrheithiedig a gwaedlyd Ffrainc, Belgium, Poland a Serbia. Yn sicr, nid ydyw yn amhosibl nac yn afresymol disgwyl y bydd Prydain, a'i Threfedigaethau, Ffrainc, Rwsia, yr Eidal, Japan, Serbia a Montenegro i gyd yn barod i ymgyfamodi na fydd rhyfel rhyngddynt hwy byth mwyach, ond fod pob annealltwriaeth o unrhyw natur i fod yn fater cyflafareddiad, ac hefyd fod mas- nach rhyngddynt i fod yn hollol rydd a dirwystr, heb unrhyw doll o gwbl. Buasai trefniant a chytundeb felly o natur mor fanteisiol fel ag i atynnu bron yn sicr y gwledydd amhleidiol mal Groeg, Rwmania, Yr Isel Diroedd a gwledydd Scandinavia, tra y byddai amcan moesol aruchel y fath gyfuniad yn bur debyg o adgyfnertliu yn ddigonol duedd gynhyddol yr Unol Dal- eithiau at Fasnach Rydd, fel ag i sicrhau ei hymuniad hithau. Ar wahan i adenill Poland, dymuniad dyfnaf pobl Rwsia heddyw ydyw sicrhau rhyddhad i'w mas- nach oddiwrth hualau trymion a phoenus eu dibyniad ar fedr a chyfalaf yr Almaen. Y mae yn sicr y bydd i'r Almaen ofni llawer mwy golli ei masnach enfawr a Rwsia a'r Eidal, na rhyddhau y gwledydd y mae wedi oresgyn yn ddiweddar. Y mae M. SAZONOFF, Gweinidog Tramor Rwsia, yn hollol fyw i'r ystyriaethau mas- nachol hyn, a Dr. E. J. DILLON yn eu canfod lawn mor eglur ond y maent hwy yn ymdrin a'r mater o safbwynt diffyn- dollaeth yn hytrach na rhyddid masnach -y blaenaf yn hollol gydweddus a'r ysbryd milwrol a chynhennus, yr olaf yn amod anhepgor heddwch parhaol. Nid oes dim yn fwy tebyg o gryfhau yn effeithiol y duedd gref a ganfyddir erbyn hyn yn yr Almaen i geisio ffyrdd o gynnydd a ffyn- iant gwladol mwy cydnaws a rhyddid ac annibyniaeth Ewrop, na'r golled i'w mas- nach a ganlynai ar sefydliad Masnach Rydd yn gyffredinol, a hithau ddim yn gyfrannog o'r cyfryw fanteision. i j Yn sicr, nid oes unrhyw gyfran o bobl Prydain yn fwy eu hawydd a'u pryder am ddymchweliad trefniant milwrol Prwsia a sicrhad awdurdod cyfraith rhwng gwled- ydd, na phleidwyr heddwch. Iddynt hwy y mae taliad iawn tra sylweddol i Belgium yn anhepgorol angenrheidiol, ac y mae lawn bwysiced na bo i'r Almaen sicrhau yr un fodfedd o diriogaeth ychwanegol drwy ei hymgyrch anesgusodol. Er hynny, nid annaturiol iddynt gredu na ddifethir ysbryd milwrol Prwsia trwy rym arfau yn unig, a bod cydweithrediad gwerin yr Almaen yn holl-bwysig yn hyn o waith. Credant am hynny fod datganiad Mr. ASQUITH hyd yn hyn yn annigonol, ac i