Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ymgyrch A rglwydd Derby. PAN yn ysgrifennu (y Llun) I ni wyddys beth yw rhif a nerth y dyrfa fawr sydd wedi ymrestru dan drefn- iant Arglwydd D e r b y. Bydd y ffigyrau yn ddiau wedi eu cyhoeddi pan ddarllenir y nodyn hwn. Ond credwn fod y rhif yn ddigon mawr i ddiogelu, am dymor beth bynnag, y drefn wirfoddol o gasglu ein byddin. Yr un pryd dylid cofio y bydd nifer lluosog yn cael eu tynnu allan o'r cyfanrif a ymrestrodd dan y Group: System, gan fod yn eu mysg laweroedd o bobl ieuainc sydd yn anhepgorol aiigen-, rheidiol i gario ymlaen fasnach y wlad. Yr oedd eu meistri hyd yr wythnos ddiw- eddaf wedi eu rhwystro yn bendant i ymrestru, ond yn wyneb yr addewid am wrandawiad teg i'w hapel, am gadw nifer digonol o'u gweision i gario ymlaen eu busnes yn lledfyw os nad yn llwyddiannus, cymellasant eu dynion ar yr awr olaf i ymrestru. Os gwneir cyfiawnder a r cwm- ifiau ar meistri hyn, bydd raid troi yn ol y rhan fwyaf o'r gwyr hyn, gan mai meth- iant hollol fyddai ceisio gwneud hebddynt. i Ac mae buddiant uchaf y wlad a'n llwydd- iant yn y rhyfel yn dibynnu mwy ar hyn o bryd ar ein masnach nag ar rif ein byddin. Heblaw hyn, mae miloedd lawer wedi eu tyngu i mewn heb fod dan law y meddyg o gwbl, a throir llawer ymaith ar y tir hwn. Ymhellach eto, bydd raid cadw nifer digonol adref i weithio'r rheil- ffyrdd ac i ddarparu nwyddau rhyfel. Ac yn y cysylltiad hwn da oedd gofyn i'r dosbarth oedd wedi eu serennu i ymrestru hefyd, oblegid credwn fod mwy o dwyll ac anghyfiawnder wedi ei wneud yn y cyfeiriad hwn nag y mae'r wlad wedi amgyffred. Rhwng popeth bydd raid tynnu i lawr gryn lawer ar nifer ymrestrwyr Arglwydd Derby, a dyna'r pryd y gwelir pa un a ddiogelir gwirfoddoliaeth ai peidio. Yn wir, yr oedd cynllun Arglwydd Derby yn golygu gorfodaeth atgas mewn llawer ystyr ac yn benthyca ei hun i amheuaeth a phryder mawr a dibynna lawer ar y modd y gwna'r llysoedd eu gwaith ynglyn a'r apeliadau am ollyngdod i'w gwahaniaethu yn ymarferol oddiwrth Conscription. A rhaid i garwyr tegwch a rhyddid wylio'r llysoedd hynny yn fanwl, onite cyfyd y cri ar unwaith am Orfodaeth gyfreithiol ar bawb, ac anodd fydd ei gwrthwynebu. Yn wir, os ymddyga'r llysoedd hyn yn drahaus ac afresymol, efallai y deuir i deimlo gan lawer mai Gorfodaeth ar bawb fyddai decaf. Gwareded Rhagluniaeth ni rhag hynny, oblegid golyga derfyn ar ryddid a ffyniant ac undeb Prydain a'i phobl. Prwsia arall fydd.

£ 5 AM GAN FER.

CYFARFODYDD.I

Family Notices

0 Bwllheli i Gaerdydd.

PORTH ERYRI.

Advertising

GORNEST Y GWLEDYDD. I