Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Godre'rgraig, Cwm Tawe. i…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Godre'rgraig, Cwm Tawe. Ychydig flwyddi sydd er y corfforwyd yr uchod yn eglwys reolaidd, ac ystyrrir hi yn un o'r eglwysi mwyaf gweithgar yng Nghyfundeb Gor- llewin Morgannwg. Dros ddwy flynedd yn 011 ordeiniwyd y Parch. Ellis Parry yn weinidog arni, ac yn ystod ei weinidogaeth y mae wedi derbyn 60 o aelodau newyddion. Yn y cyf- amser gweithiwyd yn egniol hefyd, yn arbennig y flwyddyn hon, er dileu y ddyled. Hyderwn gael dathlu ein Jiwbili yn ein cyfarfodydd preg- ethu mis Ebrill nesaf. Cyngerdd.—Perfformiwyd y cantawd, Foot- prints of the Saviotty gan gor yr eglwys yng nghapel Pant-teg dan arweiniad yr arweinydd medrus, Mr. W. Asaph Williams. Cynorthwy- wyd gan bedwar o gantorion o fri, a chafwyd cyngerdd ragorol. Eisteddfod Gadeiyiol.-Darparodcl y bobl ien- ainc yn ddyfal ar gyfer yr eisteddfod, yr hon a gynhaliwyd yn playground yr ysgol ddyddiol. Daeth nifer fawr o gystadleuwyr a channoedd o ymwelwyr i'r babell ar ddiwrnod teg ym mis Hydref. Beirniaid yr amrywiaeth oedd y Parch. Ben Davies, Pant-teg, a Mri. G. T. Llewelyn, Port Talbot, a D. Rees, organydd eglwys Allt- wen, ar y gerddoriaeth. Allan o 21 o feirdd rhoddwyd y gadair i Tarenydd. 0 saith o gorau cipiwyd y brif wobr gan Gor Brynaman. Trodd yr eisteddfod yn llwyddiant, a sylweddolwyd drwy y cyngerdd a'r eisteddfod y swm 0 £ 61. Y Gobeithlu.-Un o adrannau mwyaf llew- yrchus yr eglwys yw y Gobeithlu. Rhannwyd tystysgrifau dirwestol i 120 o blant y llynedd, ac y mae y tymor eleni wedi dechreu. Mynychir y cyfarfodydd gan amryw o rai mewn oed, a chynorthwya pob un yn ei dro. Y Gymdeithas Ddiwylliadol. Mae'r Gym- deithas hon newydd ei ffurfio, a disgwylir cael cyfarfodydd fydd yn adeialadetu feddyliol ac ysbrydol. Y Rhyfel.-Cynhelir cyfarfodydd i groesawu bechgyn y gymdogaeth ar eu dychweliad o faes y frwydr. Rhoddir iddynt anrhegion o Feibr ac oriawr, &c., er dangos ein hedmygedd o'u dewr- der yn ymladd dros ein gwlad. Dymunwn iddynt oil gael dychwelyd yn ol eto yn fyw a dianaf o'r Armagedon fawr.
Cyflogau Uwch a Chynilo. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cyflogau Uwch a Chynilo. I CAN BURLAIS. I Yn Nhy'r Cyffredin ar yr 22ain o Dachwedd siaradai Mr. McKenna eiriau dwys ar y testyn uchod, gan fygythio y byddai'n rhaid i'r Llyw- odraeth ffurfio rhyw gynllun i ffrwyno'r afradedd presennol, ac i ennynn mwy o ddifrifwch a sobrwydd ynglyn a'n sefyllfa ariannol, fel y manteisio'r wlad i'r eithaf ar ei chyfoeth ei hun i borthi bleiddiaid rhyfel. Pa un ai ar yr egwyddor o orfodaeth, ai ynte ar yr egwyddor o wirfoddolrwydd, y sylfeinir cynllun y Cang- hellor, ni wyddys hyd eto. Ond ni waeth heb gau llygad a cheisio wynebu'r angenrheidrwydd o droi pob ffrwd ac afon cyfoeth at bwrpas y rhyfel, oherwydd y mae'n atnlwg ddigon erbyn hyn benderfyniad disigl y Weinyddiaeth i fab- wysiadu mesur o orfodaeth os methir hebddo. Ein pennaf anhepgor ar hyn o bryd yw diogelwch ariannol, ac y mae felly'n annhraethol bwysig i bawb ohonom, yn fach a mawr, yn dlawd a chyfoethog, sy'n chwannog i ddwyn y rhyfel i'w dranc, i sicrhau mai nid llef un yn llefain yn y diffaethwch fydd cais y Canghellor a'r Prif- weinidog, a'r anogaethau In a ddaw atom o bob cyfeiriad i gynilo mwy. Y dydd o'r blaen ymgynghorai'r Llywodraeth ag arweinwyr meddwl Llafur ar y mater pwysig hwn. Yr oedd areithiau'r Prifweinidog a Mr. McKenna yn eiriau dwys, ac ar yr un pryd yn rhybudd plaen. A ni yn byw mewn oes mor foethus, ymado a'r pethau syml yw'n temtasiwn gryfaf. Eithr os mai effaitli cyflogau uwch fydd temtio a chymell y werin i wario mwy, dyma'r ffordd rwyddaf i yrr.u prisoedd i fyny, i wneud y tlawd yn dlotach, ac i waedu'r wlad i ddyled anferth ac o bosibl i ddinistr. Yn Abertawe, ddydd Sadwrn diweddaf, siaradai Mr John Hodge i'r un cyfeiriad-arwydd amlwg nad yn ofer geiriau Mr. McKenna a'r Prifweinidog o du arweinwyr Llafur. A'r cyffredin o weithwyr yn hau cynhaeaf bras, byddai'n dda pe siaredid mwy i'r un pwrpas, yn enwedig yn ardaloedd diwydiannol Deheudir Cymru. Mae'r hen chwedl beryglus honno Buanes fel Arfer wedi hir ddiflmau, ond hi sydd wedi esgor ar gryn'lawer o'r ysbryd gwastraffu sy'n ffynnu yn ein mysg. Cred miloedd hyd heddyw fod pob math ar dreulio arian yn dda i fasnach ac ,yn fendith i'r wlad. Pe bai felly, yr afradlon fuasai cymwyn- aswr goreu cymdeithas. Ond y mae'n amiwg ddigon mai'r afradlon yw un o heintiau gwaethaf cymdeithas, a hynny am y rheswm digonol nad yw ei afradedd yn ychwanegu nemor ddim at gyfoeth y wlad. Honiadaeth arall a ffynna'n rhy amlwg yinhlith y dosbarth gweitliiol yw mai allaii o gyfalaf y daw eyflog y gweithiwr, ac y gellir ychwanegu at hur dosbarth o weithwyr heb wneud niwed yn y byd i'r gweddill o feibion Llafur. Gwnaeth y Canghellor rywbeth i ddym- chwelyd y chwedl beryglus hon yn ei araith i arweinwyr yr Undebau Llafur. Danghosai sut yr oedd cyflogau uwch a gwario afresymol yn gyfrifol i raddau pell am fod treuliau byw wedi codi cymaint yn ystod yr argyfwng mawr. Gwna hyn o beth niwed mawr i'r dosbarth iselaf yn rhengau'r gweithwyr na dderbyniasant ychwan- egiad o gwbl at eu cyflogau. Mewn gwirionedd, a chostiau angenrheidiau byw wedi codi, mae cyflogau'r cyfryw wedi lleihau'n enbyd. Ond os yw apel y Llywodraeth i fod yn effeithiol rhaid i'r Llywodraeth ei hun a'i swyddogion tal roi esiampl well nag a roddir ar hyn o bryd. Nid ydym o blaid cwtogi cyflogau Aelodau Seneddol. Mae'r egwyddor honno wrth wraidd annibyniaeth y werin a'i hawl i ddewis Aelodau Seneddol o'u mysg eu hunain. Credwn mai cam doeth fyddai i'r Teulu Brenhinol aberthu rhan o'u hinewm, gan ddechreu yn Jerusalem ac hwyrach mai nid anfuddiol, nac anwladgar chwaith, fyddai canu ychydig ar y tant hwnnw. Modd bynnag, wrth wario yn y dyddiau hyn yr ydym yn adeiladu ar y tywod—os yn adeiladu hefyd-a thynged y ty hwnnw fydd tynged y wlad. A chofied y gweithiwr y bydd y bunt yn werth llawer mwy na phunt heddyw wedi yr el y rhyfel heibio, pan y bydd prisoedd pob nwyddau o bosibl yn gostwng a'r gyflog yn lleihau.
I Bryn, Llanelli.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Bryn, Llanelli. Teyrnged o Barch i Goffadwriaeth y Diweddar William Llewellyn (diacon).-Yr utgorn a ganodd yn hanes William Llewellyn, ac ar ei sain ehed- odd i wyddfod yr Adgyfodiad a'r Bywyd. Yno y mae oddiar nos Sadwrn, Tachwedd 27ain, 1915, yn diolch am yr lawn digonol ddarparwyd i blant y codwm yn yr arfaeth dragwyddol. Cyrhaeddodd yr oedran teg o 73. Byr iawn fu ei gystudd olaf, er fod ei nerth yn pallu er's amser. Claddwyd ei weddillion ym Mynwent y Bryn y dydd Mercher dilynol. Gwasanaeth- wyd gan y Parchn. J. Evans (gweinidog), T. R. Davies (curad), Llwynhendy, ac R. W. Bell (M.C.), Ivlwynhendy. Daeth cynhulliad parchus ynghyd i'r angladd, a gwelid arwyddion o alar a pharch yn amlwg iawn. Hoffai yr ymadaw- edig son am y seintiau o'r Bryn ddiangasant o'i flaen, ac erbyn hyn saif yn eu hymyl yn y dyrfa fawr sydd ger bron yr Oen, wedi eu gwisgo mewn gynnau gwynion.' Gwag yw ei le yntau yn awr ar aelwyd y Bryn. Hiraeth leinw'n calon wrth feddwl na chawn eto glywed ei lais tu yma i'r lien. Ymgomiai yn ami a ni am China, Griffith John a Hopkin Rees, a dywedai lawer wrthym am yr India, cartref chwaer id do, Gwyddai hanes y Bryn yn dda, a melys odiaeth fyddai awr o'i gwmni pan ddygai ger ein bron hen gymeriadau annwyl yr eglwys. Adroddai wrthym yn fynych hanes hen gyfarfodydd gweddi, ac amlwg yw mai yno y daeth ef i adnabod a charu yr Oen. Gweddiwr mawr oedd William Llewellyn. Ar aden ei weddi gref esgynnai'r gynulleidfa i'r uchelderau. Gafaelai yn rhaffau yr addewidion fel y medr y cyf- arwydd yn unig, a theimlem fod y breichiau tragwyddol yn ei nerthu. Siaradai yn naturiol a'i Dad. Nid traddodi anerchiadau wnai ar ei liniau, ond gweddio yn ddwys ac angherddol. Duw personol ac agos iawn oedd ei Dduw, a chyfarchai Ef fel 'Fy Arglwydd a'm Duw.' Dyna eiriau Thomas gynt-geiriau un wedi adnabod ei Arglwydd yn ddigamsyniol. Yn hyn efelychai ei dad, y diweddar Henry Llewellyn o goffadwriaeth fendigedig. Cofiwn ef yn athraw arnom yn yr Ysgol Sul. Llanciau ieuainc oedd yn y dosbarth. Nid hyd y ffordd o le i le, enwau rhieni hwn a hwn, neu pwy a olygid wrth yr efe,' oedd y materion y ceisiai ein sylw atynt, Arweinia ni ar hyd borfeydd gwelltog yr lawn, Cyfiawnhad, Prynedigaeth, Adgyfodiad, a gwir- ioneddau sylfaenol crefydd. O'i brofiad personol o rin y gwaed cyfrannodd yn helaeth i'w ddos- barth.J 0 am athrawon cyffelyb. Trysorwn hyd angeu Destament roddodd i ni yr adeg honno, am mai hwn oedd ei wers-lyfr ef ei hun. Bu William Llewellyn yn ddiacon blaenllaw yn y Bryn am flwyddi lawer, wedi ei ethol tua'r flwyddyn 1878. Gwybodaeth eang o hanes yr eglwys ac uniondeb ei gymeriad a'i gwnai yn arweinydd doeth, a'i gyngor yn ddiogel i'w ddilyn. Deuai i'w ran yn ami i arwain cyfar- fodydd gweddi yr eglwys, ac ymhyfrydai yn y gwaith. Hoffem ei glywed yn rhoddi emyii allan, nid am y darlleniad, er fod hwnnw yn dda, ond gwyddem fod pob emyn roddai allan i'w ganu yn brofiad iddo ef ei hun. Gwelwn ef yn mwyn- hau darllen yr emyn, ac yn y darlleniad clywn guriad ei galon gynnes. Bu yn dwr o nerth i'r gweddiwr ieuanc yr oedd y tine iawn yn ei 'Amen,' a rhoddai hi i fewn lie byddai ei hangen. Ond distaw" yw ei 'Amen ef bellach. Na, nid distaw, canys clywir hi yn Haleliwia i'r Oen yn y nefolion leoedd. Maddened y darllenydd fod yr hanes yn anghyflawn mewn llawer ystyr. Ein hunig amcan oedd darlunio ein gwrthrych fel yr adwaenem ef yn bersonol. Arhosed yr Arglwydd gyda'r teulu a'r eglwys yn eu galar. Bydd llawer heblaw yr ysgrifennydd yn cofio William Llew- ellyn fel athraw da, tad tyner ac arweinydd I doeth. J. W. J.
! CAPEL CWMBWRLA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAPEL CWMBWRLA. Cydymdeimlad -Nos Saboth, Tachwedd 21ain, pasiodd yr eglwys bleidlais o gydymdeimlad â,'n parohus weinidog, y Parch E. J. Edwards, ar farwolaeth ei dad oedrannus, gweddillion yr hwn a osodwyd i orwedd ym mynwent Capei y Graig, Trelech. Yr oedd wedi cyrraedd yr oedran teg o 81.—Y nos Saboth dilynol gwnaetbpwyd yr un peth i'r Parchl D. Jones, ein cynweinidog, oherwydd colli ei unig chwaer—gweddw y diweddar Mr William Griffiths, diacon ym Methania, Dowlais Yr oedd hithau wedi cyrraedd dros 85 oed. Gwyl De a Chy"ei-dd.-Y nos Iau diweddaf ym mis Tachwedd cynhaliwyd gwyl de a chyngerdd yn yr ysgoldy uchod er galluogi'r eglwys i anfon anrheg neilltuol gwerth 5s i bob un o'r bechgyn sydd wedi ymuno a'r fyddin neu'r llynges, niter y rhai yw 47. Gwnaeth- pwyd hynny trwy haelionusrwydd Mr a Mrs D. Griffiths, Manselton, trwy i'r teulu parchus hwn roddi y nwyddau fcuag at y te Y mae teulu'r Iscoed yn hynod am eu caredigrwydd i'r achos yn y lie, ac iddynt enw da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Eisteddodd yn ymyl 300 wrth y byrddau. Gwasanaethwyd gan y gwragedd a'rg merched A. Anthony, R John, T. Walters, J Griffiths, W. Griffiths, D. Jeffreys, W J Walters, J. Rees, D. Davies, A. Walters, G. George, Katie Francis, S. E. Evans, M Thomas, M. A. Davies, S. Williams, Mrs Llew. Williams, Mrs W. E. Francis, Mrs G. Davies, Mrs L. H. Morris, Mrs S. Hughes, Mrs M James, Mrs J. Williams a Mrs Phillips. Yn y cyngerdd cafwyd unawdau gaD Mri W. D. Thomas a L. Morris, Misses G. George, Antie Walters, B. Anthony ae Olwen Davies. Cyfeil* ydd, Mr Evan Walters ,3 organydd yr eglwys. Llywyddwyd gan y Parch E. J. Edwards, gweinidog Mrs E. J. Edwards, Mrs Jenkins, a Mrs D. Hussey ynghyda'r pwyligor oedd yn gyfrifol am lwyddiant yr oil. Boddlonwyd pawb i'r fath raddau nes y dymunir cael un yn fuan eto. Y mae Cymru yn deffro yn y cyfciriad hwn i fesur helaeth, gan ddangos eu cydymdeimlad mewn modd ymarferol tuag at y rhai sydd yn ymladd dros ryddid a chyfiawn- der. GOHEBYDD.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
DAVIES'S UOUGH MIXTURE PESWCH! PESWCH Ni raid i neb ofni canlyniadau Anwyd a pnesweb ond gofala fod potelaid o Davies's Cough Mixtore yn y tt. Bydd pob dyn yn feddyg i'w deals at holl anhwyf- derau y Gwddf a'r Frest, os bydd Davies's Gough Mixture wrth law. Y mae miloedd lawer wedi oael iaohad ac yn gwneud en goreu i'w gymell ar eraill sydd yn dioddef. Ni raid oymeryd ond UN D08B er profi ei ddylanwad union- ongyrohol er rhyddhan y Phlegm, yn olirio y LJais, yn cynhesu ao yn oryfhau y Frest, gan weithio pob &.nwyd a Chrygni ymaith. DAVIES'S COUGH MIXTURE at BESWCH. DAVIES'S COUGH MIXTURE at ANWYD. DAVIES'S COUGH MIXTURE at ASTHMA. Os gwyddoch am rywun yn dioddef oddiwrth Beswch H Bronchitis, anrhegwoh of a photelaid o OOUGH MIX TRBB HUGH DAVIBS, ao te'oh bendithio ryw ddydd. Is lie a 2s 9c y botel. HUIH DAVIES, CHEMIST, MACHYNLLETH.