Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Tabernacl, Ynysybwl.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Tabernacl, Ynysybwl. Marwolacth.-—-Bore dydd Mawrth, Tachwccld 23ain, aeth tôn o brudd-der dros y lie uchod pan ddaeth y newydd am farwolaeth sydvn Miss Sarah Jones, merch Mrs. Jones a'r diweddar Samuel Jones, Emlyn House. Yr oedd allaii yn y cwrdd fore, brydnawn a hwyr y Saboth. Rywbryd. nos Sul tarawyd hi yn glaf, ac yn gynnar fore dydd Mawrth ehedodd ei hysbryd allan o boen a chaethiwed y corff. Merch ieuanc adnabyddus iawn yn y lie oedd Miss Jones-un o dymer addfwyn, ysbryd gwylaidd a chyd- ymdeimlad parod. Cywir iawn oedd y geiriau welid ar ei charden goffa- Hoff iawn oedd hi gan bawb a'i hadwaetiai.' Bendithiwyd y ehwaer ieuanc hon a thad a mam eithriadol ffyddlon i achos Iesu Grist, ac amlwg yn ei bywyd hi oedd addysg ac esiampl yr aelwyd. Yr oedd ei thad yn swyddog yn y Tabernacl, ac yn un o'r colofiiai-i--yn un o ffyddloniaid Israel ac yu wr i Dcluw. Y mae efe wedi blaenu er's blyn- yddoedd, ond erys ei enw yn berarogl hyd y dydd hwn. Erys y fam weddw, ac eiddunwn iddi hi a'r teululloddecl y Nef yn nydd y storom chwerw. Ymysg rhai ieuaiuc eglwys y Taber- nacl yr oedd Miss Jones yn un o'r rhai mwyaf I amlwg a defnyddiol er's rhai blynyddoedd, yn llawn asbri gyda'r canu, yn athrawes ddeallns ac ymroddgar yn yr Ysgol Sul, yn ffyddlon a pharod. gyda Chymdeithas y Bobl Ieuainc. Gwelir lie gwag ar ei hoi gyda llawer rhan o waith yr eglwysi ac yn sicr bydd y bwlch a'r rhwyg yn y teulu yn un a deimlir ganddynt am hir flynyddoded. Brydnawn dydd Gwener, Tachwedd 26ain, claddwyd ei gweddillion yng Nghladdfa Ynysybwl. Daeth tyrfa fawr ynghyd i dalu'r gymwynas olaf i un a anwylid yn gyff- redinol, ac a dorrwyd i lawr yn rhyfedd annis- gwyliadwy ym mlod.au ei dyddiau, a hi yn 31 mlwydd oed. Amlygwyd cydymdeiinlad dwys a dwfn a'r fam a'r teulu. Derbyniasant lawer o lythyrau cydymdeiinlad, a gwelid y masnachdai ar y ffordd i'r gladdfa wedi cau o barch i'r ymadawedig. Trefnwyd yr angladd gan ei gweinidog, y Parch. Arthur Jones, B.A., yr hwn a ddug dystiolaeth uchel i'w chymeriad. a'i rhin- weddau amlwg a hardd. Gweddxwyd hefyd yn y ty, a chaed ychydig eiriau ar lan y bedd gan y Parch. H. A. Davies, gweinidog y teulu yng Nghwmaman flyxxyddoedd yn ol. Cymerwyd rhaxxxxau o'r gwasanaeth gan y Parchn. J. T. Jones, New-road; W. Gregory, Bethel; D. Richards, Glyn-street a gwelwyd yn bresemxol y Parch. T. E. Griffiths, ficer Llanwyno. Gwyn eu byd y rhai addfwyn.' Dosbarthiadaii Beiblaidd.Eleiii y mae y rhai hyn-hyd yma, fodd bynnag—braidd yn gryfach nag arfer, a golwg lewyrchus iawn ar y rhai ieuengaf. Yn ddiau gwneir gwaith dros Grist gan yr athrawon a'r athrawesau sy'n rhoi oriau fel hyx yn yr wythnos yn ogystal a'r Sul i hyfforddi'r rhai iexxainc, ein gobaith am y dyf- odol, yng nghyfraith yr Arglwydd.' Llonder i ysbryd ac adgyfnerthiad. i obaith yw gweled bechgyn a merched iexxainc yn ymwroli ac yn ymegnio mewn lleoedd anamlwg a chyda gwaith a gyfrifir yn ddinod, fel rhai yn gweled yr anwel- edig. Hardd ac urddasol a llawn addewid da yw hyn mewn dyddiau pan y mae y gweledig yn bopeth, a'r ahweledig yn ddim gan gynifer. Cymdeithas y Bobl Ieuainc.—Ysbeiliodd y rhyfel ni y llynedd o nifer o aelodau ffyddlon a doniau parod y gymdeithas hon. A phara i'n hysbeilio y mae o hyd. Ofnwn y bydd i'r ellyll gwancus yma ddarnio llawer eto ar ein rhaglen am y misoedd dyfodol. Er hyn, cawsom eisoes gyfarfodydd a llewyrch amy 111 a mynd ynddynt. Agorwyd y tymor gydag araith y llywydd, y Parch. Arthur Jones, B.A., ar Noson gyda'r Beirdd.' Yna cafwyd darlleniadau addas ac addysgiadol gan y ddiweddar Miss Sarah Jones, Mr. D. J. Isaac, a Mr. Gomer Evans (ysgrifennydd). Noson arall cafwyd areithiau byrion pwrpasol ac adeiladol gan Miss Gwen Evans, Miss Morwen Evans a Mr. Richard A. Thomas (is-lywydd y gymdeithas). Edrychwn ymlaen yn aiddgar am lawer o adloniant yn ystod y rhan sydd yn ol o'r tymor, GOHEBYDP.

Advertising

[No title]

i ! FY MHRIOD

Y NOSON SERENNOG. I

"PRIODAS EURAIDD I

LLINELLAU

Advertising