Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. i GAN EYNON. Mae ein cydwladwr adnabyddus, y Parch. Morgan Gibbon, wedi bod yn y dyfroedd dyfnion yn ddiweddar. Ar ol ymron deugain mlynedd o fywyd priod- asol dedwydd, torwyd y cwlwm annwyl gan law oer angeu rhyw bythefnos yn ol, ac y mae wedi ei adael yn unig, efe a'i feibion a'i ferched, heb nodded ac amddi- ffyn mam a phriod tyner. Er na roddwyd cyhoeddusrwydd dyladwy i'r angladd, daeth llu mawr ynghyd i hen fynwent enwog Abney Park i dalu parch i'r marw ac i gydymdeimlo a'r byw. Llawn cared- igrwydd a natur dda ydoedd Mrs. Gibbon, ac hyd y diwedd cadwodd ei nodweddion Cymreig fel un o blant sir Gaerfyrddin. Yr oedd ei brawd, Mr. Lewis, Maer Caer- fyrddin, yn yr angladd, a'r holl frawdol- iaeth Gymreig yn gryno. Nodded y Nef ar ein hannwyl frawd yn ei alar. Wn i ddim beth sydd y mater ar, y Briiish Weekly y dyddiau diweddaf hyn. Y mae wedi bod yn rhyw ryfelgar dros ben-yn jingo pan nad oedd angen bod yn jingo. Galwodd cyfaill i mi sylw at y ffaith nad oedd y British Weekly, o'r cyehwyn hyd yr awron, wedi codi llaw na lief yn erbyn gwasg felltigedig North- cliffe Pan oedd yr holl wlad yn ferw drwyddi gan ddigllonedd, yr oedd y papur Albanaidd fel ia. A'r wythnos hon y mae fel porcupine—yn llawn cwils i gyd. Nid oes neb yn y Llywodraeth bresennol yn lawer mwy na gwerth ei halen. Gresyn na fuasai'r byd yn ddigon call i weled hynny, ac yna i drosglwyddo'r holl fusnes i ddwylaw rhyw anfeidrolion ceiniog a dimai fel y man wybed yma sydd yn grwgnaeh ae yn eonach fel hyn o ddydd i ddydd. Lloyd George yn unig yw eilun- dduw y British Weekly, ac y mae ambell un yn dweyd mai efe wnaeth Syr' o'r Golygydd, ac felly Nid wyf fi yn credu peth fel hyn, ac eto natur ddynol yw'r natur ddynol. Tipyn yn drafferthus yw pethau tua'r City Temple y dyddiau hyn. Nos Wener diweddaf bu cyfarfod ymadawol i ddweyd ffarwel' wrth y Parch. R. J. Campbell. Rhoddwyd iddo gan ei edmygwyr motor car, heblaw cheque am gant a hanner o bunnau. Yn ol yr adroddiad byr yn y wasg, atebodd yntau mewn araith yn dweyd wmbredd o bethau ffein am ei hen gorlan. Yr hen arwr mawrfrydig, Dr. Clifford, oedd yn cadeirio ac yr oedd fod hen gadfridog Radicalaidd fel efe yn llanw swydd felly mewn cwrdd brawd yn troi ei got yn siarad yn dda am gared- igrwydd ei galon fawr. Wel pob Iwc i Mr. Campbell i wneud daioni lie bynnag yr elo ond teimlad y rhan fwyaf ohonom am dano yw ei fod wedi croesi ei awr anterth. Pulpud Joseph Parker roddodd fri arno. Yno yr oedd yn siarad a'r byd. Arferai yr hen gawr hwnnw ddweyd yn ei ffordd wreiddiol ei hun am y City Temple fod top y gallery yn ymestyn draw i ardal y Rocky Mountains. Yn yr ystyr farddonol o'r gair, felly yr oedd hi hefyd. Mewn nodion blaenorol dywedais mai Jowett oedd yn debyg o ddyfod yn olyn- ydd. Yr oedd pawb yn dymuno hynny. Clywaf mai dyna oedd dymuniad yr awdurdodau hefyd. Ond mewn cwrdd eglwys (a dyma un o wendidau ein hanni- byniaeth ni) y mae pawb ar yr un level, ac y mae vote y creadur mwyaf diog yn Seion yn gyfwerth a vote y sant mwyaf yn y lie. Felly, pan ddaetli noson dewis y dyn, dacw enw Dr. Hugh Black o New York yn cael ei gynnyg, ac yr oedd yno ddigon o fwyafrif wedi eu crynhoi ynghyd i gario'r maen i'r wal. Felly y bu. Anfon- wyd mellten dan y mor i New York. Daeth yr ateb yn ei dro-yn nacaol. Ond ar ol darllen llythyr Dr. Black, anfon- wyd wedyn ail neges ato. Beth fydd tynged yr ail alwad hon, amser yn unig a ddengys. Gallaswn ddweyd llawer rhagor, ond gwell peidio ar hyn o bryd. Nid oes dim yn erbyn Dr. Black. Nid ei fai ef yw fod plaid wedi ei fabwys- iadu fel eu dyn hwy. Gobeithio y try pethau allan yn well na'r ofnau presennol. Y mae'r City Temple, wedi bod allan yn yr anialwcb yn ddigon hir. Y mae eisiau ennill y cysegr enwog yn ol eto yn wir feddiant i'r Enwad sydd mor falch ohono. Yn y byd politicaidd nid oes fawr o bwys wedi cymeryd lie. Y mae'r cacynod yn colynnu mor brysur ag erioed, ond heb fawr dal am eu trafferth. Y gwir yw ei bod yn amhosibl ateb y cwestiynau an- orffen hyn ofynnir ar lawr y Ty heb fradychu ymddiried a rhoddi goleuni i'r gelyn. Ymhlith pethau eraill dywedodd Asquith nad yw yr Aelod Seneddol i golli ei bedwar cant, ac nid oedd efe ei hun yn meddwl codi toll ar ei gyflog bresennol. Mae'r ddau Dwrne Cyffredinol yn foddlon derbyn gostyngiad. Cant wedyn fwy na chymaint ddwywaith a'r Prifweinidog. Paham ? Y mae eisiau ail-ofyn y cwest- iwn. Syr Edward Carson yw prif obaith y Toriaid rhyfelgar ar hyn o bryd, ac y mae efewedi meddwi ar bwnc Home Rule. O'i ran ef, cawsai Prydain Fawr a'r byd crwn, cyfan, suddo i waelod y mor, dim ond i benboethiaid Ulster orchfygu Home Rule. Rhyw fan bethau fel hyn sydd yn rhannu y Ty pan y mae tynged y cen- hedloedd yn crynu yn y glorian. Dyma un enghraifft newydd o Nero yn chware ffidil pan y mae Rhufain ar dan. Y mae Bonar Law wedi ennill pluen newydd yr wythnos hon drwy ei araith gymhedrol. Mae Robert Cecil fel arall wedi digio am fod gormod o bupur a halen yn ei atebion. Mor anawdd yw boddloni pawb

IPOB OCHR I'R HEOL.

0 FRYN I FRYN.