Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

BRIWSION BWRDD YR YSGRIFENNYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BRIWSION BWRDD YR YSGRIFENNYDD. Ewyllys-Dirn Gallit.-Dyliia gerdyn ddaeth i law o un o ardaloedd y chwarelau yn sir Gaer- narfon—' Garedig Frawd,-Daeth eich taflenni a'r cylchlythyrau i'm llaw. Carasem fel eglwysi wneud rhywbeth sylweddol tuagat y Drysorfa, ond yn wir, yn wir, nis gallwn ar hyn o bryd. Ni bu yr ardal hon gan dloted ag yw yn awr er's deng mlynedd ar hugain. Y mae corff ein pobi ni wedi ymadael am ardaloedd eraill. Aeth 32 o'r bechgyn i'r rhyfeloedd. Defnyddia I' mamau a'r gwragedd arian yr hogia ac ychwaneg ar barseli o fwydydd a anfonir yn wythnosol i'r llanciau, a phrynant newyddiad- uron dyddiol. Nis gallant wneud heb yr olaf gan rym eu pryderon. Y mae cyflogau'r chwarel yn druenus. Un swllt ar bymtheg dderbyniodd un o'n diaconiaid y mis diweddaf am bythefnos o waith caled. Ar yr ychydig fel sydd yn y cwch yr ydym yn byw. Yr eiddoch, Dyna gynnwys y cerdyn air am air. Yn y gymdogaeth hon yr oedd gan yr Enwad un o'r eglwysi mwyaf llewyrchus a byw cyn y rhyfel, ond heddyw mae yn ysig, briw a diymadferth. Ac os mai dyma dynged eglwys lewyrchus a lluosog, beth am y degau man eglwysi gyda'u haelodaeth o 30 a 40 ? Cofier fod y rhai hynny yn cyflawni gwasanaeth nas gellir ei brisio ond yng ngoleuni y tragwyddol. Gogledd lVlorgannwg.-Fe'm llonnwycl yn fawr gan air oddiwrth fy hen gyfaill annwyl, Mr. Matthew Owen. Ofnais fod rhyw aflwydd wedi ei gwrdd, ond ymdeithio yr oedd yng nghwmni y Parch. JacobjJones a Mr. Sandbrook, yn enlistio cynorthwywyr tua Dowlais, Merthyr, Hirwaun, ac Aberdar. Wrth gwrs, nid yw y lleoedd eraill ond yn ei haros hi.' Dywed Mr. Owen eu bod yn cael derbyniad rhagorol ar y cyfan, a chred y bydd pob eglwys yng Ngogledd Morgannwg wedi symud cyn dechreu'r flwyddyn. Rhagorol Disgwyliwn bethau iilawr oddiwrth y tri wyr rhagorol hyn. Dwyrain Caerfyrddin.—Y mae Pwyllgor y Cyf- undeb hwn wedi cwrdd, ac wedi dewis swyddog- ion :—Cadeirydd Parch. W. Davies, Llandeilo. Trysorydd Mr. R. E. Williams, Gwynfe. Ysgrifenvddioii Parch. J. Evans, Bryn, a Mr. D. Harries, Llanelli. Y peth cyntaf wnaethant oedd anfon cylchlythyr i bob eglwys a gwein- idog yn y Cyf undeb. Cyrhaeddodd hwn ben ei daith erbyn y Sul cyntaf o'r mis hwn. Cyr- haeddodd cylchlythyr y Pwyllgor Cyffredinol erbyn yr ail Sul o'r mis. A oes eisiau rhywbeth yn rhagor i argyhoeddi y difraw yn Nwyrain gwlad Myrddin ein bod o ddifrif ? Wel, os oes, fe'i ceir, yn ddiau. Brycheiniog.-Y gair diweddaf i law a ddywed fod un o brif eglwysi'r sir yn dechreu ymysgwyd. Huded eraill gyda hi. Yr oil sydd eisiau yw rhywun selog, ymhob eglwys i fynnu gweled fod cyfie yn cael ei roddi i garedigion yr achos mawr yma i addaw a chyfrannu. Mater i unig- olion yw yn y diwedd, oblegid ni rwymir yr eglwysi fel y cyfryw i ddim, ond yn unig roddi benthyg eu swyddogion yn fath o agents i'r symudiad. Peidier Anghofio anfon y rhestrau yn ddioed i mi neu Mr. James, a'r arian i Mr. Davies, y Trysorydd, W. Ross HUGHES, Ysg. Cyftredmol. Borthygest, Rhagfyr 15fed. 1915.

[No title]