Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

GENt, PRIODI, A MARW. MARWOLAETHAU. JONES.-Tach-wedd 21ain, yn 36 mlwydd oed, Mr Thomas Jones, Treliw, Brynmenyn. Canfyddid rhychau hen elyn y darfodedigaeth yn croesi y wyneb hardd fu yn flenestr i riniau a'i gwnaeth yn annwyl i gylch eang. Derbyniwyd ef yn aelod yn Siloam, Cefnoribwr, yn ieuanc iawn gan y Parch D. Williams, a gwelwyd yn gynnar wanwyn ymgysegr- iad yn datblygu drwy ei ymroddiad oysegredig yng ngwinllan ei Waredwr, a'i ddynoliaeth brydferth yu addurn i'w eglwys. Ar sefydliad yr eglwys yng Nghaersalem, Fforddygyfraith, ffurflai ef ran o'r fintai gyda'i berthynasau o'r Baedan Farm, yr hwn deulu oedd enwog ar lawer ystyr ym mhlwyf mawr Llangynwyd, ac etbolwyd ef yn ddiacon ar gychwyniad y ddiadell yno- Llanwai bob cylch gydag urddas, argyhoeddiad dwys o ofnadwyaeth y cyfrifoldeb, a pharch i ordinhadau y cysegr. Fel athraw cymhwysai y wers i hyfforddiant yn ol y duwioldeb sydd o ffydd lesu, ac ni chollai gyfie i ennyn sel ei ddosbarth dros ogoniant ei Waredwr a garai mor angherddol. Ami y byddai ei daerni wrth yr orsedd am lwyddiant Seion yn tynnu dagrau brwdfrydedd i ruddiau y saint; tra ei brofiad cynnes fynegid yn ymadroddion y nef dan- iodd lawer calon ar aelwyd Seion nes profi dylan- wadau ysbrydol, eithr heddyw acen alarus ddifera dros bob gwefus. Wedi ymbriodi yn ddiweddar a merch Mr W. Butler, Treliw, a diacon parchus ym Mheniel, Bryncethin, aeth yr ymadawedig i bres- wylio yno o Baedan, yr hyn fu yn golled, oherwydd pellter y ffordd, i'r frawdoliaeth yng Nghaersalem. A'r hin yn wlyb iawn, daeth llu o'i edmygwyr galarus at Treliw y dydd lau canlynol i ddangos eu parch i'w wasanaeth i achos yr Hwn garai mor angherddol. Yn y ty gwasanaethwyd gan y Parchn D. Morris, Porthcawl; H. Eynon Lewis, hen weinidog teulu haelionus Treliw ac E. Davies, gweinidog hoff yr ymadawedig, i'r hwn y bu yn ddeheulaw fel trysorydd yr eglwys a diacon cyd- wybodol Yna cludwyd y gweddillion mewn elor- gerbyd i fynwent henafol Llangynwyd, lie y gwaan- aethwyd gan y fleer a'r Parch E. Davies. Amlygwyd cydymdeimlad dwfn a'r weddw a'i ddau frawd a'i chwaer yn eu galar. Gwelwyd yn bresennol hefyd y Parchn J. Cawlais Evans, Brynmenyn D. Davies, Llangynwyd; a T. J. Williams (B), Pil. Anfonwyd blodeudyrch drudfawr gan ei eglwys drist a Mr a Mrs Thomas, Owmisycae. Och aettyloyfaill, chwith cofio,-om cyrraedd, Un a'm carai, eto; A rhywfodd ar ei fedd o NVyf fel rfly-leddf i wylo.'

Machynlleth a'r Cylch. I

Uanbedr-pont-Stephan. I

GALWADAU. -I

,' Y TYST' AM 1916. I

HEYWOOD.