Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
HYN A'R LLALL 0 BABILON Ii…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. GAN EYNON. Mae'r Senedd yii iwy-fwy bywiog o ddydd i ddydd. Ceir rhyw banner dwsin, mwy nen lai, o frodyr taeog yn cwyno byth a hefyd fod y byd ymhell o'i le. Diau pe cawsent hwy eis- tedd yn y prif gadeiriau y buasai'r tryblith yn dod i drefn ar darawiad ainrant. Olid gan fod Rhagluniaeth fawr y nefoedd wedi arfaethu fel arall, nid oes felly ddim i'w wneud ond beio'r drefn fel y corfforrir honno yn y Prifweinidog neu rhyw bechadur mawr arall cyffelyb iddo. Gwir fod helynt ofnadwy Mesopotamia yn adlewyrcliu gvvaradwydd ar y cadfridogion a'r arweinwyr, o Austen Chamberlain a'r Arglwydd Hardinge a Syr John Nixon i lawr. Bwngler- waith drwyddo ydoedd, a phrawf o*r newydd fod eisian ail-eni'r fyddin. Clywsom am' fataliwn o lewod yn cael eu harwain gan asyn ar faes y frwydr ambell waith pan geid rhyw hogyn difarf, am ei fod yn dal Commission, yn arwain dynion dewrion i'w dinistr. Ond nid blunder hogyn difarf ydoedd hwn ym Mesopotamia, ac y mae'n rhaid nithio'r mater i'w waelod- Swm y cwbl yw, wedi'r cyfan, mai nid ffafr, nid dylanwad, nid gwaed glas, nid arian a phres raid lywodraethu yn y fyddin, ond talent a medr a gwroldeb. Ar y system mae'r bai—yr hen system bwdr fu'n cadw gwobrwyon yr hen wlad yma drwy'r canrifoedd i ryw un dosbarth o ddynion, ac yna rhyw Airs. corn wains-w est nen guy act yn tynnu'r gwifrau. Gobeithio nad yw'r dydd ymhell pan fo byddinoedd anferth Ewrop a'r byd yn cael eu gwasgaru, fel na ddysgont ryfel njwi,,ach' ond gan nad yw'r Mil Blyn- yddoedd eto, y mae'n bechadurus o beth fod bechgyn dewrion Cymru a mannau eraill yn cael beddau yn nhir yr estron yn herwydd diofalwch melltigedig martinets y fyddin. Drwg gennyf weled fod y Elywodraeth yr wythnos hon wedi ilclio'r inaes ar ddau o fater- ion pwysig i alluoedd y gelyn. Un canlyniad fydd ychwanegu rhyw un rhan o dair at swm y cwrw a fryweddir ar gyfer sychedigon yr hen wlad yma. Sonnir, yn wir, fod rhai gwladgar- wyr yn son am sefyll strike oddigerth iddyut gael rhagor o dwbl X. Ac y mae'r potwyr felly wedi ennill y dydd i'r graddau o rhyw 33 y cant, Ar y llaw arall, rhaid i'r ddiod fod yn fwy o ddiod fain. Rhagor o ddwr, ond dim rhagor o drefn. Gresyii o beth, er liyuny, fod Prydain Fawr yn gorfod tyniiu het i bobl y Red Cow a'r Green Man. A dyna'r ail surrender ydoedd. lionno i wyr y rhedegfeydd. eeffylau. Wrth ddarllen ambell i bapuryn byclian drewllvd ym Mabilon yma, gallesid meddwl fod gogoniant Prydain yn di- bynnu ar fod banner dwsin o geffylau, a banner dwsin o ffyliaid ar eu cefnau, yn rhedeg am arian, miloedd o ffyliaid eraill yn llygadrythu arnynt, a holl wehilion cymdeithas yn chwyddo'r cwmuÍ. Un o'r pwerau mwyaf llygredig yn' y deyrnas hon yw'r liyn a eelwyn y Sais fel y Turt. Diolch i'r nefoedd nad oes air Cymraeg am dano. Wel, y mae'r Turf i gael deugain o ddyddiau i redeg ceffylau, end ni cheir dim special trains na motors. Ar ol i'r merched gael vote, gobeithio y ceir y farn gyhoedd yn fwy iach ac yn fwy di-ofn ar fateriollfel hyn, Rhvw wt (licit-hi- fydd yn pregethu yn y City Temple bob 110s Saboth er pan ddaeth y gweinidog newydd o'r Amerig. Nid oes raid fod yr Efengyl ganddo. Dr. Saleeby oedd yn preg- ethu' nos Sul diweddaf- Nid yw Dr. Saleeby-- dyn ardderchog yn ei le-yi-i proffesu crefydd Crist o gwbl. Un o oleuadau'r Ethical Society ydvw. Ac eto ar nos Saboth dyma'r bwyd ddar- perir yn hen gapel Joseph Parker Wn i ddim ai D.Litt. wedi ei ennill ai D.Litt. wedi ei brymi sydd gan y Dr. Fort Newton, ond prin y mae peth fel hyn yn deilwng o hen draddodiadau godidog ein Teml fawr fvd-enwog. Wrth gwrs, pobl o bell sydd yn deall holl hanes y City Temple ond efallai y inaddeuir i rywun fel finnan on the spot am anturio dweyd ei farn yn awr ac yn y man. Un paragraff byr ar bwnc y Blaid, neu yn hytrach y Pleidiau Cymreig. Fel y dywedais yr wythnos ddiweddaf, y mae amryw o hoelion wyth yn ell plitli—dim eisiau gwell; ond paham yr anwybyddir hwy mor barhaus gan y pwcrau ? Yr enghraifft ddiweddaraf ydyw hon Dewisir pwyllgor o Seneddwyr i chwilio i fewn i agwecld ariannol y Fasnach Feddwol pe penderfyiiid rhywdro daro bargen a hi. Ceir pwyllgor o Scotchmen i edrych i fewn i sdyUfa pethau yn j yr Alban felly yr Iwerddon hefyd. Ceir dwsin, i mwy neu lai, o etholedigion i chwilio i fewn i natur pethau dros Loegr a Chyinrn. Pa sawl Cymro ? Dim mi Paliaiii Chwith iawn i mi ydoedd darllen am farwol- aeth fy hen gyfaill annwyl, Dafydd Rees o Gapel Mawr. Cofiwyf am dano ym luhoetliter brwydr fawr y Cyfausoddiadau.' Nid wyf am aflonyddu dim ar lwch yr hen ddadl honno, ragor na dweyd mai i Dafydd Rees yn iwy, efallai, nag i neb arall, y lllac'r heddwch i'w briodoli. Yr oedd tri ohonom ar y pryd yn aelodau o'r Cabinet ar un Haw, sef y bonheddwr trwyadl o'r Capel Mawr, fy hen gyfaill Keinion, a minnau. Nyni ein tri fu wrthi'yn heddychu ar un llaw, a'r anfarwol Herber yn blaenori ar y llall. Oucl wedi'r cyfan oil, tact digyffelyb y gwr o Gapel Mawr gariodd y maen i'r wal! Un o bendefigion natur wedi ei gaboli yn athrofa gras. Blin gennyf na chaf welcd ei wyneb annwyl byth mwy. Wrth fyned heibio, goddefer i mi blannu blodeuyn bychan ar ei fedd. Bedd g\vr Duw ydyw.,
Marwolaeth a Chladdedigaeth…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Marwolaeth a Chladdedigaeth yr Hybarch J. Pritchard, y Ddwyryd, ger Corwen. Wedi rhai blynyddoedd o iechyd. wedi pallu, hiuiodd y gwr da uchod yn ei Waredwr pryn- hawn dydd lau, Mehefin 28ain, yn 76 mIwydd oed. Cymerodd ei angladd le y dydd 14un dilynol, Angladd preifat ydoedd. Rhoddwyd ei weddillion i orffwys hyd fore'r codi ym -iiil,n- went capel y Methodistiaid, Glan'rafon. Pe buasai'r angladd yn un cyhoeddus, diau y byddai ym un o'r rhai lluosocaf welwyd yn yr ardal oblegid yr oedd yn annwyl gan bawb, ac nid. oedd neiiior deulu yn y wlad nad oedd ef wedi bod mewn aiigladdau perthynol iddynt, ac yn cydvmdeimlo a hwy yn yr awr dywyll. Yr oedd yn nodedig o rydd, a chafodcl y trallod- edig o bob enwad ei ddiddanwch ef. Wrth y ty darllenwyd rhannau o Air yr Arglwydd gan y Parch. H. Gwion Jones, Bethel, a gweddiodd y Parch. D. Jones (B.), Pandy'r- capel. Yn y fynwent gweinyddwyd gan ei hen gyfaill a'i gyd-efrydydd, y Parch. D. Roberts, Uandrillo (gynt o I,anuwchllyn), yn llaw yr liwii yr oedd trefniadau'r gwasanaeth. Wedi r dar- llen a'r weddi wrth y bedd, awd i'r capel. Y110 cafwvd anerchiadau gan Mr. Roberts, yr hwn lywyddai, a'r Parchn. T, Talwyn Phillips, B.D., Bala Lewis Davies, Corwen, a J. Ilenlyn Owen, Dinmael; ac wedi i'r gwyr hyn ddwyn y dyst- iolaeth uchaf i Mr. Pritchard. fel d yn a Christion. cymydog a brawd, terfynwyd trwy weddi gan Mr. Phillips. Brodor N-cloedd Mr. Pritchard o Bethel, Arfon Yiio y ganwyd ef Tachwedd 8fed, 1840. Yno y magwyd ef mewn cartref crefyddol, ac nid oedd ball ar ei ganinoliaeth i hen grefyddwyr Bethel yn y dyddiati gynt. Bn dywediadau o it heiddo yn addurno llawer pregeth draddodwyd ganddo. Mawr oedd ei barcli i'r hen weinidog, Mr. David Griffiths. a'i fab Mr. R. W. Griffiths. Wedi dechren pregethu daeth i Athrofa y Bala yn 1805. Bu yn y Coleg am bum mlynedd. JJerhyniwyd nifer fawr i'r Athrofa yr un adeg ag ef, ac y mae rhai ohonynt yn aros hyd y dydd heddyw, ond y mwyafrif wedi cvrraedd adref o'i liaen. Yr 1111 adeg ag ef y dacth y gwyr da canlynol, i'r Coleg ;—Parchn. T. Evans o Amlwch Z. Mather, Abermaw J. Morris, Caer- dydd (gynt o Iyangollen) y diweddar Barchn. J. Thomas, IJallbeclrpont-Stephall T. Rol)erts, Wyddgrug, ac eraill. Wedi gorffen ei addysg yn y Bala, ordeiniwyd ef yn weinidog ar eglwysi Pwllglas a Graigfechan, ger Rhuthyrii, yn 1870. Bu yno yn hynod lwyddiannus am dair blynedd, pryd y symudodd i gymryd gofal yr eglwysi Y11 Corwen a Cynwyd. Ymhen rhai blynyddoedd cyfyngodd ei lafur i'r eglwys yn Cvnwyd. Vilo y treuliodd y rhan olaf o'i fywyd gweinidogaethol. Rhoddodd yr eglwys i fyny yn 1908, ac ar yr achlysur cyflwynwyd iddo dysteb hardd gan yr eglwys a'r ardaloedd y bu yn harddu athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr am flynyddoedd lawer. Yn y flwyddyn 1883 penodwyd ef yn ysgrii- emiydd y Cyfarfod Chwarterol y 111 Meirion. Bu yn y swydd bon hyd y flwyddyn| 1915. 6;;Ni chafodd ein Henwad ysgrifennydd oedd yn dwyn mwy o sel dros ei Gyfundeb, a chyflawnodd y dyledswyddau ynglyn a'r swydd gyda harddwch mawr. Cyfnod euraidd yn hanes y Cyfarfod Chwarterol oedd yr un pan oedd Mr. J, Pritchard vn ysgrifennydd. iddo, ac yr oedd y llewyrcli oedd arno i raddau pell yn ddyledus i'r ysgrif- ennydd ffyddlon. Bu'r Cyfarfod Chwarterol yn agos iawn at ei galon. Honai ganmol ei Gyf- undeb yn y sir a'i frodyr yn y weinidogaeth. Ulawer gwaith y clywsom ef yn dweyd yn y modd mwyaf difrifol nad oedd y Gymanfa yn deilwng i'w chymharu a'r Cyfarfod Chwarterol. Yn hyn, diau fod ei sel yn ei gario dros yr ter., fynau ond yr oedd y sel yma. yn ei wneud yn ffafryn gan ei frodyr yn y weinidogaeth yn ei sir. Wedi bod yn y swydd am rhyw bymtheng mlynedd, eyflwynwyc1 iddo gan y Cyfarfod Chwarterol anerchiad hardd a chodaid o aur, ac yr oedd yr eglwysi a'r gweinidogion yn y sir yn teimlo hi'n fraint i roi eu cyfran er dangos eu gwerthfawrogiad o lafur cariad am gyfnod hir. Trist oedd gweled henaint yn dod a'i les- gedd gydag ef, ac yntau, oherwydd hynny, yn methu. gwneuc1 y gwaith oedd mor agos at ei galon. Pan welodd nas gallai gvflawni dyled- swyddau'r swydd, rhoddodd hi i fyny, a bu raid i'r Cyfarfod Chwarterol edrych am ysgrifennydd newydcl. Bu'n amlwg gyda phob achos da yng nghylchoedd Corwen am dros 40 mlynedd. Yr oedd yn ainlwg gydag addysg, dirwest, y Gen- hadaeth a gwleidyddiaetli. Y mae bylchau amlwg mewn llawer cylch ar ei ol, oblegid yrr oedd yn un o'r ffyddloniaid ac yn un o'r brodj r mwyraf hawdd cydweithio ag ef. Rhaid cofio, fodd bymiag, mai pregethu yr Kierigyl oedd ei hoff waith. Dweyd am Grist oedd prif nwyd ei enaid. Pan fyddai pregethwr yn ymweled a'i dy yr oedd y croeso'11 fawr, ond ni byddai pregethwr yn hir tan ei gronglwyd heb i'r ymddiddan dodd at destyn pregeth, lien lyfr a fyddai'u help i gyflawni gwaith y weinid- ogaeth yn fwy. effeithiol. Ni chollodd ei flas at lyfr newydd hyd y diwedd, ac ni swynwyd ei feddwl gan ddim oddiwrth ei waith fel pregethwr Nid oedd ond Crist a diddanwcli yr Efengyl yn llanw ei bregetliau, ac yn y blynyddoedd olaf tystiai'r eglwysi ei fod yn pregethn'n well nag erioed. Clywsom ef yn cael odfeuon gwlithog lawer tro, ac yn cael y gwynt nefol tan ei edyn pan ddeuai sylw o eiddo'r hen Griffiths, Bethel, i'r bregeth, nett ddywediad o eiddo un o saint yr eglwys y magwyd ef ynddi. Bu'n briod ddwywaith, a chafodd yn y uaill fel y llall ymgeledd gymwys. Gwragedd rhagorol oed'dynt -uiedrns eu dwjda^v yn eu cartref, yn ymarweddu'u Jiardd gerbron y byd. ac yn rhoddi pob help i'w priod i ymgysegrn i wasanaeth y Meistr Mawr. Gadawodd un mab ar ol, yr hwn sydd yn rhodio yn ffyrdd ei dad a'i fam, ac yn ddiacon yn eglwys Tre'rddol, ger Corwen, ac yn fasnachwr llwyddiannus. Nodded y Nef fyddo dros yr hynaws T. 0. Pritchard a'i briod annwyl. Y nos Sul dilynol, yng nghapel Tre'rddol, lie vr oedd Mr. Pritchard yn aelod, traddodwyd pregeth angladdol iddo gan y Parch. T. Talwyu Phillips, B.D., Bala.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
EBENEZER OWMTW-RCH.-Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd blynyddol Sul a Llun, Gorffennaf y laf a'r 2i!. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. E. Thomas, Llangadog. ANNWYD, PESWCH, INFLUENZA.—Mae y rhain gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddioddef oddiwrth Beswch, Bronchitis, Pas, Dolur y Gwddf, Crygni Caethdra, Diffyg Anadl. Y mae'r hen feddyg- iniaeth, DAVIES'S COUGH MIXTURE, eto ar y blaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi'n fwy nag erioed, bob amser- wrth law, yn felys, yn cyn- hesu'r frest, ac yn rhyddhau'r phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. r/lic. a 2/9 (postage 3c.) .—HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth. SARZINE BLOOD MIXTURE. ^iCROEN IACH A GWAED PUR.-Dyna'r hyn y mae Sarzine Blood Mixture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honni gwella popeth fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan, scurvy, doluriau pendduynod, &c., yn tarddu o waed drwg ac amhur, mynnweh botelaid o Sar- zine Blood Mixture gan y druggist nesaf atoch, 2/9 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ych- wanegol, oddiwrth y perchennog -HuGu DAVIES, Chemist, Machynlleth!