Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Soar, Merthyr. !
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Soar, Merthyr. Bydd yn dda gan liaws o ddarllenwyr y TYST ddeall fod y Parch. Gwilym Rees, gweinidog yr eglwys uchod, wedi ennill y radd o M.A. ym Mhrifysgol Cymru y flwyddyn hon.
Dadorchuddio Darlun yng Ngholeg…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dadorchuddio Darlun yng Ngholeg Aberhonddu. Mae rhai dynion yn marw cyn darfod byw. Maent yn breswylwyr tir angof ymhell cyn rhoddi pridd i'r pridd, a lludw i'r lludw.' Y mae eraill na edy cymdeithas iddynt ddarfod byw cyii iddi gydnabod ei hedinygedd o'u llafur a'i pharch at eu cymeriadan- ln felly oedd y gwr a anrhydeddwyd yng Ngholeg Aberhonddu ar y zyain o Fehefin, 1917. Y mae ambell i fywyd nad oes eisiau goreuriadau cyfoeth, pwyntil y darluuiedydd, cyn y cerfiwr, nac awen y bardd i gadw ei einv ar wyneb y dyfroedd. Bywyd felly ydyw eiddo yr Hybarch D. A. Griffith, Troedrhiwdalar "ond tuynnodd ei edmygwyr alw ar ddawn yr arlunydd i roddi mewn ffurf arhosol ddarlun un a berchid mor annwyl ac a garwyd mcr fawr. Hofiai'r ysgrif- ennydd blethu ei dorch Ylltan er datgan ei anwyldeb o wrtlirych yr anrhydedd; ond y cwbl a addawodd ydoedd croniclo hanes y cwrdd arbennig a gynhaliwyd yn ystafell y portrait gallery yn Aberhonddu. Cadeiriwyd yn ddeheig ac urddasol gan y Parch. Ben Evans, Barry Dock. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. Gwilym Rees, B.A., Merthyr. Wedi i'r Cadeirydd. ddweyd ychydig o eiriau dewisedig a phwrpasol, gan gyfeirio at rai o brif nodweddion cymeriad Mr. Griffith, galwyd ar yr Athro Joseph Jones, M.A., B.D., ysgrifennydd y mudiad ynglyn a sicrhau'r dar- Inn, i ddweyd gair. Ynghyntaf rhoddodd enwau y rhai a dda-nfonasant lythyrau yn datgan eu gofid. am eu habsenoldeb, a darilenodd ddau lythyr, sef un oddiwrth Mr. Charles Morley, Bath (Ull a ddaeth i gysylltiad agos a Mr. Griffith, a'r hwn sy'n fab i'r diweddar Mr. Samuel Morley, cyn-Aelod Seueddol dros y sir), ac un arall oddiwrth Mr. Christopher Williams, yr arlunydd enwog a dynnodd y darlun, gwaith yr hwn a edmygid yn fawr iawn gan bawb oedd yn bresenllo1 pan dynnwyd y lien oddiarno. Yna rhoddodd y r Athro hanes cychwyniad y mudiad. Dywedodd mai yng nghwrdd myfyr- wyr Aberhonddu, a gynhaliwyd adeg yr Undeb ym Mrynaman, y penderfynwyd cydnabod yn y ffordd yma wasanaeth Mr. Griffith i'r Coleg fel ysgrifennydd am dros ddeugain mlynedd. Apeliwyd am gynhorthwy'r cyn-fyfyrwyr ac aelodau'r Pwyllgor, ac mewn canlyniad ceir darlun gwerth can gini yn oriel darluniau y Coleg. Diwrnod hapusaf bywyd yr Athro oedd gweld y darlun yn cael ei ddadorchuddio. Yna rhoddodd y Parch. J. W. Price, Troed- yrhh\ (trysorydd y mudiad), fraslun o hanes y casglu, a dywedodd y teimlai hi'n anrhydedd 1 wneud hyn o wasanaeth i barchu un a gafodd le mor ddwfn yn ei serch. Deuwyd yn awr at brif waith y cyfarfod. Galwyel ar yr Hybarch -\V. Davies, Llandeilo, i ddadorchuddio'r darlun. Yr oedd yn dda gan bawb oedd yn bresennol i weld Mr Davies 3-110 ar ol misoedd o gystudd. Wedi iddo dynnu'r lien i ffwrdd, siaradodd Mr. Davies yn rymus, a rhoddodd anerchiad nad anghofir yn hir. Dy- wedodd ein bod yn gwrth-eirio'r hen ddiareb, 0 mynni glod, bydd farw.' Dyma ddydd hyfrytaf ei fywyd. B11 rhyngddynt gyfeillgarwch am dros drigain mlynedd, a chafodd Mr. Griffith bob amser yn true as gold. Yr oedd gan Mr. Griffith gorff cryf, ond ei gyfoeth pennaf ydoedd ei ddynoliaeth hardd. Cafodd Mr. Griffith gylch eang o wasanaeth, ac edmygid ei feddwl amryw- iog a'i gymeriad pur ymhob cylch a droai ynddo. Yr oedd yn hollol ymgysegredig i'w waith, a theilyngai pob anrhydedd a dderbyniai. Pan gododd Mr. Griffith i dderbyn y darlun, cododd y gynulleidfa ar ei thraed, ac yr oedd yn hawdd gweld mai anodd oedd iddo ef siarad ar ol y fath fynegiad o groeso. Gobeithiai fod popeth a ddywedwyd am dano yn wir. Anodd oedd ganddo gredu hynny. Daeth y rhodd iddo yn annisgwyliadwy. Derbyniodd bob anrhydedd ag oedd gan ei Enwad i'w roi iddo. Gwerth- fawrogai yr oil, ac yn arbennig y rhodd o'i ddarlun am ei wasanaeth i Goleg Aberhonddu. Cafodd y Coleg le annwyl yn ei galon erioed ac yn awr yr oedd yn bleser mawr ganddo gyf- lwyno r darlun yn ol i ofal Pwyllgor y Coleg. Derbyniodd y Cadeirydd y darlun ar ran y Pwyllgor, a bellach bydd ei le ymhlith darluniau enwogiou yr Knwad, a addurnant yr ystafell. ac yn nesaf at ddarlun ei ragflaenydd yn Nhroed- rhiwdalar—yr Hybarch D. Williams, Patriarch Cymru.' Palla gofod i ni wneud ond cyfeiriadau byr at anerchiadau'r siaradwyr eraill. Dygodd y Parch R. James, Llanwrtyd, dystiolaeth cyd-fvfjriwr, a chymydog am flynvddoedd maith. Cafodd Mr. Griffith yn gymydog gwir. Dyna'r(clod mwyaf a ellid ei roi i neb. Dyna farn v Parch. J. Beynon, Dlanfairmiiallt, hefyd. Cafodd'fMr. Grinltl]. yn gynghorwr doeth a pharod ei gy- mwynas. Dywedodd y Parch. Jacob Jones, Cadeirydd yr Undeb, fed ffawd wedi bod yn garedig iawn i Mr. Griffith. Rhoddodd yehydig o hanes cynnar ei fywyd. Cyfeiriodd at ei was- anaeth i'r Enwad mewn gwahanol gylchoedd, ac er cymaint cylch ei wasanaeth, nid oedd i Mr. Griffith elyn yn un man. Yr oedd y Parch. J. Hywel Parry, IJansamlet, yn adnabod Mr Griffith er y flwyddyn 1876. Knillodd ei serch a'i ymddiriedaeth y pryd hwnnw, a dyna a wnai a phawb a ddeuent i gysylltiad ag ef. Barnai'r Parch. R. E. Peregrine, B.D., Rhymni, fod Mr. Griffith yn haeddu'r cwbl a wnaed a phob gair a ddywedwyd. Yr oedd wedi ei ffafrio gan nef a daear. Synnai at ei perpetual youth. Cynrych- iolai'r Parch. Arthur Jones, B.A., Ynysybwl, y cyn-fyfyrwyr, yn arbennig myfyrwyr y blynydd- oedd diweddaf. Ilofiai gyfarchiad siriol Mr. Griffith a pharodrwydd ei gydymdeimlad. An- rhydeddu gwas teilwng a wnaem. Siaradodd Mr. L, J. Evans, B.A., ar ran y myfyrwyr pres- ennol. Cawsant oil Mr. Griffith yn gyfaill. Yr oedd ganddo'r ddawn i adnabod a deall myfyr- iwr. Hir oes iddo. Dlaweuydd mawr oedd gen- nym Avrando ar Lieut. Martin Thomas yn siarad i gynrychio'li'r myfyrwyr sydd ar diyn o bryd yn y fyddin. Ar eu rhan dymunai fendith y nef ar Mr. Griffith. Gwyddai y darllenid hanes y cwrdd hwn yn y TYST gan y myfyrwyr sydd yn y ffrynt gyda diddordeb mawr. Rhoddodd y Prifathro T. Lewis, M.A., B.D., fynegiad i barch yr athrawon tuagat Ysgrifennydd y Coleg. Yr oedd yn hawdd cydweithio ag ef. Gwyddai am serch Mr. Griffith at y Coleg. Gweithiodd yn ddiwyd drosto, ac nid yw'r anrhydedd yma ond teilwng iddo. Llongyfarchodd Dr. Alfred Rowlands, Lliitidaiii, Mr. Griffith am iddo dder- byn y fath amlygiad o barch. Dygodd y Parch H. Elvet Lewis, M.A., Llundain, dystiolaeth uchel o barch i'r gwr o Droedrhiwdalar trw)- Gymru gyfan. Cvfarfu a Mr. Griffith ar ei daith gasglu gyntaf. Yn Nhroedrhiwdalar y preg- ethodd ei brcgeth Saesneg gyntaf. Cofiai byth am y caredigrwydd a'r gefnogaeth a gafodd y pryd hwnnw gan Mr. Griffith. Delai rhai o Droedrhiwdalar i lamdaiu, a gwelent wyr mawr yno, ond neb mwy 11a'r gwr a. anrhydeddid heddyw. Cytunai yr Athro D. Morgan Lewis, M.A., Aberystwyth, a phob gair a ddywedwyd am Mr. Griffith. Bu efe o ddylanwad mawr ym iiiyd addysg Cymru. Dywedodd Mr. Vaughan, cyfreithiwr, Crughywel, na fu dim gormodiaith yn y cyfarfod. Perchid Mr. Griffith ymhob ty ym -Mrycheiuiog. Bu cyfeillgarwch agos iawii rhwng Mr. Herbert Morgan, Abertawe, a Mr. Griffith a'i deulu. Dywedai fel Bedvddiwr y dylem ei barchu ymhob modd posibl. Cafwyd gair byr gan Mr. Ivor Bowen, Banc, Pontypridd, mab i Mr. Griffith. Yr oedd yn falchach nag erioed o'i dad, ac yn ddiolchgar am yr anrhyd- edd newydd hwn a roddwyd arno. Cyn gorffen y cyfarfod soniodd y Cadeirydd am le a dylanwad Mrs. Griffith ar fywyd y Parch D. A. Griffith. Teilyngai hi ran helaeth o'r clod am fod Mr. Griffith yr hyn ydyw. Bu'n gyn- horthwy mawr iddo ar hyd blynyddoedd o ddiwydrwydd. Ni fynegwyd mo'r hanner, ond wele i ddar- llenwyr y TYST syniad am gwrdd a edy ei argraff arhosol ar galon pawb oedd yno. Caerdydd. D. R. JONES.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANDUDOCH.-Cynhaliwyd yr wyl flyn- yddol yma ar y Sal a'r Llun, Gorffennaf laf a'r 2il, pan y gwasanaethwyd gan y Parchn. T. Mafonwy Davies, Solfach, a W, James, Aber- tawe. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth arweiniol gan y Parchn. T. E. Jones, Tre- wyddel, a T. Esger James, Aberteift. SOAR, BLAENOGWY -Cynhaliwyd cyfar- fodydd blynyddol yr eglwys uchod Sadwrn a Sill, Gorffennaf y 7fed a'r 8fed, pryd y gwasan- aethwyd gan y Parcb. J Elias Thomas, Llangadog. CAERSALEM, FFORDDYG YFRAITH.- Oynhaliwyd cyfarfod blynyddol yr eglwyø uchod ar y Sul a'r LIun, Mehefin y 24ain a'r 25ain, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. J. C. Jones, Tynewydd, Treherbert, a J. C. Evans, Brynmenyn.
GWERSYLL KINMEL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mae pob darpariaeth bosibl wedi ei gwpeucl er cysur y chwiorydd caredig yma. Mrs. Eiddig Jones, Clydach, fu yma y mis diweddaf, a llanwodd yr ymddiriedaeth a osoclwyd arni hyd yr ymylon. Un fedrus odiaeth ydoedd Mrs. Jones gyda'r gwaith, ae,yu ychwanegol gallai estyn gair o galon- did mewn pryd i fachgen pan y byddo ton o --hi-raeth yn dod drosto. Miss Hill, o'r un ardal, sydd yma yn awr—chwaer ym-) roddgar, dawel, ac eithriadol o fedrus yn y gwaith. Mae'r ffaith a ganlyn yn werth sylw eich darllenwyr. Hyd yma, o'r De- heudir yn unig y daeth cymorth 'Does dim cymaint ag un foneddiges o'r Gogledd wedi bod yma yn aros. Canmoliaeth uchel sydd i'r trefi cylchynol —Rhyl, Abergele, Rhuddlan. Enfyn yr eglwysi hyn dair neu bedair o chwiorydd yma bob dydd, ond ble mae'r Gogledd parched y rhan arall o'r gwaith ? Mewn ateb i'r apel a wnaed yn y TYST (mawr ddiolch i chwi, syr, am eich cefnogaeth barod) rhyw dri mis yn ol daeth llu o geisiadau, ond yr oil bron yn gofyn am fis Awst. Nis gellir derbyn ond un, wrth gwrs. Pwy geir ar gyfer Medi, Hydref, Tachwedd a Rhag- fyr ? Hyfryd fydd gennyf ddanfon pob manylion i unrhyw foneddiges a garai ddod. (Da chwi, syr, peidiwch a defn- yddio'r siswrn didrugaredd, a cheisiaf ddod i derfyn.) Eisiau arall yw lfyfrau i'r llyfrgell— rhai diddorol, chwaethus, nid rhai a'u dalennau wedi cochi fel copr. Beth pe bai pob gweinidog a blaenor yn danfon un Uyfr Os y ceir cyfaill i'r milwyr yn y gwahanol eglwysi, cymhellaf y cyfryw un i wneud yn hysbys ei fod ef yn fodlon i ymgymeryd a. derbyn llyfrau oddiwrth garedigion y milwyr, a'u danfon yma. Byddai tipyn o arian hefyd yn dra der- byniol. Gwnaed ychwanegiad at yr adeilad yn ddiweddar, a rhoddir papur ysgrifennu ac amlenni yn rhad i'r bechgyn. Derbyn- iwyd gennyf oddiwrth eglwys y Tabernacl, Lerpwl. £ 5 I5S- 4c.. ac oddiwrth eglwys Trinity-road, 16/ Cedwir cyfrif manwl o bob ceiuiog a dderbynnir a'r modd y'i defnycldir. Diolch calonnog i'r eglwysi hyn Gair neu ddau o gyfarwyddyd. Gofaled pawb wrth ysgrifennu ataf roddi Camp, Company a Hut y bachgen neu'r bechgyn yr ysgrifennir yn eu cylch. Amhosibl dod o hyd iddynt heb hyn, gan fod yma 20 camp, a thros 20,000 o ddynion, a mynd a dod yn ddyddiol. Yn arbennig anfoner i mi y manylion pan y bo rhai o fechgyn ein Henwad yn yr ysbyty. Pan bo bachgen yn beryglus wael enfyn y medd- ygon am un o'i berthynasau i ddod yma. Os digwydd hynny i rywrai o'ch darllen- wyr, ond iddynt ddanfon bryseb neu lythyr i'r cyfeiriad isod bydd yn dda gennyf eu cyfarfod a bod o bob cymorth a fedraf iddynt. Dyna ddigon am y tro, efallai. Daw cyfle eto i ddweyd tipyn am ochr gref- yddol bywyd y camp. Diolch yn fawr- mae'r bugle yn galw E. J. GRUFFYDD. Free Church Hall, Kinmel Camp, Denbighshire.