Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

\ Y WERS 3AB0TH0L. £ 2 Y WERS…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y WERS 3AB0TH0L. £ 2 Y WERS SABOTHOL. & y Y WERS RYNGWLADWRlAETHOLf. 6 I k$ I Gan y Parch. D. EUROF WALTERS,$| ?? B.D., Abertawe. t ?????????t?????'???????<????<?????<7??? + T-- .22aiii.Goresgyniaci Judah gan Senaeheril).2 Bren. xviii. 13 xix. 5-37. Y TESTYN EURAIDD. Duw sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyf- yngder.'—Sahn xlvi. i. a ERS llawer dydd, pan yr oedd llawer o chwilio ar y Beibl, arferid gosod pos i ddisgyblion yr Ysgol Sul, sef dyfod o hyd i ddwy bennod a adroddid ddwywaith yn yr Hen Destament. Y Wers heddyw ydoedd yr ateb i'r pos, canys ceir y ddwy bennod hyn o Lyfr y Brenhinoedd dra- chefn yn Llyfr proffwydoliaethau Esaiah (xxxvi. a xxxvii.). Ceir yr un hanes hefyd yn 2 Cron. xxxii. Wrth baratoi'r Wers ar gyfer y dosbarth dylid darllen y penodau hyn oil, gan eu cymharu a'i gilydd, er nad oes fawr wahaniaeth rhwng eu tystiolaethau. Ychwangwyd y ddwy bennod at brojEEwydoliaeth.au Esaiah oherwydd cysylltiad gwaith Esaiah a'r amgylchiadau. Gwelir y dol- ennau canlynol yn yr hanes :-Rabsaceh, cennad Senacherib, yn dangos ffolineb ymddiried yn yr Aifft ac yn yr Arglwydd; Rabsaceh yn dangos sicrwydd cwymp Jerusalem, ac yn cynnyg tel- erau Hezeciah yn danfon at Esaiah, ac yntau yn mynegi methiant brenin Assyria Senacherib yn anfon drachefn i ofyn am ymostyngiad Hezeciah yn gweddio ar yr Arglwydd ateb yr Arglwydd drwy Esaiah, bod Assyria yn llaw yr Arglwydd, ac 1130 ddinistrir J erusalem geiriau Esaiah yn cael eu cyflawni. Rhaid galw i gof berthynas Assyria a gwlad Canaan. Syrthiodd Israel (Teyrnas y Gogledd) I i ddwylaw'r Assyriaid, ac ymhen ychydig ar ol hynny cafodd Assyria fuddugoliaeth ar fyddin yr Aifft. Parhaodd Judah i dalu teyrnged i Assyria am ugain mlynedd, a thrwy hynny caf- odd lonydd i raddau. Aeth Hezeciah yn ei flaen a'i ddiwygiadau a'i welliantau. Ond yr oedd y I gwledydd bychain yn anesmwytho, ac yn cytuno I a'r Aifft yn erbyn Assyria. Ceisiai rhai o'r ar- weinwyr yn Judah wneuthur yr un peth, ond yr oedd Esaiah yn dal i wrthwynebu. Bu efe ei hun am, dair blynedd megis dameg i'w gyd- wladwyr. Rhodiodd yn noeth ac heb esgidiau am dair blynedd yn arwydd ac yn argoel yn erbyn yr Aifft ac yn erbyn Ethiopia' (Esaiah xx. 1-3). Arwyddai felly mai yn gyffelyb y gwnai Assyria 3, phobl yr Aifft ac a'r rhai a gytunent a. hwy—gwneuthur caethion ohonynt. Ond gwaith anodd ydoedd darbwyllo pobl Jerusalem. Daeth i orsedd Assyria wr cryf cyn hir, sef Senacherib. Am beth amser yr oedd anaws- terau gartref yn ei gadw rhag symud i gyfeiriad I Canaan a'r Aifft; ond wedi gorchfygu ei elynion daeth a byddin gref ganddo yn erbyn y gwrth- ryfelwyr yn Syria a gwlad Canaan. Prysurai'r tywysogion i ymostwng iddo pan ddeallasant ei gryfder. Dechreuodcl y tywyllwch ymgasglu yn awr o gylch Judah.. Daliai Esaiah i ddweyd, er y gwnai Senacherib ddifrod drwy'r wlad, na I chai Jerusalem syrthio. Daeth dychryn ar Hezeciah: 'A Hezeciah brenin Judah a anfon- odd at frenin Assyria i Lachis, gan ddywedyd, Pechais, dychwel oddiwrthyf dygaf yr hyn a roddych arnaf. A brenin Assyria a roddodd ar Hezeciah brenin Judah, dri chant o dalentau arian, a deg ar hugain o dalentau aur (2 Bren. xviii. 14). Hynny yw, gorfu iddo dalu teyrnged eto i frenin Assyria, ac i gyfarfod a hynny gorfu iddo dorri'r aur oddiar ddrysau'r deml. Heb- law hynny, gorfu i rai o'r tywysogion a'r tywys- ogesau fyned yn gaethion i Ninefeh, dinas yr Assyriaid. Ond nid hir y gallwyd prynu heddwch. Daeth cais drachefn oddiwch Senacherib am ymostyngiad Jerusalem yn hollol. Yn y cyf- yngder hwn Esaiah yn unig oedd yn ddigon gwrol i gynghori Hezeciah i wrthod ymostwng. Erbyn hyn yr oedd gwlad Canaan oil, gydag eithrio Jerusalem, wedi plygu. Darllener geiriau Esaiah yn 2 Bren. xix. 20-34 'Ar hyd yr un ffordd ag y daeth y dychwel efe [sef Senacherib], ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, medd yr Arglwydd. Canys Mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i'w chadw hi er mwyn Fy Hun, ac er mwyn Dafydd Fy ngwas.' Hyn fydd tynged Senach- erib ar law yr Arglwydd 'Am i ti ymgynddeir- iogi i'm herbyn, ac i'tli ddaclwrcld ddyfod i fyny i'm chtstiau i; am hynny y gosodaf Fy mach yn dy ffroen, a'm ffrwyn yn dy weflau, ac a'th dd ychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost.' Clywya fod Tirhacah, brenin yr Aifft, yn dechreu symud, ac aeth Senacherib i'w gyfarfod. Rywle ar gyffiuiau yr Aifft digwyddodd rhyw drychineb i fyddin Assyria. 'A'r noson hoimo yr aeth angel yr Arglwydd, ac a darawodd yng ngwersyll yr Assyriaid bump a phedwar ugain a chant o filoedd: a phau gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oil yn gelaneddau meirwon (2 Bren. xix. 35). [Yn 2 Sam. xxiv. 15, 16 sonnir am angel yr Arglwydd ynglyn a phla neu haint dinistriol, a gall mai liviiny olygir yma. Ategir yr hanes Beiblaidd gan draddodiad Eifftaidd a groniclir gan Herod- otus i Senacherib gael ei rwystro yn ei ymosod- iad ar yr Aifft gan lygod, y rhai a ddinistriasant fwau ei fyddin a'r lledr oddiar eu 1fariannau, Ond y mae'r hanes Beiblaidd yn golygu mwy marwolaeth torf o'i filwyr. Beth bynnag ddi- gwyddodd, gwel yr hanesydd Beiblaidd law yr Arglwydd yn yr amgylchiadau.] Felly yr achub- wyd Judah, a thrwy hynny cafodd barhau fel teyrnas am gyfnod eto. Oddiwrth Esaiah x. 5-24 y mae'n bosibl deall hyder y proffwyd yn y dydd blin. Gwelsai efe Assyria gynt fel y ffon yn llaw Jehofah i ger- yddu'r cenhedloedd. Bellach, y mae Assyria wedi cyflawni ei chenhadaeth; ac yn awr y mae balchter Assyria ei hun yn gofyn am gosb. Yn ymyl Jerusalem, megis, tarewir y balch. NODIADAU. Lachis. Dinas gaerog yn nehau Judah; tua 35 o filltiroedd islaw Jerusalem ac i gyfeiriad yr Aifft. Rabsaceh, neu y Rabsaceh.' Prif swyddog Senacherib. Sebnah yr ysgvifennydd. (Cymharer Esaiah xxii. 15.) Ymddengys mai un o wrthwynebwyr pennaf Esaiah ydoedd hwn, a phleidiwr y cytun- deb a'r Aifft. Gallem feddwl fod Eliacim yn ff afriol i gynllun Esaiah. Ceir golwg ar safle Esaiah yn y broffwydoliaeth y cyfeirir ati uchod, gan ei fod yn ymosod ar Sebnah. Ond yma y mae Sebnah fel y lleill wedi ymwisgo mewn sachlian yn dyfod i ymgynghori ag Esaiah. Pen. xix. Adnod 7.-Darllener: Wele Mi a roddaf ysbryd ynddo, ac efe a glyw sicit, (' he shall hear a rumour '). Cymharer adnod 9. Adnod 8.-Libiiah. Un o ddinasoedd y Phil- istiaid, efallai, gerllaw Lachis, yr hon erbyn hyn oedd wedi syrthio, mac'n bur debyg. Adn. 12 a 13.—-Rhestr o dywysogaethau bych- ain ar y ffordd o Assyria i wlad Canaan. Yr oedd gan bob cenedl ei dnw. Ceisia'r Rabsaceh berswadio pobl Jerusalem fod eu Duw hwythan yr un mor ddiddim. Adnod 20.—Sylwer ar y gwahaniaeth yn Esaiah xxxvii. 21. Yn lie Gwrandewais ar yr hyn,' &c., dylid darllen yma—' Gan weddio ohonot arnaf,' &c. 0 adnod 21 hyd adnod 28 ceir can yn gwawdio Assyria. Yn adnod 25 ateb Duw i falchter Assyria. Hyd yma, offeryn fu Assyria yn Ei law Ef. Gosodir bach yn ffroen Assyria, ac arweinir y balch yn ol felly. Arferai Assyria (yn ol y cerfluniau yn eu cyfnodau) osod bachau yn ffroenau eu carcharorion. Adnod 30.-Yr argoel i Hezeciah. Blwyddyn ymosodiad yr Assyriaid dinistriwyd y cynhaeaf. Erbyn y drydedd flwyddyn bydd trigolion y wlad yn gallu hau a medi fel arfer. Hynny yw, y mae'r cynhaeaf presennol wedi ei ddifa, a bydd yr Assyriaid ar ffordd yr hau a'r medi dilynol. Bydd dau gynhaeaf ar goll. Adnod 35.—Y mae ar gael gofnodion yr Aifft ac Assyria ynglyn a'r cyfnod hwn yn ei hanes. Cyfeiriwyd eisoes at ategiad yr Aifft o'r hanes hwn. Yn ol arfer concwerwyr, ni chyfeiria Assyria at ei dinistr yma. Ond y mae ar gael yn yr Amgueddfa Brydeinig (British Museum) gofnod o ymgyrch Senacherib yn erbyn Judah. Sonia Senacherib am 46 o ddinasoedd Judah wedi eu difrodi ganddo, ac am ysbail fawr o wyr a gwragedd ac anifeiliaid. Dywed hefyd iddo gloi Hezeciah yn ei ddinas fel aderyn mewn cawell.

Advertising

I RHIN yjGWABD.

I FY, NGHEFNDER -IJEUT. VAVASOR…

IMILITARIAETII YR AI,MAEN.