Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
AT EIN GOHEBWYR. ! '-'-
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Mown. Llaw.-Salem, !I-Lc)lgerryg--Galwa-dau ,Bethesda, Ton—Bbenezer, Tonypaii.(-ty--Bryn Seion, Gilfach Goeh—Bbenezer, I^anelli— Cvfarfodydd, &c.
-_........_.....__..-__-_..__..-...._…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
NODION. i Y GOLYGYDD, DYDD^Gweuer diweddafdychwelwyd Syr Garrod Thomas i'r Senedd Hwre i Syr fel Aelod dros Dde MYllWY Garrod yu lie Arglwydd Treowen Thomas, A ,S. a ddyrchafwyd yn ddiw- eddar i Dy'r Arglwydd i. Ni ddylasai fod yno fnvydr o gwbl, ac nid oedd gan ei wrthwynebydd, Mr. Pardoe Thomas, esgus hyd yn oed ar dir dirwest i daflu Syr Garrod a'r etholaeth i helynt etholiad. A dengys y ffigyrau mai dyna fam yr etholaeth Safai'r pol fel y can- 1yn :— Syr Garrod Thomas 6769 Mr. Pardoe Thomas 727 Mwyafrif 0 bob deg pieidiais rhoddwyd naw i Syr Garrod ac un i'r Hall I Mae'n amheus gennym a gafodd neb yn-y Senedd y fatli fwyafrif o'i blaid. Haedda'r marchog hygar yr ymddiried- aeth ardderchog lion. Mae'n hen law gyda Rhyddfrydiaeth y sir, ac wedi bod yn ftyddlon iddi trwy ddrycin a hindda. Mae yn Gymro twym-galon mewn iaith ac ysbryd, ac mor syml a gostyngedig a phe buasai wedi dod ddoe o Lanarth, Aber- teifi. Mae yn Ymneilltuwr egwyddorol ac yn Annibynnwr selog, ac ni thynnodd ei faner i lawr am eiliad hyd yn oed dan ymosodiadau a themtasiynau poeth. Mae yn ddirwestwr cadarn a goleuedig, ac yn ddigon gwrol hyd yn oed i brynu allan y Fasnacli os mai dyna'r unig lwybr effeithiol i sobri'r wlad. Dylasai fod yn y Senedd ers blynyddoedd, ond gwell hwyr na hwyrach. Hir oes iddo. MAE'r Athro Powei; Athro'r Gymraeg vn2 Psalmau Dafydd' Dr. Morgan. Ngholeg Caerdydd, wedi gosod pob carwr lien Cymru dan ddyled drom iddo trwy osod ar y farch- aad-dan bris llawer llai na'r gost o'i ddwyn allan-nn o'r llyfran prydferthaf, ceinaf, a mwyaf diddorol yn yr iaith. Cyfieithiad yr Esgob Morgan o Salmau Dafydd ydyw, yn yr un orgraff a llyth- yren yn hollol ag y cyhoeddwyd ef gyntaf yn 1588. Tvnnwyd Hun pob tudalen, ac yna cerfiwyd platiau sy'n cyflen'r copi gwreiddiol bob iot a Uin. Yn y llythyren flewog: bid siwr, y mae, ac mae mor glir a glan nes swyno pawb a gar y cain a'r celfydd. Ond ceir yn y gyfrol hefyd ysgrifau galluogf af manwl ar Flaen- ffrwytlian y Wasg Gymreig, 1546-1588,' yn cynnwys d.isgrifiad o'r llyfrau argraff- wyd gyntaf yn y Gymraeg un arall ar y cyfieithiad hwn o'r Salmau ac ysgrif faith a gwerthfawr ar Y Sallwyr a'r Beibl, 1588." Yn ychwanegol at hyn ceir darlun rhagorol o'r Ty Mawr, Wybrnant, lie ganwyd yr Esgob, ac efelychiadau o lawysgrif, ac o ragwyneb y Beibl a rodd- wyd ganddo i Abaty Westminster, ac o ragwyneb yr ail gyfargraff o Sallwyr 1588 yn yr Amgneddfa Brydeinig, yn dwyn enwau Morys Kyffin a Rhisiart Morysio Fon, ac amryw rannau eraill o'r Beibl a'r Sallwyr. Ffurfia'r ewbl un o'r cyfrolau harddaf a gwerthfawrocaf, ac ni bydd llyfrgell unrhyw Gymro llengar yn gyf- lawn hebddi. fr oedd ei phris cychwylinol yn 10/6, ond gellir ei chael yn awr am 2/6, a chyf- lwynir yr holl elw at gynorthwyo'r ysbytai milwrol Cymreig- Dyma'r modd a gymer yr Athro i wneud ei ran ynglyn a'r rhyfel, a phan mae y rhan honno yn dwyn i feddiant y werin lyfr mor werthfawr a phrin mae'r gymwynas yn ddeublyg. Anfoner at yr Athro i'r Hafod Wen, Penarth. CEIR ysgrifau da a diddorol dros ben yn rhifyn Go rffennaf o'r Beirmad. chwarterolyn cenedlaethol. Yn yr ysgrif ar Twm o'r Nant' gan y Parch. D. D. Williams, ceir trafodaetli ragorol ar yr Interliwd fel ffurf elfennol ar chwareugan, a beirniadaeth deg a chraff ar y cynhyrchion hyn o eiddo bardd y Nant, yughyda gwerthfawrogiad llawn o'u gwasanaeth yn hanes moes a'u lie yn hanes lien Cymru. Gesyd Syr Harry Reichel yr angen am' Ddatblygiad Addysg Ddiwinyddol' Cymru, a'r pwys o gael Diwinyddiaeth i mewn i gylch addysg ein Colegau Cenedlaethol, os am. ei datblygu yn briodol a llwyddaiiinus, ar dir anateb- adwy yn ein bryd nL Ond ofnwn mai yn yr un man yr erys yr estrysiaid er pob ymgais i'w cael o'r tywod. Ac mae David Samuel yn dilyn ar yr un llinell trwy alw ar ddiwinyddion ieuainc Cymru i wneud rhywbeth heblaw pasio'r B.D. Y gwir yw, mae'r radd wedi mynd yn ddiben, am nad yw'r symbyliad priodol i ymchwil a llafur yn cario'r efrydydd ymhellach na'i arholiad, na'r athro ymhellach na'i ym- drech 'i baratoi ei fyfyrwyr ar ei chyfer 0 resyn Ysgrifenna'r Parch. Ambrose Jones ar y bardd 'Alun' yn bur dda, ond andwyir llawer ar yr ysgrif gan yr ym- drech i wneud Eglwyswr o'r bardd, ac yna ei wneud yn ben ar holl feirdd Cymru. Un o'r ysgrifau mwyaf diddorol yn y rhifyn ydyw atgofion y Parch. O. L. Roberts am Gymrodorion Caerdydd chwarter canrif yn ol.' I Gymry Caer- dydd mae'n amheuthun, a gwnaeth O.L. gryn wasanaeth i groniclo'r ffeit-hiati difyr a gwerthfawr cyn iddynt fynd ar ddifan- coll. Mae gallu Tegla Davies i ddweyd stori yn ddigamsyniol, a stori dda yw Jac fy mrawd yn mynd i'r fyddin ond difwynir hon eto gan rhyw lacrwydd rhyfedd. Er enghraifft, ni welsom erioed bob! yn casglu eirin (plums) ar amser eira, er mai diweddar yw eu cynhaeaf. Siom i ddarllenwyr y Beirniad yw colli nodion ieithyddoljy Gol., ond arlwya saig dda, er hynny, ger ein bron. -■ -< MAE nodiadau inisol golygydd yr Outlook ar Heddwch, Rhyfel, Addvsg, The Welsh Outlook' Diwydiannal, a 'Capten Tup- per yn neilltuol graff a hapus- Ysgrifenna tair o fetched jj hefyd yn rhagorol a Sres— I Miss L. Winstanlev ar Science and the i Celtic Traditions, Miss Annie Ffoulkes ar French in Welsh Schools, a Lady Mack- worth, merch Arglwydd Rhondda, ar National Service for Women. Ceir adolyg- iad maith gan Weinidog ar lyfr H. G. Wells—' God, the invisible King,' ond mae yn fwy o grynhodeb o gyunwys y llyfr nag yw o wir adolygiad. Tipyn yn dd6f, er yn hollol iach, yw'r feirniadaeth. Ond prif ysgrif y rhifyn o ddigon yw un Mr. J. Arthur Price ar y ewestiwn Is Welsh Home Rule Coming ? Dylai'r ysgrif hon ddeffroi Cymru i'w chyfle. Mae Mr. Price j nid yn unig yn credu mewn liunan-lyw- odraeth i Cr3rmru, ond mae hefvd yn wel- edydd clir, ac yn yr ysgrif hon ncda allan gyda medr meistr y rhwystrau a'r rhag- olygon. Ceir awgrym o rediad yr ysgrif yn y dyfyniad canlynol If Welsh nation- alism allows the period after the war to pass without an effort to obtain autonomy, the supporters of the views of Lord Hugh < Cecil and Lord Milner will have a plausible argument for saying that the Welsh people themselves regard their nationalism merely as an amiable sentiment and not as a poli- tical matter. And on all Welsh questions the failure to win Welsh Home Rule must have a damaging effect.' Gwir bob gair. Mae'r Outlook i gyd yn odidog. CAWSOM hwyl a bias wrth ddarllen rhifyn | Gorifennaf o'r Dysgedydd. '¥ Dysgedydd/ Mae yn wir dda. Mae 3r s- g r i f y Parch. Emhai Davies, B.A., B.D., ar Yr Efengyl ac adnoddau y pagan yn alluog a newydd, ac arweinir ni i faes nad oes j ond yhydig ia wn wedi ei ysgrifennu arno yn Gymraeg. Dylai'r ysgrif hon roi sym- byliad cryf i sel genhadol pob eglwys a Christion gwerth yr enw. Ysgrif gref, feddylgar, ddofii, yw un y Parch. D. Lloyd, Cwmrhos, ar Y bro-ffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo.' Mae yn athron- yddol, ac mewn mannau yn anodd i'w dilyn, am fod Mr. Lloyd yn gryn dipyn o gyfrinydd, ac yn cyfansoddrn ritin, glo,s" ond mae rhyw naws lenyddol swyriol ar y cwbl ohoni sy'n ein denu i'w darllen. Diddorol dros ben yw 'Annibyniaeth sir Abertein gan Mr. Beynon Evans., Y.H., ac edrychwn ymlaen am y rhelyw. Pen- nod heb ei hysgrifennu fel y dylai yw un yr ymraniad Undodaidd oddiwrth hen eglwysi Annibynnol a Phresbyteraidd sir Aberteifi. Cymered Mr. Evans ati. Ond Myfyrdodau Maes y Tan' gan Dyfnallt a yrrodd iasau trwy ein henaid—a'n corff hefyd—nad anghofiwn hwy 3m fuan. Prof- iadau tanboeth, chwilboeth maes y gad ydynt, wedi eu hysgrifennu gan Dyfnallt yn y fan a'r lie, ac mae arogl y pylor a swyn y nef yn gymysg ynddynt. Rhag- orol, yn wir. Nid ysgrifennwyd Nodion Enwadol' erioed yn fwy byw a theg a chyflawn nag a wneir gan y Parch. E. J. Lloyd, Llandudoch. MAE rhifyn Gorffennaf o'r Cennad yn Y Cennad Hedd' rhagorol, a llongyfarchwn y Gol. ar ei lwyddiant yn agor y pyrth i ysgrifeiiwyr newydd o'r math goreu,