Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENTRELLYNCYN,lEn.-Gorffennaf 22ain, yng nghyfarfod pregethu y lie uchod, gwein- yddwyd gan y Parchn. P. Price, D.D., Rhos T. T. Phillips, B D., Bala; E. Roberts, Voelas; ac A. Garner, Rhuthyn.
v I Cymanfa Bregethu Canol…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
v Cymanfa Bregethu Canol y Rhondda. Cynhaliwyd y Gymanfa flyiiyddol lion ar y dyddiau Sadwrn, Sul a Llun, Mehefin 9fed, lofed a'r neg. Yr eglwysi perthynol i'r Gy- manfa yw Ebenezer, Tonypandy Salem, Lhvyn- ypia Saron, Trewilliain, a Bethania, Dinas. Y gwahoddedigion eleni oedd y Parchn. J. J. Williams, Treforris D. J. Lewis, B.A., Tumble D. Adams, B.A., Lerpwl; L. I. Davies, Pentre T. Llyfni Davies, M.A., Abertawe Daniel Davies, Penrhiwceibr J. W. Price, Troedyrhiw, ac Evan Jones, B.A., Porth. Methodd y Parch. D. J. Lewis, Tumble, a dod at ei gyhoeddiad, a chaf- wyd gwasanaeth gwerthfawr y Parch Ben Evans, Barry Dock, yn ei le. Nos Sadwrn, yn Ibenezer, Tonypandy, o dan lywyddiaeth y Parch. D. Overton, Dinas, cyn- haliwyd y Gyfeillach Grefyddol. TestYll: I Pedr xi. 4-10. Darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. E. Jones, B.A., Porth. Yna siaradwyd yn y drefn a galil-, ii :-Parch. J.W. Price, ar adnod 4, Parch. J. J. Williams ar adnod 5, Parch. T. Iylynfi Davies ar adnod 6, Parch. Ben Evans ar adnod 7, Parch. Daniel Davies ar adnod 8, a'r Parch. D. Adams ar adnod 9. Diweddwyd gan y Parch. T. D. Jones, Bodringallt. Cafwyd Cyfeillach o dan yr eneiniad, a phreg- ethu grymus ar hyd y Gymanfa yn yr eglwysi tnvahanol. Dilvned bendith. GOHEBYDD.
Adgofion am y diweddar Barch.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Adgofion am y diweddar Barch. David Rees, Capel Mawr, Mon. Daeth i'm rhan, fel eraill o blant y wlad, i ymadael a bro fy mebyd, ac arweiniwyd fi gan ragluniaeth dyner y nef i Ddowlais a chan fy mod yn Annibynnwr ac yn byw yn yr ymyl, naturiol oedd i mi ymaelodi yn eglwys barchus Bethania. Mae'r amser dedwydd a dreuliais yno yn aros byth yn wyrddlas, er fod yn agos i 40 mlynedd wedi myned heibio er hynny. Cefais eglwys Bethania yn gartref yng ngwir ystyr y gair—ac nid peth bach dibwys ydyw hynny i lane ieuanc dibrofiad o'r wlad. Y Parch. D. Rees oedd y gweinidog yno ar y pryd, ac ni fu ei arhosiad yno ond prin bedair blynedd, a dwy flynedd o'r pedair hynny y cefais innau y fraint werthfawr o eistedd dan ei wein- idogaeth gyfoethog. Yn ddios, anfonedig Duw oedd Mr. Rees i Ddowlais. Yr oedd yn gawr yn y pulpud, ac yn gawr hefyd allan o'r pnlpud. Clywais gewri'r sedd fawr, megis yr hen saint annwyl William Griffiths, John Evans (drdper) a David Jones, yn dweyd. na esgynnodd neb erioed i bulpud Bethania a fedrai ddarllen pennod fel y medrai Mr. Rees wneud yr oedd ei ddar- lleniad yn esboniad rhagorol ar wirioneddau'r bennod. Ac yr oedd clywed tystiolaeth dynion fel y rhai a nodwyd, a llu mawr eraill, yn creu ynof edmygedd o Mr. Rees, a buan y deuaig innau i deimlo fod eu tystiolaeth yn wir. Am ei bregethau, mae eu darlunio yn waith sydd tuhwnt i'm gallu i. Nis gall y rhai a gafodd y fraint o'i wrando byth anghofio ei bregethau ar Hanes J oseph-J oseph yn cael ei werthu gan ei frodyr—J oseph yn y carchar—J oseph yn cyf- arfod a i frodyr, ac fel yr oedd Joseph yn dangos iiiwy o ofal am ei frawd Benjamin na -r gwecldill o'i frodyr. Yr oedd ei ddull disgriiiadol mor ogoneddus nes yr oeddech yn teimlo fod yr hanes ynffaith o flaen eich llygaid ac wedi gorffen a'r hanesyddol, yna cymhwysai wirioneddau yr hanes er adeiladaeth ei wrandawyr. Cyfrind fod tua phymtheg cant o gynulleidfa yn ei wrando bob nos Sul, ac, fel y mwyafrif ohonynt, byddwn yn fy sedd banner awr cyn dechreu'r oedfa er sicrhau lie. Gallasai Mr. Rees wneud fel y mynnai a'r gynulleidfa fawr nof- ient mewn mwynhad sanctaidd tra y byddai yntau yn agoryd iddvnt drysorau bendithion yr Efengyl. Yr oedd ei weinidogaeth fel gwlith adfywiol ar etifeddiaeth Duw. Fel y crybwyllwyd yn barod, vr oedd Mr. Rees yn fawr y tuallan i'r pulpud. Yr oedd yn feddianuol ar elfen atyniadol gref. Byddai plant y dref nid yn unig yn ei adnabod", ond hefyd yn ei garu yr oedd ymddvgiad y plant tuag ato pan y byddai'n cerdded heolydd Dow- lais yn profi hyn. Yr adeg y daeth Mr. Rees i Ddowlais, yr oedd plant Cymry a Gwyddelod— llu mawr ohonynt-yn chware ar y tips ar bryn- hawn Suliau. Aeth yntau allan, gan gerdded y tips i7^hwilio am danynt, ac wedi canfod eu gilydd, hawdd oedd i Mr. Rees, Bethania, eu cael i'w ganlyn. Aeth a hwy i dai annedd ar y dechreu, ac ai athrawon o'r fam-ysgol yno i'w dysgu. Codwyd ysgoldy eang ym mhen iselaf y dref o'r enw Gellifaelog, a chonaf yn dda fy mod yno yn treio dysgu plant bach yn y wyddor. Byddai Mr. Rees yn talu ymweliadau a'r gwahauol ganghennau yn eu tro, a deuai i Gellifaelog bob amser tua'r adeg i orffen yr ysgol. Pan glywid y drws yn cael ei agor, a'r plant yn cael golwg arno, rhedent ato o bob dosbartli- rhai yn cydio yn ei law, eraill yn ei freichiau, ac eraill yn foddlon ond cael cyifwrdd ag ymyl ei wisg yn unig. Yna, ar ei orchymyn, aent i eis- tedd, a rhoddai yntau anerchiad byr iddynt. Sicr gennyf fod y plant hymiy heddyw yn hir- aethu ar ei ol, a bod ei goffadwriaeth yn fen- digedig yn eu golwg. Ond daeth yr adeg iddo ymadael. Cafodd alwad daer o'i hen faes, Capel Mawr a Hennon, Mon, i fyned yn ol atynt. Yr oeddwn yn bres- ennol y nos Sul y rhoddodd rybudd i'r eglwys o'i ymadawiad. Gallesid clywed pin yn disgyn, gan fod pawb wedi eu syrfdanu gan y newydd, a buan y gwelwyd cadachau gwynion yn sychu'r ffrydiau ddeuent o ffynnon eu teimlad. Methai Mr. Rees hefyd orffen y seiat y noson honno, gan mor ddrylliog oedd ei deimladau. Er mai byr fu ei arhosiad yn Nowlais, gadawodd argraff nid yn unig ar ei eglwys ei hun, ond hefyd ar yr holl dref oblegid nid dyn enwad oedd efe- yr oedd yn rhy fawr i gaethiwo ei hun i le mor gyfyng. Cymerai sylw o'r tlawd fel y cyfoethog. Yr oedd yn ostyngedig am ei fod yn fawr. Heddwch i'w lwch yn naear Mon a garodd mor fawr, a chyfoded Pen Mawr yr Eglwys ddynion eto fyddo'll olynwyr teilwng o'r tadau. Manchester. B. EMI,YN DAVIES.
I Meddyliwch Ddwywaith.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Meddyliwch Ddwywaith. Profiadau Merthyr Tydfil. Dygir i'n cof yr hen ddiareb dda honno— 'Meddyliwch ddwywaith a gweithredwch un- waith'—gan yr adroddiad canlynol o brofiadau dyn o Ferthyr Tydfil. Gwnaetli Mr. Rees adroddiad cyhoeddus wyth mlynedd yn ol, a'r amser presennol ail-edrydd ei dystiolaeth flaenorol gyda phwyslais adnewyddol. Ar y 23ain o Orffennaf, 1909, dywedai Mr. J. Rees, 18, Dan-y-Parc, Merthyr Tydfil: Creclaf mai annwyd a gefais oddeutu chwe mis yn ol a sefydlodd ar fy arennau, gan achosi poenau brathol ar draws fy meingefn ac o gylch fy lwynau. Yr oedd y poenau hyn fel pe y try- wenid fi a chyllell, yn enwedig ar ol plygu. Cefais hefyd gyffyrddiad o'r crydcymalau ynghydag ymosodiadau drwg o gur yu y pen.' Y feddyginiaeth a roddodd i mi fwy o rydd- had na dim oedd Doan's Backache Kidney Pills. Clywais am danynt fel ineddyginiaeth arbennig at yr arennau, a phrofais fod hynny yn hollol gywir. Rhoddasant esmwythad i mi o'r cychwyn, ac ar ol cymryd cwrs byr ohonynt yr oeddwn yn abl i blygu gyda rhwyddineb. Yr wyf wedi cadw yn holliach byth er hynny. Yr wyf bob amser yn cymeradwyo pelennau Doan, obegid yr wyf wedi profi eu gwerth. (Arwydd- wyd),J. Rees.' Ar yr 16eg 0 Chwefror, 1917-yn agos i wyth mlynedd yn dcliweddarach—dywedai Mr. Rees:- Yr wyf yn cadw yn holliach byth er pan wellhawyd fi gan belennau Doan wyth mlynedd yn ol. Diolch iddynt hwy, yr wyf yn cadw yn iach ac wrth fy ngwaith.' Teifl anmvyd a cbryndod faich trwm ar yr arennau oblegid eu bod yn cau y chwysdyllau, fel ag y mae'll rhaid i'r amhurcddau ddvlent basio trwy y croen gael eu rhoddi ymaith gan vr arennau. Annwyd, felly, yw un o'r achosion mwyaf cyffredin o anhwylderau peryglus yr arennau a'r bledren; ac y mae'n llesol cymryd cwrs o Doan's Backache Kidney Pills pan yn gwella o'r annwyd neu'r anwydwst. Cynorth- wya hyn yr arennau a'r bledren i fynd trwy y gwaith ychwanegol a deflir arnynt, ac achubir chwi rhag poen yn y cefn, crydcymalau, dyfr- glwyf, grafel, ac anhwylderau troethol poenus. Gellir eu cael gan yr holl werthwyr, neu am 2/9 y blwch oddiwrth Foster-McClellan Co., 8, Wells-street, Oxford-street, London, W. 1. Peidiwch a gofyn am belennau at ddolur y cefn neu'r arennau, ond gofynnweh yn eglur am Doan's Backache Kidney Pills, yr un fath ag a gafodd Mr. Rees. 10
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BETHEL, TONYREFAIL.-Yn ein cyfarfod- ydd pregethn eleni sicrhawyd gwasanaeth y Parchn. L. I. Davies, Pentre, ac R. M. Rhys, Ystradgynlais.
- -.- - -.-....-...... Trimsaran…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Trimsaran a'r Cylch. Gwyl Bregethu .Cynhaliodd egl yvys Sardis. Trimsaran, gyrddau'r Sulgwyn fel arfer. Y gwahoddedigion y waith hon oedd y Parchn. D. D Walters, Bryn Seioji, Castellnewydd Emlyn, a T. Morris, Senghennydd. Gwnaeth y ddau frawd eu gwasanaeth gyda chymerad- wyaeth uchel a chyffredinol. Cymanfa Cylch.-—Y11 Sardis y cynhal- iwyd hon eleni. Yn ychwanegol at eglwysi arferol y cylch, yr oedd Nazareth, Pontyates, yn gynwysedig ynddo. Mr. W. T. David, T)on- ypandy, ydoedd yr arweinydd y tro hwn, a chaf- wyd Cymanfa gaimioladwy. Elywyddwyd gan y Parchn. Robert Jones, Trimsaran D. Gorlech Jones, Pontyates, a W. C. Jenkins, Cydweli. Mr. William Evans, arweinydd y gan yn Sardis. fydd arweinydd y Gymanfa nesaf. Cynnydd Aelodaeth.—Cawd golygfa ddymunol yma ar Saboth Cymundeb yn ddiweddar, pan y rhoddodd y gweinidog, y Parch. Robert Jones, ddeheulaw cymdeithas i 28 o aelodau newyddion i'r eglwys. Nid. oes llawer er pan oedd 36 yn cael eu derbyn yr un pryd o'r blaen. Dengys hyn fod yma fywyd. A nrhegu Gweinidog.■—-Y Parch. W. J. Williams, Carway, sydd gennym mewn golwg. Mi a briodais wraig fu yn ei hanes ef yn ddiweddar. Merch ydyw Mrs. Williams i Mr. a Mrs. Bowen, Pantybredych Farm, aelodau ffyddlon gyda Mr. WTilliams yn Noddfa, Pontyates. Mae un o eglwysi Mr. Williams, sef Noddfa, eisoes wedi symud i'w anrhegu ar yr achlysur neilltuol. Roll-top desk brydferth oedd y rhodd. Gos- ododd eglwys Noddfa anrhydedd ami ei hun trwy wneud hyn. Gweinidog Newydd.—-Cyfeiriwn at ddvfodiad y Parch. R. W. Jones i Rehoboth, Pump Heol. Mae'r cyrclclau sefydlu wedi pasio yn llawn acen- ion dymunol. Gobeithio y caiff Mr. Jones wein- idogion ac eglwysi'r cylch yn gymdogion caredig. Boed i eglwysi'r cylch ddangos eu croeso a'u parch i Mr. Jones trwy ei alw i'w gwasanaethu pan ddaw cyfle. Pwysig yw gwncud i weinidog newydd deimlo'n gynnes. Mae gan eglwysi'r cylch ran i'w wneud yn hyn. Cais cyntaf, a'r unig gais, rhai eglwysi at weinidog newydd yclyw cais am arian neu am Sul rhad, Dyma gyfle i rai o eglwysi'r cylchoedd hyn i dorri dvys newydd. Y Milwyr a'r Morwyr.—Tua 50 o'r gymdog- aeth hon sydd yng ngwasanaeth y Elywodraeth. Mae gennym drysorfa anenwadol at anfon arian a pharseli iddynt. Anfonwyd yn awr barseli o werth 7/6 yr un i'r rhai sydd ar wasanaeth tramor, ac arian o'r un swm i'r rhai sydd ar wasanaeth cartrefol. Caiff y nwyddau eu prynu a'u sypynnu a'i hanfon gan y pwyllgor ei hun. Yr ydym yn selog rhag rhoddi archeb i firms. Cynhelir cyngerdd i bob un ddaw adref o'r ffrynt, a chesglir o £ 2 i £ 5 yn y cwrdd i'r cyfryw un. Ca'r gwaith hwn gefnogaeth ddigwyn.
GALWADAU. -
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GALWADAU. WBSTGATB HILL, BURNLU Y.—Diau y bydd yn dda gan gyfeiilion y Parch. J Gwerllwyn Jones, Dowlais, ddeall ei fod wedi derbyn galwad daer ac unfrydol i fod yn weinidog cynorthwyol i'r eglwys gref a pharchus uchod. Mae Mr. Jones yn bregethwr rhagorol, ac eiddunwn ei lwyddiant ya fawr yn ei gylch newydd. Dechreua ar ei weinidogaeth y Sul cyntaf yn Awst. EGLWYS TKBFGARN, SIR BENF-RO.-Clywn fod Mr. G. C. Evans, Liangennech, myfyriwr yng Ngholeg Gaerfyrddin, wedi ateb yr alwad unfrydol ddorbyniodd oddiwrth yr eglwys uchod bebh amser yn ol. Dechreua ein cyfaill ar ei waith yn fuaa, ac erfyniwn am fendith ar au llafur unol-Ilhys MYNYDD CARMEL (S), ltqyai-qi --Gwn y bydd ya dda gan liaws eyfoillion y Parch. D. Overton, Bethania, Dinas, Rhondda, ddeaU ei fod wedi derbyn galwad gynnes ac unfrydol holloi i ddyfod yn weinidog i'r eglwys Siesneg uchod. Y mae yn yr eglwys hon le rhagorol i weithio i frawd ffyddlon a chydwybodol fel Mr. Overton. Hyderir y gwel ei ffordd yn glir i ateb yr alwad yn gadarnhaol. Llwyddiant iddo.-R D J,