Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
DYFODOL ADDYSG CYMRU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYFODOL ADDYSG CYMRU. V. CYFUNDREFNAU YR ALBAN A CHYMRU. YMCHWIWAD Y DIRPRWYWYR CYMREIG. Bodola yn clra chyffredinol syniad fod yr Alban ymhell ar y blaeix mewn addysg i bob rhan arall o'r deyrnas. Dangoswyd eisoes yn yr ysgrifau hyn fod Bwrdd Canol Addysg Cymru yn Ylll- drechu effeithio gwelliantau a sicrhaent i Gymru ar derfyn y rlxyfel y maixteisioxx addysg goreu sydd yn bosibl. Er mwyn gweled a allesid man- teisio yng Nghymru ar brofiad yr Alban, penod- wyd dirprwyaeth o arweixxwyr ym myd addysg Cymru i ymweled a'r Alban er gweled drostynt eu hunain jmiha bethau y rhagora'r Alban ar Gymru yii ei chyfundrefn addysg, Pexxodwyd fel dirprwyaeth yr Hcnadur D. H. Williams (Cadeirydd Pwyllgor Gweinydclol y Bwrdd), y Prifathro Syr Harri Reichel (Coleg y Gogledd), Miss Collin (Prifathrawes Ysgol Ganolraddol Caerdydd), Mr, J. Trefor Owen (Prifathro Ysgol y Sir, Abertawe) Mr. W. Edwards (Prif Arol- ygydd Ysgolion. Canolraddol Cymru), a Mr. Vii. Hammond Robinson (Arolygydd Cynorthwyol). Ymwelodd y Ddirprwyaeth hon a'r Alban ym mis Mai, 1916. Cawsant dderbyniad cynnes gan awdurdodau Swyddfa Addysg yr Alban ymwel- sant a uifer mawr o ysgolion o bob dosbarth ymhob rhan o'r wlad gwelsant yr ysgolion yn eu gwaith beunyddiol; buont yn bresennol pan oedd yr arholiadau blynyddol yn cael eu cyxxxxal gan Arholwyr y Llywodraeth cawsant farn a phrofiad athrawon ac arholwyr. Cyflwynasant adroddiad manwl a helaeth i'r Bwrdd Canol o ffrwyth yr ymchwiliad. Dangosodd y Bwrdd Canol yntau ei awydd i sicrhau cydweithrediad calonnog y wlad cyn penderfynu pa ddiwygiadau a dylid eu gwneud yn y trefniant presennol drwy gyflwyno i y-tyfiaeth bwyllog Pwyllgorau Addysg Cymru ac Undeb Athrawon Ysgolion Canolraddol Cymru yr hyn a gymeraclwyid gan y Ddirprwyaeth, cyn mabwysiadu yr hyn a gymhellid gan y Ddirprwyaeth, 0 anghenraid, mae llawer o gynnwys yr adroddiad pwysig hwn yn gyfryw ag sydd yn gofyn gwybodaeth fanwl o dermau a chyfun- drefnau addysg i'w iawn amgyffred. Ni ellir, felly, roddi yma ond math o amlinelliad bras o'i brif bwyntiau. Diddorol yw canfod oddiwrth yr Adroddiad addysgiadol hwn nad yw Cymru mor bell ar ol yr Alban mewn addysg ag y tybir yn gyffredin. Yn wir, mewn rhai cyfeiriadau mae Cymru yn amlwg ar y blaen. Mewn cyfeiriadau eraill, pa fodd bynnag, gwelir wrth gymharu cyfundrefnau y ddwy wlad ddiffygion yng nghynllun addysg Cymru y gellir eu gwella drwy ddysgu gwers oddiwrth brofiacl yr Alban. Daeth cyfnewidiad mawr dros anigylchiadau addysg yr Alban yn y flwyddyn 1889'. Hyd y cyfnod hwnnw ceid yn anil ddisgyblion yn mynd yn uniongyrchol o Ysgolion Klfemiol yr Alban i'r Brifysgol. Pa beth a ddywedid yng Nghymru pe y gwelid ieuenctyd ein hardaloedd gwledig, na chawsant awr erioed o ysgol ond a gawsant yn ysgol ddyddiol y pentref, yn myned ar eu hunion o honno i un o Golegau Prifysgol Cymru ? Gwir y gwneir hyd yn oed hynny ambell dro yn ein dyddiau ui. Gwnaed hynny yn ami yn y dyddiau gynt. Y pryd hwiinw ceid. mewn ami i ysgol wledig yng Nghymru athrawon oeddent yn raddedigion Prifysgolion Lloegr, a chan na chyfyngid ar eu rhyddid gan Code y Swyddfa Addysg, na chan Swyddogaeth ben-arglwydd- iaethol o'r tuallan i'r ysgol, galluogid hwynt i baratoi bechgyn cymwys i sefyll arholiadau y gwaherddir hwynt heddyw i.ymgeisio ynddynt. Yn nechreu y ganrif o'r blaen, er enghraifft, nid anaml y ceid ysgolion bychain yn yr ardaloedd gwledig yn cyfrannu nid yn unig addysg elfennol da, ond yn troi allan hefyd ysgolorion clasurol gymharent a'r goreuon a ddont allan heddyw o'n Hysgolioii, Canolraddol. Gwnaeth Brad y Llyfrau Gleision tua 70 mlynedd vn ol gam dybryd a Chymru, Ymddengys mai tra isel oedd safon addysg Prifysgol yn yr Alban cyn 1889. Eithr nid yw hynny'n milwrio yn erbyn y ffaith bwysig fod Ysgolion Elfennol yr Alban yn cyfrannu Addysg Ganolraddol dda i'r sawl a ddyniunent fwynhau y cyfryw fanteision. Yn wir, parheir i wneud hynny hyd y dydd heddyw luewn nifer mawr o ysgolion. Mae'r Awdurdodau Lleol. wedi ych- wanegu at gyfleusterau a nifer a chymwysterau athrawon Ysgolion Elfennol yn fwriadol gyda'r amcan o alluogi'r Ysgol Elfennol mewn llawer lie i roi Addysg Ganolraddol. Puin mlynedd yw parhad cwrs llawn o Addysg Ganolraddol. O'r holl ysgolion yn yr Alban sydd yn cymryd. y cwrs llawn hwn ceir mwy na'r haniier yn gy- sylltiedig ag Ysgloion Elfennol; hynny yw, ceir dosbarthiadau yn yr Ysgolion Elfennol yn cymryd cwrs llawn o Addysg Ganolraddol. Cefnogir hyn gan Swyddfa Addysg yr Alban, yr hon sy'n cymell ychwaneg o Ysgolion Elfen- nol i roddi Addysg Ganolraddol, yn enwedig mewn arclaloedd lie nad oes Ysgol Ganolraddol yn gyfleus. Mae Pwyllgorau Addysg siroedd yr Alban hefyd yn estyn cymhellion arbennig i blant yr Ysgolion Elfennol i gymryd cwrs o Addysg Ganolraddol. | Cyxxorthwyir y disgyblion mwyaf addawol yn Y sgohon Elfennol yr ardaloedd gwledig i ddwyn treuliau teithio, bwyd a llety i Ysgolion Canolraddol y heft. Gwerrir £ 130,000 y flwyddyn i'r amcan hwn yn unig. Yng N ghymru nid yw'r holl swm a delir mewn arian ysgol yn unig yn yr Ysgolion Canol- raddol gan rieni, gan Bwyllgorau Lleol, gan Awdurdod Addysg y sir, gan bawb, ond tua £ 76,000 y flwyddyn. Cyniharer hyn a'r £ 130,000 a delir yn yr Alban am bursaries yn unig, a ch,eir syniad gwell am fantais yr Albanwr ieuanc pan gystadla yn y byd a'r Cymro icuanc, Ymddengys cyfundrefn yr Alban yn fwy ystwytli, yn rhwyddach i'w chyfaddasn i anghen- ion lleol, nag yw cyfundrefn Cymru. Nid yn unig ceir yno fwy o nifer o wahanol fathau o ysgolion, ond nid yw'r llinell terfyn rhwng y naill ysgol a'r llall mor anhyblyg ag ydyw yng Nghymru. Y canlyniad yw fod nifer mawr o'r t yw fod iiifer mawr o'r ysgolion yn yr Alban yn gwneud gwaith mwy nag un math o ysgol. Ceir yno bum gradd gwahanol o ysgolion, gan ddechreu yn yr Ysgol Elfem101 isaf, a diweddu yn yr Ysgol Ganol raddol uchaf. Ceir hefyd, yn ami, Ysgol Gyfan- I sawdd, gyda Dosbarth Babanod yn isaf, a Dos- barth Myfyrwyr ar gyfer y Coleg yn uchaf, a'r dosbarthiadau arferol ,eraill yn y canol rhwng y ddau—a'r holl (Iclcsbarthiadau yn yr un ysgol o dan ofal ac arolygiaeth yr un prifathro Prin y mynnai Cymru fabwysiadu cyfundrefn felly eto geill drwy foddion eraill ymgyrraedd at yr un nod ag sydd gan yr Alban, sef gosod manteision Addysg Ganolraddol o fewn cyr- raedd pob plentyn yn y Dywysogaeth a fj^nno fanteisio ar hynny. Dyna yw un o egwyddor- ion sylfaenol y diwygiadau a gyn-ihellir gan Fwrdd Canol Addysg Cymru, fel y dangoswyd eisoes yn yr ysgrifau hyn. Yn yr Alban, gan nad pa mor dlawd fo plentyn, gan nad pa mor anghysbell fo ei gartref, gofala Awdurdodaxx Addysg y sir ei fod yn cael manteision Addysg Elfennol a Chanolracldol o fewn ei gyrraedd. Rhoddir bursaries lluosog en nifer a digonol eu swm yn hael i ddisgyblion cymwys. Hyd yn oed lie na ellir manteisio ar y bursaries hyn, gyrrir athrawon cymwys gan yr Awdurdodau Addysg i letya dros y gaeaf yn yr ardaloedd anghysbell, pan na ellir tramwy y llwybrau mynyddig i'r ac o'r ysgol. Ceir athrawon felly yn myned i dai y plant, gan roi gwersi iddynt yn eu cartref. Mewn gair, ni ystyrrir yr un ymdrech yn rhy fawr, yr un draul yn orxnod, yr un cynllun yn rhy ddieithr gan Awdurdodau Addysg yr Alban er xnw vn dwyn addysg effeith- iol-Elfennol, Canolraddol, Galwedigaethol a Chelfyddydol-o fewn cyrraedd pob plentyxx drwy'r holl wlad. Dyna hefyd yr ysbrycl y rhaid i Gymru ei feithrin a'i weithio allan, gan nad pa mor wahanol y geill cynllun Cymru fod oddiwrth eiddo'r Alban. Ffaith nodweddiadol arall hollol gyson a'r egwyddor o Yxxxreolaeth ac Unoliaeth Cenedl- aethol inewn addysg a gymhellir gan Fwrdd Canol Addysg Cymru yw fod yn yr Alban yr holl ysgolion o fewxx xuirhyw ranbarth, o ba ddosbarth byxxnag y boxxt, a chan nad pa mor wahanol i'w gilydd y bo eu cwrs addysg, yn cael eu harholi gan yr un arholwr swyddogol o dan y Etywodraeth. Yn y cysylltiad hwn, hefyd, gelllr nodi fod yna gysylltiad agosach rhwng yr athraw a'r arholwr nag a welir yng Nghymrxx ynglýn a phexxderfyxiu dedfryd pob I disgybl mewn arholiad. Noda'r athraw yn yr ysgol, a'r arholwr o dan y Llywodraeth, bob un ei ddyfarniad am safle pob disgybl yn yr arhol- iad. Os bydd y lie a roddir i unrhyw ddisgybl gan y naill yn wahanol iawll i'r hyn a dybia'r llall a ddylai gael, cydymgynghora yr athraw a'r arholwr cyn y penderfynir tynged y disgybl. Dug hyn yr athraw a'r arholwr i gyffyrddlacl agosach a mwy cyfeillgar a'i gilydd, ac yn raddol daw safon beirniadaeth y ddau am waith yr ysgolion yn fwy tebyg y naill i'r llall. Caria, hyn ddylanwad d)-iiiiiiiol iawn, ar waith yr arholiadau oil. Y perygl mawr yn yr Alban yw rhoi gorxxxod o le i arholiadau. Ceir ysgol- ion unigol lie y cymliellir deg, tri ar ddeg, ac hyd yn oed ugain o arholiadau gwahanol gan arholwyr gwahanol yn yr un ysgol o fewn corff yr un flwyddyn. Ar y pwnc hwn dywed y Dirprwywyr Cymreig Mae cyixllun Bwrdd Canol Addysg Cyj-iirii. o arholi, a'r adroddiadau manwl a geir am bob arholiad, yn rhoi gwell syxxiad am fywyd mewnol yr ysgol, ac yn fwy o gynhorthwy i'r athraw i ymgeisio at gyrraedd yr amcanion addysgol rhagoraf.' Llwyddodd yr Alban He methodd Cymru i gael gan Brifysgol Dlundain i gydxxabod tyst- ysgrif y Bwrdd Canol fel yn gyfwerth ag eiddo'r Brifysgol. Cydnebydd awdurdodaxx eraill dyst- ysgrifau'r Bwrdd Canol at amcanion cyfieiyb. a methwn a gweled paham y gwrthcdir gan Brif- ysgol Dlnndain roddi i Gymru yr hyn a gan- iateir ganddi i'r Alban. Saif Cymru ar y blaen i'r Alban yn y lie a roddir yng nghvfxxndrefn addysg i iaith y car- tref. Y Gaeleg yw iaith frodorol yr Alban, a thelir sylw cynhydclol iddi yng llghyfundrefn addysg. Ceir yno, fel yng Nghymru, fod defn- yddio ac astudio'r iaith frodorol yn agor y deall ac yn awchlynxu a chyfoethog i'r meddwl. Ymdrinir yn helaethach ar le yr iaith Gym- raeg yn addysg Cymru yn. yr ysgrif nesafyr- olaf o'r gyfres bresennol.
I Ebenezer, Tonypandy.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Ebenezer, Tonypandy. Dadorchuddio Gofiech i'r Diweddar TVeinid,og. Prynhawn dydd Sul, Mehefin 17eg, cynhaliwyd cyf- arfod arbennig gan yr eglwys uchod i ddadorchuddio coflech (tablet) fel arwydd o'i pbarch i goffadwriaeth ei diweddar weinidog, y Parch, Evan Richards. Yn bur fuan wedi ei farwolaeth, teimlodd yr eglwys y dylasai wneud rhywbeth fyddai yn arosol i goffadwr- iaethu y gwr fu yn ei gwasanaethu mor ffyddlawn ac egnyol am gynifer o flynyddoedd. Wedi bod yn ym- gynghori am ychydig, penderfynodd yr eglwys ddewis pwyiigor i wneud ymchwiliad pellach a, manylach ynglyn a'r mater, a chyflwyno ffrwyth ei farn drachefn i'r eglwys. Swyddogion y pwyllgor IIWD oedd y y Cynghorwr Tom Owen, cadeirydd; Mr. James Williams, sanitary inspector, ysgrifennydd; a Mrs; John Lewis, draper, trysoryddes. Penderfynodd y pwyllgor yn unfrydol i osod i fyny goflech ar fur y capel i goffadwriaethu am y gwr annwyl fu yn arwein- ydd i'r eglwys am gyfnod mor faith, a chymeradwy- odd yrho11 aelodau y syniad hapus yn galonnog. Y Sul a ennwyd ymgasglodd nifer Inosog ynghyd o'r aelodau a'r gwrandawyr i'r cwrdd neilltuol hwn. Yr oedd hwn yn gwrdd cyfyngedig i eglwys a gwrandawyr Ebenezer. Llywydd y cyfarfod oedd Mr. Evan Williams, ysgrifennydd yr eglwys, a diacon am dros 28 o flynyddoedd. Wedi darllen rhannau o'r Ysgrythyr, a ohael arweiniad mewn gweddi gan Mr. Richard Jenkins, diacon o'r eglwys, a chael ychydig o eiriau eglurhaol ar am can y cyfarfod gaD y Llywydd, galwodd ar Mr. James Lane, y diacon hynaf, yr hwn sydd erbyn hyn dros ei bedwar ugaiu oed, i dynnu ymaith y gorcbudd oddiar y gofiech a chyda symledd naturiol, addas i'r amgylchiad, dadorchuddiodd y goflech, yr hon a fawr hoffid gan y gynulleidfa. Yr arysgrif ami yw y canlynol' Er serchus gofEadwriaeth am y Parch. Evan Richards, yr hwn fu yn weinidog ar yr eglwys hon am 33 o flynyddoedd (1883 hyd 1916). Hunodd yn yr lesu Chwofror lleg, 1916, yn 62 oed. Claddwyd ef ym mynwent Carmel, Pembre, Chwefror 17eg, 19.IC? Yr oedd yn bregethwr hyawdl, yn fugail gofalus, yn ddirwestwr selog, yn wleidyddwr goleuedig, yn ysgol- haig gwych, yn meddu argyhoeddiadau dyfnion a chydymdeimlad tyner, ac yn was da a ffyddlawn vng ngwinllan ei Arglwydd. Gosodwyd y gof-daflen hon, a mabwysiitdwyd Llestri Cymundeb Unigol gan yr eglwys, fel teyrnged o barch i'w goffadwriaeth. Efe oedd gannwyll yn llosgi ac yn goleuo." Yr oedd y Llestri Cymundeb Unigol, fel y darllenir ar yr arysgrifen, yn ffurfio rhan o'r hyn oedd i fod yn goffadwriaetlx gan yr eglwys. Mabwysiadwyd y llestri am y waith gyutaf ar Sul y Cymundeb, Mai 27aiu, pryd y cafwyd gwasanaeth y Parch. J. Walters, Gosen, Blaenclydach. Wedi seremoni y dadorchuddio, cafwyd anerchiadau ar ran y diaconiaid gan y Llywydd, aMri. James Williams a D. G. Williams, ac ar ran yr aelodau gan Afri. Tom Owen, Llew. Evnns, a William Jones. Talodd yr oil ohbnynt y warogaeth uchaf i werth cymeriad a gweinidogaeth nerthol a llwyddiannus ein diweddar annwyl weinidog, Dywedodd ysgrifennydd y mudiad, Mr. James Williams, fod casglu ar yr achlysur hwn wedi bod yn waith eithriadol hapus, am fod gan y bobl gaJon i roi, a bod y parodrwydd i gyf- rannu yn amlygu fod Mr. Richards wedi cael lie dwfn yn eu ealonnau, a'ii lioffter yn parbau yn fawr at ei goffadwriaeth. Rhoddodd hefyd gymeradwyaeth uchel i'r cerfiwr, Mr. J. Nest Jones, am y modd deheig yr oedd wedi cyflawni ei waith yngJýn a'r goflech. Yn ystod y cyfarfod, canwyd unawdau gan Miss Flook a Mr. James Morgan, deuawd gan Miss Sarah a Maggie Davies, a chwareuwyd amryw ddarnau gan Mr. W. T. David ar yr organ. Gorffennwyd y gwasanaeth prudd, ond hyfryd a diddorol hwn, trwy weddi gan Mr. Isaac Jones, diacon. JAMES WILLIAMS, Ysg.