Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PENNOD 0 GOFIANT (GYDA DARI,UN) YNGHYDA PHRYDDEST GOFFA (FUDDUGOI,) I'R DIWEDDAR Batoh. JOHN REES, Cwmllynfell, CAN EI or. YNVDD, Y PARCH. D. JEREMY JONES. PRIS 4C.; TRWY'R POST 6C. I'w gael oddiwrth Mr. J. Rees, Tegfan, Cwmllynfell; wett oddiwrth yr Awdur. Y Drysorfa Gynorthwyol. Taer erfynnlr ar eglwysi a phersonau unigol i wneud pob ymdrech i dalu EU CYFRANIAD BLYNYDDOL at y symudiad uchod o hyn i I DDIWEDD MIS AWST. Gellir gwneud hynny trwy Drysorydd Cyfundebol y symudiad, neu yn uniongyrchol i'r Trysorydd Cyffredinol- Mr. T. DAVIES, 56, St. Quintin Avenue, London, W. 10. Newid Cyfeiriad. MAE'R Parch. O. Evans, D.D., wedi symud JjLL o io, Prince's Avenue, i 46, Mulgrave- street, Liverpool, S.
AT EIN GOHEBWYR. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Hen Ffarmwr.—•Yniddengys pan anfonwch i ni eich enw priodol, ond nid heb hynny. Dyna ein rheol. Mary ,K illcat.- Y sgrifenn wch eich enw priodol ar fater mor gysegredig. Mewn Llaw.—-Cyfarfod Chwarterol Cyfundeb Dwyreiniol Caerfyrddin-Talysarn, Arfon- Abercrave—D. Arthen Evans-Bethesda, Ton- Cyfarfodydd, &c,
GOLEU YN Y CWMWL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GOLEU YN Y CWMWL. GWNAETH araith fawr y Prifweinidog nos Sadwrn diweddaf lawn cymaint o les i ni gartref ag a wnaeth i'r Belgiaid digartref oedd yn ei gnvraiido, ac efallai i'r gelyn dichellddrwg hefyd oedd yn clustfeinio am dani yr ochr arall i'r mur. Ei hamcan cyntaf, yn ddiau, oedd ateb truth ym- ffrostgar a chyfrwys Canghellor newydd Germani ychydig ddyddiau cynt, ac yr oedd y dadleniad yn feistrolgar a didru- garedd. Yr oedd 11awer ohonom mewn cryn benbleth ynghylcb, gwir amcan yr araith honno, oblegid cymeradwyid hi gan yr Iwnkeriaid rheibus yr un mor wresog a chan y Sosialwyr dot sy'n dyheu am heddwch. Ond prof odd y Prifweinidog yn bur rhwydd mai brdl dyn ar ben y clawdd ydoedd, yn aros hyd nes gwelai ar ba ochr i ddisgyn. Os llwydda'r Ger- man ar y maes, yna daw Michaelis allan yn ei liw ei hun fel Iwnker digymysg, gan yrru'r werin i'w tyllau fel cwningod ag ergyd dryll. Ond os try ffawd yn ei erbyn, yna ceisia foddloni'r bobl a. sham o ddiw- ygiadan a gwelliantau, gan gadw'r drws yn agored i'r Caiser a'i dylwyth gwaedlyd ddod i'w llawn awdurdod wedi i'r ga vvod basio. Iwnker yn chware Shon-bob-ochr am ennyd yw Dr. Michaelis. Y gwir yw, mae tangnefeddwyr a gwerinwyr Germani wedi eu concro unwaith eto, a busnes Michaelis yw ceisio'u dallu i'r ffaith, gan eu perswadio eu bod wedi ennill. Bydd yn fwy anodd iddo "wneud hyn ar ol araith y Prifweinidog, os caiff y werin druan gyfle i'w darllen. Dangosodd y Prifweinidog fod yr araith mor gadarn ag erioed ar wir amcanion I Germani, sef cadw'r Caiser yn unbennaeth gormesol, gwaseiddio Belgium i'w diben- ion ei hun, a dal i fygwth rhyddid a bod- olaeth pob gwlad werinol a'i grym arfau a'i rhaib anniwall am awdurdod. Gan hynny, er fod Hollweg wedi mynd, a'i scrap o bapur gydag ef, mae'r gwr sy'n eistedd yn ei gadair yn llawn mor anghy- modlawn ag yntau, ac yn llawer mwy hydwyth fel twl yr Iwnkeriaid. Nid oes felly obaith am heddwch rhesymol o'i gyf- eiriad ef, hyd nes gorfodir ef i'w roi. Drwg gennym ni, a phawb o'n darllenwyr yn ddiau, mai i hyn y daeth y tipyn cynnwrf am ddemocratiaeth a heddwch ymhlith gwerin Germani, ond ofer yw cau'r llygaid i'r ffaith eu bod ar y foment wedi eu llorio'n lan gan y gethern drahaus sy'n eu gyrru a'u chwipio fel caethion. Y cwestiwn yn awr yw: A ydyw seiliau gobaith Canghellor Germani yn gywir a chadarn, ac a lwydda yn y game beryglus a gwaedlyd y mae yn ei chware ? Ac yn y fan yma y mae araith y Prifweinidog yn galonogol i Brydain a'i ffrindiau. Rhaid addef fod ton fostfawr Germani fel pe yn cael sail gref yn y tryblith sydd wedi dal Rwsia. Mae gwrthryfel ac anufudd-dod herfeiddiol ei milwyr, ac yn arbennig encil sydyn a dinistriol y fyddin ar ol ei buddug- oliaeth ogoneddus yr wythnosau blaenorol, a chyflwr cyffrous rhan enfawr o'r werin, ac ymdrechion diflino bradwyr cyflogedig y gelyn, i'w sbardynnu i anarchiaeth, yn siom sobr i'r wlad hon a'r Unolwyr. Ac mae methiant ymddangosiadol ein bydd- inoedd ninnau i daro yr un pryd a'r Rws- iaid yn dwyshau'r siom, ac yn rhoi cyfle i'r gelyn gyfuno ei ymosodiad ar Rwsia. O'r hyn lleiaf, yr oedd yn amlwg fod llwyddiant arfau Germani yn y dwyrain wedi rhoi grym ym mynydd Michaelis. Ond ymddangosai'r Prifweinidog yn ber- ffaith hyderus er hyn oil, a datganodd ei lawn ymddiriedaeth yn Kerensky, Prif- weinidog newydd Rwsia, i ddwyn y wlad anffodus honno. allan o'i thrybini, ac i'w harwain yn ol i wynebu'r gelyn yn wrol a llwyddiannus. Hyderwn ei fod yn dweyd y gwir, ond ofnwn mai o'r cyf- eiriad hwn y daw gwendid a pherygl mwvaf yr Unolwyr y dyddiau hyn. Pan ddaeth at ymfErost Germani ynglyn a'r suddlongau, yr oedd ymadroddion y Prifweinidog yn foddhaol iawn. Gwnaed y gelyn ei waethaf i'r cyfeiriad hwn, ni lwydda in dwyn i unrhyw wasgfa ddif- rifol, ac mae angen a newyn allan o'r cwestiwn bellach. Yr ydym yn adeiladu llongau ar raddfa mor eang, ac yn llwyddo mor rhagorol i ddifrodi suddlongau'r gelyn,. fel y mae pob gobaith iddo ein darostwng y ffordd lion wedi pasio. Ac mae'r modd y dadlennodd wag hyder Germani ynglyn ag America yn effeitliiol dros ben. Tybia'r gelyn nad all yr Iancwys godi na pharatoi byddin a fydd o fawr help i ni cyn i ddinistr ddod ar ein gwarthaf ac hyd yn oed pe llwyddent, nad oes gennym ni ac America ddigon o longau i'w dwyn drosodd aci gludo ymborth a chadnwyddau iddvnt. Mae hyder y Prifweinidog ar y pen hwn yn wir galonogiad i ni, canys gwyr ef sut y saif pethau ganmil yn well na'r gelyn, ac yr oedd ei wawd o Michaelis yn twyllo ei hun ar y pen hwn yn dra boddhaol. Llawer camgyfrif sy'n hanes y gelyn, ond nid oes yr un, medd y Prifweinidog, yn ei holl stori gwaeth na hwn. Eithr wedi'r cyfan, prif bwynt yr araith oedd ei waith yn dal i ddweyd wrth Ger- mani na byddai fawr rwystr ar ffordd heddwch, pe gellid trafod y mater a gwerin y wlad, trwy lywodraeth gynrychioliadol o'r bobl, am y byddai llywodraeth werinol ynddi ei hun yn wystl ac yn warantiad o heddwch. Ond nid felly'r llywodraeth bresennol, sydd a'i holl awdurdod yn canoli yn y Caiser, ac yn sylfaenedig ar ddim ond grym arfau a thrais filwrol. Pa faint o gysur sydd yn hyn a ddibynna, bid siwr, ar y modd y derbynia'r gelyn ef. Ar hyn o bryd ofnwn nad oes fawr obaith iddo ei groesawu, yn enwedig gan nad yw'r Unolwyr yn llwyddo ar y maes i wneud dim amgen na chadw'u tir-a phrin hynny yn wir. Ond tybed na ddaw tro ar fyd yn fuan gyda'n holl arllwys arian ac adnoddau a dynion i'r ornest ofnadwv ? A thybed hefyd na welir Prydain cyn hir yn sobri ac yn troi at Dduw yn ei chyf- yngder, gan geisio ymwared, a therfyn effeithiol ar y difrod. a'r llanastr i gyd ? Yna, fe gofia gwerin Germani fod drws (lihangfa yn agored iddi trwy daflu ymaith iau'r gormeswyr gwallgof sy'n ei gyrru ar garlam i'w dinistr. Yr oedd argoel o hyn bythefnos yn ol; ac er fod eclipse wedi digwydd, efallai y daw'r haul i oleuo eto. cyn hir yn fwy llachar nag erioed. Ar hyn o bryd dywedwl1 yn ddibetrus mai ein dyledswydd fel gwlad yw cefnogi a chynorthwyo'r L/lywodraeth. A dy- wedwn hyn er nad ydym yn ddall i'w diffygion a'i chamweddau mawr a lluosog. Yn ystod yr wythnosau diweddaf mae ei gwendid a'i gwamalwch ynglyn a helynt gwarthus Mesopotamia, ei hymostyngiad cywilyddus i fragwyr a thafarnwyr, ei meddalwch truenns ynglyn a chribddeil- wyr ac ysbeilwyr cyhoeddus, ei methiant i ymyrryd mewn pryd ynglyn a'r Iwerddon, a'i chardod anonest i ffermwyr a thir- lwyddi sydd wedi pluo'r wlad yn anystyr- iol ar hyd y rhyfel, a llu o feiau eraill, wedi gosod treth drom ar deyrngarwch llawer o'i chyfeillion, a chyfrifwn ein hunain yn eu mysg. Er hynny ni phetruswn ddweyd nad oes obaith am well Llywodraeth ar hyn o bryd, ac fod etholiad allan o'r cwestiwn, a'i bod yn amhosibl cario ymlaen ryfel mor anferth a hon heb ddisgyn i amryfusedd a chamwedd yn ami, ac felly ein lie yw ei chalonogi a'i helpu, a dilyn y pelydr hyd nes y daw'r wawr a'r dydd.