Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. GAN EYNON. Er pan ysgrifennais o'r blaen y mae wedi bod yn dywydd mawr ym Mabilon. Pan yn hwylio y prynliawu Sadwrn cyn y diweddaf tua Llan- deilo, gan feddwl treulio Sul dedwydd yng nghwmni fy nhad-yn-Nuw, arglwydd esgob y Tabernacl, a'r patriarch bytholwyrdd o Gastell- newydd Emlyn, dyma gryn haid o adar y fell- tith o Germani yn hofran uwch ein pennau ac yn gwlawio eu bombs arnom, fel y btt raid troi yn ol o ganol y ddinas gan faint y cyffro a'r galaiias. Profiad go annymunol yw clywed y bombs yn ffrwydro, a gweled, tai cryfion yn cael eu chwalu yn yfflon o fewn ychydig latheni. Lladdwyd llawer, clwyfwyd mwy. Ac eto, ymhen rhyw bum munud ar ol i'r cigfrain mil- einig hyn gilio, yr oedd yr heolydd yn fyw o bobl, a'r panic wedi mynd heibio. Y gwir yw, fod y wlad lion yn llawn o spies, ac yr oedd rhywun wedi anfon gair i'r Ellmyn fod y maes yn rhydd am fod y squadron oedd yn arfer amddiffyii Llundain wedi myned am dro i Ffrainc. Daliodd yntau ar y fantais, ac yna dyma'r gawod dan yn disgyn arnom. Trugaredd fawr ein bod yn fyw Cefais feny Sul yn rhydd ffwrdd a mi i'r City Temple i glywed Dr. Fort Newton (D. Litt.) yn pregethu. Darllenais rai o'i bregethau o'r blaen. Ond nid yw pawb yn disgleirio 'mewn preint.' Ar ol y cyffro mawr dydd Sadwrn, nid oedd yr addoldai mor llawn ag arfer, ond yr oedd cynhulliad campus yn y Temple. Yn nydd- iau Parker yr oedd y lie bob amser yn llawn o wal i wal. Felly hefyd yn nyddiau boreuaf Campbell. Diau fod y deml enwog yn rhyw hanner llawn neu fwy y Sul hwnnw. Canu braf —aelodau'r cor, fel yn nyddiau Campbell, oil mewn uniforms. Maes o law dacw'r gweinidog newydd yn y pulpud. Gwallt du fel y fran ganddo, llais hyglyw, braidd yn oer, ond heb fawr twang. Nid mor rhwydd ei ddeall ar y cychwyn, ond ar y cyfan yn bur eglur ei ymad- rodd. Darllen rhag blaen, heb fawr pwyslais. Ambell i ymadrodd eglurhaol yn awr ac yn y man, yn ol ffasiwn Spurgeon a Macneill, ond fod y ddau hynny yn llawer mwy byw. Pan ddaeth y weddi, anodd oedd anghofio gweddiau arddunol Joseph Parker. Yr oedd gweddi Parker yn ami yn cuddio'r bregeth fel y mae'r dyfroedd yn toi y mor. Yna cafwyd y bregeth. Pregeth blaen, useful dros ben. Traddodwyd degau yn wellna hi yii Llundain ac yn y wlad y boreu hwnnw. Nid oedd ynddi ddim nonsense, dim rhibanau na blodau. Yr oedd yn amlwg fod y pregethwr yn gyfarwydd a'r papur newydd ac a llenydd- iaeth grefyddol yr amseroedd. Ond am athry- lith pregethu-dim gronyn Yn onest, dyma un o'r odfeuon mwyaf tame i mi ers llawer dydd. Mewn cyferbyniad, yr oedd gwrando ar Camp- bell Morgan ac ar Thomas Charles Williams yn Westminster dro yn ol yn wledd o basgedigion. Mae'n ddigon amlwg nad yw ein brawd o'r City Temple yn myned i roddi'r Thames ar dan. Synnwyd pawb y bore o'r blaen gan y newydd sydyn fod merch ieuanc o'r enw May Rowden i fod yn gyd-weinidoges yn y City Temple o hyn allan. Nid yw Dr. Fort Newton, fel ei rag- flaenoriaid ac fel degau eraill ym Mabilon, yn gallu pregethu dair gwaith yn yr wythnos, ac felly, bob nos Sul hyd yma, rhyw wr dieithr fyddai yn pregethu. Nid oes eisiau proffwyd craff iawn i weled yn eglur ddigon beth fydd y diwedd. 6 Gwnaeth yr nen gawr enwog ur. Meyer waith ardderchog yn ddiweddar ynglyn a'r achos yn Westminster Bridge Road. Pan adawodd Dr. Len Broughton yr eglwys hon ychydig amser yn ol, gadawodd filoedd o ddyled ar yr achos —nid pell o ddeg mil o bunnau. O'r America y daeth Dr. Len. Broughton, ac i'r America yr aeth yn ei ol; ond Dr. Meyer dalodd y ddyled anferth drwy help ei ddylanwad per- sonol a'i ddyfalbarhad di-ildio. Mae'n deg dweyd peth fel hyn er mwyn symud yr heresi wirion fod yn rhaid myned i'r America er mwyn cyrraedd y pinac1 t Am Dr. Campbell Morgan, y mae'r rhyfel wedi dyrysu ei gynlluniau braidd. Nid oes ganddo fwriad myned i Melbourne yn ol yr arafeth ar hyn o bryd. Mae'r Y.M.C.A. wedi ei sicrhau i fod yn arweinydd mudiad efengylaidd newydd yn Mildmay. Bydd. yno bregethu, wrth gwrs, oncf fe fydd yno hefyd Ysgol Feiblaidd ac y mae'n ddigon sicr, ond cael Dr. Morgan wrth y llyw, y bydd mynd ami. Da gennym oil fod y pregethwr ardderchog hwn yn aros yn yr hen wlad. Rhaid aros rhyw hanner blwyddyn arall cyn y daw Jowett. Da yw gweled fod ein hen gyfaill, Pedr Williams, eto yn llanw ein prif bulpudau. Yfory, efe fydd ym mhulpud Dr. Meyer. Dyna sydd yn cynhyrfu'r byd mawr politic- aidd ar hyn o bryd yw adgyfodiad Churchill. Nid oes neb yn ameu ei allu fel ysgrifennydd nac fel areithydd. Fel y Churchills oil, y mae ynddo ddigon o dalent, ond nid ydys mor I ni(I ydys mor hyderus ynghylch cywirdeb ei farn. Efe sydd yn cael llawer o'r bai am y golled fawr yn Antwerp a'r trychineb yn Gallipoli. Gan mai efe y troion hyn oedd yn Brif Arglwydd y Mor- lys, efe oedd yn gyfrifol. Ac am y rheswm hwnnw y mae llawer wedi colli ymddiried ynddo. Ond efallai mai pechod mawr Churchill yngolwg llawer ydoedd cefnu ar Doriaeth a chroesi llawr y Ty at y Rhvddfrydwyr. Y canlyniad yw fod y Torlaid penboeth yn ymosod, a'u penaethiaid yn ymgynghori ynghyd. Yr wythnos nesaf byddant yn dweyd eu hanes wrtho, ac yn cablu Lloyd George yn enw eu holl dduwiau am feiddio agor y drws iddo fel Minister of Munitions. Efe o hyn allan fydd yn gofalu am y cadnwyddau a chan fod ynddo ddigon o go ahead, mae'n sicr na adewir i'r adran hon o'r gwaith gysgu 11a hepian. Un o ryfeddodau'r cyfwng hwn yw fod pob plaid yn cydnabod Lloyd George fel capten y llong. Efe sydd wrth y llyw, ac nid oes son am enw yr un arall i'w gystadlu ag ef. Mae Arglwydd Rhondda yn cydio fel cawr yn ei job yntau fel Ceidwad y Bwyd. Sonnir yn awr y daw y dorth swllt yn dorth naw ceiniog cyn hir. Mae'r tatws i lawr eisoes, a'r cigydd a'r farmer rhyngddynt wedi cael rhybuddion fod dau swllt y pwys am beef yn golygu fod anonest- rwydd yn rhywle. 0 hyn allan penodir pris ar ben y creadur byw, a phenodir profit rhesymol i'r cigydd. Yna daw y prynwr i'r farchnad, nid i'w flingo fel yn bresennol, ond i fasnachu ar dir gonest a theg. Mae'n waradwyddns fod bwyd y werin wedi syrthio mor gyfangwbl ac aros mor hir yn nwylaw y profiteers. Mae araith Lloyd George prynhawn ddoe wedi clirio'r awyr yn bur elTeithiol. Un nodwedd ardderchog yn areithiau'r Prifweinidog yw eu bod yn llawn ffydd. Nid oes fawr o'r cywair lleddf ynddynt. Utgorn. ydynt yn galw i ryfel yn erbyn y Satanwaith pennaf welodd y byd er y gyflafan fawr ar Galfaria fryn. Nid yw Canghellydd newydd Germani yn fawr gwell- iant ar yr hen. Yr oedd ei araith agoriadol yn y Senedd Germanaidd y dydd o'r blaen mor chwyddedig ag erioed. Syndod fel y mae bom- bast yn twyllo dynion. Ac eto os darllenir yr araith Germanaidd yn fanwl, gwelir yn bur eglur fod y Canghellor yn debyg iawn i'r crotyn hwnnw yn y stori fyddai bob amser pan yn croesi'r fynwent yn y nos yn chwibanu-nid am fod ysbryd chwiban yn ei galon, ond am fod swn chwiban yn eynhyrchu rhyw fath o rith gwroldeb. Bydd Lloyd George, fel rheol, yn ateb y crew yma yn hapus iawn, ac felly, y waith hon hefyd.

Coleg Aberhonddu.

Advertising

Eglwys Seion, y Glais.

Advertising