Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

(11I I Y WERS SABOTHOL. jj

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

(11 I Y WERS SABOTHOL. jj i Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. f I Gan y Parch. D. EUROF WALTERS, M.A., B.D., Abertawe. | 'V. AWST sed.-Peeh,od ac Edifeirwch Manasseh.— 2 Cron. xxxiii. 1-20. Y TvslryN EURAIDD.—' Gaclawedy drygionus ei ffordd, a'r gwr anwir ei feddyliau a dych- weled at yr Arglwydd, ac Efe a gymer drugaredd arno ILc at ein Duw ni, oherwydd Efe a arbed yn helaeth.'—Esaiah lv. 7. Y MAE'R cyfarwyddyd. a roddwyd unwaith o'r blaen yn dal ar gyfer y Wers hon eto, sef y dylid cymharu'r hanes a roddir yn Lly f r y Bren- hinoedd a'r un geir yn y Cronicl. Yma, 2 Bren. xxi. 1-18 sydd i'w ddarllen gyda'r Wers. A gwelir nad vw'r hanes yn y Brenhinoedd yn cyfeirio at edifeirwch Manasseh. Pechod Man- asseh bwysleisir yno, tra mai edifeirwch y brenin osodir yn amhvg yma. Adnodau pwysig felly ydyw 12 a 13 yn ein Gwers. Rhwng y ddau, y Brenliinoedd a'r Cronicl, cawn yr oil sydd ar gael o hanes Manasseh. Manasseh waedlyd ydyw i ni, a olchwyd fel Magdalen yn wyn. .Ond y mae'r emyn yn ei osod ormod yn awyr- gylch y Testament Newydd. Am hynny, rhaid i ni gyliiryd yr hanes yn araf, a cheisio ei ddeall. Ganed. Manasseh, mab Hezeciah, ar ol adfer- iad ei dad o'r cystudd y sonnir am dano yn Esaiah xxxviii. A deuddeng mlwydd oedd efe pan ddaeth i orsedd Judah yn Jerusalem. Bu'n hir ar yr orsedd, sef am bymtheng mlynedd a deugain. Efe fu hwyaf ar orsedd Judah; ond, yii ol pob tebyg, efe ydoedd y gwaethaf o'r brenhinoedd, o safbwynt crefydd, fu yn Jeru- salem. Ond efallai nad ei fai ef yn hollol ydoedd fod cyniaint o ddrygau ynglyn a'i deyrnasiad. Daethai i'r orsedd yn llanc, a thebyg fod cyng- horwyr yn llywodraethu hyd nes y daeth efe i oedran, a dichon fod llawer o'r cynghorwyr hynny yn tueddu at arferion y Cenhedloedd. Ond pa bryd bynnag y dechreuodd y drwg, daeth barn ar y genedl o'i blegid a pha bryd bynnag y dechreuwyd diwygio, daeth ffafr yr Arglwydd am hynny. Hynny yw dysgediaeth yr hanes sydd o'n blaen a'r Testyn Euraidd. Deallwn mai nid hanes manwl teyrnasiad Man- asseh geir yn y Brenhinoedd na'r Cronicl, eithr barn pobl oreu oes ddiweddarach am weithred- oedd Manasseh. Ceir peth cynhorthwy i ddeall yr hanes oddiwrth gofnodion Assyria. Canys rhaid cad.w mewn cof o hyd mai gwlad fechan ydoedd Judah rhwng ymerodraethau mawrion, yn gorfod dioddef pan fyddai'r rhai hynny'n ymgodymu a'i gilydd (fel Belgium heddyw, a gwledydd bychain eraill), ac yn efelychu llawer .0 bethau ym mywyd y genedl fawr lwyddiannus. Ceir yng nghofnodion Assyria gyfeiriad at Man- asseh o Judah' yn tain teyrnged ddwywaith- un tro pan oedd Assyria yn ymosod ar yr Aifft. Cawn hefyd i frenin Sidon (un o gymdogion Manasseh) wrthryfela yn erbyn Assryia, ac iddo ef a'i wlad gael eu cosbi am hynny. Cyn hir cafodd yr Aifft ddioddef ar law Assyria. Ond cyn diwedd oes Manasseh yr oedd Babilon yn gwrthryfela yn erbyn Assyria. Ceir yma yn ein Gwers yn adnod 11 gyfeiriad at Manasseh yn garcharor, ond y maè'n anodd gwybod pa bryd y cymerodd hynny le. Dichon i Manasseh wrth- ryfela rywbryd. Heddyw, y mae Mesopotamia yn cael ei gorchfygu; ond y pryd hwnnw, o Mesopotamia y llywodraethid rhan helaeth o'r hen fyd. Ceir arwydd o'i dylanwad ar Judah yn adnod 5 yn y cyfeiriad at allorau i holl lu y nefoedd,' canys yr haul a'r lloer a'r ser addolid. Yr oedd mabwysiadu addoliad y gorch- fygwyr yn arwydd o deyrngarwch y gorchfyg- edig. Er cymaint wnaethai Esaiah a'r proffwydi eraill, syrthio'n ol at grefyddau isel wnai'r bobl, a'r brenin yn cefnogi. Ond heblaw crefydd Mesopotamia, blagurodd hen grefydd gwlad Canaan yn oes Mansaseh hynny geir yn adn. 2-6. Bu crefydd Jehofah mewn perygl mawr, canys yn Judah yn unig erbyn hyn y galiesid disgwyl iddi flaguro, gan fod Israel (Teyrnas y Gogledd) wedi ei choncro. Aeth hyd yn oed y deml yn Jerusalem at was- anaeth eilun-addoliaeth. Yn ol 2 Bren. xxi. 16, Manasseh hefyd a dywalltodd lawer iawn o waed gwirion, hyd oni lanwodd efe Jerusalem o ben bwy gilydd.' (Cymbarer Jer. xix. 3-6.) Gellid meddwl mai mertliyrdod y rhai oeddent ffyddlon i J ehofah olygir. Gwasgarwyd y ffydd- loniaid ac erlidiwyd y proffwydi. Dvygioni Manasseh (adn. 1-9). Galwer i gof ymgais Hezeciah, tad Manasseh, dan gyfarwyddyd Esaiah, i ddiwygio crefydd a chofier eilun-addoliaeth Ahaz, tad Hezeciah. Aeth Manasseh i'r eithanon, fel yr a llawer mab i dad da i eithafion drygioni. Ond er i Hezeciah wneud cymaint i ddiwygio, ar y wyneb yr oedd y diwygiadau nid oedd y bobl o'u calon wedi eu troi at yr Arglwydd. Tra yr oedd Manasseh eto'n llanc, cafodd yr hen blaid yr awenau i'w dwylaw, a dialasant am ddiwygiadau Hezeciah trwy ychwanegu at yr arferion eilun-addolgar a fu gynt. Adnod 2 Yn ol ffieidd-dra y cen- hedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel 'sef addoliad y Canaaneaid. Yr uchelfeydd y sonnir am danynt yn adnod 3 ydoedd y rhai fu mewn cymaint bri yn amser Ahab addolfannau Baal a duwiau'r tymhorau &c. Hyd yn oed yn y deml, a adeiladesid at wasan- aeth Jehofah yn unig, y gosododd Manasseh allorau at addoli holl lu y nefoedd yn ol?, dull y Babiloniaid. 'Ac de a yrrodd ei feibion trwy y tan yn nyffryn mab Hinnom '—megis y gwnaeth Ahaz aberthodd ei blant i Moloch yn nyffryn Ben-Hinnom. 'Ac a arferodd frud (practised augury),' &e. Efallai mai'r ystyTr yayw, Dal sylw ar y cymylau,' &c. ceisio arwyddion wrth y rhai y gweithredid. 'Ac a fawrhaodd swynyddion a dewiniaid.' Rhoddodd fri ar, a chefnogaeth i, ymgynghoriad a'r meirw. (Gweler Deut. xviii. 10, 11—gwahardd yr arferion hyn.) Adnod 7 'Ac efe a osododd y ddelw gerfiedig,' neu Gerf-ddelw yr eilun.' (2 Bren. xxi. 7.) 'Ac efe a osododd ddelw gernedig y llwyn,' neu 'Ac efe a osododd ddelw gerfiedig Asherah.) Delw y dduwies Ganaaneaidd a osododd efe yn nheml yr Arglwydd. Yn y ty hwn,' &c. Gweler I Bren. viii. 15-26, yn hanes adeiladu'r deml gan Solomon. Cosb ac Edifeirwch Manasseh (adn. 10-15). Nid oedd yr Arglwydd heb broffwydi i godi eu llais yn erbyn yr arferion hyn. Dyna awgrym adnod ro. ('A lief ar odd yr Arglwydd trwy law Ei weision y proffwydi '—2 Bren. xxi. 10.) Rhybuddieiit o'r perygl oedd yn bygwth Judah -llwyr ddinistr, megis ag a ddigwyddodd i Israel. Adnod 11 'A hwy a ddaliasant Man- asseh mewn dyrysni neu, yn hytrach, mewn cadwynau,' neu a bachau.' Cymerwyd ef yn garcharor. 'Ac a'i rhwymasant ef a dwy gad- wyn,' neu a llyffetheiriau.' Rhwymwyd ef draed a dwylaw. Yn ei gaethiwed y gwelodd ei fai, ac yr edifarhaodd. Cafodd ei ollwng yn rhydd, a'i osod drachefn yn frenin yn Jeru- salem. Wedi ei ddychweliad, efe a adgyweir- iodd ac a wellhaodd ei ddinas. Gihon ac Ophel: ffynnon a bryn yn Jerusalem. (Gweler 2 Cron. xxxii. 30: A'r Hezeciah yma a argaeodd yr aber uchaf i ddyfroedd Gihon.') Heblaw hynny, tynnodd ymaith y delwau a'r allorau die'thr, ac adferodd sefydliadau J ehofah.: Gweddill Hanes Manasseh .(adn. 17-20). Er i Manasseh ddiwygio, eto nid. oedd y diw- ygiad yn llwyr. Arferid yr hen uchelfeydd, er mai i'r Arglwydd yr aberthid yno (adnod 17). Yr oedd ,ar gael pan ysgrifennwyd Llyfrau'r Cronicl, lyfr yn cynnwys hanes Manasseh, ei weddi, &c. (adnod 18). Ceir yn yr Apocryffa Weddi Manasseh,' ond amheuir ai honno ydoedd y weddi offrymwyd gan Manasseh yn ei edi- feirwch. Adn. 19 Geiriau y gweledyddion neu, fel y gellir darllen, Geiriau Hosai.' Adn. 20 'A chladdasant ef yn ei dy ei hun.' (2 Bren. xxi. 18 'Ac a gladdwyd yng ngardd ei dy ei hun, yng ngardd Ussa.' Ymddengys mai Hezee- iah ydoedd yr olaf i gael ei gladdu yn hen gladdfa brenhinoedd Judah. Dichon fod Ezeciel yn cyfeirio at yr arfer newydd hon yn ei broff- wydoliaethau—xliii. 7-y beddau yn rhy agos at y deml.) Pah am y newidiwyd yr arfer, nis gwyddom. FFYNNONBEDR.-Cynhaliwyd cwrdd blyn- yddol yr eglwys uchod Gorffennaf 15fed, pryd y pregethwyd drwy'r dydd gan y Parch. D. Curwen Davies, Siloam, Pontargothi. Teg ydyw hysbyau fod Mr J. Davies, Cincoed, un o blant yr eglwys uchod, wedi dod yma gyda'i weinidog presennol, ac ni ddaeth yn waglaw eleni mwy na'r llynedd cliriodd holl dreulian y cyfarfod ei hunan. Cred yr adnod honno— Mai mwy dedwydd yw rhoddi na derbyn.' Da gennym weled ei fod yn dal yn ffyddlawn i draddodiadau goreu'r teulu fu yn golofn i'r achos yn y lie am fiynyddoedd maith. AMON.

ODDIWRTH Y BEDYDDWYR AT YR…

PEN BLWYDD CLADDU ANN iGRIFFITHS,…

Capel Iwan a Chastellnewydd…

Advertising