Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

(11I I Y WERS SABOTHOL. jj

ODDIWRTH Y BEDYDDWYR AT YR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ODDIWRTH Y BEDYDDWYR AT YR ANNIBYNWYR. At Olygydd y Tyst. SYR,—A gaf fi alw sylw darllenwyr y TYST at Mr. John Llewelyn Hopkins, fu yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn Sfcaylittle, ger Llan- brynmair ? Dyn ieuanc wedi ei eni a'i fagu yn agos i'r Onllwyn ydyw, ac felly yr ydym oil yn gyfarwydd iawn ag ef ac S'i berthynasau. A gallaf ychwanegu, a theimlaf yn falch o'r cyfleustra hwn i ddwyn tystiolaeth, ei fod yn gymeradwy a pharchus yn ein golwg oil. Beth amser yn ol, fe ddaeth drosodd at yr Annibyn- wyr; ae nid oedd dim rhyfeddod yn hynny, oherwydd Annibynwyr yw y rhan fwyaf o'i deulu, a gwreiddiau Annibyniaeth yn ddwfn yn ei gyfansoddiad yntau. Wedi bod ohono am yehydig yn aelod yn eglwys yr Onllwyn, fe'i codwyd yno i bregethu, a phawb ohonom yn berffaith unfrydol dros ei dclyrehafn i'r pulpud, a dymuniad am ei Iwyddiant i ennill ei ffordd i'r weisidogaeth yn ein piith fel Enwad. Y mae ef a'i deulu hyd yn hyn yn cartrefu ar yr Onllwyn. Ei gyfeiriad ydyw-2, Cross Road, Dyffryn, Onllwyn, near Neath. Gobeithio y bydd Duw yn haul a tharian iddo vn v dvfodol. A. D. THOMAS, Gweinidog yr eglwys Gynulleidfaol ar yr Onllwyn.

PEN BLWYDD CLADDU ANN iGRIFFITHS,…

Capel Iwan a Chastellnewydd…

Advertising