Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Marw y Parch. Arthur Davies,I…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Marw y Parch. Arthur Davies, I America. Brodor ydoedd yr ucliod o Frynhyfryd, Aber- tawe. Dechreuodd bregethu yn Soar, Abertawe, a derbyniwyd ef i Athrofa Aberhonddu tua 1873. Ymysg ei gyd-efrydwyr yno yr oedd y diweddar Barchn. R. Rees, Alltwen Davies, Baran; Ossian Davies, &c. Ordeiniwyd ef yn weinidog ar eglwys Seisnig y Ton, Rhondda. Ni bu yn hir yno, ae ymfudodd i'r Ameiig yn 1884, Bu farw ar yr i6eg o fis Mehefin, a chladdwyd ef y dydd Mercher canlynol yn Schenectady. Dengys y papur a groniclodd ei farw iddo gael angladd anrhydeddus. Gwasanaethodd y Parch. A. Russell Stevenson, D.D., yn cael ei gynorth- wyo gan amryw eraill; a gwasanaethodd pedwar o weinidogion fel cludwyr. Dywed. ymhellach ei fod yn bregethwr hy awdl yn y Saesneg a'r Gymraeg, a'i fod yn un o ysgolorion Hebreig goreu'r dalaith. Gadawodd ar ei ol weddw a thri o blant-yr oil yn gysurus eu .byd. Mae un o'r bechgyn, Mr A. Edgar Davies, yn gyf- reithiwr yn y dref lie bu farw ei dad. Mae brawd i'r ymadawedig, Mr. John Davies, yn byw yn Springfield, Treforris, ac y mae ef a'i deulu yn aelodau fiyddlon a pharchus o eglwys y Tabernacl. Daeth y newydd a bore oes i'r cof a deigryn i'r llygad' Gwylied Dnw ei lwch, a nodded ei anwyliaid ar y cyfandir pell. Barn- wyd y byddai'r gair hwn o ddiddordeb i ambell un yma a thraw, ac yn arbennig i'w gyd-efryd- wyr sydd eto'n aros.

Cymanfa Undebol Llandyfeilog.…

Advertising