Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Marw y Parch. Arthur Davies,I…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Marw y Parch. Arthur Davies, I America. Brodor ydoedd yr ucliod o Frynhyfryd, Aber- tawe. Dechreuodd bregethu yn Soar, Abertawe, a derbyniwyd ef i Athrofa Aberhonddu tua 1873. Ymysg ei gyd-efrydwyr yno yr oedd y diweddar Barchn. R. Rees, Alltwen Davies, Baran; Ossian Davies, &c. Ordeiniwyd ef yn weinidog ar eglwys Seisnig y Ton, Rhondda. Ni bu yn hir yno, ae ymfudodd i'r Ameiig yn 1884, Bu farw ar yr i6eg o fis Mehefin, a chladdwyd ef y dydd Mercher canlynol yn Schenectady. Dengys y papur a groniclodd ei farw iddo gael angladd anrhydeddus. Gwasanaethodd y Parch. A. Russell Stevenson, D.D., yn cael ei gynorth- wyo gan amryw eraill; a gwasanaethodd pedwar o weinidogion fel cludwyr. Dywed. ymhellach ei fod yn bregethwr hy awdl yn y Saesneg a'r Gymraeg, a'i fod yn un o ysgolorion Hebreig goreu'r dalaith. Gadawodd ar ei ol weddw a thri o blant-yr oil yn gysurus eu .byd. Mae un o'r bechgyn, Mr A. Edgar Davies, yn gyf- reithiwr yn y dref lie bu farw ei dad. Mae brawd i'r ymadawedig, Mr. John Davies, yn byw yn Springfield, Treforris, ac y mae ef a'i deulu yn aelodau fiyddlon a pharchus o eglwys y Tabernacl. Daeth y newydd a bore oes i'r cof a deigryn i'r llygad' Gwylied Dnw ei lwch, a nodded ei anwyliaid ar y cyfandir pell. Barn- wyd y byddai'r gair hwn o ddiddordeb i ambell un yma a thraw, ac yn arbennig i'w gyd-efryd- wyr sydd eto'n aros.
Cymanfa Undebol Llandyfeilog.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cymanfa Undebol Llandyfeilog. I Plwyf yn sefyll rhwng Caerfyrddin a Ferry Side, a'i draed yn cael eu golchi'n barhaus gan ddyfroedd gloywon y Tywi, yw'r plwyf uchod. Syniad gwreiddiol a ddaeth i ben un o'r saint mwyaf brwdfrydig yn y plwyf oedd cael Cy- manfa Undebol, a chasglu ynddi swm deilwng o'r undeb i anfon ychydig o elfennau cysur i'r bechgyn o'r plwyf sy'n ymladd dros eu gwlad mewn gwahanol rannau o'r byd. Cynhaliwyd y Gymaiifa ar y Sul a nos Lun, yr 8fed a'r gfed cyfisol. Darperid llwyfan gadarn dan bren llydanfrig ar y niaes, J?;ycla meinciau cyfleus o'i blaen i amryw gannoedd allu gwrando yn gysurus. Ond siomwyd y cyfeillion yn hyn ar y Saboth, gan i'r diwrnod droi allan yn rhyf- eddol o wlyb fore a phrynhawn. Erbyn yr hwyr yr oedd y nen wedi clirio'll ddigonol i dynuu 11a wer mwy na llond capel Rama ynghyd," ond yr oedd y ddaear yn rhy llaith i fod allan. Cafwyd amser da a chynulleidfa fawr yn yr awyr agored nos Dun. Y pregethwyr oedd y Parchn. J. 0. Jones, (M.C.) Caerfyrddin; M. T. Rees (B.), Meinciau; D. G. Williams (A.), St. Clears, a J. H. Jenkins (E.), rheithor Cilrhedyn. Cafwyd Cymanfa fendithiol yr oedd y pregeth- wyr ar eu goreu, y canu'n hwylus dau arweiniad medrus Mr. Ben Morgan, a chasglwyd tua ^34. Cafwyd unawdau swynol gan Mr. Stephens, Mr. B. Morgan, a Miss Evan, Rose Villa. Dyma'r tro cyntaf i'r ysgrifenllycld gvfarfod a Rheithor Cilrhedyn—gwr y mae tipyn o son am dano'n ddiweddar. Braidd na ddywedem ei fod yn bur wahanol yn ei berson i'r hyn a ddychinygem oddiwrth y cyfrif am dano yny papurau newyddion. Dyn bychan o gorffolaeth, hollol ddirodres a gwylaidd yw Mr. Jenkins. Nid oes dim o'i gwmpas yn sawru o'r offeiriad, nae yn awgrymu'r graddau o eofndra sy'n angen- rheidiol er rhwystro archddiacon i bregethu yn Saesneg i gynulleidfa Gymraeg. Ond, ar y llaw arall, yr oedd yma bopeth a ellid ddisgwyl mewn offeiriacl digon rhyddfrydig i bregethu vn lie gweinidog Annibynnol oedd wedi ei ddal vn sydyn gan gystudd, er y gellid gosod axno ddirwy o gan punt am feiddio dweyd gair dros ei Feistr mewn capel Ymneilltuol! Pregethai yn syml, efengylaidd, diddorol a pherffaith natiiriol, heb fod dim o gwmpas ei oslef na'i arddull yn adgofio neb o'r offeiriad. Prin y gallai neb wybod i ba enwad y perth- ynai yr un o bregethwyr Cymanfa Dlandyfeilog o ran eu hardclull a'u ton, ac ni wrandawodd pregethwyr mewn cymanfa enwadol erioed gyda mwy o sirioldeb ar ei gilydd. Mor hyfrvd oedd trigo o frodyr ynghyd. Melys moes eto, G.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CARMEL, BEAUFORT.-Sul, Gorffennaf 15fed, cynhaliodd yr eglwys hon ei chyfarfod blynyddol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. John Phillips, Mountain Ash. Bob bore adeg Brecwast cymerwch ddogn 0 Sanatogen. Rhydd hyn i chwi yr ynni nerfol chwanegol hwnnw a'ch gwna yn gymwys a bywiog am y diwrnod. Ni chostia i chwi ond ychydig geiniogau y dydd. Golyga Sanatogen yn y bore well J diwrnod o waith; eolvea ynni chwanegol 3a mwy o allu wrth: gefn; golyga eichl bod w teimlo 11 fwy bywiog ac awchns trwy'r dydd. Treiwchfef Y mae gallu Sanatogen i gynhyddu Ynni Nerfol wedi ei brofi yn bendant. Yng ngeiriau SYR CHARGES A. CAMERON, C.B., M.D., &c., I lywydd Sefydliad Brenhinol Iechyd Cyhoeddus: í Y mae Sanatogen yn fwyd nerfol rhagorol, o'r gwerth nlwyaf maethlawn, yn hawdd a thrwyadl i'w dreulio.' CEISIWCH SANA TOGEN CWIRIONEDDOL- Peidiwch anghofio byth fod Sanatogen yn fwyd, nid meddyg- miaeth neu feddygimaeth ddirgelaidd.' Y mae'n cynhyddu ynni nerfol trwy borthi y nerfau—nid trwy eu symbylu gyda chyffuriau neu stimiwlants.' Y mae ei weithrediad mor natunol ag unrhyw fwyd cyffredin rhaid iddo wneud lies, ac nis gall wneud niwed. Dyna pam y mae meddygon yn ei roddi hyd yn oed i fabanod. A dyna pam y mae cynifer o bobl, gwaith pa rai sydd yn galw cymamt ar eu gallu nerfol, yn cymryd Sanatogen trwy'r flwyddyn —nid fel tonic arferol, ond fel rhan o'u hymborth dyddiol. Dylech enwitnau wneud yr un modd os oes gennych eisiau cadw eich ynni nerfol yn y cyweirnod uchaf. Gofynnwch i'r fferyllydd am y gwir a'r gwreiddiol Sanatogen (o is. ge. y tin), wedi ei wneuthur yn Penzance gan Genatosan, Ltd. (Pwrcaswyr Prydeinig. Cwmni Sanatogen)-Cadeirydd: Lady Mackworth-12, Chenies Street, London, W.C. 1. NODIAD.-Bydd i Sanatogen yn ddiweddarach gael ei ad-enwi Genatosan —y gwir Sanatogen-er ei wahaniaethu oddiwrth efelychiadau israddol.