Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Cynghrair Eglwysi Rhyddion…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cynghrair Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru. Cynhaliwyd Pwyllgor Gweithiol y Cynghrair uchod, dydd Mercher cyn y diweddaf, yn Llandudno Junction, o dan lywyddiaeth Dr. Cernyw Williams. Pasiwyd pleidlais gynnes iawn yn cydnabod gwasanaeth gwerthfawr Dr. Oliver, Treffynnon, yr hwn a fu am ugain mlynedd yn ysgrif- ennydd y Cynghrair. Siaradodd amryw o'r aelodau yn uchel a chynnes iawn am wasanaeth diwyd, doeth ac effelthiol y Doctor yn ystod tymor maith ei ysgrifenyddiaeth. Pasiwyd i gyflwyno anrheg fechan iddo yn y cyfarfod blynyddol nesaf. Ba y sefyllfa ariannol dan sylw, a phasiwyd fod yr Ysgrifennydd a'r Trysorydd i anfon cylchlythyr at y cynghorau ileol i ofyn am eu cynhorthwy i osod y cyliid ar safle ddiogel. Yr oedd yr ymraniad a fu wedi niweidio y drysorfa yn fawr; ond yn awr, wedi i'r anneaUtwriaeth gael ei symud, disgwylir y bydd pethau yn well. Rhoddwyd sylw i ddatganiad Arglwydd Curzon, yn yr hwn y dywedai fod Arglwydd Crawford dro yn ol wedi siarad meddwl y Llywodraeth ynghylch yr angen a'r bwriad o ail agor mater Datgysylltiad. Pasiwyd pen- derfyniad cryf yn condemnio unrhyw ymyrriad fel peth dialw am dano, arg yflawn, a chroea i ysbryd y cyd-ddeall politicaidd rhwng y pleidiau gwleidyddol. Pasiwyd hefyd i annog y cynghorau trwy'r wlad i wneud popeth yn eu gallu i wrthwynebu unrhyw a phob ymyrriad. Bu polisi dirwestol y Cynghrair dan sylw, ac heblaw gweithio yn egniol am waharddiad dros dymor y rhyfel a'r dadfyddino, pasiwyd i anfon at y cynghorau yn eu hannog i ystyried y priodoldeb o ymbarotoi-(l) I barhau gwaith y Bwrdd Canolog ar ol y rhyfel; (2) I sicrhau Mesur o Ddewisiad Lleol i Gymru; (3) I ddileu neu wella Deddf Drwyddedol 1904. Pasiwyd fod y Pwyllgor nesaf i'w gynnal yn Rhyl tua diwedd Tachwedd, a bod y cyfarfod blynyddol i'w gynnai, os gellir, yn Rhcs- llanerchrugog ym mis Ebrill nesaf.

Bryn Seion, Gilfach Goch.I

Advertising

[No title]

BWTHYN MEBYD. II

EMYN. I

GWEDDI AM YR YSBRYD.I

Advertising