Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BWRIUDIR neilltuo y Saboth nesaf, Awst 5ed, gan lu mawr o eglwysi y wlad hon ac America i erfyn ar y Duw Hollalluog i brysuro dwyn heddwch buan i gyfandir Ewrop a'r byd, fel y delo terfyn buan ar greulonderau rhyfel, ac y caffo'n bechgyn dewr ddod yn ol i'w cartrefi.
I Arholiadau'r Meysydd Llafur.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Arholiadau'r Meysydd Llafur. Yn y TYST am Gorffennaf i8fed, ceir enwau'r ymgeiswyr yn yr Arholiadau uchod. Sylwasom y dywed y Parch. J. D. Jones, Bryn- teg, Gwrecsam, fel hyn Dacth 311 o bapurau i law, a chefais lawer o hyfrydwch i'w arholi. Allan o'r nifer hwn yr oedd ill wedi eu hys- grifemiu yn Saesneg, ae aeth y ddwy wobr uchaf i bapurau Saesneg. Ni ddywed y ddau arholwr arall ddim parthed nifer y papurau Saesneg a dderbyniasant hwy, os derbyniasant rai o gwbl. A fydd y ddau frawd, y Parchn. John Davies, Y Wern, Ystal- yfera, ac L. Berian James, B.A., Penygroes, mor garedig a'm hysbysu o nifer y papurau Saesneg a ysgrifenuwyd gan yr ymgeiswyr yn eu meysydd arbennig hwy ? Bydd hynny'n gymorth nid bychan i ni wybod pa fodd y ffynna'n heniaith yn arholiadau'n Plenwad. Dywed Mr. Davies yn ei ragair Cefais lawer o fwynhad a budd wrth edrych drostynt, er eu bod yn wych a gwael eu gwedd—rhai ohonynt yn wael iawn eu Cymraeg. Gresyn na fai Dos- barth Gramadeg Cymraeg yn cydfynd a'r DoS- barth paratoi ar gyfer arholiad.' Dwg y geiriau hyn nyni wyneb yn wyneb a phrobleman dyrys, sef yw rheiny I. Lteihau, ac o'r diwedd, fe fawr obeithiwn, di_ ddymu'r Seisnigeiddiwch a nodwedda gynifer o eglwysi a gamenwir yn eglwysi' Cymraeg heddyw. 2. Arfer y Gymraeg yn ein heglwysi ac vn arholiadau'r Enwad. 3. Y moddion goreii i sicrhau hyn. Yn ol y rhifedi nehod, ysgrifennodd ychwaueg nag un o bob tri eu hatebion yn Saesneg. Credaf nad teg cymharu'r papurau Saesneg a'r rhai Cymraeg. • Haws i lu mawr, os nad i bob un, o'r ymgeis- wyr ysgrifennu n Saesneg nag yn Gymraeg, oherwydd eifeithiolrwydd yr addysg mewn Saes- neg yn ysgolion bob dydd Cymru o'i chymharu i'r addysg mewn Cymraeg. Synnwn i ronyn na chy northwywyd nifer fawr o'r ymgeiswyr gan aelwydydd Seisnigaidd, a chan drefydd y siaredir ynddynt nemor ddim ond Saesneg. Tebyg na chafodd y rhai a ysgrifennodd yn Gymraeg fawr, os dim, addysg mewn Cymraeg erioed. Nid ymhob ysgol yng Nghymru y cyfrennir addysg efieithiol mewn Cymraeg, ac nid yw iaith aelwyd a heol ymhob rhyw gysylltiad yn iaith arholiad ysgrythyrol. Y mae iaith ardaloedd Cymru yn werinol iawn, ac yn dryfrith o fastard-eiriau a fenthyciwyd o'r Saesneg. Darfu i'r Methodistiaid Calfinaidd rodii terfyn ar unwaith ar ateb yn Saesneg yn eu harhol- iadau hwy ac oni chamgymerwn, ni chawsant le i edifarhan, eithr yn hytrach i fawr lawenhau. Cymeradwywn yn galonnog gynllun cyffelyb i'r Allnibynwyr hwythau, Gosoder troed ar wir yr anghenfil a fygythia ddinistrio eglwysi Cym- raeg Cymru. Chware a than yr ydym, a myn- wesu neidr pan roddwn le i'r estroniaith yng ngwaith y cysegr Cymraeg. A fynnwn i'n heniaith farw ? A chwenychwn i Gymry'r dyfodol wybod eu Beibl Cymraeg ? A ddymunwn iddynt ganu emynau Pantycelyn ? A ewyllysiwn iddynt ddatgan profiadau ysbrydol Cymry mewn cyfeillach a chwrdd gweddi ? Os felly, rhaid i eglwysi-yn weinidogion, swyddog- ion ac aelodau-ymegnio, a dywedyd yn groyw unwaith am byth y disgwylir i'r plant a'r bobl ieuainc wybod a siarad Cymraeg. Yn ddilys ddigon, os dysg rhai Cymry Saesneg, pam lai na ddysg pob dyn ieuanc yn ein heglwysl ddigon o Gymraeg at ei wasanaeth fel crefyddwr Cym- reig ? Diogi meddyliol, parodrwydd i efelychu'r Sais, a Dic-Sh6n-Dafyddiaeth rhonc yw'r unig resymau dros fethu. Dysgodd Cymru Fu fwy nag un iaith estronol. A fetha Cymru Sydd ddysgu'r iaith a gyflwynwyd iddi yn dreftad- aeth odidog ? Am y moddion goreu i ddwyn y pethau hyn i ben, ni raid dywedyd ohonom ddim y tro hwn. Daw cyfle drwy gynadleddau yr hydref a'r gaeaf sy'n dod. Pwysleisiwn y ddyledswydd o lynu wrth y Gymraeg fel iaith yr aelwyd a'r teulu. Fel y mae gwaethaf y modd, yno y gwenwynir y ffrydiau. Amddifad rywfodd ydym ni, Gymry, o'r ysbryd penderfynol hwnnw a fyn ddefnyddio a siarad Cymraeg, deued a ddelo. Chwery rhieni ac eglwysi gymaint a'r Saesneg ymhob rhyw fodd nes codi ohonynt do o blant a phobl ieu- ainc na Wyr ond y peth nesaf i ddim o'n hen- iaith. Ym Mrynaman, yng Nghyfarfod Busnes yr Undeb, ymddiriedwyd i'r Cyngor y gwaith o ystyried eyflwr y Gymraeg yn yr eglwysi.
EFFAITH Y RHYFEL ARi WERIN…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
fyddir yn fuan fod hyn oil yn anhepgorol angenrheidiol i sicrhau diogelwch dyfodol y ddynoliaeth. Y n sicr ni fyddai effeitliiau llai yn gymesur ffrwytli aberth a dioddef- aint mor ddifesur. Gwelir yn barod arwyddion rhyddhad caethion canrifoedd poblogaeth afrifed tiriogaethau enfawr Rwsia, yn gweled gwawr ffyniant cysur ac annibyniaethi personol, yn prysuro i adfer rhyddid Fin- land, ac ail greu Poland unedig ac anni- bynnol; gwelir China yn ymryddhau oddi-j wrth feiehiau trymion ei hymgyfathracli &'r Almaen; Japan yn gorfod troedio yn ofalus a gwyliadwrus; Ynysoedd Mor y De a brodorion fyrdd Affrjca Ellmynaidd ¡ yn gorfoleddu yn nymchweliad gormes y Teuton yr Armeniaid yn rhyw betrusgar obeithio fod gaeaf hir eu merthyrdod ar roddi ffordd i hawddfyd hafddydd rhyddid; Arabia yn cyhoeddi ei hannibyniaeth a'r cenhedloedd Slavonaidd bod ag un yn penderfynu manteisio yn sylweddol ar yr holl drybestod presennol. I sicrhau sef- ydliad yr oruchwyliaeth newydd, can- fyddir elfennau tra gwahanol yn gweith- redu. Hyd yn hyn gallu milwrol a morawl yn bennaf sydd wedi bod yn ymgodymu, a'r fantais, ar y cyfan, ar ochr gormes ac ysbryd rhyfel. Heddyw gwelir ysbryd cydweithrediad yn ceisio darganfod telerau heddwch cyfiawn, gan arnlwg fwriadu defn- yddio undeb gweithwyr y gwledydd i roddi terfyn ar y brwydro pan gytunir ar drefniadau ystyrrir yn foddhaol gan gyn- rychiolwyr y bobl, a hynny heb falio fawr am ganiatad a chymeradwyaeth penadur- iaid a gwladweinwyr—pobl bwysig sydd fel rheol wedi llwyr a chyfiawn fforffedio parch ac ymddiriedaeth y werin ymhob man. Effaith uniongyrchol hyn oil fydd rhoddi terfyn buan ar hoedl pob math o lywodr- aeth gwrth-werinol. Gwelir Rwsia yn yraffurfio"a Weriniaeth Gymdeithasol Gyf- unol; yn eithaf tebyg troir yr Almaen yn ddiatreg un ai yn ymerodraeth hollol gyfansoddiadol fel Prydain, neu yr hyn sydd llawer fwy tebygol a boddhaol hefyd -yn Weriniaeth Gyfunol yn cofleidio gyda phawb eraill egwyddorion masnach rydd, ac yn ymwrthod yn llwyr a therfynol a gorfodaeth a pharatoadau milwrol, er llaw- enydd diffuant ei phobl. Gwastateir an- nhrefn Deheudir Ewrop drwy greu Gwer- iniaeth Unedig y Balkans-yn cynnwys Bosnia, Herzegovina, Servia, Montenegro, Albania, Roumania, Bulgaria a Groeg, a'r gweddill o diriogaethau Ewropeaidd Twrci ond Caercystenyn—y cyfan heb doll o un- rhywfath ar fasnach, a'u byddinoedd wedi eu gwasgar a'u diarfogi. Y mae'n amlwg fod Ymerawdwr Aws- tria yn dra awyddus i ddyfod i gytundeb heddychol a'i ddeiliaid Slavonaidd a chyda diflaniad amcanion uchelgais gwlad- weinwyr Rwsia, nid oes unrhyw rwystr anorfod ar y ffordd gyda rhywfaint o fedr dylid llwyddo yn fuan i wahanu Awstria oddiwrth ei chymydog trahaus. Mewn gwirionedd, y mae Rwsia ac Awstria y naill fel y Hall yn dra awyddus i roddi terfyn ar y brwydro, ac i gyfarfod yn hael liawliau eu lliaws man genhedloedd. Yn y Gorllewin, yn ddiau y mae Alsace- Lorraine yn anhawster ond rhaid rhoddi i'r boblogaeth eu dewis rhwng Ffrainc a'r Almaen, neu fodolaeth annibynnol fel Switzerland-y cwrs doethaf o lawer iawn. Os terfynir y rhyfel ar linellau o'r fath, nid anodd ffurfio barn weddol gywir am y dyfodol. Rhyddheir y gwledydd oddiwrth faich annioddefol paratoadau milwrol; rhoddir pob cymhellion i lafur ymhob man i gynhyrchu cyfoeth a chyf- I falaf gyda'r diwydrwydd a'r cyflymrwydd mwyaf; gofala llafur hefyd am gyfran llawer helaethach o'r cynnyrch yn raddol, efallai'n fuan, gwelir cyni a thlodi yn cilio o'r tir, a phob cenedl yn ymddatblygu yn ol ei phriod anianawd hi ei hun. Yn barod gwelir esiampl o hyn ynglyn a'r Iwerddon—er presenoldeb gwyr fel Syr Edward Carson a Bonar Law yn y Llyw- odraeth, gwahoddir yr Iwerddon i ben- derfynu ei dyfodol ei hunan—ac yn ddi- amheuol bydd iddi hawlio y rhyddid hel- aethaf yn ei hymdrin a'i materion car- trefol hi ei hun—a sicrheir ar fyrder yr unrhyw freintiau i'r Alban ac i Gymru. Yn yr un modd estynnir yn ddiwarafun yr etholfraint i filiynau lawer, yn wryw ac yn fenyw, gyda chanlyniadau o ddirfawr fantais i'r werin bobl. Helethir felly der- fvnau rhyddid ar bob Ilaw-gartref ac oddicartref—ond nid yn hawdd nac heb ymdrech y dihangwn, ni ym Mhrydain rhag yr aflwydd a ddisgwylid gan 'Diplomatist' i'n goddiweddyd. Dadleuir gan y rhai a ymhyfrydant mewn rhyfel ac a ganfydd- ant yng ngelyniaeth parhaol gwledydd obaith a sicrwydd eu mawredd a'u llwydd- iant, fod buddugoliaeth yn anhepgor cyn heddwch ond hawdd dirnad y cytunir yn Stockholm- ar delerau fydd yn hwyluso buddugoliaeth, os nad yn gwneud brwydro pellach yn ddianghenraid. Ar ol claddu mwy na miliwn o'u meibion, y mae, yn hynod annhebyg fod pobl yr Almaen yn parhau yn rhyw ryfelgar iawn eu hysbryd. Mewn cydweithrediad a gweithwyr gwled- ydd eraill, medrant ddwyn y rhyfel i der- fyniad buan, sydyn a boddhaol. Dichon mai o enau plant bychain gwerin dysyml Rwsia y perfteithir doethineb gwleidyddol yn y dyddiau diweddaf hyn.