Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
Y DRYSORFA GYNORTHWYOL.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y DRYSORFA GYNORTHWYOL. Anfoner yr arian i'r Trysorydd— Mr. THOMAS DAVIES, 56 St. Quintin A. venue, London, W. 10. Dymunai gyduabod y syuxiau a gaulyn tuagat. y Drysorfa uchod. Abertawe. W. JAMES, £ s, c. Dr. W. Black Jones, Y.H., Builth- cheque am 10 IO ° Dr. Samuel Williams, Caeglas, Llan- elli—cheque am. 10 0 0 Y Parch. J. D. Jones, M.A., D.D., Boi-irn,eniouth 10 0 0 m Ymddiheurad, Yn ychwanegol at yr hyn sydd wedi ym- ddangos yn barod, blin gennym fod yr enwau a'r symiau a ganlyii wedi eu gadael allan o daflen y Tanys-rifiadau. o £10 ac uchod' a gyhoeddwyd yn ddiweddar :— §H gj s. c Mr. a Mrs. Thomas Jones, Gwrecsam, nid £50, ond 55 5 0 Mr. a Mrs. G. Davies, Llanuwchllyn 26 5 o Mr. T. J. Davies, eto 15 o o Capten John Lewis, Minny-st., Caer- dydd 10 10 o Mr. John Thomas, eto 10 10 o Mr. T. G. Williams, eto 10 10 o W. JAMES, Arolygwr. W. R. OWEN, Cadeirydd. THOMAS DAVIES, Trysorydd. W. Ross HUGHES, Ysgrifennydd.
Tysteb y Parch. R. W. Davies,…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Tysteb y Parch. R. W. Davies, Casllwchwr. MAE Mr. Davies wedi bod yn analluog i J3'JL lenwi ei bulpud ers blwyddyn oherwydd sefyllfa wannaidd ei iechyd; ond mae ei frodyr yn y weinidogaeth o bob enwad yn y cylch wedi dod i'r adwy, ac wedi llenwi ei bulpud yn gan- moladwy yn ystod yr amser. Dymuna efe a'r eglwys ddiolch yn gynnes iawn iddynt oil am eu gwasanaeth gwerthfawr. Yn awr, yn unol a chyfarwyddyd ei feddyg, mae Mr. Davies yn ymddeol o ofal y weinidogaeth, ac yn synxud i fyw i Aberaeron; ond. nid yw yr eglwys am ei ollwng heb roddi anxlygiad o'i pharch iddo a gwerthfawrogiad o'i wasanaeth. Mae Pwyllgor wedi ei ffurfio er cyflwyno Tysteb iddo, a rhydd y cyfryw gyfleustra i bwy bynnag fyddant yn ewyllysio dangos eu cydym- deimlad, a diolchir yn galonnog am bob cynhorthwy er gwneud y Dysteb mor sylweddol ag y byddo modd i'r achos gwir deilwng hwn. Bwriedir cau y Drysorfa Awst 25ain, 1917. Derbynnir pob cyfran gyda diolchgarwch gan un o'r enwau isod, a chydnabyddir gan yr Ysgrifennydd. Cadeirydd.-—Mr. W. RICHARDS, Bryn-road, Loughor, Glam. Trysorydd. —Mr. E. RICHARDS, The Elms, Loughor, Glam. Ysgrifennydd.—-Mr. T. MORGAN, Highfield, Ysgril ennydd.-Mr. Loughor, Glam.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
RHWYMIR LLYFRAU O BOB MATH A MAINTIOLI AH BRISIAU RHESYMOL, AC O'R GWNSUTHURIAD GORBU, YN SWYDDFA' R 'TYST, MERTHYR.
I Y WERS SABOTHOL. }
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Y WERS SABOTHOL. } 9 l i t Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL ? I I I Gan y Parch. D. EUROF WALTERS, | I t M.A., B.D., Abertawe. t AwST I2fed.—Tey-rnasiad Daionus Josiah. 2 Cron. xxxiv. 1-13. Y TESTYN ITJRAIDD, Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn dyfod y dyddiau blin, a neshau o'r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt.'—PREG. xii. i. CAWSOM yn y Wers ddiweddaf olwg ar edifeirwch Î Manasseh. Wedi blynyddoedd o eilunaddoliaeth ceisiodd adfer addoliad Jehofah- Ond anodd iawn ydyw dadwneud drwg. Yr oedd y proff- wydi wedi eu gwasgaru, a llawer o'r lTyddlou- iaid wedi eu lladd. Dilynwyd Manasseh gan ei fab Amon, ac yn ol yr hen arferion yr ai Amon. Canys Amon a aberthodd i'r holl ddelwau cerf- iedig a wnelsai Manasseh ei dad ef, ac a'u gwas- anaethodd hwynt. Eithr yr Amon yma a bechodd fwy-fwy.' Ond ni chafodd Amon aros aryr orsedd yn hir, canys ymhen dwy flynedd gosodwyd ef i farwolaeth. Nid yw'r hanesydd yn aros yn hir gydag Amon y mae fel pe am frysio i adrodd hanes Josiah a chyda'r hanes hwnnw y byddwn yn y Wers hon a'r un ddilynol. Rhaid cofio yrna eto am yr adroddiad yn Llyfr y Brenhinoedd. Ceir gweled fod gwahaniaeth rhwng yr hanes yno a'r un geir yma. Yn ol Llyfr y Brenhinoedd dechreuodd Josiah gydag adgyweirio'r deml; ond yma, ar ol dinistrio'r delwau y trodd efe at y deml. Beth bynnag am y drefn, yr ydyin i ddeall i Josiah ddilyn Hezeciah yn ei ddiwygiadau, ac iddo iyn ed ymhellach hyd yn oed na hwnnw. Josiah oedd yr olaf o'r brenhinoedd i geisio puro crefydd y wlad. Gallodd atal y farn ar Judah am dipyn, ond ymhen tuag ugain mlynedd ar ol ei farw syrthiodd teyrnas Judah, Daeth Josiah i'r orsedd yn ieuanc—pan yn wyth mlwydd oed. Sonnir yn Llyfr y Brenhin- oedd am ei fam cyix ei gamnol, ac y mae hynny yn awgrymu mai dylanwad da ei fam oedd yn cyfrif i raddau am ei dueddiadau daionus. Yr oedd yn rhy ieuanc pan ddaeth i'r orsedd i weithredu, ond. ymhen wyth mlynedd dechreu- odd feddwl drosto'i hun. Efe a ddechreuodd geisio Duw Dafydd ei dad.' Dafydd ydoedd tad brenhinoedd Judah; efe ydoedd sylfaenydd y deyrnas, ac efe ydoedd yr esiampl wrth ba un y bernid y brenhinoedd ar ei ol. Yn gynnar yn nheyrnasiad Josiah dechreuodd Assyria fawr golli ei nerth. Aeth yr awdurdod i law yCaldeaid, ac ymddangosodd gallu newydd, y Lythiaid, ar yr hen lwyfan. Er nad yniddengy s i'r rhai hyn gyiiwrdd a J udah, yr oedd eu hYlll- ddaugosiad yn foddion i sobri'r genedl. Ac yn y cyfle hwnnw cafodd Josiah ei law yn rhydd i ddiwygio. I'w deyrnasiad ef y perthyn y proffwydi Nahum, Sephaniah a Jeremiah, ac efallai Habacuc. Cred rhai mai Sephaniah ydoedd athraw Josiah, ae y mae He i gredu bod Sephan- iah o'r tetilti breiihinol. J. Adn. 3-7.—Dechreu glanhau. 4 jij 'A'r llwyni [Asherim polion cysegredig i'r duwiesau], a'r delwau cerfiedig, a'r delwau todd- edig.' -Pob math o arwyddion eilunaddolgar. Yr uchelfeydd *—olion yr hen grefyddau a gad- wesid yn niwedd teyrnasiad Manasseh. Adnod 4 A'r delwau/ neu yr halll-ddelwau 'yr addoliad Babilonaidd fu mewn bri yn amser Manasseh. (Cymharer 2 Bren. xxiii. 11 Ac efe a ddifethodd y meirch a roddasai brenhin- oedd Judah i'r haul.' Darluiiid yr haul fel duw gan y Babiloniaid, yn eistedd mewn cerbyd ac yn gyrru ei feirch.) Gymaint oedd ei lid yn erbyn yr arferion hyn fel y taenodd Josiah lwch y delwau ar feddau y rhai a'u haddolasent gynt, gan sarhau'r beddau felly, ac halogi defnydd y delwau drwy eu dwyn i gyffyrddiad a'r marw. Adnod 5.—Halogodd hefyd yr allorau drwy losgi esgyrn yr offeiriaid arnynt. Adnod 6.—Fel y dengys y ddwy adnod flaenorol lwyredd y gwaith, felly y dengys hon faint y gwaith. Ni chyfyng- wyd y diwygiad i Jerusalem nac i J udah; yrnledodd y diwygiad i'r Deyrnas Ogleddol. 'A'u ceibiau hwynt.' V mae'n anodd gw\-bod beth olygir wrth y geiriau hyu. 'A'u bwyeill,' medd rhai, ydyw'r ystyr; ond eraill, Yn eu hadfeilion oddianigvlch. Gadewsid y wlad yn adfeilion gan yr Assyriaid, a chaethgludesid y bobl; ond hyd yn oed yn yr adfeilion yr oedd olioii yr hen grefyddau, Wedi gorffen y gwaith drwy'r wlad oil, dychwelodd Josiah i Jerusalem. Mor awyddus ydoedd i lwyr-ddinistrio'r delwau fel yr aeth efe ei hun gyda'i bobl o amgylch. Adn. 8-13.—Glanhau ac adgyweirio'r deml. Ymhen pedair bly-nedd trodd Josiah ei feddwl at adgyweirio'r deml. Gellir rhoddi'r ainseriad i hyn yn 621 C.C. Bnwir y swyddogion oedd a gofal yr adg}-\veirio arnynt: Saphan (yr ysgrif- elUlydd-Llyfr y Brenhinoedd) Maaseiah, ty- wysog (llywydd neu faer) y ddinas; a Joa-h, y cofiadur (neu'r croniclwr). Nid inyinpwy'r brenin-rhywheth i'w ddifyrru—eithr gwaith i'r holl bobl, ac yu yr hwn yr oeddent i gymrvd diddordeb, ydoedd adgyweirio'r deml. At y diben o adgyweirio 'r deml, cyfrannai'r bobl megis yn nyddiau Joas (2 Bren. xii.), a'r Lefiaid ofalai am y dreth. Adnod 9. A hwy a ddychwelasant i Jerusalem,' neu 'Ac oddiar drigolion Jeru- salem.' Yn y gwaith o adgyweirio drachefn yr oedd llwyredd a threfn (gweler 2 Breti. xxii. 5). Yr un deml ydoedd, ond ei bod wedi dirywio yn fawr. Yr oedd llawer adwy yn y muriau, a rhaid oedd llorio'r deml o'r newydd. Yn llydcl- iau Manasseh ac Amon aethai'r deml a'i hystaf- elloedd yn ddibarch. Adnod 12.—Aeth ysbn-d cyffelyb i'r un a gyffröai Josiah ar y gweithwyr hefyd. Er bod ganddynt olygwyr, i flaciiori arnynt' (nid oedd eisiau eu gorfodi). 'A'r gwyr oedd yn gweithio yn y gwaith yn ffyddlawn.' Enwir y golygwyr hyn i ddangos urddas y gwaith yr oedd rhai o'r teuluoedd goreu ym;. Ond heblaw hynny, yr oedd gwahanol raddau yn y gwaith i bob un ei waith, a phob un wrtli ei waith-sei-ci coed a maen, a chludwyr.
INodion o Lannau'r Aman.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Nodion o Lannau'r Aman. Profiad yr hen genedl ydyw profiad llawer o eglwysi glannau'r Aman yn y dyddiau blin hyii, sef Pa fodd y canwn gerdd i'r Arglwydd ? oherwydd fod y Ddeddf Filwrol wedi gosod ei llaw ar ysgwyddau tri o'r organyddion lleol, a pheri iddynt adael y tannau i gyflawni rhyw wasanaeth mwy anghydnaws a'u hysbryd, sef eiddo Bethel, Cwmaman Carmel, Gwauncae- gurwen, ac Ebenezer, Brynaman. Hyderwn y t yr y wawr yn fuan fel y gall y tri wyr hyn ddychwelyd eto i dynnu'r gerddoriaeth o'r offer- ynnau er chwanegu mawl yn odfeuon y cysegr. Mae amryw o blant yr eglwysi wedi eu galw i for a byddiu i wueud eu rhan, ac mae eu llc- oedd yu wag iawn yn y cysegr, a hynny yn esgor ar ond a hiraeth yug nghalonnau miloedd. Gellir yn briodol gymhwyso'r achiod hon i brofiad yr eglwysi heddyw Rahel yn wylo am ei phlant.' Hydervvn y cant ddychwelyd (nid felly i gyd) i Seion eto, ac y bydd moli yn felysach nag erioed ganddynt, ac y gwerthfawrogir eu presenoldeb gennym yn fwy nag erioed. Gwasanaethwy-d yn odfeuon cyrddau blyn- yddol Carmel gan y Parch. J. Vernon Lewis, B.A., B.D., Lerpwl, ac yng nghyfarfodydd yr achos Saesneg Yill Mrynaman gan y Parch. Dyfi Rees, B.A., Birmingham. Mae'r frawdoliaeth yu Hermon wedi rhoddi galwad unfrydol i'r bardd-bregethwr o Glydach, y Parch. Alfa Richards, i ddod i'w bugeilio ac y mae yntau, ar ol ystyried y cyfryw, wedi ateb yii gadarnhaol. Hyderwn y bydd yr uniad yn un hapus a pharhaus, ac y bydd yn foddion i adeiladu'r eglwys trwy ei weinidogaeth, ac y disgyn y gwlith arni mewn canlyniad. Mae'r Parch. J. Lewis, un o blaiit Ebenezer, wedi ymgymeryd a gwaith bugeiliol yr eglwys hon dros dymor. Hyderwll y bydd ei gysyllt- iadau yntau a hi yn un dymunol, ac y caiff ei weithgarweh ei goroni a llwyddiant, Mae'r eglwys yma wedi rhoddi perfformiad o Triumph of Joseph dan arweiniad Mr. Evan Williams, blaenor y gan, ac yr oedd y cyfryw yn dwyn olion llafur a gwrtaith. Gwnaeth y plant a'r arweinydd eu gwaith i foddlonrwydd cyffred- inol. Rhoddodd yr eglwys ei gwledd de flyn- yddol i'r plant y mis diweddaf. Gwcinyddwyd wrth y byrddau gan ferched a gwragedd vr eglwys mewn llonder a llawnder. D.B.T.
I Arholiadau'r Meysydd Llafur.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Diameu gemiyf y cawn wybod ffrwyth yr ymchwil cyn bo hir. « Awyddus ydym i weled yr eglwysi yu rhyw- beth amgen na lliti yn mygu ac ar ddiffoddi. Chwenycliwn yn hytrach iddyut chwythu'r wreichioneii Gymreig yn fflam eirias. Oni ddeff. rown fel Cymry, ac fel eglwysi Cymraeg, o blaid yr heniaith a drosglwyddwyd i ni dros ysgwyddau canrifoedd, byddwn, cyn belled ag a fynno n pobi ieuainc a gwaith yr eglwysi hyn, nxegis Y11 chwilio yem a chael gwmon.' Barry. D. ARTHEN EVANS. W