Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
iHYN A'R LLALL 0 BABILON iFAWR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
i HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. GAN EYNON. Unwaith yn y mis y daw Celt Llundain allan yn bresennol, ond y mae'r rhifyn am Awst mor fyw ag erioed. Y mae'n llawdrwm anghyffredin ar yr Aelodau Cymreig. Nid oes man glan na chyfan ar yr un ohonynt' Geilw un erthygl am clean sweep. Tipyn yn eithafol yw hyn hefyd. Mae'n reit wir mai diddylanwad iawn fel parti yw'r Blaid Gymreig, ond y mae hynny i'w briodoli i,r ffaith fod yna ddiffyg undeb yn eu plith. Awgrym yr ysgrifennydd uchod yw fod pawb yn edrych am toffy. Ond y mae yna gryn hanner dwsin o Biwritaniaid yn y Blaid nad ydynt yn hidio am wg na gwen yr un dyn dan haul Ironsides o'r iawn ryw. Ond y mae yna hefyd liaws nad ydynt yn werth dimai bren fel Aelodau Cymreig. Cyfeir- iais y dydd o'r blaen at y ffaith mai pur anaml y gwelir enw Cymro yn cael ei ddewis ar y gwahanol Bwyllgorau Seneddol hynny ydynt yn gwneud cymaint i roddi ffnrf ar ddeddfwriaeth yr amseroedd. Bydd ambell un a clianddo asgwrn cefn yn gallu gwneud llawer mwy o wasanaeth niewn Pwyllgor nag a ellir wneud mewn araith ymfflamychol ar lawr y Ty. Ond sut bynnag am hynny, y mae'n ddiddadl fod Cymru yn disgwyl mwy o wasanaeth gan ei chynrychiolwyr Seneddol. Da gan bawb ohonom weled Syr Garrod Thomas wedi cyrraedd llawr St. Stephens. Ceisiwyd ganddo dro ar ol tro i anelu at aelod- aeth Seneddol, ond methwyd ei berswadio hyd yr awron a chan ei fod bellach wedi gorffen meddyga, gall roddi ei holl fryd a'i feddwl ar politics. Nid oes neb sydd yn adwaen Syr Garrod yn holi a yw yn hollol iach yn y ffydd. Cafodd yr oruchel fraint-fel llawer ohonom— o gael ei eni yn sir Aberteifi, gerllaw Llanarth, ac y mae rhywbeth yn awyrgylch Llanarth erioed sydd yn ffafriol i godi cewri. Y mae'r meddyg enwog yn falch o'i wehelyth, ac y mae'r hen sir yn. falch ohono yntau, ac yn dymuno lwc dda ganwaith iddo fel Aelod Seneddol. Dylasai fod yn cynrychioli Cardiland ymhell cyn hyn. Mae Mr. Ellis Griffith yn lied awgrymu y gall Deddf Datgysylltiad yng Nghymru fyned o dan beth cyfnewidiad yn herwydd y rhyfel. Hynny yw, os yw'r rhyfel wedi gwaethygu'r fargen i'r Eglwys, gwneir iawn am hynny. Ond y peth ffolaf yn y byd fuasai i'r blaid eglwysig giesio ail-agor y cwestiwn eto ar ol yr holl frwydro yn ystod yr hanner canrif ddiweddaf. Ar faes y gAd mae'n syn mor frawdol y mae'r enwadau crefyddol oil, ac ofer fydd codi'r hen fanerau enwadol eto i'r gwynt fel yn y dyddiau a fu. Mae Eglwys Loegr eisoes yn rhagweled y bydd raid iddi hithau symud gyda'r amseroedd, neu gael ei gadael ar ol. Rhaid iddi symleiddio ei gwasanaeth, a dod yn agosach at y bobl. Rhaid i ninnau hefyd yn yr Eglwysi Rhyddion gadw llygaid yn agored a deall arwyddion yr amserau. Bu Conference y Wesleaid yn eistedd yn y Brifddinas yn ddiweddar, a bu dan esgob yno yn siarad brawdgarwch. Y ddau esgob oeddynt Esgob Llundain ac Esgob Chelmsford. Hen Weslead yw Esgob Chelmsford, ac yr oedd yn adnabyddus gynt i bawb ohonom fel Mr. Watts Ditchfield o Bethnal Green. Enillodd ei swydd esgobol yn onest drwy lafur ardderchog, ac yr oedd yn gymydog braf i bob capel Ymneilltuol yn yr ardal. Addefodd ei fod ef yn ddyled dros ei ben i Ymneilltuaeth nid fel Mr. R. J. Camp- bell, yr hwn ar ei ymadawiad a'i hen gorlan, gyffesai nad oedd arno ddyled yn y byd. Druan ohono Onid pulpud Joseph Parker roddodd gyhoeddusrwydd iddo ? Ond i ddychwelyd at yr esgobion, siaradodd y ddau yn nice anghyff- redin, ac awgrymodd y brawd o Lundain ryw- beth am undeb rhwng y Wesleaid a'r Hen Fam, gan nad oedd fawr o wahaniaeth rhyngddynt. Atebwyd yn foesgar ac yn briodol iawn gan y Cadeirydd. Yr unig undeb posibl rhwng y pleidiau hyn ydyw undeb ar dir cydraddoldeb. A yw'r Esgob yn foddlon i'r telerau ? Ysgrifennais dro yn ol yn y colofnau hyn ar bwnc y living wage i weinidogion. Gwnes hynny ar gais amryw ohonynt, gan lwyr obeithio buasai'r brodyr hynny, beth bynnag, yn cadw'r pwnc yn fyw drwy ysgrifennu arno. Ond nid oedd llef, 11a neb yn ateb nac yn ystyried, ac felly syrthiodd y mater i'r llawr. Rhoddais brofion anwadadwy o'r dull shabby y telid ambell weinidog tlawd oedd yn byw ar fin newyn drwy'r blynyddoedd. Erbyn hyn y mae'r wasg Seisnig yn codi'r mater i fyny. Mae'r glowr a'r mwnwr a'r ffermwr wedi cael amser braf yn ddiweddar, ond er fod war bonus i bawb-dim i'r pregethwr, druan. Na chauer safn yr ych sydd yn dyrnu,' meddai'r Hen Lyfr. Diffyg ystyriaeth sydd wrth wraidd hyn oil. Dim ond eisiau cyhoeddus- rwydd sydd, a daw'r eglwysi i weled creulondeb y peth, ac fe svmudir ymlaen gyda'r mudiad ardderchog i sicrhau ei fara beunyddiol i'r hwn sydd yn torri i ni o fara'r bywyd. Cafodd Mr. Churchill fwyafrxf mawr yn Dundee y dydd o'r blaen. Nid oedd ganddo wrthwyneb- ydd cryf, ond yr oedd pob Tori yn y wlad yn galw ar yr holl dduwiau i gadw Churchill allan. Dywedir ei fod yn siarad mor fyw ag erioed, ac uid oes un fedr ddwevd pethau mwy llachar pan fydd hwyl ar bethau. Talent ar?ll yw ei fod yn ddyn go-aheci l, a chan mai gwneud cad- nwyddau fydd ei job, dyna ddigon o faes i bob talent sydd yn ei feddiant. Prawf arall yw dychweliad Churchill o hollalluowgrwydd y Prif1 weinidog. Braf yw efe am gofio hen ffrindiau, u'i deimlad, mi wn, ydyw ei bod yn bryd madden Antwerp a Galipoli. Rheswm arall dros ddych- welyd Churchill yw fod eisiau siaradwr da ar y Front Bench. Ac nid oes neb y dyddiau hyn yn medru dweyd y drefn yn well na'r gorch- fygwr o Dundee. Pob llwydd iddo roddi terfyn ar y rhyfel.
I Teilwng o Sylw.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Teilwng o Sylw. Blin iawn, yn ddiau, gan bawb a adwaenant y Parch. R. W. Davies, Casllwchwr, yw deall ei fod yn ymddiswyddo o'r weinidogaeth, yn unol a chyfarwyddyd pendant ei feddyg, oherwydd sefyllfa fregus ei iechyd. Mae hyn yn frath i'w galon ac yn rhwyg dolurus i'w deimladau, ond ceisia ynnvroli oreu y gall i wynebu'r cyfan er mwyn yr achos goreu, gall gyflwyno ei hun a'i deulu i ofal ac amddifEyuiad yr Hwn sydd yn noddfa ac yn nerth, ac yn gymorth hawdd i'w gael mewn cyfyngder. Fel y gwelir mewn colofn arall o'r TYST, mae'r eglwys wedi ffurfio Pwyll- gor i gyflwyno tysteb iddo, gan obeithio ac ymdrechu i gasglu swm fydd yn gynhortliwy calonnog i'n brawd ar ei waith yn symud i Aberaeron er cael gwell manteision i wellhad. Yr ydym ni sydd â'n henwati isod yn cymer- adwyo'r Pwyllgor yn deilwng o bob cefnogaeth a'n hannwyl frawd yn deilwng iawn o bob cynhorthwy posibl. Bydd pob swllt gyfrcnnir i'r drysorfa yn sicrhau gloywach nen i'r hwn sydd yn y dyffryn ar hyn o bryd. Angen dYl1 yw cyfleustra ei gyd-ddyn, yn arbennig ei frawd, Dros yr achos teilwng, I W. MORGAN, Brynteg, Gorseinon. D. H. THOMAS, Ebenezer, Gorseiiion.
IState Purchase.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I State Purchase. The Campaign in support of Mr. Lloyd George's Tempera ice Policy for the Principality as expounded by him in reply to the two Welsh Temperance Deputations in May last will be opened by a Convention at Llandrindod Wells on Thursday, 13th September. The Chair will be taken by the Rt. Hon. Sir Alfred Mond, Bart., P.C., M.P., and among the Welsh Mem- bers of Parliament who are actively indenti- fying themselves with the Movement are Lord Rhondda, Mr. John Hinds, Mr. Lewis Haslam, Sir A. Garrod Thomas, M.D., Mr. J. Towyn Jones, Major David Davies, Mr. Ellis W. Davies and Mr. Edgar R. Jones, as well as eminent leaders of all the denominations and of the political parties. Invitations are to be issued to those who signed the recent Memorial to the Premier in favour of State Purchase and Local Option, but supporters of the Movement who desire to be present may obtain tickets on application to the acting Hon. Secretary—Principal Thomas Rees, M.A., Bangor.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SOAR, LLANELLI. Saboth a nos Lun, Gorffennaf 2gain a'r 3oain, bu Miss Rosina Davies, yr efengyles, ar ei hymweliad blyn- yddol a'r cglwysIuchod.
— — —, — -— | TROION YR YRFA.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ond yr oedd un gogwydd yn ei bywyd oedd yn trechu'r oil, sef ei hawydd am fagu'r claf ac yn unol a'i thueddfryd, ymunodd a dosbarth y meddygon er ymgymhwyso i'r gwaith. Yno teimlai gymaint ynei helfen nes yr aeth i'r ysbyty lleol, ac oddiyno i ysbyty mawr y dref. Erbyn hyn daethai'n gymwys i ymddiried i'w gofal fachosion ofynncnt driniaeth fedrus a gofalus, ac yr oedd llwyddiant nodedig yn dilyn ei hymdrechion. Yr amser hwn torrodd y rhyfel nxawr "allan, ac aeth pawb trwy'r wlad i deimlo fod galwad arnynt i wrthsefyll ymosodiad y gelyn beiddgar, Brysiodd y bechgyn ieuainc cryf i wisgo eu harfau, a'r meddygon a'r merched i'w dilyn er trin clwyfau'r archolledig. Nid oedd Bronwen yn ol i un ohonynt yn ei hawydd i wneud ei rhan, a buan yr hysbysodd i'w tbad a'i mam ei bwriad, gyda'u cydsyiiiad liwy, i roddi ei hun at wasanaeth ei gwlad a'i pliobl yn nydd eu cyfyngder. Gyda'r troad daeth iddi'r atebiad tyner, wedi ei ysgrifemui gan ei thad :—' Fy ngeneth anwylaf, nid oes i'th fam a minnau fab i'w anfon i gynorthwyo ein milwyr dewr i I amddiffyn ein cartrefi a'n gwlad yn yr argyfwng ofnadwy i'r hwn yr ydym wedi ein gyrru o'n hanfodd, a llawen ydym fod gennym ferch o ysbryd digon dewr a hunanaberthol i wneud i fyny'r diffyg hyd y gall. Bydd eich aberth chwi yn aberth mawr i'n teimladau anwylaf ninnau. Er hynny, ewch, a bydd ein gweddi wastadol drosoch,' &c. Yr oedd cais Lady Stacey am nurses profiadol i fyned i Serbia yn y papurau dyddiol, a theimlai Blodwen, ar yr olwg gyntaf arno, mai dyna gylch ei gwasanaeth hi. Ond nid da ei dewisiad yngolwg ei ffrindiau, a cheisient ei darbwyllo i fyned i Ffrainc yn hytrach. Ond na, i Serbia y mynnaffynd yr oedd cyfartaledd ei dioddef- wyr yn fwy na'i darpariadau meddygol, a'i thlodi a'i thrueni yn apelio'n gryf am gydym- deimlad a chynhorthwy, ac i Serbia yr aeth Bronwen gyda'r adran gyntaf. Yr oedd ymadawiad aelodau o Penuel, fel o lawer eglwys arall, yn beth cyffredin yn y dydd- iau hynny, ac nid achosai ryw lawer o dristwch a hiraeth. Ond dolur i deimlad yr eglwys oedd ymadawiad Bronwen, a rhaid oedd cael cyfar- fod i'w hanrhegi ac i ddatgan yr hiraeth o'i cholli, a'r dymuniadau da am ei dyfodol. Ond nid y cyflawniadan cyhoeddus, er eu heffeithiol- rwydd, oedd yn mynegi gyflawnaf yr anwyldeb mwyaf. Ar ddiwedd y cwrdd y noson honno yr oedd Charles Evans, ac Ann ei briod, yn galw Bronwen atynt: a chan estyn iddi anrheg fechan wedi ei rhwymo mewn papur, dywedai Ann fod Charles a hithau wedi meddwl, ar ol iddvnt gyfrannu at 3 dysteb gyhoeddus, eu bod hwy yn fwy yn eu dyled nag eraill, ac yn awyddus i gydnabod hynny trwy ryw rodd fechan o'r eiddynt eu hunain. Arferai Bronwen alw am fachgen bach Charles i'w gymryd gyda hi i'r cwrdd dirwestol bob wythnos; ac wrth ddychwelyd un tro, a'r bach- gennyn yn ei llaw, cyfarfyddodd a Charles, a hynny yn y cyflwr yr arferai fod yr amser llynny. Parodd yr olwg arno gymaint blinder i'w hysbryd nes ei chyffroi i ddywedyd Wei, wir, dyma ni yn ymdxechu ein goreu i wneud dyn sobr o'ch bachgen, a chwi drwy eich yfed yn gwneud eich goreu i'n rhwystro.' Ond y diwrnod canlynol aeth i ofyn pardwn Charles am siarad mor amharchus wrtho y noson o'r blaen. Ond yr oedd hi wedi ei hanner sobri y tro cyntaf, a gorffennodd y gorchwyl yr ail noson. Yr atgof am y gwasanaeth bendithiol hwn barai i Charles Evars a'i wraig deimlo mor ddyledus i Bronwen. (l'w barhau.)