Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Llanwrin.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llanwrin. Dyma lanerch fach dlos ar fin y Dyfi a rheil- ffordd y Cambrian yn pasio i olwg Saron, sef y capel bach welir ynghesail y bryn gerllaw, lie hefyd y bu Silvan Evans yn datod geiriau anodd y Gymraeg hyd at eu deall. 0, dyma le annwyl! Gerllaw'r capel y mae'r man y ganwyd yr anfarwol genhadwr Indiaidd, sef William Jones, Singrowli. Dyna i chwi gennad i'r Duw da wedi ei eni mewn man cymharol ddinod, onide ? Ie, ac yn ymyl hefyd y gan- wyd y gwr da ac annwyl, Rowlands, Treflys (a Llundain wedi hynny) oddeutu diwedd 1870. Nid oedd neb a wahoddid o Gymru i wasanaethu eglwysi Lerpwl yn fwy cymeradwy na Rowlands, Treflys. Onid ydyw'r eglwysi bychain wedi gwneud gwaith bery ddyddiau'r ddaear Tra yn awr yn y dyffryn prydferth yma teimlwyf mai braint fawr ydyw cael byw mor agos i fan y bu ein Tad Nefol yn ymofyn gweithwyr mor ardderchog. Y prif reswm dros ysgrifennu' am Lanwrin y tro hwn ydyw'r cyflwyniad i Mrs. Rowlands, priod Mr. W. D. Rowlands, cyfreithiwr (gynt o Ferthyr, a chyfaill annwyl i argraffwyr y TysT). Rhoddodd ei dosbarth yn yr Ysgol Sul iddi, fel arwydd o'u hedmygedd, gyfres o lyfrau-The World's Classics (dewisiad Mrs. Rowlands). Cofus i Mrs. Rowlands ymuno mewn glan briodas a Mr. Rowlands ,ac y maent yn barchus ac annwyl yn ein plith ym Machynlleth. Mae teulu parchus Mathafarn S'u hysgwyddau'n dYn iawn dan yr achos bach yn Llanwrin, a haeddant sylw a chymeradwyaeth am y gwaith mawr maent yn ei wneud ynglyn ag ef. GWIvADWR.

c - 4 Y WERS SABOTHOL. 0 i…

Achos ym Merthyr Tydfil.

DYFODOL ADDYSG CYMRU.I