Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

TROION YR YRFA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TROION YR YRFA. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf.) Prin"yr oedd Mr. a Mr3. Evans wedi ftarwelio a hi, gan ddymuno ei diogelwch a'i llwyddiant, pan ofynnodd Sarah Tomos ganddi dderbyn o'i Uaw rodd fechan fel cydnabyddiaeth ei mam weddw a hithau am fagu ohoiii yr hen wraig mor fedrus a thyner yn ol i'w hiechvd arferol. Pe gallem ff-orddio rhoi yn ol ein teinilad, nieddai Sarah, 'buasai yn rhodd gwerth ei chael.' Yr oedd amryw eraill wedi gwneud yn debyg. Ond yr hyn y soniai pawb am dano oedd gwaith yr hen chwaer annwyl, Sian Morris, yn mynd a'i rhodd i dy y gweinidog y bore yr oedd Bronwen yn mynd i ffivrdd, sef par o hosanau oedd wedi ei wau ei hunan, yr hyn oedd-fel rhodd y weddw honno gynt-yu fwy na'r cwbl. Oud pan ar i ffordd at ddrws y cefn ac yn mynd heibio i'r ffene vtr, ni wyddai yn y byd betb oedd i'w wneud. Teimlai ei bod yn sangu ar dir cysegredig, ac nis gallasei symud yn ol 11a blaen. Yr oeddynt yn cyunal y gwas- anaeth teuluol, ac mor flin gan yr hen chwaer ydoedd eu haflonyddu Ond, yn ol ei harfer, aeth Bronwen yn dawel i'w derbyn, ac arwein- iodd hi i fewil. A phan gafodd Sian gyfle i ddweyd gair, mynegodd fel yr oedd yn ofni dydd yr ymadawiad. Bydd yn sicr o effeithio ar fy mawl i,* meddai. Nis gall neb ganu tra fydd hiraeth dan ei fron. Fe fydd yna wacter ar eich ol. Mi fyddaf yn erfyn eich gweld yn galw o hyd, yn enwedig ar nos Sadwrn, pan fyddaf yn teimlo fy unigrwydd fwyaf.' Pan ddaeth amser yr ymadael yr oedd tyrfa wedi ymgasglu wrth yr orsaf. Pe buasai merch y brenin yn mynd i ffwrdd, ni fuasai'r gymdog- aeth yn fwy cryno yno. Yr oedd golygfa fel hon wedi peri i wr y Blue Bell weld a chyd- nabod fod rhywbeth gwell 11a chyfoeth yn y byd yma wedi'r cyfan. Nid oedd yn synnu dim erbyn hyn fod Madog wedi ymserchn yn y llances. Gosodwyd hi yng nghwmni eraill mewn ysbyty yn Uskub, lie yr oedd ugeiniau yn gorwedd yn y dwymyn, ac am rai wythnosau yr oeddynt fel yn analluog i weini ar y dioddefwyr yn briodol. Ond trodd pethau er gwell yn y gym- dog aeth honno. Eto, tua diwedd yn wytluios, daeth cwyn truenm o gymdogaeth air all, yr hon oedd tuag ugain milltir oddiyno, a lie yr oedd y darpariadau prin wedi gorfeichio'r nurses a gofal, y dwymyn yn cynhyddu yn ei gafael, a'r Uliig feddyg, yr hwn, ynghyda nifer o fenywod Serbiaidd, oedd yn gofalu am y sefydliad, wedi Iti gwympo gan y dwymyn. Rhaid oedd cael rhywun, a hynny'n fuan, i gynorthwyo yno. Pwy geid ? Yr oedd yno unfrydedd mai Bron- wen oedd y gymhwysaf i ymgymeryd a chyfrif- oldeb mor fawr ac' a swydd mor ofalus. Ar ddydd Sadwrn yr oedd Bronwen ar ei thaith Cldyngorol, yng ngofal dieithriaid, ac i le oedd yn fwy dieithr fyth iddi. Yr oedd yn hwyr arni Ytl cyrraedd yr ysbyty, eto rhaid oedd iddi fynd 1 weld y meddyg. Gobeithiai yn fawr nad oedd yr hyn a glywsai am berygl ei gvstudd yn wir. Ond O pan y gwelodd ef, deallodd fod y dwymyn wedi cael llawn afael arno. Yr oedd ei awydd am fyw wedi cilio, ei ddiddordeb mewn pethau cymdeithasol wedi darfod, cwsg gwres ei ddolur wedi marweiddio ei feddwl a'i syn- hwyrau, ac anfynych yr oedd yn hunanfedd- iannol. Wedi gweled hyn, bu agos iddi droi ymaith mewn anobaith eithr ni.3 gallasai. Aeth yn nes i erchwyn y gwely craffodd ar weith iadau byw gewynion wynepryd y dioddefydd. Yna ciliodd yn ol yn syn. Beth Pwy Madog Ië, efe ydyw Madog meddai yn dyner wrth ei glust. Ond yr oedd yn rhy wan i agor ei lygaid, a hithau'n rhy effro i gau ei llygaid y nosou honno. Trannoeth yr oedd yn Sul. Yr oedd amgylch- iadau'r byd wedi dyrysu, ond anian mor siriol a dymunol ag erioed--yr awel ysgafn a goleu'r haul yn cymell bywyd i wisgo gwisgoedd ei ogoniant. Yr oedd ffenestr ystafell y claf yn wynebu ar y dwyrain, ac ar ddisgyniad pelydrau yr haul ar wyneb y claf trwyddo, dadebrodd ei natur, a gwelodd Bronwen ei lygaid yn gwneud ymgais i ymagor am y tro cyntaf, a'i enau yn symud, a chlywodd sibrwd ei lais yn ei galw wrth ei henw. Y fath lawenydd i'w mynwes oedd deall ei fod wedi ei hadnabod Ie, a'r fath galondid iddi i weini arno 1 Ond, fel yr oedd y bore yn mynd ymlaen, daeth ton o hiraeth dros ei bysbryd. Meddyliai am gartref a rhieni, y gyiiulleidfa ym Mhenuel, y rhan ddwys honno o r gwasanaeth pan fyddai ei thad yn arwain mewn gweddi; ac yr oedd yn sicr fod yno gyfeirio tyner ati hi, ac eraill oedd o'i chylch, ac yr oedd yn llawn mor sicr fod yno 'Amenau ac ocheneidiau lawer heblaw eiddo Sian Morris. Yr oedd gofal Bronwen yn fawr am bawb All y sefydliad ond dycliwelai o bob man at Madog, a phan ddaeth ato un tro cafodd ef yn hollol hunanfeddiannol, a gwen waunaidd, foddhaus ar ei wyneb, ond yn rhy wan i ddim ond vn unig i ddweyd ei henw. Ond gwnaeth y deuddeg awr dilynol gvfuewidiad mawr ynddo. Y 111 ae dylanwadau cyfrin ar adegau wedi gwneud rhyw- beth tebyg i wyrthiau ar bobl oedd, i bob ymddangosiad, wedi cyrraedd y terfyn. Ond o bob dylanwad, serch yw'r bywiogydd yr y gwaed drwy'r gwythiennau ac a lwyr symuda ddelw'r bedd o wedd y byw' effeithiolaf. Rhyf- eddai Bronwen at Madog, a rhyfeddai Madog ato'i hun, gan nior gyflym yr oedd yn gwella. Ond y rhyfeddod mwyaf i'r ddau ydoedd fod Rhagluniaetli garedig wedi eu harwain i gy- northwyo ei gilydd mewn dydd o gyfyngder. Wel paham,' gofynnai Madog, yr arweiniwyd chwi yma ? Nis gwn, os nad i weini arnoch chwi, atebai Bronwen. A Bronwen yn ei thro a ryfeddai, ac a ofynnai paham yr anfonwycl Madog i'r lie hwnnw yn h) trach nag i Ffrainc i wella archolliou clwyfedigion ei genedl ei hun. Yr oedd yr oil yn ddirgelwch mawr a dedwydd, ond cytunent i'w briodoli i ddoethineb a chariad Llywodraethwr mawr y byd. I'w foddhau, yr oedd yn rhaid i Bronwen ganu'n fynych yr hen alaw Gymreig, Gyda'r wawr a phob tro y deuai yn at ail bennill at y geiriau- Ces weld ei ruddiau gwelw, Gyda'r wawr, Ces glywed swn fy enw, Gyda'r wawr, Oddiar Ei fin wrth farw, Gyda'r wawr,' atebai Madog Do, do, merch annwyl i.' Ymhen ychydig fisoedd cymerodd amgylchiad diddorol iawn le ym Mhenuel. Daeth Bronwen a Madog adref am seibiant, ac yn ystod eu hym- weliad byr unwyd hwy mewn glaii briodao yug ngwydd llond capel o bobl dda a dedwydd, y rhai oil o galon a ddymunent iddynt fywyd hit a llwyddiannus. Ond cyn fod y par dedwydd wedi myned allan dros jdrotHNy drws y capel torrodd Sian Morris allan i ganu'r emyii hen eyf arwydd- 0 fryniau Caersalem ceir gweled,' &c, ae ymunodd yr oil gwmni gyda hi Wedi i'r gwahoddedigion ieuengaf orfieu cyfranogi o'r ymborth yn nhy y gweinidog, ac ymneilltuo ohonynt i ystafell arall—oherwjdd yr oedd y par ieuanc i ymadael y prynhawn hwnnw, i ail ymaflyd yn eu gwaith mewn cylch newydd— dywedodd Mrs Meredyth wrth y gwahoddedig- ion hynaf Dyna 'nawr, gallwn ni gynnyd eu lie,' yr hyn a wnaethant. Rhwng siarad a bwyta, dywedodd Morgan Rees mewn llais aneglur a chydag edrychiad swil Y mae Marged a niinnau, Mr Meredyth, yn falch iawn o'r dydd yma Yr ydym ni yn dod yn ol gartref i Penuel, ac yn dod i aros bellach.' Cewch groesaw cynnes yin Mhenuel, yr wyf yn sicr,' meddai Mr. Meredyth, a gallwch fod yn ddefnyddiol iawn fel cynt.' Y mae'r amgylchiad yma,' meddai gwr y dafarn, wedi dod a li a meistres i gwmni hollol wahanol i arfer. Wel, fuasai hynny ddim yu llawer, onibai ein bod yn y gorffennol wedi ymddwyn yn angharedig tuag atoch chwi. Beth byunag, mae'r cyfnewidiad er gwell, ac yr ydym ni am ymddwyn yn deilwng o'n hadnabydd- iaeth newydd. Am y cam a wneuthum a chwi ac achos Penuel, ac fel prawf o'n hedifeirwch, ni gliriwn yr ychydig ddyled sydd yn aros ar y capel, os gwnewch dderbyn arian ein bath ni.i Bydd yn blejser mawr gennyf,' meddai Mr. Meredyth, gyflwyno eich awgrym caredig i sylw'r eglwys. Dyna waith rliagorol,' meddai Sian Morris, yr hon oedd o fewn clyw. Chwi eich dau gaiff y credyd yn awr am y weithred dda hon ond pe ar ol eich dydd chwi y gwnelsid hi, arall gawsai'r clod.' Treffore«t. W.D.