Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

GLOYWrR GYMRAEG.I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

GLOYWrR GYMRAEG. I [Danfoner pob gofyniad a gohebiaeth yuglyn a'r golofn hon i'r Parch. FRED JONES, B.A., B.D., Treorchy.] D.M.D.—Yuglyn ag ateb a roddwyd yn y TYST rai wythnosau'n ol fe ysgrifenna'r cyfaill D.M.D. o Waunarlwydd Mewn perthynas i'th atebiad ynglyn ag a o flaen i gytseiniol dywedi- "Yng Nghymraeg y Beibl, er enghraifft, nid wyf yn cofio am eithriad." Gwn i am un eithriad beth byunag-Daniel vii. 14 ceir a ieithoedd Ei wasanaethu Ef." Eithaf gwir, felly y mae. Gall fod enghreifftiau eraill rai. Oherwydd diddordeb y pwnc, mi drois i Feibl Rhydyclien (1620) yn y fan hon, ac yno ac ieithoedd a ddarllenir. Felly fe wel darllenwjrr fod cryn ryddid yn y peth hwn mor ddiweddar an Beiblau diweddar. Eto, y mae'r rheol yn ddigon cyfreithlon heddyw: ysgrifennu ac o flaen i gytseiniol. Diolch yn fawr i chwi, D.M.D., am eich carden a'ch dymuniadau da. Un am wybod.—(a) 'Ai y sain eglur ynteu'r sain dywyll sydd i y yn wyneb ? Er mwyn rhai darllenwyr ieuainc neu anghyf- arwydd, nid ofer efallai fydd eglurhad byr ar yr ymadroddion sain eglur a sain dywyll.' Ynghyntaf oil, y llafariad y ydyw ''r unig lyth- yren yn Gymraeg y mae iddi ddwy wahanol sain. Garw na threfnasai'n tadau ddwy wahanol lvth- yren i ddynodi'r ddwy sain. Achwyn arall sydd gennyf yn erbyn yr Wyddor Gymraeg ydyw dwy lythyren wahanol i ddynodi un sain, sef if a ph. Fe fyddai'n gofyn cryn dipyn o wroldeb i ddeol y ph yn gwbl o'n llenyddiaeth yn awr efallai, ond ni gynefinem a hynny ynghynt nag y myn llawer. Wrth gofio, y mae rhai o dro i dro yn gofyn pa bryd i sgrifennu ph, a pha bryd f) ? Wel, y mae'r mater yn syml iawn. Na sgrifenner ph byth oddieithr ar ddechreu gair' pan fyddo'n dreigliad o p, megis a phobl lawer oedd yno,' ei phe 11,' yr Almaen a 'Phrydain.' Ymhob man arall tI, megis 'protlwyd,' cy fj,' sera/ ffiol,' //awydd,' &e. Yn awr ynteu, ar ol y dieithr lam yna, yn ol at y pwnc Beth yw sain eglur a sain dywyll ? Wel, y sain eglur ydyw'r sain gyn- henid. Sain briod y ydyw'r un a glywir byth yn sillaf olaf gair, megis dyn,' peiryd,' &c. pa fodd ynteu y digwyddodd iddi'r sain dywyll' fel a geir yn dynion a penydiau ? Fel hyn Gynt fe, gynhenid pob gair Cymraeg a'r acen ar y sillaf olaf, megis dynion/ pen- ydiati"; ac wrth ruthro ymlaen i roddi pwys ar y diwedd, tueddid yn naturiol lithro dros yr y heb roddi iddi ei chyflawn werth mewn sain. Hynny yw, rhyw edlych o sain wrth fynd heibio a gaffai-rhywbeth tcbyg i shwa Hebraeg Mewn geiriau lluosillaf yn unig y digwyddai hyn, gan yr acennid geiriau unsillaf yn iawn, ac felly j cadwasant hwy y sain briod. Yr unig eiriau unsillaf y rhoddir y sain dywyll iddynt heddyw ydyw yn, yr, ys, a hynny am yr un rheswm yn gywir ag y rhoddir y sain dywyll i y yn dynion.' Ni chynhenir yr ac yn wrthynt eu hunain, eithr fel math o sillaf gyntaf i'r geiriau a ddaw ar eu holau, megis yr Arglwydd,' yn eofn llithro dros yr ac yn a wneir, ac felly methasant a chadw eu sain eglur eu hun. Hynna wrth fyned heibio. Wyneb yw'r gair, onite ? Ie, cofier hyn. Nid oes y fath air yn bod a gwyneb yn nhraddodiad goreu'n lien. Y mae hyd yn oed ein Beiblau diweddar yn bendant ar hyn. Felly ysgrifenner 'gweled wyneb' a gwyr yr His- teddfod gosteg !—' Yn wyneb haul llygad gol- euni Eto, yr ateb i'ch hawl chwi ydyw, Nid cytsain ydyw'r w yn wyneb,' eithr llafariad. Ffordd arall o ddywedyd yr un peth yw mai dipton ydyw wy yn wyneb yr un sain sydd i wy yma ag i wy iar. Dywedwcli y tri wy canlynol yr un peth-y, r wy, yr wydd, yr wyneb. A glywsoch cliwi'r hen linell, 'Amlwg yw trvoyn ar wytxeh ? Fe ddengys yr hen gynghanedd lusg hon mai dipton yw'r sain. (b) Paham h yn enghraifft ? Nis gosodir gan bawb.' Y rheswm, yn ddiau, ydyw fod cydgyfarfod ng ac r a'i gilydd yn cynhyrchu'r sain h. Nid wyf yn meddwl fod y gwyr doeth yn cytuno pa un a ydyw ai peidio yn cynhyrchu h. Yr wyf yu meddwl yr atebai Deheuwr (o blith y rhai y ceir il) nad ydyw. Ond y mae'r gorch- ymyn allan i'w ysgrifennu, felly gwell cadw'r gorchmynion i gyd. Y mae holion amryw eraill yn disgwyl eu tro. P.J. I

I Diaconiad, Ddoe ac Heddyw.…

Tystiolaeth Oddiallan.

[No title]