Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Llandudno. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llandudno. Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol yn yr eglwys uchod prynhawn Sul, yr 2gain o Orffennaf, a chafwyd cyfarfod llwyddiannus dros ben. De- chreuwyd trwy ddarllen a gweddfo. Adroddwyd Salm exxiii. gan Gwyneth Williams, a Salm xv. gan Trevor Williams a Frank Lloyd. Holwyd y plant o'r Fam a'r Plentyn gan y brawd Mr. Lloyd yn dda, a cliafwyd atebion parod. Wedi hyn cafwyd ton gan barti Miss S. J. Hopkins, sef Mi glywais lais yr Iesu'll dweyd.' Adroddwyd Salm c. gan Miss H. Hughes. Yna rhoddwyd anerchiad rliagorol gan y brawd Mr. D. W. Thomas ar Ardd y Brenin.' Gobeith- iaf y bydd o fendith i'r ysgol i gyd. Holwyd y dosbarth hynaf ar y rhan gyntaf o Heb. viii. gan y Parch. 1,1. Williams, a chafwyd atebion parod. Wedi hynny cafwyd ton gan barti Miss S. J. Hopkins. Yna adroddwyd rhan o'r Salm Fawr gan Kitty Owen. Terfynwyd trwy ganu Y Milwr Bach.' Yr oedd y cyfarfod o dan arweiniad yr arolygwr, Mr. Richard Thomas. D.J.J.

I Chichester. I Chichester.…

Ynysmeudwy.I Ynysmeudwy.j

IY Drysorfa Gynorthwyol.