Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Y Drysorfa Gynorthwyol. Taer erfynnlr ar eglwysi a phersonau unigol i wneud pob ymdrech i dalu EU CYFRANIAD BLYNYDDOL at y symudiad uchod 0 hyn i DDIWEDD MIS AWST. Gellir gwneud hynny trwy Drysorydd Cyfundebol y symudiad, neu yn uniongyrchol i'r Trysorydd Cyffredinol- Mr. T. DAVIES, 56, St. Quintin Avenue, London, W. 10. JOSEPH WILLIAMS L SONS- Swyddfa'r 'Tyst,' Merthyr, Am bob math o ARGRAFFWAITH. AT SWYDDOGION EGLWYStG. Uythyrau Cymerauwyaeth WEDI eu hargraffu ftg enw yi Eglwys YY arnynt, ac wedi eu rhwymo yn gryf. Prisoedd am Flaendal—3s. 6c., 5s„ a 6s. 6c. Cludiad yn rhad. Cynhwysa y Llythy3r Dair Rhan, sef Un Ran i'w rhoddi i'r Trosglwyddedig Un Ran i'w hanfon i Weinidog neu Swyddogion yr Eglwys i ba un y tros- glwyddir yr Aelod, yn eu hysbysu o hynny a chedwii 7 Rhan arall gan yr Eglwys ei hun. I'w gael pa 11 JOSEPH WIWJAMS & SUNS (Merthyr). Ltd Swyddfa'r TYST, Merthyi
YN LLANDRINDOD. I 'I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YN LLANDRINDOD. MAE Llandrindod yn rhywbeth mwy na lie i dreulio gwyliau haf. Mae yn y sir fwyaf Anghymreig yng Nghymru—sir sydd wedi. colli ei hiaith ac heb gael un arall yn ei lie, ac wedi colli ei chenedl- aetholdeb ond heb hvyr golli ei holion, a sir fu unwaith yn faes llafur Vavasor Powel a'r tadati YliineilltuQl, ac wedi hynny yn gartref R-hyddfrydiaeth, ond sydd heddyw yn prysur golli'r ddau. Ceisiodd ei gwyr mawr yr wythnosau diweddaf ei chysylltu i ddibenion etholiad a swydd Henftodcl-y sir fwyaf pendew a chanol oesol efallai yn y deyrnas, car- tref bras Toriaetli a lloi a cider-ac yr oedd cynnyg penaethiaid sir Faesyfed 3-11 dangos c awyddfryd y creadur' yn ddi- 'I gamsyniol. Ond er hyn oil, mae Llan- drindod yn ganolfan bywyd a mudiadau Cymru, ac nid oes le Cymreiciacli yn yr I haf o fewn terfynau'r Dywysogaeth i gyd. Daw'r Cymry yno nid yn unig i yfed y dwr a mwynhau'r awelon iach a'r golyg- feydd .hyfryd, ond hefyd i drafod eu prif bynciau a'u mudiadau cenedlaethol, ac mae'r gwr a dreulia ychydig amser yn Llandrindod, yn y gwanwyn neu'r haf neu'r hydref, o fewn cyrraedd pulse y genedl ac yn gwybod sut mae ei chaloii yn curo. Cawsom y fraint honno eleni, a hoffem. fynegi'r argraff wnaed arnom. Y Bobl a'r Rhyfel. MAE yma wmbredd o bobl, bron fel pe na bai rhyfel yn bod o gwbl. Rhaid fod arian ofnadwy yn y wlad, a pharodrwydd mawr i'w gwario. Ac nid hen bobl yn unig sydd yma, ond lliaws o bobl ieuainc hefyd, cryf ac iach i bob ymddangosiad. Sut y gallasant osgoi'r fyddin sy bwnc rliy ddyrus i ni, pan mae cloffion ac efryddion, ie, epileptics a luna- tics, yn cael eu hysgubo iddi gan ein meddygon goleuedig a chydwybodol (?) a'u gosod yn Class A. Mae yma nifer fawr iawn—tua 6oo-ofilwyr afiach hefyd, y cwbl ohonynt yn dioddef o dan ryw fath o grydcymalau neu gilydd. Ni bu eu hanner ar y ffrynt, ac nid oes yr un ohonynt wedi ei glwyfo, ond mae'r olwg adfeiliedig a gwyw, cloff a llesg, sydd ar lawer ohonynt yn brawf fod caledi'r ffos- ydd a gwlybaniaeth y gwersylloedd yn ddifaol i nerth corfforol llawer bachgen. Tybed y buasai mwy na'u hanner wedi ] eu hanfon i'r fyddin o gwbl pe buasai'r meddygol1 a'u harchwiliodd gyntaf yn gwybod eu busnes ? Modd bynnag, di-! ddorol oedd gwrando ar awgrym a sylw ami un o'r trueiniaid methedig hyn ar y bechgyn a'r merched heinyf ac iach oedd yn cael hwyl ar ganu hymnau a chware a/u gilydd ar yr heol a'r lawnt. Ond mae 1 yma hefyd lu o bobl oreu, sobraf, a mwyaf meddylgar y genedl, ac isd6n eu siarad hwy oil yw pryder ynglyn a'r rhyfel. Y mae pawb wedi blino ami, a'r rhan fwyaf wedi eu harcholli a'u trallodi'n deuluol II-ganddi. Ond er fod pawb yn siomedig ac isel ei ysbryd, eto maent oil yn ben- derfynol o ddal ati hyd nes bo erchyll- waith Germani wedi ei wneud yn amhosibl mwy. Boddheid ni yn fawr hefyd gan grefyddolder y milwyr claf, a dywedodd un wrthym yn bendant, pe sychid y ddiod gartref ac yn Ffrainc na byddai hyd yn oed y rhyfel yn hir yn dod i ben. A chytunai ei gyd-filwyr oil a'r dywediad. Beth feddvliai, tybed ? ) Chnstabel Pankhurst. PRYNHAWN Sadwrn, y 43-dd o Awst, bu'r ferch hynod hon yn annerch tyrfa fawr yn y Pavilion, yng ligliyf- arfod pedwerydd pen biwydd y rhyfel. Hi ac un arall oedd cenhadon 3r LlVw- odraeth, a'i busnes bid siwr oedd cadarn- hau pawb yn y ffydd ryfelgar ac ennyn sel a brwdfrydedd y bobl sy'n dechreu blino. A gwnaeth hymry yn un o'r areith- iau nrwyaf jingoaidd a wrandawsomerioed. Yr oedd yn hyawdl a medrus ryfeddol, a hawdd oedd gweled nad am ddim y treul- iodd ei phrentisiaeth yn yr hen ytiigyrcl-i- oedd nwydwyllt am fot i ferched. Prif amcan ei haraith oedd creu y fath gasineb tuagat y Germaniaid nes peidio byth eu trystio, na dod vn. ffrindiau mwy a hwynt. Pwynt mawr y Prifweinidog, o'r ochr arall, yw cael gan bobl Germani i ymrydd- hau oddiwrth reffynnau yr Iwnceriaid, a gwerinoli eu llywodraeth, a deil beunydd o'u blaen y posibilrwydd i'r wlad hon lieddychu a Germani ddemocrataidd yn llawer cynt a haws nag a'r Germani bres- ennol. A'r un modd yr Arlywydd Wilson dywed efe yn eglur nad oes gweryl o fath yn y byd rhwng America a phobl Germani, ac mai yn erbyn gormes eu militariaeth yn unig yr a i ryfel. Ond yn ol Miss -Pankhurst mae'r bobl cyn waethed a/n meistri, ac nid oes gyfaddawTd a hwy yn bosibl heb yn gyntaf beri iddynt lyfu'r llwch. 'A free Germany is not a safe Ger- many,' meddai ar ucha'i llais, a chafodd y dorf i roi cheers uchel i'w datganiad. Os felly, mae heddwch byth yn amhosibl, a pheryglus i'r eithaf yw gwaith y Llyw- oclraeth yn anfon geneth fel hon ar draws gwlad i ymfflamychu, a phleidio peth sy'n hollol groes i ddatganiad a pholisi'r Llyw- odraeth ei hun, ac yn arbennig y Prif- weinidog. Os na foddlonir ni gan free- Germany--Germani wedi ei rhyddaau o afaelion y giwed gwaedlyd sy'n ei chaeth-- iwo yn awr, ac wedi rhoi i fyny'r syniad am ysbeilio pawb eraill o'u tir a'u rhydd?d —am ba beth, mewh difrif, yr ydym yn ymladd ac yn colli gwaed yn aberoedd ? Y r odf euon Cymraeg. CAWSOM y fraint o bregethu i'r Cymry yn y Victoria Hall yn en hiaith en hun- ain, a gwerthfawrogir y gwasanaeth yn fawr gan y Cymiy Cym- reig. Yr oedd y cynulliadau yn dra bodd-' haol, a lliaws o enwadau eraill yn eu mysg. A chware teg i swyddogion eglwysi Anni- bynnol o wahanol fannau, yr oeddynt yn dra ffyddlon i'r gwasanaeth Cyrnraeg. Ychydig iawn oedd nifer y rhai na fuont yn bresennol o gwbl-yn aelodau a swydd- ogion—y naill ben neu'r llall i'r Saboth. Bid siwr, yr oedd yno rai felly, ond nid oeddynt yn llawer. A plian gofir fod y Saeson yn gofalu am brif bregethwyr eu gwahanol enwadau i lanw eu pulpudau, nid ellir rhyfeddu at hynny. Dyma'r unig gyfle a ga llawer ohollynt i'w ch-wed yn eu hoes, efallai. Pe ceid y Cymry i fod yn bresennol yn un o'r odfeuon Cymraeg —fore neu hwyr-ni byddai lie i gwyno, ac os am gadw i fyny lwycldiant y gwas- anaeth Cymraeg rhaid, debygem, ddisgwyl hyn oddiar eu llaw. Lie i ddiolch yn gynnes i'r Cymry sydd gennym ni yn ber- sonol, ond er mwyn elfeitliiolrwydd y gyfres beiddiwn wneud yr awgrym a'r apel uchod. Cryn ymgymeriad yw'r mud- iad, a dylem werthfawrogi digon arno i'w wneud yn llwyddiant diamheuol. y Convention. MAE'R Convention bron wedi dod yn air Cymraeg, a budd- iol fyddai ei fabwysiadu fel y gwnaed a'r Sasiwn, a'i alw yl1 Gonfensiwn. Rhywbeth tebyg i Gy- maiifa'r Aniiibviiwyr, heb ei chynhadledd, ydyw, a phregethu yw ei phrif nodwedd. Dan y term pregethu cynhwyswn y dar- lleniadau Beiblaidd,' gan mai'r prif wahan- iaeth yw hyd y testyn, ac nid ffurf yr ymdriniaeth. Amcan y cwbl yw dyfnhau y bywyd ysbrydol,' ac mor bell ag y gwel-