Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

I Y WERS SABOTHOL. I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

I Y WERS SABOTHOL. I X -— $ ¡ Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. ? i Gan y Parch. D. EUROF WALTERS, I « M.A., B.D., Abertawe. | AWST 26am.—Caethiwed Judah.—2 Bren. xxv. 1-21. Y TiSS'CYN Euraidd.—' Dywed wrthynt, Pel mai byw Pi, medd yr Arglwydd Dduw, ni ym- hoffaf ym marwolaeth yr ammwiol; ond troi o'r annuwiol oddiwrth ei ffordd, a byw dychwelwcli, dychwelwcli oddiwrth eich ffyrdd drygionus canys ty Israel, paham y bydawch lfcirw .• Ezeciel xxxiii. IT. i & IL CYFEIRIASOM o'r blaen at flirwolaetli Josiah: cymerodd hynny le mewn brwydr gerllaw Megido tua'r flwyddyn 608 C.C. (2 Bren. xxiii. 29, 30). Ar ei ol ef teyrnasodd ei fab Joahas ar Judah am dri mis. Trwy gymharu adnodau a'i gilydd (2 Bren. xxiii. 31, 36) deallwn mai nid Joahas ydoedd mab hynaf Josiah, a thebyg iddo gael ei osod ar yr orsedd am ei fod, fel ei dad, yn wrth- wynebol i'r Aifft. Ond trwy ei fuddugoliaeth ar Josiah, yr oedd Necho, brenin yr Aifft, ag awdurdod ganddo ar Judah, ac ymhen y tri mis yr oedd Joahas yu garcharor, a'i frawd Joacim (neu Jehoiacim) ar yr orsedd yn ei le dan nawdd ISfecho. Tra yr oedd yr Aifft fel hyn yn ymestyn, yr oedd Assyria yn colli ei nerth. Syrthiodd Assyria tua 606 c.c., ac aeth rhan helaeth o'i thiriogaeth i ddwylaw'r Cal- deaid, dan Nabopolasar. Ond yr oedd yr Aifft- iaid wedi meddiannu peth o'r diriogaeth honno, a gosododd Nabopolasar y gorchwyl o'u gyrru allan yn Haw ei fab Nebuchadresar (Nebuchod- onosor). Bu hrwydr fawr rhwng yr Aifftiaid a'r Caldeaid yn Carchemis yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Josiah brenin Judah (J er. xlv. I), yn yr lioli y gorchfygwyd yr Aifft- iaid. Tra yr oedd Nebuchadresar yn enmll y fuddugoliaeth bwysig hon, daeth y newydd iddo am farwolaeth ei dad (Nabopolasar), # a gorfu iddo ddychwelyd i Babilon i sicrhau ei orsedd. Erbyn hyn yr oedd awdurdod yr Aifft ar Judah wedi diflannu, a'r wlad yn talu tey-rnged i Nebuchadresar. Ond yuiheu tua thair blynedd ceisiodd Jehoiacim wrthryfela yn erbyn brenin Babilon (2 Bren. xxiv. I). Dichon mai vrnddir- ied yn yr Aifft wnai Jehoiacim, ond nid yw amgylcliiadau ei deyrnasiad ef yn hysbys. (Cym- harer 2 Cron. xxxvi. 5-8). Dilyuwyd ef ar yr orsedd gan ei fab Joachin (iieu Jehoiacin), ond ni theyrnasodd hwnuw ond tri mis, canys daeth Nebuchadresar a byddin gref yn erbyn Jeru- alsem. Cymerwyd Jehoiacin yn garcharor i Babilon, a gosodwyd ei ewythr Zedeciah ar yr orsedd. Gyda chymryd Jehoiacin a'i fam a'i swyddwyr yn garcharorion, caethgludwyd hefyd dorf o oreuon y wlad 'Ac efe a ddug ymaith holl Jerusalem, yr holl dywysogion hefyd, a'r holl gedyrn nerthol, sef deng mil o gaethion, a phob saer, a gof; ni adawyd ond pobl dlodion y wlad yno.' Amcan hyn oil, mae'n ddiau, ydoedd gwneuthur Jerusalem yn rhy wan i wrth- ryfela, a sicrhau crefftwyr i Babilon, canys adeil- adydd mawr ydoecld Nebuchadresar. Ymhlith y rhai a gaethgludwyd (tua 597 C.C.) yr oedd gwr ieuanc o'r enw pzeciel, a bu efe yn foddion i gadw'n fyw obaith y caethion ar lati afonydd Babel.' Y mae'11 dda na chymerwyd Jeremiah i gaethiwed, canys trwyddo ef cawn wybodaeth am amgylchiadau Judah yn nheyrnasiad Zedeciah. A thrwy Jeremiah deallwn i Zedeciah wrth- ryfela yn gynnar. Dylan wad yr Aifft oedd tu- cefn i'r gwrthryfel hwnleto, ac yn groes i gyngor Jeremiah y rhoddodd Zedeciah ffordd i'r hudol- iaeth. Yr oedd gau-brouwydi yn y wlad, a gweithient hwy o blaid cynghrair a'r Aifft. Safai Jeremiah wrtho'i hull. Pffaith y gwrth- ryfel fu i Nebuchadresar ddyfod drachefri yn erbyn Jerusalem, a hynny gawn yn ein Gwers. [Darllener gyda'r Wers Jer. xxxix. 1-9, lii. 1-30 2 Cron. xxxvi. 17-21.] Pennod y dinistr eithaf ydyw hon. Digwydd- iad dibwys ddigon ydoedd ymysg helyntion ymerodraeth fawr Babilon, ond i ni y mae'n ddigwyddiad o bwys eithriadol. Dinistr Jeru- salem yn amser Jeremiah ac lizeciel Gyda'r Exodus dyma'r digwyddiadfpwysicaf yn hanes yr Hen Destament. Parhaodd gwarchae Jeru- salem am tua blwydd.yn a hanner. Cyngor Jeremiah ydoedd plygu i Babilon, ond cafodd efe ei garcharu gan dywysogion Jerusalem am hynny. Gwelai efe'r dinistr, ond proffwydai am adferiad. Syrthiodd Jerusalem o'r diwedd (tua chanol 566 c.c.). Er i Zedeciah a'i wyr ffoi pan ddaeth y Caldeaid i mewn i'r ddinas, daliwyd hwynt. I,laddwyd meibion y brenin, a thYll- uwyd ei lygaid yntau allan, a chymerwyd ef yn garcharor i Babilon. Ysbeiliwyd y deml o'i thrysorau, a dinistriwyd yr adeilad. Gadawyd Jerusalem yn bentwr o adfeilion. Caethgludwyd eto lawer o'r bobl, ond o'i ddewis arhosodd Jeremiah i galonogi'r ychydig drigolion tlodion adawyd yn y wlad. Gosodwyd Gedaliah yn llywodraethwr, ond cafodd ef ei osod i farwol- aeth gan un o'r enw Ismael. Ar hynny ffodd llawer o drigolion Jerusalem i'r Aifft. Adn. 1-7. -Gwarchae Jerusalem. Y degfed mis. Gan ddechreu cyfrif o'r gwan- wyn, golygai'r degfed mis ein mis Ionawr ni. Nid yw'l1 hawdd gwybod dull gwarchae Jeru- salem, ond deellir i Nebuchadresar adeiladu caerau yn ei herbyn hi oddiamgylch.' Dinas gref naturiol ydocdd Jerusalem, ac yr oedd iddi furiau cedyrn. Drwy fath o dyrau coed clyrch- efid yr ymosodwyr yn ddigon uchel i allu lluchio cerryg, &c., ar bennau'r amddiffynwyr. A thrwy warchae'r ddinas rhwystrid cludo bwydydd i mewn, fel y newynnid y trigolion. Dengys adnod 3 mai yn y pedwerydd mis o'r unfed flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Zedeciah y tor- rodd yr amddiffyn i lawr, sef ymhen blwyddyn a hanner, ac mai o newyn y diffygiodd yr amddi- ffynwyr. 'A'r ddinas a dorrwyd.' Gwnaethpwyd adwy yn y mur. Ffodd Zedeciah a'i fyddiu i gyfeiriad yr Iorddonen, ond daliwyd hwynt, a chymerwyd hwynt gerbron brenin Babilon yn Riblah (tua'r gogledd o Damascus) i dderbyu eu tynged. Rhoddir y ddedfryd yn adnod 7, ac yn Jer. Iii. 11 dywedir mai mewn carchardy ym Mabilon y treuliodd Zedeciah weddill ei oes. Adn. 8-21.-Dinistrio jeytisalem. Ymhen Uai na mis dechreuwyd dinistrio'r ddinas, ei hadeiladau goreu, ei muriau, a'i theml. Goreuon y trigolion hefyd a gymerwyd yn garch- arorion. Pladdwyd llawer o'r swyddogion yn Riblah, a chaethgludwyd tyrfa. Dan ofal y distaiii-capten y wyliadwriaeth -y dygwyd y gwaith hwn ymlaen. Yn Jer. lii. 17-23 ceir cyfrif manylach am y llestri o'r deml ddygwyd ymaith gan y Caldeaid. Hyd yn oed o'r offeir- iaid v lladdwyd rhai, ac nid oedd ond angau i'r swyddogion. Cafwyd o hyd i rai o weision pennaf y brenin, y rhai oedd yn gweled wyneb y brenin,' a gosodwyd hwynt i farwolaeth. Felly y caethgludwyd Judah o'i wlad ei hun.' [Yn Jer. lii. 28-30 ceir rhifedi'r rhai a gaeth- gludwyd. Ond y mae anghysondeb rhwng y fligyrau hynny a'r hyn a geir yn 2 Bren.] Nid oedd ond y gwannaf a'r tlotaf ar ol: aethai'r crefftwyr a'r rhyfclwyr i gaethiwed. [Darllen- disgrifiad o'r dinistr yn 1)yfr y Galarnadau a clwir "Galarnad Jeremiah. ']

Advertising