Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Dychweliad y Parch. D. T.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dychweliad y Parch. D. T. Glyndwr Richards, B.A B.D. Llawenydd mawr i bawb o gydnabod athro Yagol yr Hen Goleg, Caerfyrddir, fydd clywed iddo ddychwelyd yn ol wedi j sbaid o iiwyddyn gron yn gwasanaethu dan nawdd y Y M.O.A. yn Ffrainc, a'i weled mor btaf ei wedd Er i'r pulpud gael ei amddifadu o'i wasanaeth am hir amser, da gennym ei weled yn ymaflyd mor eiddgar ag erioed yn y gwaith o bregethu Efengyl Crist. Cafodd brofiad helaeth iawn o fywyd caled a pheryglus y milwr ar y Cyfan- dir; degau o weithiau bu ef ei hun mewn peryglon Ond un a'i fryd ar gynoithwyo eraill yw ein cyfaill; nid oedd dim yn ormod er mwyn ei ddisgybl yma-dim er mwyn y milwr yn Ffrainc. Hyfrydwch calon ydyw gwybod, ar dystiolaeth rhai o'r bechgyn sydd yno, iddo fod yn wrthrych eu hedmygedd a'u serch tra'n eu plith, nid llai graddau nag yr anwylwyd ef gan ei ddisgyblion yma; a lie ceir cyfaill ffyddlonach a chydymdeimlwr mwy tyner nag efjjpan mewn eisieu. Gweddiwn am i'w ddy- lanwad arcs ar feddyliau Iliaws o filwyr Cymru. Wedi ymroddi gyda'i egni arferol i lafurio'n ddiwyd ymhlith ein hanwyliaid yn y tir pell, eiddunwn iddo yn awr ar ei ddycbwel- iad iechyd pur ac oes gyflawn i wasanaethu yr eglwysi a'i Enwad eto fel cynt. Coroner ei ymdrechion gonest â bendith gyfoethog Daw y net MAB YR AROSFA

CYFARFODYDD CHWARTEROL

Gydag Un Llais.

Glaniad y Ffranood.

Advertising

0 FRYN I FRYN.