Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Y Drysorfa Gynorthwyol. Taer erfynnlr ar eglwysi a phersonau unigol i wneud pob ymdrech i dalu EU CYFRANIAD BLYNYDDOL at y symudiad uchod 0 hyn i DDIWEDD MIS AWST. Gellir gwneud hynny trwy Drysorydd Cyfundebol y symudiad, neu yn uniongyrchol i'r Trysorydd Cÿffredinol- • Mr. T. DAVIES, i' 56, St. Quintin Avenue, London, W. 10. Y FEIDLERIAID Pa hyd y gwna y Llywodraeth gellwair a'r Ddiod? H yd nes y daw Newyn? Gan Mr. ARTHUR MEE. CYFIEITHWYD, dnvy ganiatad yr Awdur, a chyhoeddedig gan y Parch. J. M. EDWARDS, Sarnau, Llanymynech (dan nawdd Cymdeithas Ddirwestol Maldwyn.), Pris 3c., trwy y Post, 4c. Telelau arbennig am nifer. Athrofa Aberystwyth. (Un o'r Coiegau ym Mhrifysgoi Cymru.) Prilathraw-T. F. ROBERTS, M.A M,.D. DBCHREUA'R ?6ain Tymor ar Ddydd DMercher, Hydref 3ydd, 1917. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer ArhoHadau Prifysgol Cymru. ynygIr amryw o Ysgoloriaethau (rhai ohonynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn kon. Cymer yr Arholiad le yn Aberystwyth ar y 18ted o fie Med), 1917 Am fanylion pellach ymofynner &— J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd.
I AT EIN GOHEBWYR. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw,-Cy, mrit a'r Mesur Addysg.
NODION. - I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION. I Y GOLYGYDD. PAN yn ysgrifennu'r llinellau hyn (y Llun) bygythia dreifwyr a than- Gwarth y wyr y rheilffyrdd fynd allan Dreifwyr. ar streic er mwyn gorfodi'r cwmniau i wneud eu dydd gwaith yn 8 awr yn unig ac er y gobeith- iwn yr osgoir yr aflwydd gwallgof o streic, eto mae'r cynnyg ynddo ei hun; yn un mor eithafol warthus ar yr adeg bresennol fel y dylai'r wlad godi fel un gwr i'w gon- demnio'n bendant a phenderfynol. Dywed hen ddiareb Rufeinig fod y duwiau'n gyntaf yn gwallgofi'r neb a fynnant ddinistrio,' ac y mae ymddygiad y cyf- eillion hyn yn y cyfyngder y mae'r deyrnas ynddo ar hyn o bryd yn eglureb dda o wirionedd y dywediad. Pleidia pob dyn teg y cais am ddydd gwaith o 8 awr mewn adeg o heddwch, ond mae codi'r cwestiwn yn awr, pan mae'r Uywodraeth a'r genedl yn eu hawr gyfyngaf a phan mae pobl eraill yn gweithio'n ami 12 awr y dydd yn ddirwgnach, a phan mae'n bechgyn yn y ffosydd ac ar y mor ac yn yr awyr ?ll gweithio weithiau rownd y cloc, mor eith- afol o hunangar a digywilydd fel nad allwn gyfrif am dano ond ar dir o ryw fath o orffwylledd. A gallant fod yn dawel mai rhagflaenu eu dinistr eu hunain fel dosbarth, os nad y genedl hefyd, y mae'r fath feiddgarwch haerllug. Ystyr ddigam- syniol y cynnyg a'r agwedd—pa un bynnag a ddiwedda mewn streic ai peidio-ydyw nad yw'r bobl hyn yn malio dim beth ddaw o'r bywydau gwerthfawr ar y ffrynt, na beth ddaw o'r rhyfel ei hun na pha fodd yr ymdery'r deyrnas yn ei dydd blin na pha beth fydd tynged rhyddid, cyf- iawnder a heddwch, os y saif y pethau hyn ar ffordd eu trachwant a'u rhaib hwy fel dosbarth. Ni waeth ganddynt am neb ond eu hunain eled y byd lle'r elo rhaid iddynt hwy gael eu cais neu-streic a dinistr Nid rhyfedd i Mr. J. H. Thomas, Ysgrifennydd Undeb mawr y Rheilwyr, i gyhoeddi'n glir a chroch nad yw brwydr y bobl hyn na theg na gonest. Hyderwn na ddaw pethau i streic, ac y daw'r cyfeillion hyn atynt eu hunain o'u ffit o orffwylledd ond yr hyn sy'n ddif-, rifol ydyw fod unrhyw ddosbarth o weith- wyr cyfrifol-rhai y mae tynged yr Ymer- odraeth, a siarad yn ddynol, yn eullaw- yn gallu bod mor ofnadwy ddibris ac an- ystyriol o fuddiannau pawb ond eu hunain. Dyna wers ofnadwy yr holl fygythiad, ac ofnwn nad yw ond enghraifft o'r hyn sy'n ffynnu'n rhonc ymysg llawer eraill. Ceisio bod yn rheng o luoedd y profiteers digyd- wybod }- mae'r dreifwyr a'r tanwyr. Mae'r fyddin yn llawer mwy na'r rheng, ond mae' r holl griw mor ysgymun fel y mae'r rhengoedd sydd wedi pluo'u nythod eisoes yn trin a dwrdio'u holynwyr yn enbyd. Ie siwr, dyna arfer y grefft, ac yn ein bryd ni haeddaut oil fel ei gilydd yr un dirmyg a cherydd—bob copa ohonynt. s O'R diwedd in a e yntau, y Pab, wedi Y Pab. cynnyg ei wasanaetn i sicr- liau heddwch. Ac ar un o 1 w g, mae'r telerau a awgryma yn llawer amgenach na dim I sydd wedi ei grybwyll hyd yma gan neb sydd ar delerau cyfeillgar a'r gelynion. Ac os gwir y si mai ar gais Awstria y gwnaed y cynnyg, mae agwedd y gelyn wedi newid cryn dipyn er pan siaradai Hollweg, er enghraifft, a Mr. Gerard, y llys-gennad Americanaidd yn Berlin, cyn i America ymuno yn y rhyfel. Y pryd hwnuw nid oedd Belgium i fodoli mwy, oddigerth mewn enw, na Serbia na Rwm- aiiia i fod yn amgen na llain o dir i gario'r hen label, na therfynau Ffrainc na Rwsia i fod yn cfebyg i'r hyn oeddynt cyn y rhyfel, ac yr oedd pob trefedigaeth Ger- manaidd i'w dychwelyd yn ddidelerau, a Phrydain i dalu iawn ariannol llethol i j' goffrau Germani 'A newidiodd yr Ethiop- iad ei groen, a'r llewpard ei frychni ? Do, » gryn lawer, os yw cynnyg y Pab yn rhyw ddangoseg o deimlad a meddwl y gelyn heddyw. Ond a ydyw yn ddangoseg gywir, tybed ? Dywed rhai nad yw, ac mai hynny sy'n cyfrif am y derbyniad oer a digroeso a gafodd y cynnyg ymysg yr Unolwyr. Mae'n syn fod y fath gais wedi disgyn mor mat ar glustiau gwledydd sydd oil yn dyheu am heddwch. Ond ai nid y gwir reswm ydyw fod y Pab wedi fforffedio pob parch a hyder a feddai gynt ymysg y gwledydd hynuy ? Ac er y gall yn awr fod yn hollol ddiffuant yn ei ymgais, a'i fod hefyd wedi ei awdurdodi i'w wneuthur, fod y byd erbyn hyn wedi colli pob ffydd ynddo, ac yn edrych yn amheus a chil- wgus ar bopeth a wna. Ymddygodd mor warthus o gowardaidd a chreulon pan oedd Belgium yn cael ei llarpio gan Germani, ac mor llwfr a phartiol pan suddwyd y Lusitania ac y torrodd cynddaredd yr Huns allan yn mam o farbareiddiwch llof- ruddiog, fel nad all yr un o'r gwledydd ddibynnu mwy ar ei air, nac ymddiried dim ynddo. Twl dirmygus ac unochrog yw wedi profi ei hun yn yr holl helynt, ac felly yr edrychir arno mwy. Tybier fod yr un cynnyg wedi ei wneud, a'r un tel- erau wedi eu hawgrymu, gan Frenhines Holland neu Frenin Spaen neu Sweden, ai'r derbyniad oerllyd, difater, disylw hyn a gawsid oddiar law'r Unolwyr ? Credwn nad e, ac mai diffyg hyder hollol yn y Pab fel cyfryngydd, ac amheuaeth o'i gym- hwyster a'i hawl bellach i ymyrryd yn yr helynt o gwbl, sy'n cyfrif am ei fethiant llwyr a thruenus. Ac os felly, nis gallwn lai na llawenychu, er cymaint ein hawydd am heddwch. Mae'n hen bryd i'r Babaeth gael ei hadnabod yn ei lliw ei hun, fel y gallu gwleidiadol mwyaf peryglus a beidd- gar a thrachwantus ar wyneb yr holl ddaear. Fel gallu crefyddol mae wedi hen ddarfod a bod, oddigerth fel sect ac mewn ystyr hollol niweidiol i bob rhyddid a goleuni; end fel gallu gwladol uchelgeis- iol, medrus ac ystrywgar, mae mor gryf a beiddgar ag erioed. Mae'r Pab a'i law ymhob llys yn Ewrob ac America, y rhai mwyaf Protestanaidd fel y rhaiPabyddol mae a'i fys ar pulse bron bob newyddiadur dyddiol mawr yn Llundain a'r prif drefi Seisnig ac mae ei lygad ar bopeth sy'n mynd ymlaen ymhob cyngor ac awdurdod o'r cyngor plwyf hyd y Senedd, a llwydda i dallu yn effeithiol bron bob Protestant sy'n eistedd arnynt, heb eithrio'r Cabinet Prydeinig. Nid yw'r Fatican wedi cau ei llygaid funud awr ar ei phrif nod o gael y Pab yn ol yn deyrn tyfnhorol eto, a dyna'r pris lleiaf a fynnai am ei gwaith yn dwyn y pleidiau i drafod heddwch. Ond nid yw ei chyfrwystra y tro hwn wedi llwyddo collodd ei chyfle wrth fradychu Belgium, ac mae'r byd yn effro i'w thric- iau—am ryw hyd, beth bynnag. Mae llawer yn credu fod a fynno'r Fatican gryn lawer a chychwyniad y rhyfel, a mwy a'i pharhad ac os felly, da gennym iddi gael ei siomi, er i ni orfod aros yn hwy am heddwch. Mae'n amheus gennym a fyddai heddweh ac 61 bodiau y Pab arno yn werth i'w gael. Ac ni chlywsom am neb yn dymuno am ei ymyriad-ond R. J. Campbell DYWKDER a fynner, nid ,'W'r Prifweinidoir Stockholm. na'i Gabinet wedi bod yn ffodus iawn ynglyn a busnes Stockholm. Mae'n amlwg